NEWYDDION

National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Cyflwyno Arweinwyr CCIC 2026

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi enwau’r arweinwyr a fydd yn arwain ensembles cerddorol Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru dros yr haf.

Arweinwyr CCIC 2026: Philip Harper (chwith), Tim Rhys Evans (canol) a Andrew Gourlay (dde)

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi enwau’r arweinwyr a fydd yn arwain ensembles cerddorol Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru dros yr haf! 

Gyda chlyweliadau wedi'u cwblhau ac aelodaeth 2026 wedi'i gadarnhau, mae'r llwyfan bellach yn barod ar gyfer Haf o Gerddoriaeth cyffrous arall sy'n cynnwys rhai o'r cerddorion ifanc gorau o bob rhan o Gymru. 

Mae Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) yn falch iawn o groesawu Philip Harper yn ôl fel ei arweinydd yr haf hwn. Mae Philip, a weithiodd gyda'r Band y tro diwethaf yn 2022, yn un o'r arweinwyr mwyaf dylanwadol ym myd y bandiau pres ac wedi arwain y Cory Band i lwyddiant digynsail ers cymryd yr awenau yn 2012. Yn adnabyddus am gynnal ymarferion egnïol ac am ei arweinyddiaeth ysbrydoledig, mae Philip yn gwybod sut i gael y gorau o aelodau'r Band ac mae'n cynllunio rhaglen amrywiol sy'n cyfuno gwaith cystadleuaeth heriol gyda darnau cyngerdd difyr.  

Mae cyn-fyfyriwr Côr Cenedlaethol Cymru (CCIC), Tim Rhys-Evans MBE, yn dychwelyd i arwain ei gyn-gôr dros yr haf. Mae’r cydweithrediad yma, sydd yn mynd o nerth i nerth ers dros wyth mlynedd wedi gweld y Côr yn datblygu ac yn tyfu. Mae Tim wedi bod ar flaen y gad ym maes canu corawl yng Nghymru ers dros 20 mlynedd ac mae'n angerddol am gefnogi cantorion ifanc – fel y ddengys trwy ei waith fel sylfaenydd Elusen Aloud ac Only Boys ac Only Kids Aloud. Yn gyn-ganwr proffesiynol ei hun, mae Tim yn cyfuno dawn gerddorol wych â gwybodaeth helaeth o dechneg leisiol. Mae ganddo enw da iawn am greu mannau cefnogol a phwerus sy’n rhoi lle i gantorion ifanc dyfu mewn hyder a sgiliau. 

Mae aelodau CCIC bob amser yn rhoi perfformiadau egnïol o ansawdd uchel o weithiau corawl traddodiadol a mwy cyfoes ac mae’n sicr fydd yr haf hwn yn parhau yn yr un ffordd dan arweinyddiaeth Tim. 

Yn 2026,  mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) yn gyffrous i groesawu Andrew Gourlay i arwain y Gerddorfa mewn blwyddyn nodedig wrth i ni ddathlu ei phen-blwydd yn 80 oed. 

Wedi'i ganmol gan The Guardian fel "seren newydd", mae Andrew wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel arweinydd a gydnabyddir yn rhyngwladol gydag arddull ddeinamig, gydweithredol. Mae wedi arwain yn helaeth ledled y byd gan gynnwys llawer o brif gerddorfeydd y DU ac Ewrop ac mae'n arweinydd rheolaidd yn Proms y BBC. Mae Andrew yn eiriolwr angerddol dros gerddorfeydd ieuenctid ac mae wedi arwain Cerddorfeydd Ieuenctid Cenedlaethol Awstralia, Columbia ac Iwerddon yn ogystal â NYOGB.  

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn edrych ymlaen yn fawr ato’n arwain CGIC mewn blwyddyn mor arwyddocaol ac, fel cyn-trombonydd proffesiynol, gallwch fod yn dawel eich meddwl ei fod wedi rhaglennu rhaglen wych (gyda digon o offerynnau pres) y bydd ein haelodau a'n cynulleidfaoedd yn ei mwynhau'n fawr yr haf hwn! 

Cofrestrwch i gylchlythyr CCIC i gael eich hysbysu pan fydd ein cyngherddau haf yn mynd ar werth. 

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Aelodau BPCIC i gynrychioli Cymru ym Mand Pres Ieuenctid Ewrop 2026

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn hynod gyffrous i gyhoeddi bod tri aelod o Fand Pres Cenedlaethol Cymru (BPCIC) – Dylan Savage, Matthew Slade ac Elis Jones – wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru fel rhan o’r 22ain Band Pres Ieuenctid Ewrop a fydd yn cyfarfod eleni yn Linz, Awstria.  

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn hynod gyffrous i gyhoeddi bod tri aelod o Fand Pres Cenedlaethol Cymru (BPCIC) – Dylan Savage, Matthew Slade ac Elis Jones – wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru fel rhan o’r 22ain Band Pres Ieuenctid Ewrop a fydd yn cyfarfod eleni yn Linz, Awstria.  

Bob blwyddyn, mae Cymdeithas Bandiau Pres Ewrop yn dod â rhai o gerddorion pres ifanc gorau Ewrop ynghyd i ffurfio Band Pres Ieuenctid Ewrop, sy'n cwrdd ac yn ymarfer gyda'i gilydd am wythnos yn unig cyn perfformio sawl cyngerdd, gan gynnwys un fel rhan o Bencampwriaethau Bandiau Pres mawreddog Ewrop.  Mae'r Band wedi gweithio gyda llawer o arweinwyr blaenllaw ym myd y Band Pres, gan gynnwys arweinwyr blaenorol BPCIC, Erik Janssen a Philip Harper, sy'n dychwelyd i arwain BPCIC eleni.  Eleni, bydd yr arweinydd hynod brofiadol o Awstria - Karl Geroldinger - yn arwain Band Pres Ieuenctid Ewrop am yr eildro, ar ôl eu harwain am y tro cyntaf yn 2010. 

Mae cerddorion yn mynd trwy sawl cam yn y broses ddethol gyda phob aelod-wlad yn enwebu ychydig o gerddorion i'w cynrychioli yn gyntaf. Mae'r cerddorion hyn wedyn yn cyflwyno fideos "clyweliad" ar gyfer y dewis terfynol. Mae Cymru wedi cael cynrychiolaeth dda ym mhob un o’r Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop blaenorol, ac rydym wrth ein boddau bod pob un o'n tri enwebiad wedi'u dethol ar gyfer aelodaeth unwaith eto. Bydd Dylan sy'n chwarae cornet, Matthew ar y Bariton ac Elis ar y Bas, i gyd yn teithio i Linz ym mis Ebrill.  

Dywedodd Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd a Dirprwy Brif Weithredwr CCIC: "Mae Dylan, Matthew ac Elis nid yn unig yn gerddorion gwych, ond maen nhw hefyd wedi dangos ymroddiad i'w bandiau lleol ac wrth gwrs i Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru dros nifer o flynyddoedd. Rwy'n falch iawn bod y tri wedi cael eu dewis i ymuno â Band Pres Ieuenctid Ewrop a does gen i ddim amheuaeth y byddant yn cynrychioli eu hunain, eu bandiau a Chymru yn wych. Bydd yn gyfle arbennig iddyn nhw berfformio ochr yn ochr â cherddorion o gymaint o wahanol wledydd a chefndiroedd, ac edrychwn ymlaen at glywed yr hanes i gyd pan fyddan nhw'n dychwelyd i CCIC yn yr haf."  

Mae Bandiau Pres Cymru, fel cynrychiolydd Cymru ar Gymdeithas Bandiau Pres Ewrop, yn chwarae rhan allweddol wrth alluogi’r cyfleoedd hyn i gerddorion ifanc. Bob blwyddyn mae’r sefydliad yn gyfrifol am gydlynu enwebiadau’r chwaraewyr talentog hyn o Gymru i gymryd rhan ym Mand Ieuenctid Pres Ewrop, gan helpu i sicrhau bod y wlad yn cael ei chynrychioli ar y llwyfan rhyngwladol mawreddog hwn. Yn ogystal â chydlynu’r enwebiadau, mae Bandiau Pres Cymru ar hyn o bryd yn codi arian i helpu i dalu costau teithio’r tri chynrychiolydd o Gymru, yn ogystal â ffioedd aelodaeth Cymdeithas Bandiau Pres Ewrop, er mwyn sicrhau nad yw rhwystrau ariannol yn atal y cerddorion ifanc rhagorol hyn rhag cymryd rhan yn y profiad cerddorol unigryw unwaith mewn oes hwn.

“Mae Bandiau Pres Cymru yn dymuno pob llwyddiant i Dylan, Matthew ac Elis, ac yn gobeithio y byddant yn cael profiad gwych ac ysbrydoledig wrth gynrychioli Cymru ar lwyfan Ewrop. Mae Bandiau Pres Cymru hefyd yn dymuno pob llwyddiant i’r cynrychiolwyr o Gymru sy’n cystadlu yn y Pencampwriaethau eu hunain - Band Ieuenctid Biwmares ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop a Band Tref Tredegar ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Ewrop - wrth iddynt gynrychioli Cymru yn y digwyddiad rhyngwladol mawreddog hwn.” - Graham Howe, Bandiau Pres Cymru

Cyn i Dylan, Matthew ac Elis ymuno â'u cyfoedion o bob cwr o Ewrop, fodd bynnag, byddant yn ymuno â'u cyd-aelodau o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2026 yn ystod gwyliau'r Pasg ar gyfer eu hymarferion cyntaf o raglen gyffrous eleni.  

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ac i ddilyn taith anhygoel ein llysgenhadon BPCIC, gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol - @nationalyouthartswales a @nationalyouthbrassbandofwales. 

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Cyhoeddi Lux Family Law fel Noddwr Tymor 2026 Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Mae'n bleser gan Gôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru (CCIC) gyhoeddi mai Lux Family Law fydd Noddwr Tymor swyddogol tymor 2026.

CCIC (2025)

Mae'n bleser gan Gôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru (CCIC) gyhoeddi mai Lux Family Law fydd Noddwr Tymor swyddogol tymor 2026. Mae'r bartneriaeth gyffrous hon yn dod â chefnogaeth hanfodol i'r Côr, gan helpu i godi lleisiau ifanc ac ehangu mynediad at brofiadau cerddorol sy'n newid bywydau ledled Cymru. 

Bydd nawdd hael Lux Family Law yn galluogi CCIC i gyflwyno tymor o waith creadigol uchelgeisiol - o ymarferion o safon uchel i berfformiadau bywiog sy'n tynnu sylw at gantorion corawl ifanc Cymru. Mae eu cefnogaeth yn cryfhau gallu'r Côr i feithrin rhagoriaeth greadigol ac adeiladu cymunedau trwy gerddoriaeth. 

Meddai Dirprwy Brif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac Uwch Gynhyrchydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Matthew Jones OBE: "Rydym yn hynod ddiolchgar i Lux Family Law am eu cefnogaeth. Mae eu partneriaeth yn ein galluogi ni i barhau â'n cenhadaeth o feithrin cantorion ifanc, cynnig cyfleoedd perfformio gwych a rhannu cerddoriaeth gorawl eithriadol ledled Cymru." 

Fel Noddwr y Tymor, bydd ymrwymiad Lux Family Law yn helpu elfennau allweddol o weithgarwch Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2026, gan gynnwys gwell cyfleoedd hyfforddi i'w aelodau a chefnogi ein hymdrechion i ehangu cyrhaeddiad cynulleidfa yng Nghymru a thu hwnt. 

Mae gan Lux Family Law hanes cryf o gefnogi cymunedau lleol a mentrau diwylliannol. Drwy weithio mewn partneriaeth â Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, maent yn ailddatgan cred a rennir yng ngrym y celfyddydau i ysbrydoli, cysylltu a chyfoethogi bywydau pobl ifanc ledled Cymru. 

Meddai Charlotte Leyshon, Cyfarwyddwr Lux Family Law: "Rydym wrth ein boddau bod Lux Family Law yn noddi Tymor yr Haf 2026 Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru. Fel eiriolwr cryf dros bŵer y celfyddydau i feithrin cysylltiad a lles, rydym yn falch iawn o gefnogi'r gwaith gwych maen nhw'n ei wneud ar gyfer cantorion ifanc ledled Cymru ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn perfformio’n fyw mewn cyngerdd yr haf hwn!" 

Mae Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn edrych ymlaen at dymor cyffrous yn 2026 yn dathlu lleisiau ifanc Cymru, gan ddechrau ei ymarferion cyntaf yn Ne Cymru ym mis Ebrill.  

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Diwrnodau Darganfod Gwerin a Jazz i Gerddorion Ifanc ledled Cymru

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi Diwrnodau Darganfod Gwerin a Jazz RHAD AC AM DDIM ledled Cymru ym mis Mawrth, gan gynnig y cyfle i gerddorion ifanc 14–22 mlwydd oed ddod o hyd i'w sain!

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi Diwrnodau Darganfod Gwerin a Jazz RHAD AC AM DDIM ledled Cymru ym mis Mawrth, gan gynnig y cyfle i gerddorion ifanc 14–22 mlwydd oed ddod o hyd i'w sain! 

Wedi'i gynllunio ar gyfer cerddorion o Gradd 4 ac uwch, mae'r gweithdai undydd hyn yn darparu amgylchedd hwyliog, cynhwysol a chefnogol i brofi cerddoriaeth werin a jazz gyda cherddorion eraill.  

Dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, bydd y Diwrnodau Darganfod yn cyflwyno'r cyfranogwyr i sylfeini gwerin a jazz trwy weithdai ymarferol, chwarae grŵp ac archwilio creadigol, gan orffen y diwrnod gyda sesiwn rhannu anffurfiol i rieni a gofalwyr. 

Dywedodd Cynhyrchydd Gwerin a Jazz Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Angharad Jenkins: “Mae'r Diwrnodau Darganfod hyn yn ymwneud â throchi eich traed i mewn i genre newydd a darganfod ffyrdd newydd o wneud cerddoriaeth gydag eraill. Rydym ni’n croesawu cerddorion clasurol ifanc sy'n chwilfrydig i archwilio genres newydd, yn ogystal â chwaraewyr traddodiadol talentog o bob cefndir a diwylliant nad ydynt efallai wedi dilyn llwybr cerddoriaeth glasurol. Mae gwerin a jazz yn arddulliau cerddoriaeth hynod groesawgar, creadigol, waeth beth fo'ch cefndir cerddorol neu brofiad blaenorol. Dewch draw i roi cynnig ar rywbeth newydd!"  

Hoffai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru annog cerddorion o bob cefndir cerddoriaeth draddodiadol i gymryd rhan yn y Diwrnodau Darganfod ym mis Mawrth – p'un a yw eich cefndir yn Werin Cymreig, neu unrhyw draddodiad cerddoriaeth byd arall, bydd y sesiynau hyn yn hwyl i bawb! 

Cyflwynir y rhaglen gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a cefnogir yn strategol gan Cyngor Celfyddydau Cymru, gan gryfhau llwybrau i bobl ifanc yng Nghymru ddarganfod cyfleoedd datblygu yn eu teithiau cerddorol. 
 
Mae lleoedd yn rhad ac am ddim ond yn gyfyngedig, felly mae angen cadw lle ymlaen llaw.  

Am ddyddiadau a lleoliadau, ac i gofrestru, ewch i: www.ccic.org.uk/digwyddiadur

 

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Diwrnod Darganfod Dawns yn dod i Theatr Clwyd ym mis Mawrth

Mae pobl ifanc 12–22 mlwydd oed sydd ag angerdd am ddawns yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad cyffrous Diwrnod Darganfod Dawns, sy’n cael ei gyflwyno gan Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) mewn partneriaeth â Theatr Clwyd, Ballet Cymru a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, ddydd Sul 1 Mawrth 2026. 

Mae pobl ifanc 12–22 mlwydd oed sydd ag angerdd am ddawns yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad cyffrous Diwrnod Darganfod Dawns, sy’n cael ei gyflwyno gan Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) mewn partneriaeth â Theatr Clwyd, Ballet Cymru a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, ddydd Sul 1 Mawrth 2026. 

Yn rhedeg o 10.30AM - 3PM, bydd y diwrnod hwyliog, cynhwysol a diddorol hwn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr archwilio ystod eang o weithgareddau dawns, darganfod arddulliau newydd a gweithio ochr yn ochr ag artistiaid dawns proffesiynol mewn amgylchedd cefnogol a chroesawgar. Yn agored i bob lefel profiad a chefndir dawns, mae'r diwrnod wedi'i gynllunio i ysbrydoli chwilfrydedd, magu hyder a dathlu creadigrwydd. 

P'un a ydych chi'n newydd i ddawns neu'n ymarfer yn rheolaidd eisoes, mae’r Diwrnod Darganfod Dawns yn cynnig cyfle unigryw i gysylltu â sefydliadau dawns blaenllaw yng Nghymru, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a chwrdd â phobl ifanc eraill sy'n rhannu cariad at symud. 

Mae uchafbwyntiau Diwrnod Darganfod Dawns yn cynnwys: 

  • Archwilio arddulliau dawns newydd 

  • Gweithio gydag artistiaid dawns proffesiynol 

  • Awyrgylch hwyliog, cynhwysol a chefnogol 

  • Yn agored i bob arddull ddawns a lefel profiad 

Manylion y digwyddiad 
Lle? Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug 
Pryd? Dydd Sul 1 Mawrth 2026 
Amser? 10.30AM - 3PM

Cofrestrwch heddiw trwy ccic.org.uk/digwyddiadur

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â jamiejenkins@nyaw.org.uk. 

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i ddarganfod, creu a dawnsio gyda DGIC, Ballet Cymru a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yng Ngogledd Cymru. 

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

U.Dance yn galw ar Grwpiau Dawns Ieuenctid ledled Cymru

Os ydych chi'n caru dawns ac eisiau perfformio ar lwyfan cenedlaethol, efallai mai U.Dance Cymru 2026 yw eich moment chi. 

Os ydych chi'n caru dawns ac eisiau perfformio ar lwyfan cenedlaethol, efallai mai U.Dance Cymru 2026 yw eich moment chi. 

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi agor ceisiadau ar gyfer U.Dance Cymru, sy'n rhan o rhaglen U.Dance y DU gyfan sy'n dathlu dawnswyr ifanc a grwpiau dawns. Mae'n ymwneud â rhoi cyfle i bobl ifanc rannu eu gwaith, cwrdd â dawnswyr eraill a bod yn rhan o ŵyl ddawns ieuenctid fwyaf y DU. 

Beth yw U.Dance?  

Mae U.Dance ar gyfer dawnswyr 11–19 mlwydd oed, neu hyd at 25 mlwydd oed os ydych chi'n ddawnsiwr anabl. Does dim ots pa arddull rydych chi'n dawnsio - hip hop, cyfoes, stryd, asiad, neu arall - os ydych chi'n angerddol am ddawns, mae croeso i chi. 

Gallai grwpiau sy’n cael eu dewis drwy U.Dance Cymru gael eu dewis i gynrychioli Cymru yng Ngŵyl Genedlaethol U.Dance 2026, sy’n cael ei chynnal 3-5 Gorffennaf yn Glasgow. Mae'r ŵyl yn cynnwys perfformiadau byw, ffilmiau dawns, gweithdai, a chyfleoedd i gysylltu â dawnswyr o bob cwr o'r DU. 

Dywedodd Jamie Jenkins, Pennaeth Dawns ar gyfer Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: 
 
"Rydym ni’n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag One Dance UK a'n partneriaid i gefnogi cwmni dawns ieuenctid/grŵp dawns o Gymru i berfformio yn Glasgow yng Ngŵyl Genedlaethol U.Dance. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o grwpiau rhagorol wedi arddangos eu sgiliau i gynulleidfaoedd ledled y DU, gan gynnwys Rubicon Dance, Cwmni Dawns Ieuenctid Sir Fynwy, Aelodau Cyswllt Ieuenctid CDCCymru a Fusion Elite. Rydym ni’n hynod falch o'r dalent a'r creadigrwydd yn y sector dawns ieuenctid yng Nghymru ac rydym ni’n edrych ymlaen at weld y genhedlaeth nesaf o ddawnswyr yn camu i'r llwyfan cenedlaethol. Cysylltwch os oes gennych chi unrhyw gwestiynau."  
 

Golygfa - NYDW, U Dance National Festival Newcastle (2023)

Sut Allwch Chi Gymryd Rhan? 

Gall grwpiau dawns wneud cais mewn un o ddwy ffordd: 

  • U.Dance Ar y Llwyfan – perfformio'n fyw ar y llwyfan (hyd at 30 o ddawnswyr) 

  • U.Dance Ar y Sgrin – cyflwyno ffilm ddawns (dim uchafswm ar faint y grŵp) 

Mae angen i'ch darn dawns fod yn 2–7 munud o hyd ac yn wreiddiol. Y dyddiad cau i wneud cais yw 15 Mawrth 2026. 

Mae pob cais yn cael ei adolygu gan weithwyr proffesiynol dawns, a bydd grwpiau llwyddiannus yn cael eu cyflwyno i One Dance UK ar gyfer yr ŵyl genedlaethol. 

Pam Gwneud Cais? 

Nid yw U.Dance yn ymwneud â pherfformio yn unig, mae'n ymwneud â: 

  • Cwrdd â dawnswyr ifanc eraill 

  • Cymryd rhan mewn gweithdai 

  • Dysgu am y diwydiant dawns 

  • Ennill hyder a phrofiad 

  • Cael hwyl yn gwneud yr hyn rydych chi'n ei garu. 


Os ydych chi'n rhan o grŵp dawns ieuenctid yng Nghymru, edrychwchar y manylion llawn a sut i wneud cais.

Pwy â ŵyr? Gallai eich perfformiad nesaf fod ar lwyfan cenedlaethol! 


Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

PREMIÉRE: Dathlu 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn dathlu 25 mlynedd anhygoel o roi cyfleoedd dawns i ddawnswyr ac artistiaid ifanc o bob cwr o Gymru. I ddathlu maen nhw wedi creu rhaglen ddogfen fer i nodi'r achlysur. 

Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn dathlu 25 mlynedd anhygoel o roi cyfleoedd dawns i ddawnswyr ac artistiaid ifanc o bob cwr o Gymru. I ddathlu maen nhw wedi creu rhaglen ddogfen fer i nodi'r achlysur. 

Ers 2000, mae DGIC wedi cefnogi cannoedd o ddawnswyr ifanc, gan eu helpu nhw i wireddu eu potensial a datblygu eu sgiliau dawns, eu lleisiau creadigol, a'u talent. A hynny drwy weithio gyda choreograffwyr blaenllaw, ymarferwyr a gwneuthurwyr rhagorol, a drwy berfformio ar lwyfannau a sgriniau ledled Cymru a thu hwnt. Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae cannoedd o bobl ifanc wedi cael y cyfle i hyfforddi, creu a rhannu eu cariad at ddawns trwy raglenni DGIC. 

DGIC, Sadler’s Wells (2025)

Nawr, gallwch gael cipolwg y tu ôl i'r llen drwy’r rhaglen ddogfen newydd: National Youth Dance Wales: Celebrating 25 Years sy'n cael ei dangos am y tro cyntaf ar AM, sef cartref digidol Cymru i ddiwylliant Cymru. Wedi'i ffilmio gan On Par Productions, gallwch ddisgwyl uchafbwyntiau, effaith ac atgofion gan ddawnswyr ddoe a heddiw. 

"Gwnaeth Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru i mi ddeall.... sut i weithio'n galed iawn, ond hefyd i garu'r hyn rydych chi'n ei wneud." - Anthony Matsena, Cyn-fyfyrwyr DGIC 2014-16 

Dyddiad? Dydd Mercher 28 Ionawr 
Amser? 7.00–7.15pm 
Ble? Ar-lein ar blatfform digidol AM 

P'un a ydych chi wedi bod yn aelod o DGIC, wedi dilyn eu perfformiadau, neu yn syml iawn wrth eich bodd â dawnsio, dyma'ch cyfle i ddarganfod taith sefydliad dawns ieuenctid y genedl a dathlu ei effaith ar ddawnswyr o bob cwr o Gymru.  

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn lansio clyweliadau ar gyfer ensemble Blwyddyn ei Phen-blwydd yn 50 oed

Mae Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru (ThGIC) yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed eleni gyda chomisiwn theatr dwyieithog uchelgeisiol newydd ‘State of the Youth Nation’.

Mae Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru (ThGIC) yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed eleni gyda chomisiwn theatr dwyieithog uchelgeisiol newydd ‘State of the Youth Nation’. Bydd aelodau ThGIC 2026 yn cydweithio â dramodydd adnabyddus i ddatblygu cynhyrchiad llwyfan newydd beiddgar gydag elfen gerddorol gref. 

Bydd cwrs preswyl blynyddol yr haf yn gorffen gydag arddangosfa o olygfeydd allweddol a darnau cerddorol fydd yn dod yn fyw ar y llwyfan yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf cyn cael ei ddatblygu ymhellach ar gyfer taith yn 2027.  

Ochr yn ochr â datblygu cynhyrchiad blaenllaw, bydd aelodau ThGIC 2026 yn perfformio yng Ngala Pen-blwydd 50 oed ThGIC a chymryd rhan yn y Noson Sgratsh ThGIC gyntaf erioed, gan arddangos eu sgiliau creu theatr eu hunain. 

Yn ystod mis Mawrth ac Ebrill, bydd Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynnal taith clyweliad 12 dyddiad hyd a lled Cymru - o Fangor i Aberystwyth, Wrecsam i Gasnewydd a thu hwnt i'r daith bydd yn sicrhau bod perfformwyr ifanc o bob rhan o'r wlad yn cael y cyfle i ddisgleirio.  Bydd y clyweliad tair awr ar ffurf gweithdy, dan arweiniad panel o weithwyr proffesiynol theatr, yn caniatáu i berfformwyr ifanc deimlo'n hyderus i archwilio a darganfod eu potensial a'u talent.  
 
Mae ThGIC hefyd yn cynnal Gweithdy Blasu Clyweliad rhad ac am ddim gyda chymorth gan Ganolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, ddydd Sul 15 Chwefror, 1–3pm, yn gwahodd pobl ifanc 16–22 mlwydd oed sydd â diddordeb mewn perfformio i "Roi cynnig arni!" trwy weithdy cyfeillgar, ymarferol sy'n cyflwyno hanfodion clyweliad. Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn gweithio ar lais a symudiad, yn ennill technegau adeiladu hyder, ac yn derbyn awgrymiadau arbenigol ar ddewis a chyflwyno areithiau clyweliadau a monologau. 

Dal Gafael (2024)

Pwy ydyn ni’n chwilio amdano? 

Perfformwyr ymroddedig ac angerddol 16–22 mlwydd oed sy’n byw neu astudio'n llawn amser yng Nghymru neu wedi'u geni yng Nghymru ac yn edrych i gymryd y cam nesaf ar eu taith theatr. 
Efallai eich bod chi yn: 

  • Astudio drama neu berfformio yn yr ysgol neu'r coleg; 

  • Hyfforddi yn yr ysgol ddrama a pharatoi ar gyfer y cam nesaf; 

  • Ymwneud â theatr ieuenctid neu theatr gerddorol;  
    neu 

  • Yn berson creadigol angerddol sydd â diddordeb mewn adrodd straeon, creu theatr neu sgiliau cefn llwyfan. 

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynnig clyweliadau rhad ac am ddim i unrhyw un nad ydynt yn gallu fforddio'r ffi clyweliad o £25, heb unrhyw gwestiynau. Mae ein Cronfa Bwrsariaeth hefyd yn helpu i dalu ffioedd aelodaeth, fel nad oes neb yn cael eu hatal rhag gwneud cais am resymau ariannol. 

Beth mae ein haelodau yn ei ddweud? 

"Peidiwch â bod ofn rhoi chi eich hun allan yna, mae pawb yn eich cefnogi chi ac eisiau i chi ddysgu a thyfu." 

"Mae'n glyweliad cyfeillgar iawn. Ychydig oriau o adeiladu a gweithio cyn mynd i weld panel i wneud eich araith.” 

 

Mae Eich Llwyfan yn Aros - Dathlwch 50 mlynedd o Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru a helpu i lunio dyfodol theatr Cymru. Trefnwch glyweliad heddiw. 

Am ddyddiadau clyweliadau a mwy o wybodaeth, ewch i nyaw.org.uk/nytw-2026

Read More
Evan Dawson Evan Dawson

Matthew Jones i dderbyn OBE yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2026

Mae pawb yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wrth eu bodd bod Matthew Jones, ein Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol a'n Pennaeth Cerddoriaeth, wedi cael ei gydnabod yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2026. 

Mae pawb yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wrth eu bodd bod Matthew Jones, ein Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol a'n Pennaeth Cerddoriaeth, wedi cael ei gydnabod yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2026. 

Am y 18 mlynedd diwethaf, mae Matthew wedi arwain ensembles ieuenctid cenedlaethol Cymru gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Matthew wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi addysg gerddoriaeth i filoedd o bobl ifanc ledled Cymru. Mae'n cael ei gydnabod yn eang fel hyrwyddwr dros bobl ifanc yng Nghymru, gan sicrhau bod eu diddordebau bob amser wrth wraidd llunio polisïau artistig.

 

Evan Dawson (Prif Swyddog Gweithredol NYAW):

"Wrth i ni agosáu at 80 mlynedd ers sefydlu Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, dyma'r amser perffaith i ddathlu cyflawniadau niferus ac ymroddiad hirsefydlog Matthew Jones. Trwy ei waith yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mae Matthew wedi datblygu dulliau newydd pwysig o ymdrin ag amrywiaeth a chynhwysiant, gan sicrhau bod yr ensembles cenedlaethol yn cynnwys pobl ifanc o bob cefndir a phob awdurdod lleol yng Nghymru. Arweiniodd y gwaith o ddatblygu cynllun bwrsariaeth i sicrhau bod pawb yn gallu fforddio cymryd rhan (mae'r mwyafrif o aelodau'r ensemble bellach yn derbyn cymorth ariannol). Creodd raglenni newydd arloesol, gan gynnwys "Côr Skills" i gefnogi pobl ifanc dalentog o gefndiroedd difreintiedig i brofi canu corawl am y tro cyntaf; "Hard Côr" i helpu i ddatblygu sgiliau artistiaid Hip Hop ifanc; a "Music Futures" i gefnogi pobl ifanc o gefndiroedd sydd wedi'u tangynrychioli i ddysgu sgiliau cyfansoddi caneuon a chynhyrchu stiwdio cydweithredol. Rydyn ni i gyd wrth ein bodd drosto."

Mae sawl ffigwr yn sector celfyddydau Cymru wedi mynegi eu cefnogaeth i'r wobr hon, gan ddangos bod Matthew wedi cael effaith ddofn ar filoedd lawer o bobl ifanc a'u teuluoedd, dros nifer o flynyddoedd.

 

David Jackson (cyn Gyfarwyddwr Canwr y Byd Caerdydd a chyn Gadeirydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru – a fu farw ym mis Hydref yn anffodus): "Rwy'n siŵr mai i bobl fel Matt, yr arwyr heb eu canu, y mae'r system Anrhydeddau yn bodoli. Mae'n ymdrechu'n gyson i wella a gwella bywydau'r bobl ifanc y mae'n gweithio gyda nhw; Mae'n dod â chyfleoedd a phrofiadau iddynt na fyddant byth yn eu hanghofio, waeth beth yw eu bywydau yn y dyfodol ar eu cyfer, mewn amseroedd sy'n gallu ymddangos yn heriol a hyd yn oed yn llwm i gymaint o bobl ifanc."

 

Karen Pimbley (Pennaeth Rheoli'r Celfyddydau, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a bellach yn Gadeirydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru): "Mae Matt wedi bod yn allweddol wrth arwain Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru dros y deunaw mlynedd diwethaf, ond mae ei waith hefyd wedi ei alluogi i ddylanwadu ar filoedd o bobl ifanc a budd uniongyrchol iddynt wrth iddynt fynd ar drywydd allfa greadigol... Mae ei hirhoedledd yn y swydd i'w gymeradwyo, ond ei awydd parhaus i alluogi pobl ifanc i gael asiantaeth wrth ddatblygu eu sgiliau creadigol sy'n gwneud iddo sefyll allan fel unigolyn."

 

Tim Rhys-Evans (Cyfarwyddwr Cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru):

"Mae Matthew yn ddyn caredig, diymhongar, ond mae'r tu allan meddal hwn yn cuddio penderfyniad dur i sicrhau bod cerddorion ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle i ddod at ei gilydd a bod yn anhygoel. Mae'r cerddorion ifanc hyn yn aml yn dod o gefndiroedd o amddifadedd a gallant gyrraedd un o'r cyrsiau ensemble cenedlaethol fel pobl ifanc swil, mewnblyg neu hyd yn oed ofnus. Maen nhw'n gadael yn teimlo'n rymus, yn falch ac wedi darganfod cryfder a gallu mewnol yr oeddent yn aml yn amau ers amser maith..... Ar ran pob cerddor ifanc sydd wedi cael y cyfle i chwarae, canu, dawnsio ac actio dros eu gwlad, rydym yn ddyledus iawn i Matthew Jones, felly mae'r enwebiad hwn nid yn unig gennyf yn bersonol ond gan y miloedd hynny o aelodau ensemble Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru."

 

Mari Lloyd-Pritchard (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru): "Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gartref i'r Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol gyntaf yn y byd yn ogystal â llawer o ensembles cenedlaethol eraill fel y côr a'r band pres – pob un ohonynt yn ensembles allweddol sy'n adlewyrchu treftadaeth gerddorol gyfoethog Cymru. Mae Mathew wedi gweithio'n ddiflino i amddiffyn, maethu a datblygu'r ensembles hyn ac o ganlyniad, mae wedi creu etifeddiaeth llawer o gerddorion ifanc sydd wedi cael eu hysbrydoli ac wedi mynd ymlaen i ddod yn gerddorion proffesiynol."

 

Rhian Hutchings (Prif Swyddog Gweithredol Anthem): "Mae Matt wedi datblygu lefel o arbenigedd a pharch gan y sector sy'n mynd ymhell y tu hwnt i wneud swydd yn unig. Mae wedi gweithio gydag arweinwyr rhyngwladol, gan eu helpu i ddeall sut i weithio gyda'r cerddorion ifanc maen nhw'n eu meithrin ac adeiladu perthnasoedd cryf sydd wedi sefyll prawf amser. Mae wedi datblygu comisiynau ar gyfer y gerddorfa, gan ddod â chyfansoddwyr sefydledig i mewn a hefyd gwneud lle i leisiau newydd. Mae wedi llunio taith y bobl ifanc sy'n ymgymryd â'r Preswyliad Cerddorfa, gan siapio eu profiad yn rhywbeth bythgofiadwy ac sy'n newid bywyd."

 

David Hopkins (cyn Reolwr Datblygu Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru): "Un o'i gyflawniadau mwyaf fydd sicrhau bod cynllun bwrsariaeth CCC yn cefnogi unrhyw un sydd ei angen – yn 2023, derbyniodd bron i hanner yr holl gyfranogwyr ryw fath o gymorth ariannol i gymryd rhan, sydd wedi cynyddu'n sylweddol nifer y cyfranogwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.... Yn fyr, mae Matthew yn mynd y tu hwnt i wneud yn siŵr bod cerddorion ifanc talentog yng Nghymru yn cael y llwyfan i ddisgleirio. Gwaith ei fywyd yw cefnogi ac annog miloedd o gerddorion ifanc, ac rwy'n gwybod bod llawer ohonynt, gan gynnwys fi, yn wirioneddol ddiolchgar iddo yn bersonol am yr ymdrechion y mae'n mynd atynt."

 

Gillian Green (Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun): "Roedd Matthew yn aelod o Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a ffurfiwyd ddeugain mlynedd yn ôl ac mae'n angerddol am drosglwyddo'r profiad o brofiadau cerddorol o ansawdd uchel i ieuenctid heddiw. Swynol a pharchus o bawb sy'n cwrdd ac yn dod i gysylltiad ag ef, ni allaf ddychmygu person mwy haeddiannol fel derbynnydd cydnabyddiaeth."

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyhoeddi Osian Meilir fel Coreograffydd Gwadd 2026

Rydym ni’n gyffrous i gyhoeddi y bydd Cyn-fyfyriwr Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC), coreograffydd, artist symud a'r perfformiwr o Gymru, Osian Meilir, yn ymuno â DGIC fel Coreograffydd Gwadd ar gyfer 2026.

Rydym ni’n gyffrous i gyhoeddi y bydd Cyn-fyfyriwr Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC), coreograffydd, artist symud a'r perfformiwr o Gymru, Osian Meilir, yn ymuno â DGIC fel Coreograffydd Gwadd ar gyfer 2026.

Osian Meilir

Yn wreiddiol o Orllewin Cymru, mae Osian yn cyfuno cariad dwfn at ddawns werin o Gymru â symudiad cyfoes, gan ddod ag ymdeimlad cyfoethog o hunaniaeth, cymuned a straeon diwylliannol i'w waith. 

Mae creadigaethau’r cyn-fyfyriwr DGIC    sydd wedi graddio o Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance wedi teithio ledled y DU ac yn rhyngwladol - o lwyfannau'r ŵyl Ten Days on the Island yn Awstralia, i berfformiadau yn Biennale de la Danse Lyon.  

Roedd Osian Meilir yn aelod o Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru rhwng 2014 - 16 o dan Gyfarwyddyd Artist Errol White, ac yn ddiweddarach Kerry Nicholls. Yn ystod ei gyfnod gyda DGIC, perfformiodd Osian sawl darn nodedig gan gynnwys H3re gan y coreograffydd Odette Hughes, Scuse Me while I kiss the sky a goreograffwyd gan Theo Clinkard, ac aM a goreograffwyd gan Kerry Nicholls. 

Dywedodd Pennaeth Dawns a Chynhyrchydd, Jamie Jenkins: “Mae gwaith Osian yn dathlu hunaniaeth Gymreig drwy adrodd straeon beiddgar a choreograffi fynegiannol, gyffrous sy'n cysylltu cymuned a diwylliant. Rydym ni wrth ein bodd o'i groesawu yn ôl y tro hwn fel coreograffydd ysbrydoledig a deinamig sy'n barod i ymestyn, herio, a thanio creadigrwydd ein dawnswyr Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Allwn ni ddim aros i weld y gwaith effeithiol mae'n ei greu gyda nhw y flwyddyn nesaf.” 

Dywedodd Coreograffydd Gwadd DGIC 2026, Osian Meilir: “Rwy'n gyffrous iawn o fod yn creu gyda DGIC eleni. Gan fy mod yn gyn-aelod o'r cwmni fy hun, rwy'n gwybod pa mor bwysig ac addysgiadol oedd y blynyddoedd hynny o hyfforddiant yn fy natblygiad fel dawnsiwr ifanc. Rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod a gweithio gyda dawnswyr ifanc anhygoel Cymru ac i fod yn ôl fel rhan o deulu DGIC.”

Ar gyfer cwmni DGIC 2026, bydd Osian yn arwain cydweithrediad creadigol, gan arwain rhai o ddawnswyr ifanc eithriadol Cymru trwy daith gyffrous o hyfforddiant, creu a pherfformio. O dan ei gyfarwyddyd, bydd y dawnswyr yn archwilio ieithoedd symudiadau newydd, yn dyfnhau eu hunaniaeth artistig ac yn ymuno i greu gwaith beiddgar, gwreiddiol a fydd yn cael ei ddangos am y tro cyntaf ar y llwyfan, yn ogystal ag ar ffilm ledled Cymru mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a safleoedd treftadaeth. 

Allwn ni ddim meddwl am ffordd well o ddathlu'r genhedlaeth nesaf o ddawns Gymreig na thrwy bartneriaeth â chyn-gyn-fyfyriwr ac artist y mae ei ymrwymiad i ddiwylliant, cymuned a mynegiant creadigol yn adleisio gwerthoedd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. 

Croeso yn ôl, Osian — mae dy lwyfan yn aros! 

Mae ceisiadau ar gyfer Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru ar agor ar hyn o bryd ac yn cau ar yr 11 o Chwefror. I gael rhagor o wybodaeth am glyweliad ar gyfer DGIC, cliciwch yma. 

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynnig Gweithdy Blasu Clyweliadau Rhad ac am Ddim gyda Chefnogaeth Canolfan Mileniwm Cymru

Yn galw ar yr holl berfformwyr ifanc yn Ne Cymru sy'n edrych i gymryd eu cam cyntaf i ddod yn aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru!

Yn galw ar yr holl berfformwyr ifanc yn Ne Cymru sy'n edrych i gymryd eu cam cyntaf i ddod yn aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru!  

Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) wedi cyhoeddi Gweithdy Blasu Clyweliadau rhad ac am ddim - ddydd Sul 15 Chwefror, 1–3pm, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd - gan roi cyfle i berfformwyr ifanc baratoi ar gyfer clyweliad.  

Mae'r sesiwn yn gwahodd pobl ifanc 16–22 mlwydd oed sydd â diddordeb mewn perfformio i "Roi Cynnig Arni!" trwy weithdy cyfeillgar, ymarferol sy'n cyflwyno hanfodion clyweliad. Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn gweithio ar lais a symudiad, yn ennill technegau adeiladu hyder, ac yn derbyn awgrymiadau arbenigol ar ddewis a chyflwyno areithiau clyweliadau a monologau. 

Bydd y rhai sydd wedi cadw lle hefyd yn cwrdd ag aelodau diweddar ThCIC, gan gynnig cipolwg uniongyrchol ar yr ensemble a'i broses clyweliad. 

Bydd clyweliadau i ymuno â ThCIC fel aelod yn ei 50fed flwyddyn yn digwydd ledled Cymru ym mis Mawrth ac Ebrill – gyda dyddiadau taith clyweliadau i'w lansio ar 14 Ionawr 2026. Os ydych chi'n caru perfformio ac eisiau cymryd y cam nesaf o gael clyweliad i'r ensemble, mae ThCIC yn annog pobl ifanc i fynd amdani.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim i fynychu, ac nid oes angen unrhyw brofiad clyweliad blaenorol. Mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae'r trefnwyr yn annog cadw lle’n gynnar. 

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gefnogi'n garedig gan Ganolfan Mileniwm Cymru.

Read More
Charlotte Moult Charlotte Moult

Mae Bwrsariaethau yn Agor Drysau i Bobl Ifanc ar Ledled Cymru

Bob blwyddyn, mae pobl ifanc ledled Cymru yn darganfod eu sbarc - cariad at gerddoriaeth, theatr, neu ddawns sy'n teimlo'n fwy nag unrhyw beth maen nhw wedi'i wybod. Ond i lawer, mae eu sbarc yn cael ei ddiffodd cyn iddo gael cyfle i dyfu. 

Costau teithio. Ffioedd cwrs. Gwisgoedd. Amser i ffwrdd o gartref.

Gall rhwystrau sy'n ymddangos yn fach ar bapur fod yn amhosibl mewn gwirionedd. Ac yn rhy aml, mae artistiaid ifanc gwych yn cael eu gadael yn sefyll ar y tu allan, yn gwylio cyfleoedd yn mynd heibio iddynt. 

Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) rydym ni’n credu y dylid meithrin talent - nid ei gyfyngu gan amgylchiadau. 

A dyna lle mae ein cynllun bwrsariaeth yn newid popeth. 

 

Pam Mae Bwrsariaethau yn Bwysig 

Mae'r cynllun bwrsariaeth yn llawer mwy na chymorth ariannol. Mae'n neges i bobl ifanc: 

"Rydych chi'n perthyn yma. Mae eich creadigrwydd yn bwysig. Mae eich dyfodol yn werth buddsoddi ynddo." 

Mae'n sicrhau nad yw cefndir person ifanc byth yn pennu eu dyfodol artistig - eu hangerdd sy'n gwneud hynny. 

Nid moethusrwydd yw'r celfyddydau, i lawer o bobl ifanc, maen nhw'n achubiaeth. Ffynhonnell o hyder. Lle i berthyn. Pan fydd bwrsariaeth yn agor drws, mae'n agor byd. 

Llun: Kirsten McTernan (2025)

Y Gwahaniaeth Mae Un Cyfle yn ei Wneud 

Mae ymuno a ensemble CCIC yn aml yn drobwynt. 

Mae pobl ifanc yn hyfforddi gyda thiwtoriaid ysbrydoledig, yn perfformio ar lwyfannau proffesiynol, yn adeiladu cyfeillgarwch gydol oes, ac yn darganfod eu gwydnwch a'u hunan-gred eu hunain. Maen nhw’n dychwelyd i'w cymunedau gyda hyder newydd, sgiliau newydd, ac ymdeimlad o'r newydd o'r hyn sy'n bosibl iddynt. 

Ac mae'r cyfan yn dechrau gyda rhywun yn eu helpu i gamu drwy'r drws. 

 

Creu Dyfodol Tecach a Mwy Disglair i Gymru 

Pan fydd pobl ifanc yn ffynnu'n greadigol, mae Cymru'n ffynnu. 

Rydym ni’n gweld cymunedau cryfach. 

Lleisiau mwy amrywiol yn ein gofodau diwylliannol. 

Sector creadigol sy'n adlewyrchu Cymru gyfan — nid dim ond y rhai sy'n gallu fforddio cael mynediad iddi. 

Mae'r cynllun bwrsariaeth yn buddsoddi yn nyfodol creadigrwydd Cymru, un person ifanc ar y tro. 

 

Yr Effaith Eleni 

Diolch i haelioni ac ymrwymiad cefnogwyr, partneriaid a chyllidwyr: 

  • Fe wnaeth 61% o'n haelodau - mae hynny’n 166 allan o 272 o bobl ifanc - dderbyn cymorth bwrsariaeth. 

  • Fe wnaeth 95 o bobl ifanc dderbyn bwrsariaeth lawn, gan wneud eu cyfranogiad yn bosibl. 

  • Rhoddwyd cyfanswm o £81,627 mewn cymorth ariannol - cynnydd sylweddol o'r £73,496 y llynedd, sy'n adlewyrchu'r angen cynyddol a'r gefnogaeth gynyddol. 

Y tu ôl i bob un o'r niferoedd hyn mae person ifanc a gafodd ddweud ie - wrth eu talent, eu potensial, a’u dyfodol. 

 

Sut y Gall Pobl Helpu

Bydd CCIC bob amser yn gweithio i gael gwared ar y rhwystrau mae pobl ifanc yn eu hwynebu - ond ni allwn ni wneud hynny ar ein pen ein hunain. 

Mae pob cyfraniad, waeth beth fo'i faint, yn helpu person ifanc yng Nghymru i gymryd cam yr oedden nhw o bosib yn credu ei fod yn amhosibl. Mae'n helpu i sicrhau nad yw cost byth yn rhwystro talent. Ac yn bwysicaf oll, mae'n dangos i berson ifanc bod eu creadigrwydd yn cael ei werthfawrogi. 

Os ydych chi'n fodlon cefnogi ein cynllun bwrsariaeth, byddwch yn helpu i agor y drws i'r genhedlaeth nesaf o artistiaid o Gymru. 

Gyda'n gilydd, gallwn gadw'r drysau hynny ar agor. 

Gyda'n gilydd, gallwn helpu talent i ddisgleirio. 

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Mae Eich Llwyfan yn Barod Amdanoch: Clyweliadau Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2026 Nawr ar Agor!

Mae cyfle dawns ieuenctid mwyaf deinamig Cymru yn nôl - yn fwy o ran maint, yn fwy beiddgar ac yn fwy uchelgeisiol nag erioed.

Mae cyfle dawns ieuenctid mwyaf deinamig Cymru yn nôl - yn fwy o ran maint, yn fwy beiddgar ac yn fwy uchelgeisiol nag erioed.

Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn galw ar ddawnswyr ifanc o bob cwr o Gymru i gamu i’r llwyfan wrth i glyweliadau ar gyfer cwmni 2026 agor yn swyddogol. Dyma'r cyfle i ddawnswyr hyfforddi, creu a pherfformio gyda'i gilydd.

Twenty Tales (2023)

Mae DGIC 2026 yn addo siwrne anhygoel, gan roi blas i ar fywyd artist proffesiynol i ddawnswyr ifanc. Bydd aelodau'r cwmni yn:

  • Hyfforddi'n ddwys gydag ymarferwyr o fri a thiwtoriaid dawns blaenllaw

  • Gwthio eu terfynau corfforol a chreadigol

  • Mireinio eu lleisiau artistig unigol

  • Derbyn cefnogaeth lles pwrpasol i gryfhau gwytnwch corfforol a meddyliol.

Mae'r dull cyfannol hwn yn sicrhau bod pob dawnsiwr yn ffynnu - yn y stiwdio ac ar y llwyfan.

Yn 2026, mae DGIC yn codi’r safonau creadigol hyd yn oed yn uwch. Bydd dawnswyr yn cydweithio'n agos â choreograffydd gwadd a thîm creadigol eithriadol, gan gynnwys cynllunwyr gwisgoedd, cynllunwyr goleuo a gwneuthurwyr ffilmiau. Gyda'i gilydd byddant yn dod â darn newydd gwefreiddiol yn fyw ac yn ei berfformio am y tro cyntaf yn yng Nghymru, ac yn cyfrannu at ffilm wreiddiol ddawns wedi'i ffilmio ar leoliad yn rhai o dirweddau mwyaf syfrdanol Cymru, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, a safleoedd treftadaeth eiconig.

Mae ymuno â DGIC yn golygu dod yn rhan o gwmni dawns ieuenctid cenedlaethol swyddogol Cymru - cymuned ddisglair, gefnogol o artistiaid ifanc talentog sy'n rhannu angerdd ac uchelgais. Trwy hyfforddiant technegol lefel uchel ac archwilio creadigol dychmygus, bydd dawnswyr yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector dawns gan ddathlu pŵer, potensial ac amrywiaeth cenhedlaeth nesaf o ddawnswyr Cymru.

Dyddiadau Allweddol

  • Lansio Clyweliadau: Dydd Mercher 3 Rhagfyr 2025 – Nawr ar agor!

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 11 Chwefror 2026

  • Cyhoeddi’r Canlyniadau: Dydd Mawrth 31 Mawrth 2026

Pwy All Wneud Cais

Mae DGIC yn chwilio am ddawnswyr ifanc 16–22 oed (sy’n 16–22 oed ar 31 Awst 2026) sydd yn:

  • Byw neu astudio'n llawn amser yng Nghymru neu wedi'u geni yng Nghymru

  • Hyfforddi mewn dawns yn rheolaidd trwy eu hysgol/coleg, ysgol ddawns breifat, neu gwmni dawns ieuenctid lleol

  • Yn gweithio ar lefel ganolradd neu uwch.

Gallwch ddod am glyweliad yn 15 oed, ar yr amod y byddwch chi'n 16 oed erbyn 31 Awst 2026.


Mae Eich Llwyfan yn Barod Amdanoch!

Dyma eich moment. Eich cymuned. Eich llwyfan.

I fod yn rhan o DGIC 2026 a helpu i lunio dyfodol newydd beiddgar i ddawns Cymru, gwnewch gais nawr.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan: ccic.org.uk/dgic-2026

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Harlequin Print Group yn cyhoeddi cefnogaeth i Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn falch o gyhoeddi bod Harlequin Print Group yn noddwr a chynghreiriad newydd deinamig.

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn falch o gyhoeddi bod Harlequin Print Group yn noddwr a chynghreiriad newydd deinamig. 

Dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: "Mae Harlequin Print Group yn rhannu ein gweledigaeth o Gymru lle gall pob person ifanc ffynnu drwy weithgareddau creadigol a chydweithredol. Maent yn ein helpu i hyrwyddo cyfleoedd i fwy o bobl ifanc, ac i ddathlu ensembles ieuenctid cenedlaethol enwog Cymru. Roedd y printiau fformat mawr a gynhyrchwyd ganddynt ar gyfer ein harddangosfa i ddathlu 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yng Nghasnewydd yn brydferth dros ben! Ar hyn o bryd rydym yn cydweithio â nhw i ddatblygu llyfr sy’n dathlu 25 Mlynedd o DGIC, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn y Gwanwyn."  

Fe wnaethom lansio arddangosfa 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yng Nglan yr Afon, Casnewydd, 30 a 31 Hydref yn nigwyddiadau triphlyg Ballet Cymru a Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at fynd â'r arddangosfa ar daith ledled Cymru yn ystod y misoedd nesaf. Mae lleoliadau i'w cadarnhau. 

"Mae'n bleser o’r mwyaf i ni gefnogi Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gyda'r nawdd hwn. Fel busnes yng Nghymru, mae hyn yn ein galluogi ni i gefnogi'r sefydliad yn ei waith yn meithrin a datblygu talent a chreadigrwydd pobl ifanc yng Nghymru heddiw." - Booie Sall, Cyfarwyddwr Harlequin Print Group. 

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd cynhwysol o ansawdd uchel i gerddorion, dawnswyr, actorion a gwneuthurwyr ifanc ledled Cymru, gan sicrhau na ddylai daearyddiaeth, incwm na chefndir byth fod yn rhwystrau i gymryd rhan yn y celfyddydau.  

Os hoffech gefnogi CCIC gyda chyfraniad ariannol i'n gwaith hanfodol yn y Celfyddydau yng Nghymru, cysylltwch â: tracymarshallgrant@nyaw.org.uk 

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Mwynhewch brynhawn bythgofiadwy o gerddoriaeth a chydweithio!

Ymunwch â ni ar gyfer cyngerdd arbennig lle bydd cerddorion ifanc talentog o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) yn perfformio 'ochr yn ochr' â chwaraewyr o'r radd flaenaf o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. 

Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru 'ochr yn ochr' (2023)

Ymunwch â ni ar gyfer cyngerdd arbennig lle bydd cerddorion ifanc talentog o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) yn perfformio 'ochr yn ochr' â chwaraewyr o'r radd flaenaf o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.  

Rhwng 28 a 30 Tachwedd, bydd aelodau CGIC yn ymuno â'u cymheiriaid proffesiynol o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i ymarfer a pherfformio rhaglen gyffrous o gerddoriaeth a fydd yn cynnwys Concerto Bartók ar gyfer Cerddorfa a Mistico gan Gwydion Rhys o CGIC! 

Bydd yr arweinydd Eidalaidd-Twrcaidd, Nil Venditti yn arwain y prosiect, ac fe gynhelir yr ymarferion a'r cyngerdd yn Neuadd Hoddinott, Canolfan Mileniwm Cymru. 

Ers 2001, mae'r prosiect dwyflynyddol hwn wedi cynnig cyfle prin i aelodau CGIC gamu i fyd cerddorfa broffesiynol a chael mewnwelediad a phrofiad amhrisiadwy. 

Meddai Dirprwy Brif Weithredwr ac Uwch Gynhyrchydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Matthew Jones: "Rydym yn gyffrous i fod yn cydweithio â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC eto ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn. Mae'r prosiect yn gyfle gwych i rai o uwch aelodau a’r aelodau mwyaf profiadol o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru; i weithio'n ddwys ar amserlen ymarfer arferol broffesiynol, eistedd wrth ymyl a dysgu gan gerddorion cerddorfaol proffesiynol profiadol a chwarae cerddoriaeth wych."   

Peidiwch â cholli'r cyfle, ddydd Sul 30 Tachwedd, i weld y genhedlaeth nesaf o dalent o Gymru yn rhannu'r llwyfan gyda rhai o gerddorion gorau'r genedl.  

Mae tocynnau ar werth ar sail Talwch Faint Gallwch gyda phris tocyn awgrymedig o £7.50 fel pris cyffredinol a £2.50 i’r rheiny sydd dan 25 oed. 

 

Rhaglen 

Copland Fanfare for the Common Man 

Gwydion Rhys Mistico 

Concerto Bartók ar gyfer Cerddorfa (Symudiadau I-IV yn unig) 

 

Perfformwyr 

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC 

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru 

Arweinydd: Nil Venditti 

 

Cyfansoddwyr 

Aaron Copland 

Gwydion Rhys 

Béla Bartók 

Read More
Charlotte Moult Charlotte Moult

Recriwtio Ymddiriedolwr: Chwilio am Hyrwyddwyr Celfyddydau Ieuenctid yng Nghymru

Wrth i ni barhau i ddatblygu ein portffolio, rydym yn chwilio am hyd at 4 o ymddiriedolwr a all ein helpu i arloesi, cryfhau sgiliau a thanlinellu ein heffaith.

Cynhyrchiad Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (2023) o ‘Dan Y Wenallt’. Llun gan Kirsten McTernan.

Ers 2017, mae CCIC wedi tyfu i gefnogi talent eithriadol ledled Cymru ym maes cerddoriaeth, theatr a dawns; wrth greu llwybrau hyfforddi sy'n galluogi pobl ifanc o bob cefndir i ddatblygu sgiliau a hyder mewn amgylchedd croesawgar a chydweithredol. Rydym yn cefnogi tua 2,000 o bobl ifanc bob blwyddyn.

Wrth i ni barhau i ddatblygu ein portffolio, rydym yn chwilio am hyd at 4 o ymddiriedolwr a all ein helpu i arloesi, cryfhau sgiliau a thanlinellu ein heffaith. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan:

• Siaradwyr Cymraeg

• Pobl sy'n byw neu'n gweithio yng nghanolbarth/gogledd Cymru

• Pobl o gefndiroedd sydd wedi'u tangynrychioli yn sectorau creadigol Cymru ar hyn o bryd, megis y rhai sy'n byw gydag anabledd, o'r Mwyafrif Byd-eang neu o gefndir incwm isel.

Yn ogystal â'r rhai sydd â:

• Arbenigedd cyfreithiol

• Profiad codi arian

• Sgiliau marchnata a lobïo

Rydym hefyd yn gwerthfawrogi darpar ymddiriedolwyr sydd â dealltwriaeth o un neu fwy o sectorau ein gwaith creadigol ac sydd wedi ymrwymo i gefnogi cenedlaethau'r dyfodol.

SUT I WNEUD CAIS

I fynegi diddordeb mewn dod yn Ymddiriedolwr, anfonwch CV a llythyr byr at nyaw@nyaw.org.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer y rownd recriwtio hon yw 1 Tachwedd 2025.

Read More
Evan Dawson Evan Dawson

David Jackson OBE 1955-2025

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn myfyrio ar fywyd a cholli David Jackson OBE gyda thristwch, anwyldeb a diolchgarwch dwys.

Roedd David yn Gadeirydd CCIC o fis Hydref 2017 tan yr haf hwn. Yn ystod y cyfnod hwn, arweiniodd y sefydliad trwy ei flynyddoedd ffurfiannol – gan ganolbwyntio i ddechrau ar arweinyddiaeth pum Ensemble Ieuenctid Cenedlaethol arloesol Cymru, ac yna ehangu ei gylch gwaith i gofleidio ffurfiau celf eraill, gan hyrwyddo pwysigrwydd creadigrwydd o ansawdd uchel a chyfunol i bob person ifanc. Roedd yn benderfynol na fyddai neb yn cael ei "adael ar ôl", am resymau anabledd neu galedi ariannol yn arbennig. Mae miloedd lawer o bobl ifanc o bob cwr o Gymru wedi elwa o brosiectau, ensembles a pherfformiadau CCIC o ganlyniad.

 

"Daeth mewnwelediad siriol, cyfeillgarwch a phenderfyniad tawel David â phobl at ei gilydd, ac yn dangos bod pethau anhygoel yn bosibl. Yn ganolog i'w weledigaeth oedd y dylai pobl ifanc o bob cefndir gael mynediad at brofiadau creadigrwydd artistig, cyfunol sy'n newid bywydau.

Roedd David yn credu ynom ni – felly byddwn yn parhau i gredu, gan sicrhau bod ei etifeddiaeth yn atseinio ar gyfer cenedlaethau i ddod. Ond byddwn ni i gyd yn ei golli'n fawr."

- Evan Dawson, Prif Weithredwr CCIC

Mae effaith David ar fyd y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt yn anhygoel. Efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus fel Cyfarwyddwr Artistig Canwr y Byd Caerdydd BBC, a ddaeth yn un o'r cystadlaethau canu clasurol mwyaf uchel eu parch yn y byd o dan ei stiwardiaeth.

Roedd hefyd wedi bod yn gynhyrchydd, cynhyrchydd gweithredol a chomisiynydd teledu a radio i'r BBC a'r sector annibynnol. Enillodd ei raglenni lawer o wobrau gan gynnwys Emmy Primetime, BAFTAs, y Rose d'Or, Gwobrau SONY, sawl Gwobr Deledu Golden Prague a Fienna a nifer o enwebiadau.

Roedd ei swyddi blaenorol yn cynnwys Pennaeth Cerddoriaeth BBC Cymru, Is-Bennaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cyfarwyddwr Dros Dro Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, a Rheolwr Gyfarwyddwr Cerddorfeydd Plant Cenedlaethol Prydain Fawr.

Yn ogystal â'i waith proffesiynol, gwasanaethodd David am nifer o flynyddoedd fel Ymddiriedolwr a Chadeirydd Pwyllgor Diwylliannol Canolfan Mileniwm Cymru. Roedd yn un o ymddiriedolwyr cerddorfa siambr Sinfonia Cymru, yn eistedd ar Bwyllgor Cerddoriaeth y Llywodraethwyr yn Ysgol Gadeiriol Wells, ac yn Llywodraethwr Ysgol Arbennig Ysgol y Deri yn Sili. Roedd yn Gadeirydd y Corws Forget-Me-Not ar gyfer pobl â dementia a'u gofalwyr. Dyfarnwyd OBE iddo am wasanaethau i gerddoriaeth yn yr Anrhydeddau Pen-blwydd Platinwm ym mis Mehefin 2022.

Bu farw David yn heddychlon yn ystod fore dydd Gwener 17 Hydref 2025. Mae ein meddyliau gyda'i wraig Anne ac eu dau blentyn sy'n oedolion.

 

Byddai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn croesawu unrhyw sylwadau am eich atgofion o David, i'w hanfon at nyaw@nyaw.org.uk, a byddwn yn eu cyhoeddi a'u rhannu gyda'i deulu. Byddwn hefyd yn lansio gwobr newydd i gantorion ifanc, o'r enw Gwobr David Jackson, mewn partneriaeth â sefydliadau celfyddydol eraill yng Nghymru. Mwy o fanylion cyn bo hir.

Read More
News National Youth Arts Wales News National Youth Arts Wales

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn lansio prosiect Eich Dyfodol Creadigol sy’n dod â gweithdai Cerddoriaeth a Dawns am ddim i bobl ifanc Blaenau Gwent a Thorfaen

Mae’r fenter uchelgeisiol traws-sector sy’n cael ei harwain gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a’i hariannu gan Grant Arloesi Tlodi Plant Llywodraeth Cymru yn lansio ddydd Sadwrn yma yn ne ddwyrain Cymru.

Mae’r fenter uchelgeisiol traws-sector sy’n cael ei harwain gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a’i hariannu gan Grant Arloesi Tlodi Plant Llywodraeth Cymru yn lansio ddydd Sadwrn yma yn ne ddwyrain Cymru. 

Nod Eich Dyfodol Creadigol yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb dwfn sy’n bodoli mewn mynediad i gyfleoedd lles a chreadigol i bobl ifanc dan anfantais yn Nhorfaen a Blaenau Gwent – dwy o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru o ran cyfleoedd.  

Gan gydweithio â sawl partner, gan gynnwys Ballet Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Cerdd Gwent, byddwn yn cynnig cyfres o weithdai am ddim a gynlluniwyd ar y cyd, i bobl ifanc 10-18 oed, rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Mawrth 2026, a hynny mewn sawl canolfan. 

Dywedodd Louise Prosser o Ballet Cymru: “Mae Ballet Cymru wrth ei bodd yn gweithio mewn partneriaeth â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i ddod â sesiynau dawns a cherddoriaeth difyr, hygyrch a chyffrous  i chwe chymuned newydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gysylltu â phobl ifanc, tanio creadigrwydd, a datblygu cysylltiadau parhaol drwy brosiect Eich Dyfodol Creadigol.” 

Dywedodd Linton o Gerdd Gwent: “Mae’n wych cydweithio â CCIC ar brosiect Eich Dyfodol Creadigol. O’r diwedd, rydym yn gweld cynllunio cydgysylltiedig drwy byramid addysg gerdd. Mae hwn yn brosiect gwerthfawr a fydd yn rhoi gymaint i’r disgyblion sy’n cymryd rhan!” 

Bydd y gweithdai dwy awr o hyd dan arweiniad gweithwyr proffesiynol o ddiwydiannau dawns, cerddoriaeth a chreadigol yn rhoi sgiliau canu, cyfansoddi, cynhyrchu cerddoriaeth, dawns a choreograffi, yn ogystal â sgiliau creadigol a lles i bobl ifanc yr ardal. Gall pobl ifanc ddewis cymryd rhan ym mhob un gweithgaredd neu ambell un. 

Dywedodd Bruna Garcia, Rheolwr Prosiect Eich Dyfodol Creadigol, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: "Mae mor bwysig bod pob person ifanc yn cael y cyfle i ddatblygu ei greadigrwydd a magu hyder. Mae Eich Dyfodol Creadigol yn ofod diogel lle gall pawb archwilio’u diddordeb mewn cerddoriaeth, dawns, a datblygu sgiliau gwerthfawr, a chael hwyl wrth wneud hynny!" 

 

Os ydych chi’n berson ifanc neu’n adnabod person ifanc rhwng 10 a 18 oed ac yn byw ym Mlaenau Gwent neu Dorfaen, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi... 
 

 Pam ymuno? 

  • Gweithiwch gyda gweithwyr proffesiynol blaenllaw o’r diwydiannau dawns, cerddoriaeth a chreadigol 

  • Dysgwch sgiliau newydd, gwnewch ffrindiau a magwch hyder 

  • Perfformiwch, dangoswch ac archwiliwch eich potensial creadigol 

  • Darperir lluniaeth 

A allech chi fod yn rhan o’n Panel Cynghori Ieuenctid? 

Rydym ni’n chwilio am grŵp o bobl ifanc amrywiol rhwng 14 a 18 mlwydd oed i helpu i lunio Dyfodol Creadigol a sicrhau bod y prosiect yn berthnasol ac yn hygyrch i'ch cymuned.    

Byddwch yn helpu i lunio dyluniad prosiectau, sicrhau hygyrchedd ac annog ymgysylltiad â'r gymuned. Yn ogystal â chynghori ar farchnata, a gweithredu fel llysgenhadon prosiect i'ch cyfoedion.   

Rydym ni’n credu y dylai llais ieuenctid fod yn ganolog i'r hyn rydyn ni'n ei wneud felly rydyn ni eisiau clywed gennych!   

  • Dweud eich dweud: Helpu i lunio prosiect cerddoriaeth a dawns cyffrous i bobl ifanc yn eich ardal chi.   
      

  • Ennill profiad: Sgiliau arweinyddiaeth, cynllunio digwyddiadau, gwneud penderfyniadau creadigol.   
      

  • Cael eich gwobrwyo: Teithio wedi’i dalu, lluniaeth wedi'i ddarparu, geirda ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol, taleb love to shop.   
      

  • Cael effaith: Dylanwadu ar sut mae gweithdai Dyfodol Creadigol yn edrych a sut rydym ni’n cyrraedd pobl ifanc.  

Read More
News National Youth Arts Wales News National Youth Arts Wales

Beyond the Mirror: Rhaglen ddogfen feiddgar gan aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn herio safonau harddwch y diwydiant dawns

Trwy ei rhaglen ddogfen Beyond the Mirror, mae Aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) 2025, Phoebe Clark, yn rhoi llais i ddawnswyr ifanc sy'n benderfynol o ailddiffinio'r diwydiant dawns.

Trwy ei rhaglen ddogfen Beyond the Mirror, mae Aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) 2025, Phoebe Clark, yn rhoi llais i ddawnswyr ifanc sy'n benderfynol o ailddiffinio'r diwydiant dawns. Wedi'i wreiddio yn ei phrofiadau personol, mae'r rhaglen ddogfen yn herio safonau harddwch niweidiol ac yn grymuso dawnswyr ifanc i gofleidio’u gwerth y tu hwnt i’r ffordd maent yn edrych. Gyda chefnogaeth DGIC – gofod lle mae artistiaid ifanc yn cael eu dathlu am bwy ydyn nhw – mae Phoebe yn annog eraill i ymuno mewn sgwrs sy'n dathlu dilysrwydd, gwytnwch a thalent.

 "Fe wnes i greu fy rhaglen ddogfen Beyond the Mirror fel rhan o fy nhraethawd hir yn y brifysgol, ond yn fuan iawn fe ddatblygodd yn llawer mwy na phrosiect academaidd. Roedd yn daith hynod bersonol; cyfle i herio normau'r diwydiant dawns a thanio symudiad tuag at newid."

Gan dynnu o'i phrofiadau ei hun – a phobl yn dweud y gallai ei phwysau a’r ffordd y mae hi’n edrych gyfyngu ar ei siawns o lwyddo – daeth Phoebe o hyd i'r dewrder i siarad allan. Wrth wneud hynny, darganfu nad oedd hi ar ei phen ei hun.  

"Mae dawnswyr di-ri eraill wedi wynebu beirniadaeth a phwysau tebyg. Daeth Beyond the Mirror yn llwyfan i roi llais i'r straeon hyn ac i eirioli dros weledigaeth fwy cynhwysol, cefnogol a realistig o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddawnsiwr."  

Llun gan Sian Trenberth

"Mae DGIC bob amser wedi bod yn lle rydw i wedi teimlo'n wirioneddol ddiogel. Lle rwy’n cael fy ngwerthfawrogi a'm gweld, nid am sut rydw i'n edrych, ond am bwy ydw i a'r hyn rydw i'n ei gyfrannu fel artist. Mae gan y sefydliad awyrgylch teuluol sy'n blaenoriaethu rhinweddau mewnol: eich pwrpas, eich purdeb, eich talent a'ch personoliaeth, yn hytrach na'r ffordd rydych yn edrych neu sut rydych yn gwisgo. Pan oeddwn i'n 16 oed, ar adeg pan oeddwn i'n clywed pethau na ddylai unrhyw berson ifanc orfod eu clywed, fe ddaeth DGIC yn angor i mi. Fe wnaeth fy nghadw i ddawnsio. P'un a oeddent yn gwybod neu beidio, roedd y gefnogaeth a'r sicrwydd a gefais ganddynt yn fy atgoffa fy mod i'n dalentog ac yn deilwng, ac roedd hynny'n golygu popeth." 

Dywedodd Pennaeth Dawns Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Jamie Jenkins:

"Mae rhaglen ddogfen Phoebe yn adlewyrchiad pwerus a theimladwy iawn ar realiti llywio'r diwydiant celfyddydau perfformio gyda chyrff ac edrychiadau amrywiol. Mae ei gonestrwydd a'i dewrder wrth rannu ei thaith bersonol yn ddim llai nag ysbrydoledig. Trwy siarad allan gyda bregusrwydd a chryfder o'r fath, mae hi nid yn unig yn berchen ar ei stori ond hefyd yn goleuo'r ffordd i eraill sefyll i fyny, estyn allan, a herio ymddygiadau niweidiol. Yn DGIC rydym yn falch o hyrwyddo unigolrwydd, dathlu amrywiaeth, a meithrin cymuned lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu cefnogi a'u grymuso i fod yn union pwy ydyn nhw." 

Llun gan Sian Trenberth

"Eleni, rwy'n edrych ymlaen at gysylltu gyda rhagor o ddawnswyr, gweithio gyda'r coreograffydd Yukiko Masui, a mynd â'n darn i Lundain ar gyfer perfformiad yn Sadler's Wells East. Mae'n gyfle rhyfeddol. Rwy'n edrych ymlaen at hyfforddi ochr yn ochr ag unigolion o'r un anian ac ymgolli mewn amgylchedd sy'n llawn talent eithriadol ac angerdd a rennir." meddai'r Dawnsiwr, Perfformiwr, ac Athrawes, Phoebe Clark. 

Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn dathlu 25 mlynedd yn 2025 ac fe wnaethom ni ddathlu gyda pherfformiad arbennig yn Saddler’s Wells East ar 25 Gorffennaf - cafwyd cymeradwyaeth fyddarol a’r gynulleidfa gyfan ar ei thraed. Mae'r ensemble dawns yn dychwelyd i Gymru am ddau berfformiad yn The Riverfront, Casnewydd, ar 30 ac 31 Hydref, gyda Ballet Cymru. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, cliciwch yma. 

Gwyliwch raglen ddogfen Phoebe…

Read More
News National Youth Arts Wales News National Youth Arts Wales

Dawns Ragorol a Grëwyd yng Nghymru: Ballet Cymru a Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn Cyflwyno Bil Triphlyg yr Hydref

Bydd Ballet Cymru yn cynnal cydweithrediad cyffrous â Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) gyda bil triphlyg ar y cyd yng Nghanolfan Glan-yr-Afon, Casnewydd, ddydd Iau 30 a dydd Gwener 31 Hydref.  

Bydd Ballet Cymru yn cynnal cydweithrediad cyffrous â Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) gyda bil triphlyg ar y cyd yng Nghanolfan Glan-yr-Afon, Casnewydd, ddydd Iau 30 a dydd Gwener 31 Hydref.  

Yn arddangos tri darn o waith byr anhygoel gan goreograffwyr o'r radd flaenaf, bydd y noson yn cynnwys Momentum – Undone gan Marcus Jarrell Willis, Cyfarwyddwr Artistig Phoenix Dance Theatre, sy'n adnabyddus am ei gyfuniad nodedig a ddi-dor o hiwmor a cherddoriaeth. Bydd Cyfarwyddwyr Artistig Ballet Cymru, Darius James OBE ac Amy Doughty, yn cyflwyno creadigaeth newydd sbon, Woven, yn arbennig ar gyfer y rhaglen hon.  

Gan ddathlu 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, mae'r dawnswyr ifanc yn dychwelyd fel gwesteion arbennig am y drydedd flwyddyn yn olynol, gan berfformio The Night is Darkest Just Before The Dawn gan y coreograffydd enwog Yukiko Masui. Dyma ddarn sy'n arddangos symudiad pwerus, gan gyfuno dawns Gyfoes, Hip Hop, a Chrefft Ymladd. Mae'r darn yn cael ei ddisgrifio fel teyrnged i 'gefnogwyr tawel' - pobl sy'n sefyll wrth ein hochr yn ystod adegau tywyllaf ein bywyd ac yn ein cefnogi heb gydnabyddiaeth. 

Wrth siarad am y darn, meddai Masui: “Fe ysbrydolwyd y darn gan gymeriad yr archarwr, cymeriad hynod bwerus ond mae’n gweithio gyda’r nos, yn y tywyllwch. Does dim sbotolau arno, ond mae’n gwneud pethau dros bobl eraill ac yn hynod bwerus pan does neb yn gwylio.” 

U.Dance National Festival 2025 at Sadler’s Wells East presented by One Dance UK, photo Dance Photographer UK/Point of View Photography. 

Dan gyfarwyddiad Yukiko Masui a Jamie Jenkins, Pennaeth Dawns Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mae’r cwmni wedi cael ei feithrin drwy amrywiaeth o ddosbarthiadau; megis techneg, archwilio creadigol, dosbarthiadau lles, a mentoriaeth, gyda’r rhan helaeth dan arweiniad cyn aelodau DGIC.  

Dwedodd Carlie, o Gastell-nedd, aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2025: "Mae'n Hydref o'r diwedd ac mae hynny'n golygu mai dim ond ychydig wythnosau sydd i fynd tan berfformiad DGIC ac ni allwn aros! Rwy'n gyffrous am y perfformiad hwn oherwydd ein bod ni'n cael rhannu'r llwyfan gyda'r anhygoel Ballet Cymru. Mae'r perfformiad yma’n teimlo'n arbennig iawn, gan fod y cwmni’n dod at ei gilydd i berfformio yng Nghymru, yn cynrychioli ein gwlad, gan rannu ein hangerdd a'n gwaith caled gyda'r gynulleidfa. Rydym yn gobeithio eich gweld chi i gyd yno yn Theatr Glan-yr-Afon Casnewydd ar 30 a 31 Hydref!"  

Dywedodd Jack, o Abertawe aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2025: “Dw i mor gyffrous cael perfformio unwaith eto gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru ym mis Hydref. Mae’n gyfle anhygoel, cael rhannu’r llwyfan gyda dawnswyr mor dalentog a pherfformio gwaith gan y coreograffydd Yukiko Masui. Ni allaf aros i ddod â’n holl waith caled yn fyw a rhannu’r profiad arbennig yma gyda’r gynulleidfa. Dw i mor falch o fod yn ddawnsiwr gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru.” 

Yn ystod yr haf, daeth cwmni Pen-blwydd DGIC yn 25 at ei gilydd yng Nghaerdydd ar gyfer preswyliad pythefnos o hyd. Nod y preswyliad oedd creu ac ymarfer fersiwn estynedig o’r gwaith cyn mynd i Sadler’s Wells East, Llundain, i’w berfformio am y tro cyntaf ochr yn ochr â National Youth Dance Company Scotland a National Youth Dance Company. Roedd y gynulleidfa gyfan ei thraed yn cymeradwyo. 

Archebwch eich tocynnau heddiw, ar gyfer eich cyfle olaf i weld y perfformiad arbennig yma. Mae tocynnau’n costio rhwng £17 ac £20, gyda chonsesiynau ar gael.  

U.Dance National Festival 2025 at Sadler’s Wells East presented by One Dance UK, photo Dance Photographer UK/Point of View Photography. 

Read More