BWRSARIAETHAU

MAE CCIC YN CEFNOGI CANNOEDD O BOBL IFANC O GEFNDIROEDD INCWM-IS I GYMRYD RHAN YN EIN HYFFORDDIANT PERFFORMIO LEFEL UCHEL.


CRONFA BWRSARIAETHAU AC ILDIAD FFÏOEDD CCIC

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi derbyn grant Ysgoloriaeth Celfyddydau o £165,448 oddi wrth Ymddiriedolaeth Leverhulme, fydd yn cefnogi cannoedd o bobl ifanc o gefndiroedd incwm-is i gymryd rhan yn ein hyfforddiant perfformio lefel uchel.

Bydd yr ariannu’n caniatáu i CCIC ehangu ei rhaglen bresennol o fwrsariaethau a’i rhaglenni datblygu yn sylweddol dros y pedair blynedd nesaf, fydd o fudd i 240 o bobl ifanc bob blwyddyn erbyn 2024-25.

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi ymrwymo i weithio tuag at sector gelfyddydol fwy teg ar gyfer perfformwyr ifanc, ac mae rhan o hyn yn cynnwys gweithio i ddileu rhwystrau ariannol i ddod am glyweliad neu ddod yn aelod o’n Hensembles Cenedlaethol.

Trwy gyfuniad o gronfa bwrsariaethau CCIC, Ymddiriedolaeth Leverhulme, Cronfa Bwrsariaeth Neil a Mary Ellen Webber a chyfraniadau gan Roddion Unigol, gellir cynnig cymorth ariannol i Aelodau CCIC allai gael trafferth i dalu cost lawn Aelodaeth neu ein ffi Clyweliad. Gall hyn fod yn ostyngiad mewn ffïoedd sy’n amrywio o 10% i 100%, yn ogystal â chymorth gyda chostau teithio a threuliau eraill. Caiff bwrsariaethau ar gyfer aelodau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru eu cefnogi’n hael gan Ffrindiau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Ceir prawf modd ar gyfer dyfarniadau ariannol ond rydym am wneud y broses mor rhwydd a hygyrch â phosibl. Ceir mwy o fanylion am sut i ymgeisio isod.

CYMORTH FFI CLYWELIAD

Faint yw cost clyweliad?

Yn yr un modd â nifer o sefydliadau tebyg eraill, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru’n codi tâl cyffredinol ar gyfer ein clyweliadau. Nid yw hwn yn talu am gostau llawn cynnal clyweliadau a gweithdai ond mae yn cynorthwyo gyda’r costau gweinyddol ar gyfer 500 o bobl ifanc ledled Cymru bob blwyddyn.

  • Ffi clyweliad wyneb-yn-wyneb: £25

  • Ffi clyweliad ar-lein: £20

Pa gymorth alla’ i ei dderbyn?

Os nad wyt ti mewn sefyllfa i fforddio’r ffi clyweliad llawn am ba bynnag reswm, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru’n cynnig ildiad ffïoedd llawn, fel na fyddi’n talu dim am dy glyweliad. Gallwn hefyd gynnig cefnogaeth benodol, er enghraifft i gyfrannu tuag at gostau teithio.

Sut alla’ i dderbyn cefnogaeth?

Y cyfan sydd rhaid iti ei wneud yw rhoi gwybod inni ar dy ffurflen gais am glyweliad pa lefel o gefnogaeth yr wyt ei angen. Os wyt ti angen ildiad ffi, galli ddewis yr opsiwn hwn ar dy ffurflen a chaiff dy ffi ei ildio’n awtomatig - heb ddim cwestiwn. Os byddi angen unrhyw fath arall o gymorth, galli ein e-bostio ar nyaw@nyaw.org.uk er mwyn i aelod o’r tîm gysylltu gyda thi.


FFI AELOD: ILDIAD FFÏOEDD LLAWN

Beth mae’n ei gynnwys?

Mae ildiad ffïoedd llawn ar gyfer aelodaeth CCIC yn golygu na fyddi’n talu unrhyw beth tuag at dy aelodaeth blynyddol. Mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau meistr gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant, costau llety a bwyd y cwrs preswyl wythnos o hyd, gweithgareddau cymdeithasol, cefnogaeth lles, ymarferion a chyfarwyddyd gan artistiaid, tiwtoriaid, arweinyddion a choreograffwyr blaenllaw, yn ogystal â pherfformiadau mewn canolfannau celfyddydol ledled Cymru.

Byddi’n gymwys, yn awtomatig, i dderbyn ildiad ffïoedd llawn os yw un o’r criteria isod yn berthnasol i ti:

  • Aelod sy’n byw mewn cartref sy’n hawlio Credyd Cynhwysol

  • Aelod dan 18 sy’n gymwys i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim

  • Aelod sy’n ofalwr llawn amser i aelod agos o’r teulu, yn cynnwys rhieni sengl

  • Aelod sydd â phrofiad o ofal (er engrhaifft rhywun sydd, ar ryw adeg, wedi byw gyda gofalwyr maeth neu sydd wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol)

  • Aelod sy’n ceisio lloches yn y DU ar hyn o bryd

  • Aelod sy’n derbyn Grant Dysgu llawn gan Lywodraeth Cymru

Sut alla’ i ymgeisio?

Gall unrhyw aelod sydd wedi cael cynnig lle ar Ensemble Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac sy’n uniaethu ag unrhyw un o’r chwe chategori uchod wneud cais am ildiad llawn, felly gallwch dderbyn eich lle heb orfod poeni am gostau ychwanegol. Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam clyweliad, byddwn yn anfon dolen i ffurflen ar-lein syml atoch i gadarnhau eich ildiad ffi lawn yn awtomatig.


FFI AELOD: CYMORTH BWRSARIAETH

Beth mae’n ei gynnwys?

Mae Aelodaeth Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn amrywio o ensemble i ensemble, a gallwn gyhoeddi rhestr lawn o’r ffïoedd yn hwyrach eleni. Mae’r ffïoedd i gyd yn cynnwys dosbarthiadau meistr gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant, costau llety a bwyd y cwrs preswyl wythnos o hyd, gweithgareddau cymdeithasol, cefnogaeth lles, ymarferion a chyfarwyddyd gan artistiaid, tiwtoriaid, arweinyddion a choreograffwyr blaenllaw, yn ogystal â pherfformiadau mewn canolfannau celfyddydol ledled Cymru.

Os nad wyt ti’n gymwys i dderbyn ildiad ffïoedd awtomatig, ond bod cyfanswm incwm dy gartref yn llai na £70,000 y flwyddyn, mae’n bosibl y byddi’n dal yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth rannol.

Cyfanswm Incwm Cartref (y flwyddyn):

  • £0k i £25k - Ildiad Ffïoedd Awtomatig

  • £25k+ i £30k - Gostyngiad o 95%

  • £30k+ i £35k - Gostyngiad o 90%

  • £35k+ i £40k - Gostyngiad o 80%

  • £40k+ i £45k - Gostyngiad o 70%

  • £45k+ i £50k - Gostyngiad o 60%

  • £50k+ i £55k - Gostyngiad o 50%

  • £55k+ i £60k - Gostyngiad o 35%

  • £60k+ i £65k - Gostyngiad o 20%

  • £65k+ i £70k - Gostyngiad o 10%

Sut alla’ i ymgeisio?

Gall unrhyw aelod sydd wedi cael cynnig lle ar Ensemble Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac sydd ag incwm cartref o dan £70,000 wneud cais am gymorth bwrsariaeth. Os byddwch yn llwyddiannus yn ystod y cam clyweliad, byddwn yn anfon dolen atoch i gwblhau ffurflen gais ar-lein syml.