RHEDEG HANNER MARATHON CAERDYDD PRINCIPALITY AR GYFER CELFYDDYDAU CENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU

Rhedeg HANNER MARATHON CAERDYDD PRINCIPALITY ar gyfer Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 

Dyddiad: Dydd Sul 6 Hydref 2024 

Ffi Mynediad: £10  

Isafswm Nawdd: £250 

Isafswm Oedran: 18+ 

Lleoliad: Canol Dinas Caerdydd  


Heriwch eich hun eleni drwy redeg Hanner Marathon Caerdydd Principality a chodi arian hanfodol ar gyfer Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru bob cam o'r ffordd.

Bob blwyddyn mae dros 25,000 o redwyr yn uno ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Principality, sy'n golygu mai hwn yw'r ail hanner marathon mwyaf yn y DU. Yn fwy na ras yn unig, dyma yw digwyddiad codi arian aml-elusen mwyaf Cymru, gan godi miliynau o bunnoedd bob blwyddyn ar gyfer achosion da.

Mae'r cwrs, sy'n enwog am ei dir gwastad, yn plethu trwy Gaerdydd, gan ddatgelu tirnodau syfrdanol fel Castell Caerdydd, Bae Caerdydd, a Pharc y Rhath. Mae'r cwrs cynhwysol hwn yn darparu ar gyfer dechreuwyr a rhedwyr profiadol, a byddwn gyda chi ar eich taith yn cynnig cefnogaeth ar eich hyfforddiant a chodi arian.   

Trwy gofrestru i ymuno â Thîm CCIC yn Hanner Marathon Caerdydd Principality eleni, rydych chi'n rhedeg gyda phwrpas - cefnogi pobl ifanc dalentog i wireddu eu breuddwydion yn y celfyddydau wrth gyflawni eich nodau rhedeg eich hun.


Fel rhan o dîm rhedeg Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, byddwch yn cael... 

·       Top Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru unigryw am ddim.

·       Cefnogaeth a chymhelliant gan ein tîm codi arian ymroddedig.

·       Tystysgrif sy'n dathlu eich cyflawniadau codi arian a'ch amser rhedeg.

·       Awgrymiadau codi arian a chyngor i wneud y mwyaf o'ch cyflawniad.


Sut i gofrestru  

Mae gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru nifer cyfyngedig o leoedd yn Hanner Marathon Caerdydd Principality. I sicrhau lle i chi eich hun, cliciwch i gofrestru isod. Byddwch wedyn yn cael eich ailgyfeirio i Monad, ein platfform diogel ar gyfer taliadau ar-lein a chofrestriadau. 

Mae ein lleoedd rhedeg elusennol yn £10, a gofynnwn i chi godi isafswm o £250 i Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Ar ôl i chi gofrestru drwy Monad, byddwn yn cysylltu gyda'r camau nesaf.

Fel arall, os oes gennych chi le eisoes yn Hanner Marathon Caerdydd Principality ond eich bod am ymuno â'n tîm rhedeg gwych ar gyfer y digwyddiad, anfonwch e-bost atom ar nyaw@nyaw.org.uk. Byddem wrth ein bodd pe byddech yn rhedeg gyda ni!

Nid yw rhedeg Hanner Marathon Caerdydd Principality er budd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn ymwneud â chwblhau ras yn unig; mae'n ymwneud â chyfrannu at achos sy'n cael effaith bellgyrhaeddol a chadarnhaol ar ddyfodol celfyddydau Cymru a bywydau unigolion ifanc sy'n dilyn eu breuddwydion artistig. 


Am fwy o wybodaeth a chwestiynau, cysylltwch â'n tîm ar nyaw@nyaw.org.uk