RHOI YN EICH EWYLLYS

Gadael etifeddiaeth hirhoedlog

Trwy adael rhodd yn eich ewyllys, gallwch wneud gwahaniaeth hirhoedlog i genedlaethau o artistiaid Cymreig ifanc i’r dyfodol.  Gall rhodd yn eich ewyllys, o ba bynnag faint, helpu Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i gynnig cyfleoedd neilltuol i’n perfformwyr ifanc mwyaf disglair, a sicrhau y gall y mwyaf dawnus ddatblygu eu sgiliau ar y lefel uchaf, waeth beth fo’u cefndir neu eu sefyllfa ariannol.   

Mae pob rhodd yn werthfawr a bydd yn cael effaith aruthrol ar ein gwaith, waeth beth ei maint.  Gellid ei gadael ar gyfer ein Cronfa Bwrsariaethau, ar gyfer un o’n hensembles unigol, neu gallai gefnogi ein prosiectau canfod-talentau.  Mae croeso ichi gysylltu a byddwn yn hapus iawn i drafod y mater hwn gyda chi. 

Os ydych eisoes wedi enwi Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn eich ewyllys, diolch ichi.  Byddem yn falch iawn i gynnig ein gwerthfawrogiad yn swyddogol am eich rhodd hael.  Os byddech cystal â chwblhau ein ffurflen addewid o rodd (gallwch ddweud cymaint neu gyn lleied ag a fynnwch wrthym) a’i dychwelyd atom yn y cyfeiriad a nodir ar y ffurflen. 

I drafod eich dymuniadau gyda ni yn gyfrinachol, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am adael rhodd, anfonwch neges e-bost at nyaw@nyaw.org.uk neu ffoniwch 029 2280 7420.


Cwestiynau Cyffredin


Ein haddewid cymynrodd i chi 

  • Byddwn yn gwario’r rhoddion y byddwch yn eu hymddiried i ni yn ddoeth, fel eu bod yn cael yr effaith mwyaf ar gyfer artistiaid ifanc ledled Cymru. 

  • Fyddwn ni ddim yn rhoi unrhyw bwysau arnoch chi - rydym yn sylweddoli bod hwn yn benderfyniad pwysig a byddwn yn gadael ichi benderfynu yn eich amser eich hun. 

  • Ffrindiau a theulu sy’n dod gyntaf.  Rydym yn parchu hynny a fyddwn ni ddim yn ceisio newid hynny. 

  • Rydym yn sylweddoli y gall amgylchiadau newid a byddwn yn deall os byddwch angen newid eich meddwl. 

  • Byddwn yn trin eich teulu a’ch perthnasau agosaf mewn modd parchus a sensitif.  

  • Os hoffech i’ch rhodd gael ei defnyddio mewn maes neu wasanaeth sy’n bwysig i chi, cofiwch roi gwybod inni ac fe drefnwn i hynny ddigwydd cyn belled â bo modd. 

  • Byddwn yn ateb eich cwestiynau’n onest ac mor fuan â phosibl. 

  • Os dywedwch eich bod am glywed llai gennym, neu ddim o gwbl, fe wnawn wrando. 

  • Ni fyddwn yn gwerthu nac yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag unrhyw un. 

  • Byddwn yn glynu at y Côd Ymarfer Codi Arian a gyhoeddir gan y Rheoleiddiwr Codi Arian. 

Byddwn yn croesawu eich adborth bob amser, felly cofiwch roi gwybod inni sut yr ydym yn gwneud trwy e-bostio nyaw@nyaw.org.uk neu alw 029 2280 7420 .  

Rydym yn addo gwrando a gweithredu ar yr hyn ddywedwch wrthym.