SGILIAU CÔR

 
 

Mae Côr Skills yn brosiect datblygu corawl sydd â’r nod o sicrhau bod cantorion ifanc yng Nghymru yn gallu datblygu’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i fanteisio ar ystod eang o gyfleoedd lleisiol a chorawl – o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i gorau sirol a llawer mwy

Cantorion mewn gweithdy lleisiol.

Mae’r prosiect hwn, sy’n targedu cantorion ifanc rhwng 14-18 oed, yn anelu i ymgysylltu a 40 o gyfranogwyr ifanc o amrywiaeth eang o gefndiroedd mewn ffordd hwyliog, atyniadol a rhyngweithiol - gan eu galluogi i fynd â’u talent a’u sgiliau i’r lefel nesaf.

Gyda chefnogaeth garedig gan Moondance Foundation ac Colwinston Charitable Trust, mae’r prosiect yn cynnig cyfleoedd i gyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau lleisiol a cherddorol cyffredinol – gan weithio ochr yn ochr â thîm o arweinwyr canu arbenigol tra’n cael digon o hwyl ar hyd y ffordd!

“Mae canu’n bwysig i fi achos ar hyn o bryd dwi’n astudio ar gyfer TGAU ac mae’n ffordd i ryddhau straen a gwneud rhywbeth dwi’n mwynhau.”
— Un o Gyfranogwyr Sgiliau Côr, 2018/19

Gan weithio gyda Tim Rhys-Evans, arweinydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, trosglwyddwyd fersiwn beilot o’r prosiect am y tro cyntaf yn 2018/19; ac rydym yn falch iawn ein bod yn datblygu’r prosiect ymhellach yn 2022 a 2023. Eleni, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ein Preswyliad Sgiliau Côr cyntaf, sydd i’w gynnal yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd rhwng 18fed a 21ain Chwefror 2023.

Bydd y cwrs preswyl pedwar diwrnod hwn yn cynnig cyfle i gyfranogwyr weithio gyda thîm arbenigol o arweinwyr canu a gwesteion arbennig; cynnig cyfle i gyfranogwyr ddatblygu eu techneg leisiol, paratoi ar gyfer perfformiadau a chlyweliadau a datblygu eu sgiliau theori cerddorol trwy gymryd rhan mewn cyfres o sesiynau wedi’u teilwra’n arbennig. Bydd hefyd amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol hwyliog trwy gydol y cyfnod preswyl a digon o gyfleoedd i wneud ffrindiau newydd.

Os ydych chi’n athro / athrawes hoffai gefnogi grŵp o bobl ifanc i gymryd rhan, yna e-bostiwch ni am sgwrs anffurfiol – nyaw@nyaw.org.uk