THEATR CENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU

TROSOLWG

Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda phartneriaid a phobl broffesiynol yn y diwydiant i gynnig cyfleoedd hyfforddi a pherfformio o'r radd flaenaf i rai o'n pobl ifanc fwyaf talentog.  

Ers bron 50 mlynedd, mae'r rhaglen flaengar yma ar gyfer theatr ieuenctid wedi meithrin doniau ac uchelgais miloedd o bobl ifanc drwy ddarparu perfformiadau amrywiol a rhai sy'n cymryd risg ochr yn ochr â rhaglenni hyfforddi sy'n adeiladu llwybrau i'r diwydiannau creadigol.    

Mae'r Theatr Ieuenctid yn falch o'i rhestr ddisglair o gyn-aelodau sydd wedi mynd ymlaen i ragori fel perfformwyr, ysgrifennwyr, cyfarwyddwyr, rheolwyr llwyfan a chynhyrchwyr, gan gynnwys Michael Sheen, Morfydd Clarke, Matthew Rhys, Ruth Jones, Rakie Ayola a Caroline Sheen ymysg eraill.  

Rydyn ni wedi ymrwymo i roi'r llwyfan i bobl ifanc rhwng 16 a 22 oed ffynnu beth bynnag fo'u cefndir a'u hamgylchiadau, ac rydyn ni'n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn darparu rhaglen ddwyeithog o weithgarwch ar gyfer ein haelodau sydd wedi'i gwreiddio mewn rhagoriaeth.


Cyhoeddi Aelodau Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2026 

Rydym ni’n gyffrous i ddatgelu Aelodaeth Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2026

Perfformwyr ifanc eithriadol o bob cwr o Gymru a thu hwnt, i gyd yn rhannu cymhelliant creadigol sy'n ymgorffori uchelgais ac ysbryd ThGIC.  

Bydd y grŵp talentog hwn o aelodau sy'n dychwelyd ac wynebau newydd yn gweithio gyda ni ar draws ein rhaglenni Ensemble a Llwybrau Proffesiynol, gan gymryd rhan mewn cyrsiau preswyl sgiliau a gwneud theatr eithriadol a byddant wrth wraidd datblygu cynhyrchiad pen-blwydd nodedig ThGIC yn 50 mlwydd oed.


BETH MAE BOD YN AELOD O THEATR CENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU YN EI FEDDWL?

Bob blwyddyn rydyn ni'n cynnal clyweliadau ledled Cymru ac mae'r bobl ifanc lwyddiannus yn dod yn aelod o'r Theatr Ieuenctid am chwech mis. Mae bod yn aelod o ThCIC yn sicrhau mynediad i breswylfeydd datblygu sgiliau perfformio a chefn llwyfan mewn cyd-destun proffesiynol a chefnogol  

Mae aleodau ThCIC yn cymryd rhan mewn gweithdai o’r safon uchaf a dosbarthiadau meistr blaenllaw a chyfle i weithio a hyffiodi ar rhai o lwyfannau blaengar Cymru a gweithio ar y cyd â rhai o'r prif ymarferwyr sy'n gweithio yn y diwydiant heddiw. Mae bod yn aelod o'r Theatr Ieuenctid hefyd yn caniatáu i ti gryfhau dy hyder a rhwydweithiau creadigol a phroffesiynol. Mae’n dy baratoi ar gyfer clyweliadau i ysgolion drama ac yn dy arfogi gyda’r offer anghenrheidiol ar gyfer y camau nesaf yn eich gyrfa yn y celfyddydau. 

Mae dod yn aelod o THCIC yn golygu manteisio ar cynigion gostyngol unigryw ar docynnau, i wneud ffrindiau am oes ac i gael cyfle i fwynhau'r rhaglen gymdeithasol o weithgarwch amrywiol.   

Mae bwrsariaethau ar gael i helpu gyda ffioedd cwrs a chostau clyweliadau.

Roeddwn yn ddigon lwcus i fod yn aelod o TCIC a dyna un o’r pethau gorau i mi ei wneud erioed. Mae wedi fy ngwneud yn fwy hyderus fel person ac fel perfformiwr. Mae hefyd yn le mor ddiogel, yn gyfeillgar ac mae’r awyrgylch yn anhygoel.
— Cyn-aelod ThCIC

Uchafbwyntiau ThCIC 2025

Uchafbwyntiau ThCIC 2024