CÔR CENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU

TROSOLWG

Ers ei sefydlu yn 1984, mae Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi cefnogi traddodiadau corawl hirsefydlog Cymru, gyda nifer o'r cyn-aelodau yn dal i ganu neu arwain corau ledled Cymru a'r tu hwnt.

Gellir clywed cyn-aelodau eraill yn perfformio'n broffesiynol mewn neuaddau cyngerdd a thai opera ledled y byd, gan gynnwys Syr Bryn Terfel, Katherine Jenkins ac arweinydd presennol Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Tim Rhys-Evans.

Mae aelodau'r Côr rhwng 16 a 22 oed yn bennaf, yn dod o bob cwr o Gymru, ac yn cael clyweliadau blynyddol. Fel gyda holl ensembles CCIC, mae'r Côr yn gweithio gyda cherddorion proffesiynol o'r radd flaenaf i gyflawni ei nod strategol allweddol, sef Rhagoriaeth.


RHAGLEN CCIC 2024

Arweinydd
Tim Rhys-Evans MBE

Bydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dychwelyd yn 2024, dan arweiniad un o brif oleuadau cerddoriaeth leisiol a chorawl y DU, Tim Rhys-Evans, unwaith eto.

Eleni, perfformiodd y côr amrywiaeth wych o gerddoriaeth, o drefniannau newydd o Emynau Cymreig traddodiadol i Theatr Gerddorol a phopeth yn y canol.

Fel cyn-aelod o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ei hun, mae Tim wastad yn sôn am yr anrhydedd o fod yn arweinydd CCIC ac rydym ninnau'r un mor falch i weithio gydag e. Ag yntau’n adnabyddus am sefydlu Only Men Aloud, ac yna Elusen Aloud ac Only Boys Aloud, Only Kids Aloud ac Academi Only Boys Aloud, mae profiad Tim fel canwr, arweinydd ac arbenigwr lleisiol wedi ei arwain i weithio gyda chwmnïau opera, corau a chymdeithasau ledled y DU ac Ewrop.

Mae egni a brwdfrydedd Tim yn dod i’r amlwg trwy ei ddewis o repertoire a’r perfformiadau disglair dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous arall yn 2024.


DIGWYDDIADUR


DYDDIADAU 2024

Ymarferion Adrannol Cychwynnol:
23 - 24 Mawrth 2024
29 - 30 Mehefin 2024

Cwrs Preswyl:
16 - 26 Awst 2024
Prifysgol Cymru Y Drindrod Dewi Sant, Caerfyrddin

Cyngherddau:
Dydd Gwener 23 Awst, Eglwys Gadeiriol Tyddewi Dydd Sadwrn 24 Awst, Eglwys Gadeiriol Llanelwy Dydd Llun 26 Awst, Neuadd Brangwyn, Abertawe


COST

Cost: £545

Mae eich tâl aelodaeth yn cynnwys yr holl gostau hyfforddi, llety, bwyd a lluniaeth, teithio yn ystod y cwrs preswyl a gweithgareddau cymdeithasol. Diolch i gefnogaeth hael ein cyllidwyr a’n cefnogwyr, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru’n sybsideiddio cyfran sylweddol o gostau bod yn aelod o un o’r ensembles ieuenctid cenedlaethol.

Gallai ein Cronfa Bwrsariaeth helpu i dalu am rywfaint, neu eich tâl aelodaeth i gyd, fel na fydd unrhyw un yn cael ei rwystro rhag ymgeisio am le gydag Ensembles CCIC am resymau ariannol. Os yw eich incwm teuluol yn llai na £70,000, gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol.

Yn ogystal, am y tro cyntaf eleni a gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Leverhulme, gallwn gynnig Ildiad Ffïoedd llawn a chymorth ychwanegol tuag at gostau teithio a chostau eraill sy’n gysylltiedig ag aelodaeth CCIC i’r rheini sydd ei angen fwyaf.

Ymwelwch â CHRONFA BWRSARIAETH CCIC am wybodaeth lawn, yn cynnwys sut i hawlio cymorth tuag at gostau clyweliadau a thâl aelodaeth.


Cronfa Bwrsariaeth

Gallai ein Cronfa Bwrsariaeth helpu i dalu am rywfaint neu eich tâl aelodaeth i gyd, fel na fydd unrhyw un yn cael ei rwystro rhag ymgeisio am le gydag Ensembles CCIC am resymau ariannol. Os yw eich incwm teuluol yn llai na £70,000, gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol. Ymwelwch â CHRONFA BWRSARIAETH CCIC am wybodaeth lawn, yn cynnwys sut i hawlio cymorth tuag at gostau clyweliadau a thâl aelodaeth.

Cymhwysedd

Derbynnir ceisiadau oddi wrth gantorion sydd â diddordeb brwd mewn canu a chyfranogi’n rheolaidd gyda chôr ar lefel uchel. Dylech fod rhwng 16 a 22 oed, ar 31 Awst 2024. (Mae hyn yn golygu y gallech gael clyweliad yn 15 oed, cyn belled â'ch bod yn 16 oed erbyn y dyddiad hwn). Efallai y byddwn yn derbyn cyfranogwyr iau i mewn i'r ensembles ar adegau lle mae talent eithriadol yn cael ei ddangos. Bydd hwn yn ôl disgresiwn CCIC yn unig. Mae'n rhaid eich bod naill ai wedi cael eich geni yng Nghymru a/neu'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd, neu'n astudio'n llawn amser yng Nghymru.

Mae CCIC yn cadw'r hawl i wahardd unrhyw un rhag cymryd rhan yn ei ensemblau yn ôl ei ddisgresiwn rhesymol, i'w harfer gan uwch staff neu ymddiriedolwyr.

Ar gyfer unrhyw gwestiynau am ein meini prawf cymhwysedd, anfonwch e-bost at: nyaw@nyaw.org.uk.