DAWNS GENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU
TROSOLWG
Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a pherfformio o'r radd flaenaf i rai o'n dawnswyr ifanc mwyaf talentog.
Mae'n tynnu ar egni a brwdfrydedd pobl ifanc dros ddawns a dawnsio, ac yn ei droi'n rym creadigol, cyfoes sy'n dathlu'r gorau o fyd dawns ieuenctid yng Nghymru heddiw.
Ers ei sefydlu yn 2000, mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru wedi gweithio gyda rhai o goreograffwyr gorau gwledydd Prydain, gan gynnwys Wayne McGregor, Henri Oguike, Errol White, Theo Clinkard, Odette Hughes, Kerry Nicholls, Caroline Finn, Laila Diallo, Arielle Smith, Lea Anderson MBE a Mario Bermúdez.
Dathlu 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn dathlu 25 mlynedd anhygoel o roi cyfleoedd dawns i ddawnswyr ac artistiaid ifanc o bob cwr o Gymru. I ddathlu maen nhw wedi creu rhaglen ddogfen fer i nodi’r achlysur.
Ers 2000, mae DGIC wedi cefnogi cannoedd o ddawnswyr ifanc, gan eu helpu nhw i wireddu eu potensial a datblygu eu sgiliau dawns, eu lleisiau creadigol, a’u talent. A hynny drwy weithio gyda choreograffwyr blaenllaw, ymarferwyr a gwneuthurwyr rhagorol, a drwy berfformio ar lwyfannau a sgriniau ledled Cymru a thu hwnt. Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae cannoedd o bobl ifanc wedi cael y cyfle i hyfforddi, creu a rhannu eu cariad at ddawns trwy raglenni DGIC.
Nawr, gallwch gael cipolwg y tu ôl i’r llen drwy’r rhaglen ddogfen newydd: National Youth Dance Wales: Celebrating 25 Years sy’n cael ei dangos am y tro cyntaf ar AM, sef cartref digidol Cymru i ddiwylliant Cymru. Wedi’i ffilmio gan On Par Productions, gallwch ddisgwyl uchafbwyntiau, effaith ac atgofion gan ddawnswyr ddoe a heddiw.
Gwyliwch "DGIC 2024 Yn sitwdio gyda Yukiko Masui"
Uchafbwyntiau DGIC…
Gwyliwch “The Night is Darker Just Before the Dawn”