CYFRANNU

Gallai eich rhodd helpu person ifanc i gyrraedd ei botensial llawn

Rydyn ni am i bob person ifanc talentog gael y cyfle i gyflawni eu huchelgeisiau yn y celfyddydau. A wnewch chi ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw?

Heb gael bwrsariaeth, mae’n debyg na fyddwn i wedi gallu cymryd rhan yn y cwrs - byddwn i wedi colli allan ar brofiad chwarae anhygoel sy’n fy ngalluogi i ddod yn gerddor gwell, chwarae repertoire heriol a gwerth chweil, gweithio gydag arweinydd proffesiynol gwych, a chwrdd â llawer o bobl wych. Mae fy nyled am fy mhrofiad CCIC cyfan yn fawr i’r fwrsariaeth.
— Aelod CGIC 2022

Gall mynd ar drywydd eich angerdd yn y celfyddydau fod yn ddrud. Yn rhy aml, mae pobl ifanc yn wynebu rhwystrau fel methu fforddio hyfforddiant.

Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad yw'r gost yn rhwystr i bobl ifanc gymryd rhan. Rydyn ni’n darparu cynllun bwrsariaeth, gan ganiatáu i bobl ifanc mwyaf talentog Cymru gael mynediad i'n hyfforddiant, heb orfod poeni am y gost. Rydyn ni hefyd yn cynhyrchu prosiectau mynediad rhad am ddim sy'n ysbrydoli pobl ifanc i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa, waeth beth yw eu cefndir.

Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod pawb yn cael cyfle a mynediad i'r celfyddydau. A wnewch chi helpu person ifanc i gymryd rhan?

Bydd eich rhodd, beth bynnag fo'r swm, yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Diolch am eich haelioni a'ch cefnogaeth.

Defnyddiwch y ffurflen isod i wneud eich rhodd, neu cliciwch ar y botwm melyn i fynd i CAF Donate, ein platfform rhoddion dibynadwy.


Gallai £10 gyfrannu tuag at ddatblygu un o'n prosiectau fel Cerdd y Dyfodol neu Sgiliau Côr, gan gefnogi'r genhedlaeth nesaf o dalent Gymreig

Gallai £25 ddarparu clyweliad am ddim i berfformiwr talentog, na fyddai fel arall yn gallu gwneud cais i ymuno â'n ensembles

Gallai £50 fynd tuag at ddarparu bwrsariaeth i berson ifanc, fel y gallant gael hyfforddiant i ddatblygu eu doniau yn un o'n ensembles

Bydd unrhyw swm y byddwch chi’n ei roi yn mynd tuag at gefnogi perfformwyr ifanc talentog ledled Cymru