EIN POLISI CWYNO

Ein Polisi Cwyno

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad cyfeillgar, agored a theg, sy’n ymdrechu i sicrhau’r safonau uchaf posibl yn y gwaith yr ydym yn ei wneud. Fodd bynnag, rydym yn gwybod y bydd pethau’n mynd o le weithiau ac rydym yn gobeithio y gallwn gael cyfle i gywiro pethau.

Os ydych yn teimlo nad ydym wedi cwrdd â’ch disgwyliadau, byddem yn eich annog i gysylltu gyda ni gan ddefnyddio’r manylion isod. Bydd hyn yn ein helpu nid yn unig i gywiro pethau ar eich cyfer chi, ond hefyd i wella ein prosesau a’n gweithdrefnau ar gyfer pawb i’r dyfodol.

Pryderon diogelu

Fel sefydliad sy’n gweithio gyda phobl ifanc, rydym yn cymryd pryderon diogelu yn ddifrifol iawn.

Os yw eich pryder yn ymwneud â diogelwch person ifanc, neu fater diogelu arall, bydd proses arall yn gymwys. Cliciwch yma i ddarllen ein Polisi Diogelu.

Cam 1 (Anffurfiol)

Os ydych mewn cysylltiad eisoes gydag aelod o’n tîm, byddem yn eich annog i leisio eich pryder gyda’r aelod o’r tîm ac fe fyddan nhw’n gwneud popeth posibl i ddatrys y mater.

Os byddai’n well gennych, gallwch hefyd ein galw ar 029 2280 7420 (oriau swyddfa), neu e-bostio nyaw@nyaw.org.uk, i siarad trwy unrhyw bryderon sydd gennych. Byddem bob amser yn hoffi cael cyfle i geisio cywiro pethau pryd bynnag y gallwn.

Cam 2 (Ffurfiol)

Er mwyn cofnodi cwyn ffurfiol yn ysgrifenedig, defnyddiwch y manylion cyswllt isod, os gwelwch yn dda:

E-bost: nyaw@nyaw.org.uk

Post: Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Swyddfa 202, 2il Lawr, Tŷ Trafalgar, 5 Fitzalan Place, Caerdydd, CF24 0ED

Byddwn yn cydnabod derbyn eich cwyn ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn anelu i ymateb yn llawn o fewn 10 diwrnod gwaith. Byddwn yn anelu, ble bynnag y bo modd, i ymateb yn llawer cyflymach.

Gallwch gwyno’n ysgrifenedig yn y Gymraeg neu’r Saesneg ac ni fydd unrhyw oedi mewn ymateb am ddefnyddio’r iaith o’ch dewis.

Cofiwch gynnwys eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn gyda’ch cwyn fel y gallwn gysylltu gyda chi’n ddidrafferth.

Cam 3 (Adolygiad)

Os ydych wedi derbyn ymateb eisoes ac nad ydych yn fodlon gyda’n hymateb, gallwch wneud cais i’ch cwyn gael ei adolygu gan Brif Weithredwr CCIC. Bydd y Prif Weithredwr yn ail-asesu eich cwyn, a bydd yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith.

Uwchgyfeirio cwynion am ein gweithgareddau codi arian

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi cofrestru’n wirfoddol gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian. Mae hyn yn golygu ein bod yn cytuno gyda’r ymrwymiadau a amlinellir yn y Côd Ymarfer Codi Arian a’r Addewid Codi Arian.

Os yw eich cwyn yn ymwneud â’n dulliau codi arian, am lythyr neu e-bost codi arian yr ydych wedi ei dderbyn, neu os ydych yn pryderu am un o’ch perthnasau, cofiwch gysylltu gyda ni yn gyntaf gan ddefnyddio’r manylion uchod ac fe wnawn bopeth y gallwn i ddatrys eich cwyn.

Fodd bynnag, os ydych yn anfodlon gyda’n hymateb, gallwch gyflwyno cwyn i’r Rheoleiddiwr Codi Arian. Yna, byddan nhw’n ymchwilio i’r gŵyn yn annibynnol ar eich rhan.

Gallwch gyflwyno cwyn i’r Rheoleiddiwr Codi Arian trwy:

Uwchgyfeirio cwynion difrifol at Gyngor Celfyddydau Cymru neu’r Comisiwn Elusennau

Rydym yn hyderus y gallwn ddatrys eich cwyn ac rydym am weithio gyda chi i gytuno a’r ddatrysiad synhwyrol. Fodd bynnag, os ydych yn dal i fod yn anfodlon, efallai y byddwch am gysylltu gydag un o’r cyrff rheoleiddiol isod.

Bydd y cyrff hyn yn disgwyl eich bod wedi cysylltu gyda ni yn gyntaf, ac wedi rhoi cyfle i ni ddatrys eich cwyn. Gallwch ddysgu mwy am eu prosesau cwyno trwy ymweld â’u gwefannau:

Cyngor Celfyddydau Cymru

Comisiwn Elusennau

Y Rheoleiddiwr Codi Arian