APÊL Y GRONFA BWRSARIAETH
Yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC), rydym ni’n credu y dylai pob person ifanc gael y cyfle i archwilio a datblygu eu potensial creadigol, waeth beth fo'u hamgylchiadau ariannol. Mae ein rhaglen bwrsariaeth yn ganolog i'r genhadaeth hon, gan sicrhau nad yw'r gost byth yn rhwystr i gymryd rhan yn ein ensembles cenedlaethol a rhaglenni datblygu mewn cerddoriaeth, theatr a dawns.
Bob blwyddyn, mae bwrsariaethau yn helpu pobl ifanc i dalu ffioedd, costau teithio, llety, offerynnau a chostau eraill sy'n gysylltiedig â hyfforddiant a pherfformiad. Yn 2025, derbyniodd 61% o aelodau CCIC (166 o bobl ifanc) gymorth bwrsariaeth, gan gynnwys 95 o fwrsariaethau llawn, gyda chyfanswm o £81,627 wedi'i ddyfarnu. Mae'r bwrsariaethau hyn yn caniatáu i bobl ifanc dalentog o bob cwr o Gymru - gan gynnwys ardaloedd gwledig, aelwydydd incwm isel a chymunedau sydd wedi'u tangynrychioli - gymryd rhan mewn cyrsiau preswyl dwys, gweithdai a pherfformiadau a fyddai fel arall yn anhygyrch.
Mae bwrsariaethau yn ymwneud â mwy na chymorth ariannol. Maen nhw’n rhoi’r canlynol i bobl ifanc:
Mynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel gyda thiwtoriaid a mentoriaid proffesiynol.
Cyfleoedd i berfformio ar lwyfannau proffesiynol, yn aml am y tro cyntaf.
Ymdeimlad o berthyn a hyder, datblygu gwaith tîm, arweinyddiaeth a gwydnwch.
Llwybrau i addysg uwch a gyrfaoedd celfyddydau proffesiynol.
"Heb y fwrsariaeth, ni allwn fod wedi ymuno â'r Côr. Mae bod yn rhan o CCIC wedi tyfu fy hyder, fy sgiliau a'm cariad at gerddoriaeth - ac rydw i wedi gwneud ffrindiau y byddaf yn eu cadw am oes."
— Danielle Gorle, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae ein rhaglen fwrsariaeth wedi'i hymgorffori ar draws pob maes o waith CCIC, o ensembles blaenllaw fel y Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid, Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, i hyfforddiant theatr a dawns, a phrosiectau datblygu lleol fel Sgiliau Côr a Dyfodol Creadigol. Mewn rhai rhaglenni, mae hyd at 70% o gyfranogwyr yn dibynnu ar gymorth bwrsariaeth, gan dynnu sylw at y rôl hanfodol mae bwrsariaethau yn ei chwarae wrth wneud celfyddydau ieuenctid yn hygyrch i bawb.
Trwy ddarparu'r cymorth hwn, mae CCIC yn sicrhau y gall pob person ifanc - waeth beth fo'i gefndir neu amgylchiadau - gymryd rhan, dysgu a ffynnu. Mae bwrsariaethau yn ein helpu i gyrraedd mwy o bobl ifanc, meithrin talent newydd, a chyfrannu at dirwedd gelfyddydol gynhwysol a bywiog ledled Cymru.
Diolch i bob un o gefnogwyr presennol y Gronfa Fwrsariaeth. Mae rhestr lawn o gefnogwyr presennol ar ein tudalen Diolch.
I drafod sefydlu bwrsariaeth, e-bostiwch nyaw@nyaw.org.uk neu ffoniwch 029 2280 7420.
Diolch am eich haelioni a'ch cefnogaeth.