Ein Hymrwymiad i Wrth-hiliaeth

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi ymrwymo i herio hiliaeth a hyrwyddo tegwch hiliol ym mhob agwedd o’n gwaith. Yn hanesyddol mae rhwystrau systemig a thuedd hiliol wedi cyfyngu ar fynediad pobl ifanc o gefndiroedd y Mwyafrif Byd-eang i’r celfyddydau. Rydym yn erbyn pob math o hiliaeth a rhagfarn ac rydym yn ymroddedig i greu amgylchedd lle mae pob person ifanc yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei barchu a’i rymuso.

Rydym yn dathlu treftadaeth amlddiwylliannol gyfoethog Cymru ac wedi ymrwymo i gynyddu cynrychiolaeth, hyrwyddo lleisiau amrywiol a sicrhau bod ein hensembles, ein preswyliadau a’n prosiectau yn adlewyrchu amrywiaeth lawn Cymru gyfoes.

Byddwn yn parhau i wrando ar bobl ifanc, adolygu ein hymarferion a chymryd camau mesuradwy i feithrin diwylliant gwrth-hiliol - a hynny yn ein sefydliad, ein partneriaethau a’r sector greadigol ehangach.

Rydym yn croesawu adborth ar sut y gallwn gryfhau’r gwaith hwn.

Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost i: nyaw@nyaw.org.uk