EIN POLISI CANSLO

Os bydd cyfranogwr yn canslo eu lle ar gwrs preswyl

Rydym yn deall weithiau, oherwydd argyfwng, efallai na fydd modd i gyfranogwr fynychu cwrs preswyl y maent wedi cofrestru ar ei gyfer. Weithiau gallwn gynnig ad-daliad yn y sefyllfa hon, yn dibynnu ar bryd y derbyniwn rybudd ysgrifenedig eich bod yn canslo.

  • 6 mis neu fwy o rybudd wedi ei roi: Ad-daliad o 100% o’r ffïoedd sy’n daladwy gan y cyfranogwr

  • Rhwng 2 – 6 mis o rybudd wedi ei roi: Ad-daliad o 50% o’r ffïoedd sy’n daladwy gan y cyfranogwr

  • Llai na 2 fis o rybudd wedi ei roi: Ni roddir ad-daliad

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn ad-daliad llawn neu rannol, bydd rhaid inni dderbyn rhybudd ysgrifenedig eich bod am ganslo trwy e-bost neu trwy’r post o leiaf 2 fis calendar cyn diwrnod cyntaf y cwrs preswyl (6 mis calendr yn achos ad-daliad llawn).

Caiff ad-daliadau eu cyfrifo ar sail y ffïoedd sy’n daladwy gan y cyfranogwr, a hynny’n ffigwr net o unrhyw fwrsariaeth a ddyfarnwyd.

Rydym wedi rhoi’r polisi hwn yn ei le gan fod angen i CCIC dalu am gostau llety, teithio a bwyd ymlaen llaw cyn i’r cyrsiau preswyl gychwyn. Fel gydag unrhyw daith arall, byddem yn eich cynghori i wneud yn siŵr bod gennych sicrwydd yswiriant teithio dilys ar gyfer y posibilrwydd hwn.

Canslo tocynnau perfformiadau, gweithdai a chlyweliadau

  • Ni ellir ad-dalu dim o’r holl ffïoedd ar gyfer gweithdai a chlyweliadau unwaith iddynt gael eu talu.

  • Ni roddir ad-daliad am docynnau perfformiadau a brynir yn uniongyrchol oddi wrth Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru heblaw os caiff y perfformiad ei ganslo.

  • Mae tocynnau ar gyfer perfformiadau Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ond a brynir trwy swyddfa docynnau trydedd blaid, yn rhwym i bolisïau canslo’r ganolfan benodol honno, Mae croeso ichi gysylltu gyda ni os nad ydych yn siŵr gyda phwy i gysylltu yn y sefyllfa hon, ac fe wnawn eich cyfeirio at y swyddfa docynnau briodol.

Os bydd CCIC yn canslo cwrs preswyl, gweithdy neu glyweliad

Yn y lle cyntaf, bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru bob amser yn ceisio gohirio cwrs preswyl, gweithdy neu glyweliad, yn hytrach na’i ganslo. Os mai hyn fydd yn digwydd, byddwn yn ceisio eich hysbysu cyn gynted â phosibl am y gohiriad, ac yn rhoi gwybod ichi am ddyddiadau newydd arfaethedig cyn gynted â bo modd.

Yn y sefyllfa annhebygol y gorfodir CCIC i ganslo cwrs preswyl, gweithdy neu glyweliad, am ba bynnag reswm, a’i bod yn amhosibl pennu dyddiad newydd, bydd hawl gan gyfranogwyr dderbyn ad-daliad o unrhyw ffïoedd a dalwyd i CCIC hyd at y dyddiad canslo.

Mae’n bosibl y cymerir cryn amser i brosesu ad-daliadau ond byddwn yn gwneud ein gorau i anfon ad-daliadau mor fuan â phosibl. Bydd ad-daliadau’n cael eu trosglwyddo yn yr un modd â’r dull talu gwreiddiol, ac i ddeiliad y cyfrif a wnaeth y taliad yn unig.

Mae’r polisi hwn yn cyfeirio at ffïoedd cwrs, gweithdy a llety a dalwyd yn uniongyrchol i Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn unig. Nid yw’n cwmpasu unrhyw gostau atodol yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) costau teithio a archebwyd ymlaen llaw, nwyddau CCIC, offer, sgriptiau neu wisgoedd, costau offerynnau neu lety a archebwyd trwy drydedd blaid. Efallai yr hoffai cyfranogwyr a’u rhieni sicrhau bod ganddynt sicrwydd yswiriant teithio dilys cyn archebu trefniadau teithio a llety trwy drydedd blaid.

Colled neu ddifrod i eiddo personol, yn cynnwys offerynnau cerdd

Ni ellir dal Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod i eiddo personol, yn cynnwys offerynnau cerdd. Fe’ch cynghorir yn gryf i wneud yn siŵr bod gennych yswiriant priodol ar gyfer unrhyw golled neu ddifrod. O ran offerynnau cerdd, mae hyn yn wir waeth os yw’r cyfranogwr yn berchen ar yr offeryn neu os yw’r offeryn hwnnw ar fenthyg oddi wrth drydedd blaid (megis band pres).