AMDANOM NI

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yw’r elusen ar gyfer perfformwyr ifanc a phobl ifanc greadigol ledled Cymru, rhwng 11 a 25 oed.

Rydym yn darparu’r garreg gamu rhwng gweithgareddau celfyddydol ar lawr gwlad a’r diwydiannau creadigol proffesiynol, gan helpu pobl ifanc i gyflawni eu nodau yn y celfyddydau. Rydym yn dathlu hanes diwylliannol unigryw ac amrywiol Cymru, gan helpu’r genhedlaeth nesaf o dalent i arloesi ac arbrofi.

Conglfaen ein gwaith yw’r ensembles cenedlaethol. Rydym yn gweithio gyda rhai o ddoniau gorau Cymru ym mhob ffurf ar gelfyddyd i sicrhau bod yr aelodau’n ffynnu – yn cael profiad pleserus ac yn ehangu eu gorwelion creadigol. Mae gan bob ensemble hanes disglair ac mae gennym amrywiaeth drawiadol o gyn-fyfyrwyr, llawer ohonynt wedi dod yn enwau cyfarwydd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Drwy hyfforddiant o’r radd flaenaf ac awyrgylch gefnogol, rydym yn trawsnewid bywydau ein haelodau ac yn helpu i’w paratoi ar gyfer gyrfa yn y celfyddydau yn y dyfodol.


Ensembles Cenedlaethol

Sefydlwyd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2017 i uno ac arwain y gwaith o ddatblygu'r chwe ensemble ieuenctid cenedlaethol mawreddog a hirsefydlog, sef Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Mae'r rhai sy'n cael eu derbyn i fod yn aelodau am flwyddyn ar ôl clyweliad llwyddiannus yn cael hyfforddiant a chyfleoedd perfformio eithriadol gyda cyrsiau preswyl dwys a phleserus sy'n cael eu cynnal yn ystod gwyliau'r ysgol. Dim ond y cerddorion, actorion a dawnswyr ifanc mwyaf talentog sy'n cael eu dewis, ac mae llawer o gystadleuaeth. Fel corff sydd wedi ymrwymo i sicrhau mynediad a chynhwysiant i bawb, beth bynnag fo'u cefndir neu eu lleoliad, mae Bwrsariaeth CCIC yn sicrhau bod unigolion dawnus yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i gymryd rhan ac i ragori.  

Mae pob un o'n cyrsiau preswyl yn dod â phobl ifanc angerddol sy'n rhannu'r un diddordebau o bob cwr o Gymru at ei gilydd i ddatblygu eu sgiliau a'u technegau creadigol drwy raglenni hyfforddi dwys, dynamig a hwyliog dan arweiniad artistiaid sydd wedi cael clod rhyngwladol, gyda pherfformiadau cyffrous i gloi'r cyrsiau.

Mae ein haelodau yn magu hyder newydd ac yn ehangu eu gorwelion drwy ddysgu mewn amgylchedd proffesiynol, ac yn cael blas heb ei ail ar y diwydiant i fireinio'r llwybr gyrfa o'u dewis yn ogystal â meithrin ymdeimlad cyfoethog o berthyn i gymuned gefnogol o ffrindiau gydol oes.

Mae gan CCIC gasgliad trawiadol o gyn-aelodau. Mae gan y theatr ieuenctid gynrychiolaeth dda ym myd theatr, ffilm a theledu - mae Rob Brydon, Ruth Jones, Michael Sheen, Matthew Rhys, Eve Myles a Russell T Davies oll yn gyn-aelodau. Roedd Tim Rhys-Evans o Only Men Aloud, Bryn Terfel a Katherine Jenkins yn aelodau o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Roedd y coreograffydd Henri Oguike yn aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac roedd John Cale, o fand The Velvet Underground, y delynores Marged Hall a'r feiolinydd Eos Counsell (Bond Quartet) yn aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.