Trosolwg Ymgysylltiad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Ymgysylltu â'r Celfyddydau Ieuenctid 

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn grymuso'r genhedlaeth nesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i adeiladu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru. 

Gan weithio gyda phobl ifanc rhwng 13 a 22 mlwydd oed ledled Cymru, mae ein ensembles a’n prosiectau yn pontio'r bwlch rhwng y celfyddydau ar lawr gwlad a chyfleoedd proffesiynol, gan roi cyfle i gyfranogwyr ffynnu yn yr ecoleg creadigol. 

“Peidio gadael unrhyw un ar ôl” 

Rydym ni’n cynnwys tua 2,000 o bobl ifanc bob blwyddyn yn uniongyrchol, gan ganolbwyntio'n benodol ar y rheini o gefndiroedd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan weithio'n agos gydag ystod eang o sefydliadau partner cenedlaethol a rhanbarthol. Mae diffyg sylweddol mewn addysg gelfyddydol a chyfleoedd i bobl ifanc, yn enwedig mewn awdurdodau lleol lle mae cyllid celfyddydol wedi'i leihau neu ei dynnu'n ôl. Rydym ni’n cyfeirio at hyn fel y “Bwlch Celfyddydau Ieuenctid” yng Nghymru. 

Mae'r diffyg hwn yn hollbwysig oherwydd bod addysg gelfyddydol yn chwarae rhan mor hanfodol mewn datblygiad gwybyddol, emosiynol a chymdeithasol; symudedd cymdeithasol; a chydlyniant cymunedol. Mae'n arbennig o bwysig yng Nghymru, lle mae gan ein hunaniaeth ddiwylliannol a'n cadwraeth iaith gysylltiad mor agos â mynegiant artistig. Mae'r celfyddydau yn cynnig llwyfan i bobl ifanc ar gyfer hunan-fynegiant, cyfeillgarwch a thwf personol - sy'n hanfodol ar gyfer lles meddyliol, cyflawniad addysgol a chynhwysiant cymdeithasol. Heb y cyfleoedd hyn, byddai llawer o bobl ifanc yn colli allan ar brofiadau hanfodol sy'n llunio eu dyfodol. 

Yn dilyn tystiolaeth a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, ac adroddiad arloesol y Farwnes Andrew Diwylliant a Thlodi, gwyddom mai pobl ifanc o aelwydydd incwm isel, y rhai sy'n byw gydag anableddau a'r rhai o gefndir Mwyafrif Byd-eang sy’n ei chael hi'n anoddaf cael mynediad at lwybrau i'r celfyddydau. Felly, rydym ni’n sicrhau bod ein holl ensembles a'n prosiectau yn ymgorffori elfennau sydd wedi'u cynllunio i rymuso'r grwpiau hynny i gymryd rhan. Manylion pellach isod. 

Rydym ni’n mesur ein cynnydd yn erbyn cyfartaleddau cenedlaethol a rhanbarthol.

  • Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (2024/25) fe wnaethom ddarparu £81,627 mewn bwrsariaethau ar gyfer y rhai sydd angen cymorth ariannol. Roedd hyn yn 61% o'n holl aelodau, a dros draean ohonynt yn fwrsariaethau llawn. Mwy o wybodaeth am ein bwrsariaethau yma

  • Roedd 11% o'r cyfranogwyr o'r Mwyafrif Byd-eang, ac roedd 20% yn byw gydag anabledd.  

Prosiectau Ymgysylltu Strategol 

Bob blwyddyn, rydym ni’n cynnal “sioe deithiol” o weithdai creadigol mewn ysgolion mewn ardaloedd o Gymru sydd â chyfranogiad isel yn y celfyddydau.  

Ar gyfer pobl ifanc sydd wrth eu bodd â chanu, ond nad ydynt erioed wedi canu mewn grŵp , rydym ni’n cynnal gweithdai a chyrsiau preswyl Sgiliau Côr ledled Cymru. 

Ar gyfer chwaraewyr llinynnau canolradd sydd angen cymorth ychwanegol i gyrraedd lefelau uwch, rydym ni’n cynnal rhaglenni Llwbyr Llinynnau ledled Cymru. 

Ar gyfer actorion a gwneuthurwyr ifanc, rydym ni’n cynnal y rhaglen Llwybrau Proffesiynol, i agor eu llygaid i amrywiaeth eang o yrfaoedd y Diwydiant Creadigol a theatr, ar y llwyfan ac oddi ar y llwyfan. 

Ar gyfer darpar gerddorion jazz, rydym yn arwain Jazz Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â RWCMD a Jazz Explorers Cymru.  

Ar gyfer darpar gerddorion gwerin a thraddodiadol, rydym ar fin lansio rhaglen newydd o weithdai ledled Cymru, gan ymgysylltu ag ystod eang o genres cerddoriaeth. 

Dwy ardal yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan dlodi plant a buddsoddiad isel yn y celfyddydau yw Blaenau Gwent a Thorfaen. Rydym ni’n rhedeg y rhaglen Dyfodol Creadigol yn y meysydd hynny, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill. 

Er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gysylltiedig â phobl ifanc ledled Cymru, mae ein Criw Creu Newid yn trafod ein gwaith yn rheolaidd, yn ogystal ag argaeledd ehangach y celfyddydau i bobl ifanc yng Nghymru. 

Rydym ni wedi ymrwymo i ymgymryd â hyfforddiant rheolaidd yn yr holl feysydd hyn ar gyfer ein staff, gan weithio gyda sefydliadau arbenigol allanol.  

Yn Dod Cyn Hir…

Prosiect uchelgeisiol newydd o'r enw “Pasbort Creadigol” i  alluogi pobl ifanc ledled Cymru i gael mynediad at gyfleoedd cyfranogiad celfyddydol yn eu hardaloedd.