Jazz Cenedlaethol

Ieuenctid Cymru

Grymuso'r genhedlaeth jazz nesaf yng Nghymru

Mae Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn bartneriaeth uchelgeisiol newydd rhwng Jazz Explorers Cymru, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd & Drama Cymru, wedi'u gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru. Gyda'n gilydd, ein nôd yw adeiladu a datblygu rhaglen i feithrin, ysbrydoli a chefnogi talent cerddorion jazz ifanc ledled Cymru

Ar 14-16 Ebrill 2025, croesawyd dros 50 o gerddorion jazz ifanc uchelgeisiol o bob cwr o Gymru i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer cwrs 3 diwrnod o weithdai, dosbarthiadau meistr ac ymarferion. Buont yn gweithio gydag addysgwyr jazz o fri rhyngwladol, gan arwain at berfformiad cyhoeddus anffurfiol. Roedd yn llawen, yn heriol ac yn gydweithredol.

Roedd y cwrs peilot ar agor i bob offerynnwr a chanwr rhwng 14 a 22 oed. Nid oedd angen profiad jazz blaenorol i wneud cais, ond awgrymom y dylai pawb fod o leiaf yn safon Gradd 5 (neu gyfwerth) ar eu hofferyn. Rhannwyd y cyfranogwyr yn wahanol grwpiau yn seiliedig ar eu hoedran a'u profiad i sicrhau bod pawb yn derbyn y lefel gywir o gefnogaeth.

Y tiwtoriaid arweiniol oedd Paula Gardiner, Huw Warren ac Andrew Bain (Pennaeth Jazz yn CBCDC) – gyda chefnogaeth ychwanegol gan diwtoriaid arbenigol eraill a myfyrwyr jazz. Sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth.

Camau Nesaf

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu adborth gan y cyfranogwyr, gan weithio gyda'r partneriaid, tiwtoriaid, Gwasanaethau Cerdd a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu strategaeth tymor hwy ar gyfer datblygu jazz ieuenctid yng Nghymru. Bydd rhagor o fanylion ar gael yma yn fuan.

Cwrdd â'n Tiwtoriaid Jazz

Daw ein tiwtoriaid o'r addysgwyr a'r perfformwyr jazz mwyaf profiadol yng Nghymru, gan gynnwys y Penaethiaid Jazz presennol a blaenorol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bydd manylion mwy o diwtoriaid yn cael eu hychwanegu isod, pan fyddant ar gael.