PARTNERIAETHAU CORFFORAETHOL

Gall eich cwmni ymwneud â CCIC a chefnogi dyfodol y celfyddydau perfformio. Hoffem greu partneriaethau sydd o fudd i’r ddwy ochr, gyda busnesau sy’n cefnogi ein cennad ac sy’n rhannu ein gwerthoedd allweddol.

Mae’r gwahanol elfennau y gall CCIC eu cynnig fel rhan o bartneriaeth, er mwyn eich helpu i gyflawni eich amcanion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn cynnwys: 

  • Mynediad i gynulleidfa darged ifanc ar draws Cymru gyfan  

  • Sylw i’ch brand  

  • Mynediad ecsgliwsif i docynnau ar gyfer ein cyngherddau a’n sioeau (megis 75ain pen-blwydd CGIC) 

  • Datblygu sgiliau ar gyfer cyflogeion 

  • Mynediad i gyfleoedd hyrwyddo a Chysylltiadau Cyhoeddus  

Hoffem glywed hefyd am ffyrdd y credwch y gallem gyfrannu at eich Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol trwy glywed am eich blaenoriaethau, cyn belled â’u bod yn cyd-fynd â’n gwerthoedd allweddol ni. 

Os hoffech fynegi diddordeb mewn dod yn bartner, neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch gyda ni yma neu e-bostiwch ni nyaw@nyaw.org.uk

Diolch yn fawr!