CERDDORFA GENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU

TROSOLWG

Sefydlwyd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn 1945, gyda'i pherfformiad cyntaf yn 1946; hi oedd y gerddorfa genedlaethol ieuenctid gyntaf yn y byd.

Fel sy'n wir am bob un o ensembles CCIC, mae'r Gerddorfa'n datblygu profiad hyfforddi o'r radd flaenaf yn berfformiadau sy'n llawn egni ac angerdd ac yn gweithio gyda cherddorion proffesiynol o fri i helpu i gyflawni ei phrif nod strategol, sef Rhagoriaeth.

Mae cerddorion yn cael clyweliadau blynyddol mewn canolfannau ledled Cymru gyda thua 100 o gerddorion ifanc yn cael eu dewis yn seiliedig ar ofynion y repertoire.


RHAGLEN CGIC 2024

Arweinydd
Tianyi Lu

Rhaglen
Niamh O’Donnell – Five Windows

Stravinsky – Firebird Suite (1945)

EGWYL

Prokofiev – Romeo and Juliet (Detholiad)


DYDDIADAU 2024

Ymarferion Adrannol Cychwynnol:    
27 - 28 Mawrth 2024 (llinynnau yn unig)

Cwrs Preswyl:                
20 Awst - 1 Medi
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llambed

Cyngherddau:                         
Dydd Iau 29ain Awst – Neuadd Prichard Jones, Bangor  Dydd Gwener 30ain Awst – Eglwys Gadeiriol Tyddewi  Dydd Sadwrn 31ain Awst – cyngerdd hamddenol (lleoliad i’w gadarnhau) Dydd Sul 1af Medi – Neuadd Brangwyn, Abertawe (cyngerdd prynhawn)


COST

Cost: £630

Mae eich tâl aelodaeth yn cynnwys yr holl gostau hyfforddi, llety, bwyd a lluniaeth, teithio yn ystod y cwrs preswyl a gweithgareddau cymdeithasol. Diolch i gefnogaeth hael ein cyllidwyr a’n cefnogwyr, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru’n sybsideiddio cyfran sylweddol o gostau bod yn aelod o un o’r ensembles ieuenctid cenedlaethol.

Gallai ein Cronfa Bwrsariaeth helpu i dalu am rywfaint, neu eich tâl aelodaeth i gyd, fel na fydd unrhyw un yn cael ei rwystro rhag ymgeisio am le gydag Ensembles CCIC am resymau ariannol. Os yw eich incwm teuluol yn llai na £70,000, gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol.

Yn ogystal, am y tro cyntaf eleni a gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Leverhulme, gallwn gynnig Ildiad Ffïoedd llawn a chymorth ychwanegol tuag at gostau teithio a chostau eraill sy’n gysylltiedig ag aelodaeth CCIC i’r rheini sydd ei angen fwyaf.

Caiff bwrsariaethau ar gyfer aelodau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru eu cefnogi’n hael gan Ffrindiau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Ymwelwch â CHRONFA BWRSARIAETH CCIC am wybodaeth lawn, yn cynnwys sut i hawlio cymorth tuag at gostau clyweliadau a thâl aelodaeth.


Cronfa Bwrsariaeth

Gallai ein Cronfa Bwrsariaeth helpu i dalu am rywfaint neu eich tâl aelodaeth i gyd, fel na fydd unrhyw un yn cael ei rwystro rhag ymgeisio am le gydag Ensembles CCIC am resymau ariannol. Os yw eich incwm teuluol yn llai na £70,000, gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol. Ymwelwch â CHRONFA BWRSARIAETH CCIC am wybodaeth lawn, yn cynnwys sut i hawlio cymorth tuag at gostau clyweliadau a thâl aelodaeth.

Caiff bwrsariaethau ar gyfer aelodau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru eu cefnogi’n hael gan Ffrindiau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Cymhwysedd

Fel arfer, dylai ymgeiswyr fod o safon gradd 8 er nad oes rhaid i chi fod wedi sefyll arholiad gradd 8 ar adeg y clyweliad. Dylech fod rhwng 16 a 22 oed, ar 31 Awst 2024. (Mae hyn yn golygu y gallech gael clyweliad yn 15 oed, cyn belled â'ch bod yn 16 oed erbyn y dyddiad hwn). Efallai y byddwn yn derbyn cyfranogwyr iau i mewn i'r ensembles ar adegau lle mae talent eithriadol yn cael ei ddangos. Bydd hwn yn ôl disgresiwn CCIC yn unig. Mae'n rhaid eich bod naill ai wedi cael eich geni yng Nghymru a/neu'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd, neu'n astudio'n llawn amser yng Nghymru.

Mae CCIC yn cadw'r hawl i wahardd unrhyw un rhag cymryd rhan yn ei ensemblau yn ôl ei ddisgresiwn rhesymol, i'w harfer gan uwch staff neu ymddiriedolwyr.

Ar gyfer unrhyw gwestiynau am ein meini prawf cymhwysedd, anfonwch e-bost at: nyaw@nyaw.org.uk.