Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: Côr Cyn-aelodau

Cyn-aelod o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru?    

Helpwch ni i ddathlu 40fed pen-blwydd y Côr trwy ymuno â’n Côr Cyn-aelodau. 

Yr haf hwn, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dod â chyn-aelodau o GCIC yn ôl i berfformio ochr yn ochr ag aelodau 2024 mewn Cyngerdd Gala yn Neuadd Brangwyn, Abertawe. 

Dan arweiniad Tim Rhys-Evans, yr arweinydd presennol sydd hefyd yn gyn-aelod o’r Côr, bydd y ddau gôr yn perfformio “Finale” y cyngerdd, fydd yn cynnwys 4 gwaith dathliadol yn cynnwys ‘I Was Glad’ Hubert Parry, ac anthem answyddogol y Côr, ‘Tydi a Roddaist’

Byddem yn falch dros ben os gallai cymaint o gyn-aelodau â phosibl ymuno â ni ac felly rydym am gadw pethau’n syml.


Dyddiadau

Dydd Sul 25ain Awst 

Diwrnod Ymarfer dan arweiniad Tim Rhys-Evans: Caerdydd (10am-1pm a 2pm-5pm) 

Noson Gymdeithasol Wedi Ei Threfnu*: I’w Gadarnhau

(*Cost ychwanegol bychan) 

Dydd Llun 26ain Awst 

Ymarfer prynhawn: Neuadd Brangwyn, Abertawe (2pm-3pm)

Cyngerdd Gala: Neuadd Brangwyn, Abertawe (4pm)

Derbyniad diodydd ar ôl y cyngerdd 


Cost

Isafswm cyfraniad awgrymedig o £50 tuag at ein gwaith elusennol.

Rydym yn gwybod y bydd ein Cyn-aelodau’n gorfod talu costau teithio a llety i gymryd rhan yn y dathliad. Felly, yn hytrach na chodi ffi am y penwythnos, rydym yn gofyn i Gyn-aelodau gyfrannu rhodd “talu’r-hyn-allwch-chi” tuag at ein gwaith elusennol.


Yn 2024, bydd o leiaf 50% o’r Côr yn derbyn bwrsariaeth gennym, sef cyfanswm o £22,000. Gallai unrhyw gyfraniad a roddwch ein helpu i gefnogi hyd yn oed mwy o gantorion yn y blynyddoedd i ddod. 


I gofrestru i ganu yn y Côr Cyn-aelodau, dilynwch y botwm isod a chwblhau’r ffurflen fer. 

Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer holl gyngherddau CCIC. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion a thocynnau ar ein tudalen Digwyddiadur.

Eisiau rhannu lluniau a straeon o'ch amser yn CCIC? Cliciwch yma i ymuno â'n grŵp Facebook Cyn-fyfyrwyr CCIC.


* indicates required
e.e. 2000 - 2005

Methu canu yn y Côr ond hoffech fynychu'r "aduniad" anffurfiol? Neu cadwch mewn cysylltiad â'r Côr a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gyffredinol?

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio cyn-fyfyrwyr.

Byddwch yn derbyn negeseuon e-bost penodol, dim mwy na 3-4 gwaith y flwyddyn fel arfer, am y côr a newyddion cyn-fyfyrwyr.