Côr
Cenedlaethol
Ieuenctid Cymdu
Mae Eich Llwyfan Yn Aros!
Mae cofrestriadau ar gyfer Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2026 bellach AR AGOR!
“Mae cyrsiau preswyl Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru bob amser yn sicr o gynnig y profiadau hyfforddi a pherfformio gorau yn ogystal â bod yn llawer iawn o hwyl.
Byddwch yn dysgu gan dimau creadigol o'r radd flaenaf ac yn gwneud cyfeillgarwch gydol oes tra'n cael yr anrhydedd o gynrychioli eich gwlad yn gwneud rhywbeth rydych chi'n ei garu. Beth yn rhagor allech chi fod ei eisiau?”
Nodyn gan cynhyrchydd CCIC
Matthew Jones
Cynhyrchydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Rhaglen 2026
Arweinydd: Tim Rhys-Evans MBE
Yn 2025, bydd Tim Rhys-Evans yn nodi ei seithfed flwyddyn fel arweinydd CCIC, lle'r oedd unwaith yn aelod. Yn gyn-ganwr opera proffesiynol, darganfu Tim ei wir angerdd wrth greu a hwyluso cerddoriaeth, yn enwedig mewn cerddoriaeth gorawl, opera a theatr gerddorol. Mae'n ymroddedig i sicrhau bod gan unigolion talentog, disgybledig ac ymroddedig fynediad at astudiaethau cerddoriaeth uwch.
Yn 2010, sefydlodd The Aloud Charity, sy'n rhedeg Only Boys Aloud ac Only Kids Aloud, gan adfywio'r traddodiad côr meibion Cymreig a chynorthwyo plant o gymunedau difreintiedig. Creodd hefyd Only Men Aloud, ensemble lleisiol gwrywaidd Cymreig, gan ennill nifer o wobrau gan gynnwys ennill Last Choir Standing y BBC.
Mae anrhydeddau Tim yn cynnwys ordeinio i Orsedd y Beirdd (2010), MBE (2013), Doethur Cerddoriaeth er Anrhydedd (2017), a Chymrodoriaeth er Anrhydedd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (2019).
Repertoire: Rydym ni'n dal i gwblhau manylion terfynol y rhaglen, ond gallwch ddisgwyl cymysgedd bywiog o gerddoriaeth - o ddarnau newydd sbon i ffefrynnau corawl a digon o bethau annisgwyl!
Sut i ymuno…
Ymgeisiwch ebryn:
12 Hydref 2025
Clyweliadau:
16 Tachwedd 2025 - 7 Rhagfyr 2025
Dyddiad cau fideo: 30 Tachwedd 2025
Canlyniadau:
*15 Rhagfyr 2025
Clyweliadau:
16 Tachwedd – Gogledd Cymru
19 Tachwedd (PM) – Caerdydd
23 Tachwedd – Caerfyrddin
25 Tachwedd (PM) – Caerdydd
04 Rhagfyr (PM) – Caerdydd
06 Rhagfyr – Caerdydd
07 Rhagfyr – Caerdydd
Ymarferion:
Cwrdd â'r Cenedlaetholwyr: Dydd Iau 26 Chwefror
Dydd Mercher 1af & Dydd Iau 2il Ebrill
Dydd Iau 20 Awst – Dydd Sul 30 Awst (Caerfyrddin)
Perfformiadau:
I’w gadarnhau.
*Wythnos yn ddechrau
-
Cost: £925
Mae eich ffi aelodaeth yn cynnwys yr holl gostau dysgu, llety, bwyd a bwrdd, teithio o fewn y preswyliad a gweithgareddau cymdeithasol.
Diolch i'r gefnogaeth hael gan ein cyllidwyr a'n cefnogwyr, mae Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn cymhorthdal rhan sylweddol o gostau bod yn aelod o un o'r ensembles ieuenctid cenedlaethol.
Fodd bynnag, ein nod yw sicrhau nad yw arian byth yn rhwystr i gymryd rhan yn unrhyw un o'n ensembles neu brosiectau. Rydym ni’n deall y gall y cyfraniad hwn fod allan o gyrraedd rhai ymgeiswyr, a dyna pam ein bod yn rhedeg cynllun bwrsariaeth hael sy'n cefnogi lle mae angen cymorth.
Os oes gennych chi incwm aelwyd blynyddol sy’n llai na £125,000, gallai Ein Cronfa Fwrsariaeth helpu i dalu rhywfaint o'ch ffi aelodaeth neu'r cyfan.
Rydym hefyd yn cynnig cynllun talu mewn rhandaliadau.
Ymwelwch â CHRONFA BWRSARIAETH CCIC am wybodaeth lawn.
-
Derbynnir ceisiadau oddi wrth gantorion sydd â diddordeb brwd mewn canu a chyfranogi’n rheolaidd gyda chôr ar lefel uchel. Dylech fod rhwng 16 a 22 oed, ar 31 Awst 2026. (Mae hyn yn golygu y gallech gael clyweliad yn 15 oed, cyn belled â'ch bod yn 16 oed erbyn y dyddiad hwn). Efallai y byddwn yn derbyn cyfranogwyr iau i mewn i'r ensembles ar adegau lle mae talent eithriadol yn cael ei ddangos. Bydd hwn yn ôl disgresiwn CCIC yn unig. Mae'n rhaid eich bod naill ai wedi cael eich geni yng Nghymru a/neu'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd, neu'n astudio'n llawn amser yng Nghymru.
Mae CCIC yn cadw'r hawl i wahardd unrhyw un rhag cymryd rhan yn ei ensemblau yn ôl ei ddisgresiwn rhesymol, i'w harfer gan uwch staff neu ymddiriedolwyr.
Ar gyfer unrhyw gwestiynau am ein meini prawf cymhwysedd, anfonwch e-bost at: nyaw@nyaw.org.uk.