Theatr Cenedlaethol
Ieuenctid Cymru
Mae cofrestriadau ar gyfer clyweliadau Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru 2026 bellach AR AGOR!
Cofrestrwch erbyn: 15 Mawrth
Nodyn gan cynhyrchydd ThCIC
Megan Childs
Cynhyrchydd Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Pa ffordd well o ddathlu pen-blwydd Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn troi’n 50 oed yn 2026 na lansio a pherfformio cynhyrchiad sydd â lleisiau unigryw pobl ifanc yng Nghymru heddiw wrth ei wraidd (a'i ddechrau)?
Rydym yn gwybod faint mae ein haelodau yn gwerthfawrogi mynd ar lwyfan, felly bydd cyfleoedd eraill i berfformio yn 2026. Bydd cyfle cymryd rhan yn ein noson Gala 50 yn hwyrach yn y flwyddyn a bydd cyfle i fod yn rhan o noson ‘Scratch’ gyntaf erioed NYTW, lle bydd aelodau ThCIIC yn cael datblygu ac arddangos eu sgiliau fel gweuthurwyr theatr.
Allwn ni ddim aros i ddathlu a chreu gyda chi yn 2026, a gobeithio welai chi yn un o'n clyweliadau yn fuan iawn.
Rhaglen 2026
Yn ystod y pythefnos o cwrs preswyl ThCIC bydd aelodau’n cydweithio â'r dramodydd enwog Bethan Marlow i greu drama ddwyieithog newydd 'Cyflwr Cenedl yr Ieuenctid' ar gyfer Cymru fodern gydag naws gerddorol gryf.
Yn ogystal â gweithio gyda Bethan, byddwch yn cael profiad proffesiynol llawn o weithio gyda chyfarwyddwr, cyfarwyddwr cerdd, a choreograffydd.
Bydd golygfeydd allweddol a darnau cerddorol yn cael eu hymarfer a'u bywiogi ar gyfer perfformiad gwaith-mewn-datblygiad ar ddiwedd y preswyliad yng Nghaerdydd. Bydd hyn ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus a gwesteion gwadd o'r diwydiant o Gymru a thu hwnt.
Yn ystod haf 2027, bydd y darn yn barod i ymarfer a theithio fel cynhyrchiad ar raddfa lawn gyda chast ensemble estynedig ar gyfer theatrau yng Cymru. Bydd y rhai sydd wedi bod yn rhan o ddatblygiad a pherfformiadau yn 2026 yn cael eu gwahodd i ddychwelyd i glyweld ar gyfer rolau allweddol yn y cynhyrchiad.
Sut i wneud cais i ddod yn aelod o ThCIC…
Darllenwch beth i ddisgwyl mewn clyweliad a’r hyn mae angen ei baratoi o dan y cwestiynau sy’n codi yn aml isod.
Penerfynwch pa clyweliad rydych chi eisiau mynychu.
Clicio’r botwm Bwcio Clyweliad i fynd i’r ffurflen.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw cwestiynau auditions@nyaw.org.uk
Os ydych chi'n ystyried clyweld am y tro cyntaf ar gyfer ThCIC a ddim yn siŵr beth i'w ddisgwyl, rydym yn cynnal gweithdy blasu clyweliad AM DDIM yng Nghaerdydd ar 15 Chwefror mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru.
Cynhelir ein Clyweliadau fel gweithdai tair awr cyfeillgar a chefnogol a gallwn helpu gyda chostau clyweliadau yn ogystal â'r ffioedd aelodaeth.
Byddwn hefyd yn gofyn i chi am unrhyw ofynion mynediad pan fyddwch yn trefnu eich clyweliad.
Dyddiadau Allweddol
Cofrestrwch erbyn:
15 Mawrth
Clyweliadau:
20 Mawrth – 8 Ebrill
Canlyniadau:
W/C 13 Ebrill
Dydd Gwener 20 Mawrth - Caerdydd (Gyda’r Nos)
Dydd Sadwrn 21 Mawrth - Caerfyrddin PM
Dydd Sul 22 Mawrth - Aberystwyth PM
Dydd Sadwrn 28 Mawrth - Yr Wyddgrug AM
Dydd Sadwrn 28 Mawrth - Wrecsam
Dydd Sul 29 Mawrth - Llandrindod
Dydd Mawrth 31 Mawrth - Bangor (Gyda’r nos)
Clyweliadau
Dyddiadau'r Cwrs Preswyl â Pherfformiad
Dydd Iau 2 Ebrill - Casnewydd AM
Dydd Iau 2 Ebrill - Merthyr Tudful PM
Dydd Sadwrn 4 Ebrill - Caerdydd AM + PM
Dydd Mawrth 7 Ebrill - Abertawe AM + PM
Dydd Mercher 8 Ebrill - Caerdydd AM
Dydd Mercher 8 Ebrill - Treorchy PM
Os na allwch ddod i unrhyw un o'r clyweliadau, cysylltwch â ni ynglŷn a chlyweliad ar-lein: auditions@nyaw.org.uk
Mai - Gorffennaff (Dyddiadau i’w cadarnhau):
4 Sesiwn Ar-lein cyn y Cwrs Preswyl gyda’r dramodydd a’r Cyfarwyddwr.
19 – 31 Gorfennaff: Cwrs Preswyl a Perfformiad
Uchafbwyntiau ThCIC 2025…
Cwestiynau Sy’n Codi’n Aml…
-
Mae CCIC yn derbyn ceisiadau gan bobl 16 – 22 sy'n byw/astudio'n llawn amser yng Nghymru neu a anwyd yng Nghymru sy’n barod i fynd a’u sgiliau creadigol, perfformio a thechnegol i’r lefel nesaf.
Efallai dy fod…
yn astudio neu’n cymryd rhan mewn drama / perfformio yn dy ysgol neu goleg
mewn ysgol ddrama ac yn paratoi ar gyfer y cam nesaf yn dy yrfa
yn cymryd rhan mewn theatr ieuenctid neu theatr gerdd yn dy ardal
yn berson creadigol llawn angerdd sy’n chwilfrydig ynghylch adrodd straeon y tu ôl i’r llenni a sgiliau cefn llwyfan.
Mae hyn yn golygu y gallech gael clyweliad yn 15 oed, cyn belled â'ch bod yn 16 oed erbyn y dyddiad hwn.Ar gyfer preswyliadau 2026 rhaid i gyfranogwyr fod rhwng 16 a 22 oed ar 31 Awst 2026. Mae hyn yn golygu y gallech gael clyweliad yn 15 oed, cyn belled â'ch bod yn 16 oed erbyn y dyddiad hwn.
Mae rhaid I chi fod o dan 23 erbyn y 19 o Offennaf.
I gael unrhyw gwestiynau am ein meini prawf cymhwysedd, anfonwch e-bost: nyaw@nyaw.org.uk -
Ar ôl i chi glicio’r botwm Bwcio Clyweliad, byddwch yn cael eich tywys i’r ffurflen archebu clyweliad i’w chwblhau.
Bydd y ffurflen gais yn gofyn cwestiynau am eich profiadysgol, coleg a pherfformio fydd yn ein helpu yn ystod dy glyweliad.
Bydd y ffurflen gais yn gofyn i chi uwchlwytho llun pen ac ysgwydd diweddar o’ch hun (gall hwn fod yn hunlun / llun wedi ei dynnu ar ffôn) (Dim mwy na 4MB).
Ni ddylai gymryd mwy na tua 10 munud i’w chwblhau.
Codir tâl o £25 am bob clyweliad, ond gallwch ddewis clyweliad am ddim os ydych yn wynebu unrhyw rwystrau ariannol.
Os ydych yn talu’r tâl clyweliad, anfonir dolen dalu ichi trwy e-bost unwaith ichi gyflwyno’r ffurflen.
Mae’n bosibl y caiff amseroedd eu newid rywfaint ond fe anfonwn e-bost atat i gadarnhau dyddiad ac amser dy glyweliad o leiaf 2 wythnos cyn dyddiad y clyweliad.
Byddwn yn eich e-bostio i lanlwytho eich dewis o fonolog i’w hanfon atom erbyn 15 Mawrth fan bellaf.
Os oes gennyt unrhyw gwestiynau, neu broblemau gyda’r ffurflen gais newydd, cofia e-bostio auditions@nyaw.org.uk
-
Mae clyweliad 3 awr yn costio £25 – mae hyn yn mynd tuag at ein gwaith gweinyddol, llogi lleoliad a ffioedd panel. Gallwn gynnig Clyweliadau Am Ddim i bawb na allant fforddio hyn am ba bynnag reswm. Ticiwch ‘Bwrsariaeth’ ar y ffurflen os na allwch dalu ffi’r clyweliad am resymau ariannol.
-
Ethos ein clyweliadau yw datblygu amgylchedd cefnogol ac anogol lle rydych yn teimlo yn hyderus i archwilio a darganfod eich potensial gyda’r grŵp. Rydym wedi eu cynllunio fel gweithdai grŵp bach, cyfeillgar 3 awr yn cael eu harwain gan banel proffesiynol ynghyd a staff ThCIC.
Rydym yn gweithio yn ddwyieithog a chroesawn ddefnydd o’r Gymraeg, Saesneg a BSL yn ein clyweliadau.
Mae pob clyweliad yn cael ei rhedeg yn ddwyieithog, a chroesawn ddefnydd o’r Gymraeg, Saesneg a BSL yn ein clyweliadau.
Gwisgwch ddillad cyfforddus y gallwch symud yn rhwydd ynddynt.
Dylech ddod â photel ddŵr a/neu ddiodydd oer o’ch dewis (nid pop), ac unrhyw ffrwythau/byrbrydau angenrheidiol i’ch cynnal drwy’r clyweliad.
Bydd y clyweliad yn para 3 awr gydag egwyl fyr.
Bydd yn cynnwys symudiad, actio, gwaith grŵp ynghyd ag ymarferion llais a cherddoriaeth a ni fydd angen i chi baratoi dim ymlaen llaw ar gyfer yr elfen hon. Bydd cyfle hefyd i baratoi ar gyfer y fonolog / araith yn ystod y gweithdy.
Bydd rhan monolog y clyweliad yn rhan fach ond gwerthfawr o’r clyweliad. Byddwn yn gwneud rhywfaint o waith yn ystod y gweithdy i baratoi ar gyfer yr adran hon, felly peidiwch bod yn nerfus!
PANELU
Bydd y clyweliadau yn cael eu harwain gan banel o aelodau cyswllt CCIC sydd yn broffesiynol o fewn y diwydiant a staff CCIC.
IAITH
Bydd y clyweliad yn cael ei arwain yn ddwyieithog ac mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg, Saesneg neu BSL.
Os oes gennych anghenion dysgu neu mynediad ychwanegol, cysylltwch â auditions@nyaw.org.uk a bydd cynhyrchydd ThcIC mewn cysylltiad.
FFILMIO
Rydym yn bwriadu ffilmio pob clyweliad wyneb-yn-wyneb eleni i’n cynorthwyo gyda’r detholiadau terfynol.
-
Unwaith i’r dyddiad cau basio, byddwn yn e-bostio i gadarnhau manylion eich glyweliad ac yn gofyn i chi anfon eich ddewis o araith / monolog fer atom (dim hirach na 1 funud a 30 eiliad)
Cyngor defnyddiol ar gyfer dewis araith neu fonolog.
Cofia ddewis araith a chymeriad o ddrama yr wyt yn gyfarwydd iawn gyda hi ac yn ei hoffi ac sy’n dy adlewyrchu di fel perfformiwr.
Meddwl am ble mae dy gymeriad, eu cefndir ac at bwy y maen nhw’n cyfeirio’r araith hon a’r hyn y maen nhw’n ceisio ei gyfleu.
Paid dibynnu ar bropiau a chofia osgoi acenion yr wyt ti’n anghyfarwydd â nhw
Paid rhedeg dros yr amser – bydd hyn yn rhoi llai o amser iti weithio gyda’r panel ar dy ddarn a dyna’r darn diddorol!
Bydd yn agored i gael dy gyfarwyddo a gweithio gyda’r panel i edrych ar yr araith o safbwynt gwahanol a phaid poeni os na fydd hyn yn berffaith – yr hyn yr ydym am ei weld yw dy barodrwydd i roi tro ar bethau ac addasu fel bo angen .
Paid poeni am gamgymeriadau, yr hyn sy’n bwysig yw sut y byddi’n dod drostynt ac yn eu defnyddio i wella.
Os wyt ti angen unrhyw gymorth gyda hyn neu os wyt ti’n ansicr ynghylch beth i’w ddewis, cofia gysylltu gyda ni ar auditions@nyaw.org.uk a byddwn yn barod iawn i dy helpu.
Does dim angen paratoi unrhyw beth arall ymlaen llaw a’r cyfan yr ydym yn ei ofyn yw dy fod yn gwneud y mwyaf o’r sesiwn trwy fod yn agored, cyflwyno gwaith gyda dy gyd-berfformwyr a mwynhau’r cyfle.
-
Unwaith i’r dyddiad cau basio, byddwn yn eich e-bostio i gadarnhau manylion leoliad, dyddida ac amser a sut i gyraedd. Byddwn yn gofyn i chi anfon eich ddewis o araith / monolog fer atom (dim hirach na 1 funud a 30 eiliad) cyn y dyddiad cau ar 15 Mawrth.
-
Byddwch yn derbyn e-bost adborth byr i roi gwybod i ni beth oedd eich barn!
Byddwch yn derbyn y canlyniad ac unrhyw gynigion yn yr wythnos sy'n dechrau 13 Ebrill a byddwn yn gofyn i chi gadarnhau os ydych am dderbyn y cynnig hwn erbyn dyddiad penodol.
-
Cost: £1,100
Mae eich ffi aelodaeth yn cynnwys yr holl gostau dysgu, llety, bwyd a bwrdd, teithio o fewn y preswyliad a gweithgareddau cymdeithasol.
Diolch i'r gefnogaeth hael gan ein cyllidwyr a'n cefnogwyr, mae Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn cymhorthdal rhan sylweddol o gostau bod yn aelod o un o'r ensembles ieuenctid cenedlaethol.
Fodd bynnag, ein nod yw sicrhau nad yw arian byth yn rhwystr i gymryd rhan yn unrhyw un o'n ensembles neu brosiectau. Rydym ni’n deall y gall y cyfraniad hwn fod allan o gyrraedd rhai ymgeiswyr, a dyna pam ein bod yn rhedeg cynllun bwrsariaeth hael sy'n cefnogi lle mae angen cymorth. -
Gallai ein Cronfa Bwrsariaeth helpu i dalu am rywfaint neu eich tâl aelodaeth i gyd, fel na fydd unrhyw un yn cael ei rwystro rhag ymgeisio am le gydag Ensembles CCIC am resymau ariannol. Os yw eich incwm teuluol yn llai na £70,000, gallech fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol. Ymwelwch â CHRONFA BWRSARIAETH CCIC am wybodaeth lawn, yn cynnwys sut i hawlio cymorth tuag at gostau clyweliadau a thâl aelodaeth.