CGIC yn dathlu 80 mlynedd yn 2026!
Mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) yn nodedig am fod yn gerddorfa genedlaethol ieuenctid gyntaf y byd, gan berfformio am y tro cyntaf yn 1946. Eleni, yn 2026, mae CGIC yn dathlu 80 o flynyddoedd o hyfforddiant o’r radd flaenaf ac o berfformiadau bywiog.
Ymunwch â’r dathliadau!
Ydych chi’n gyn-aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru? Hoffech chi ddathlu Pen-blwydd y gerddorfa gyda ni?
Cysylltwch gyda ni ac fe anfonwn ni’r wybodaeth ddiweddaraf atoch am y dathliadau!
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi gorfod cymeryd y penderfyniad anodd i ohirio Digwyddiadau Dathlu Pen-blwydd 80 CGIC ar gyfer Cyn-aelodau â gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer 1–3 Mai. Er bod diddordeb mawr yn y digwyddiad, nid yw wedi bod yn bosibl ei gynnal fel y bwriadwyd. Mae cynlluniau yn cael eu harchwilio i aildrefnu dathliad tebyg yn hwyrach yn y flwyddyn a bydd newyddion pellach yn cael ei rannu maes o law. Byddan yn cysylltu â phawb sydd wedi prynu tocyn, rhoddwyr a chyfranogwyr yn uniongyrchol. Mae CGIC yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a dderbyniwyd ac yn edrych ymlaen at groesawu cynulleidfaoedd i ddigwyddiadau yn y dyfodol.
Cefnogi’r Genhedlaeth Nesaf
I nifer ohonom, fe agorodd CGIC ddrysau wnaeth ffurfio ein taith gerddorol a chreu ffrindiau oes. Mae ein bwrsariaethau’n sicrhau bod y drysau hynny’n dal i fod ar agor, gan ddileu rhwystrau ariannol fel mai gallu, ac nid amgylchiadau, sy’n penderfynu pwy all gymryd rhan. Trwy ymuno yn y dathliad hwn, rydych hefyd yn helpu i basio’r cyfle hwnnw ymlaen. Os ydych chi mewn sefyllfa i roi mwy, bydd croeso cynnes i unrhyw gymorth ychwanegol a bydd yn gwneud gwahaniaeth hyd yn oed yn fwy.
Os ydych chi’n talu treth incwm yn y DU, cofiwch ystyried ychwanegu Rhodd Cymorth, fydd yn cynyddu eich rhodd o 25% am ddim cost ychwanegol i chi.
Rydym yn gwerthfawrogi pob cyfraniad, a bydd yn cael effaith aruthrol ar ein gwaith, waeth beth yw ei maint. Bydd y rhoddion hyn yn sicrhau y gallwn barhau i ddiogelu dyfodol ensembles cenedlaethol ieuenctid Cymru ac yn galluogi CCIC i ehangu ein gwaith gan gyrraedd pobl ifanc ledled y wlad.