ThCIC yn dathlu 50 mlynedd yn 2026!

Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) yn lansio ymgyrch blwyddyn o hyd i nodi ei phen-blwydd, gan ddathlu hanner can mlynedd o greu theatr, creadigrwydd a chyfleoedd uchelgeisiol i bobl ifanc ledled Cymru. 

Bydd ymgyrch ThCIC50: Ailgysylltu. Dathlu. Siapio’r dyfodol yn dod â chenedlaethau o gyn-fyfyrwyr, cyfranogwyr presennol, cefnogwyr a chynulleidfaoedd ynghyd i ddathlu'r cynyrchiadau, y bobl a'r straeon sydd wedi siapio'r sefydliad ers ei sylfaenu. 

Yn lansio'r ymgyrch mae'r ysgrifennwr, actor a chynhyrchydd clodwiw Ruth Jones, un o gyn-fyfyrwyr enwocaf ThCIC, sy'n gwahodd cyn-fyfyrwyr o bob degawd i ailgysylltu â'r sefydliad a rhannu eu hatgofion, eu lluniau a'u straeon. 

Dywedodd Ruth Jones, Cyn-aelod a Llysgennad Ymgyrch ThCIC: 

"Ers dros 50 mlynedd, mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi bod yn fan lle mae siwrneiau'n cychwyn. Dyma le mae llawer ohonom yn dod o hyd i'n lle yn y theatr am y tro cyntaf, boed hynny ar y llwyfan, cefn llwyfan, yn yr ystafell ymarfer, yng nghadair y cyfarwyddwr, neu'n siapio'r gwaith y tu ôl i'r llenni. 

"Nid sgiliau yn unig a ddysgodd ThCIC i ni. Fe osododd safon - cred mewn rhagoriaeth, proffesiynoldeb ac uchelgais - a'r hyder i'w gyflawni. Fe roddodd gymuned i ni ac fe wnaeth ein helpu ni i ddeall pa fath o weithiwr proffesiynol theatr yr oeddem am fod. 

"Nawr, mae ThCIC yn ein gwahodd ni, ei gyn-fyfyrwyr, i fod yn rhan o'r hyn sy'n digwydd nesaf. Ailgysylltu â hen ffrindiau a chydweithwyr, dathlu'r profiadau a'n siapiodd ac, os gallwn, helpu i agor yr un drysau i'r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr theatr Cymru - ar y llwyfan, y tu ôl i'r llenni ac ym mhob rhan o’r theatr."

Cefnogi’r Genhedlaeth Nesaf

Fel rhan o'r dathliadau pen-blwydd, mae ThCIC yn lansio galwad cenedlaethol am straeon cyn-fyfyrwyr, atgofion o gynyrchiadau, lluniau, rhaglenni a deunydd archif, gan helpu i greu cofnod byw o bum degawd o greu theatr yng Nghymru. 

Drwy gydol y flwyddyn, bydd yr ymgyrch yn rhannu straeon cyn-fyfyrwyr, yn dathlu cynyrchiadau nodedig ac yn creu cyfleoedd i gyn-fyfyrwyr a chyfranogwyr presennol gysylltu, rhannu profiadau a dathlu eu cyfraniad i fywyd diwylliannol Cymru. 

Bydd y rhaglen pen-blwydd yn cloi gyda dathliad mawr yn ddiweddarach yn y flwyddyn a phrosiect perfformio sydd â’i ffocws ar y dyfodol yn ystod Haf 2027. 

Bydd yr ymgyrch hefyd yn lansio Cylch y Cyn-fyfyrwyr, rhwydwaith newydd i gyn-fyfyrwyr. Mae’r rhwydwaith wedi'i chynllunio i gryfhau cysylltiadau rhwng aelodau'r gorffennol a'r presennol, ochr yn ochr â Chronfa Chwarae Eich Rhan: 50 Mlynedd Arall, gan helpu i gefnogi dyfodol theatr yng Nghymru. 

Dywedodd Megan Childs, Pennaeth Theatr a Chynhyrchydd Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: 

"Mae ThCIC bob amser wedi dod â phobl ifanc eithriadol at ei gilydd i greu theatr uchelgeisiol. Ers hanner can mlynedd rydyn ni wedi adrodd straeon anhygoel ar lwyfannau ledled Cymru tra’n helpu cenedlaethau o bobl ifanc i ddarganfod eu llais creadigol. Wrth i ni ddathlu'r garreg filltir hon, rydyn ni’n edrych ymlaen gyda'r un uchelgais: sef creu lle i hyd yn oed mwy o straeon gael eu hadrodd, mwy o leisiau gael gwrandawiad a mwy o bobl ifanc o bob cefndir a phob rhan o Gymru i ddarganfod eu bod yn perthyn i'n llwyfannau. Dyna'r dyfodol rydyn ni'n ei ddathlu a'r dyfodol rydyn ni'n ei adeiladu gyda'n gilydd." 

Gwahoddir cyn-fyfyrwyr, cefnogwyr a ffrindiau ThCIC i ailgysylltu ac ymuno yn y dathliadau pen-blwydd drwy rannu eu straeon, atgofion a’u lluniau, a thrwy ymuno â chymuned gynyddol o gyn-fyfyrwyr ThCIC.  

P’un ai fuoch chi’n perfformio ar y llwyfan, gweithio cefn llwyfan neu’n cefnogi’r cwmni mewn unrhyw ffordd, mae ThCIC eisiau clywed eich stori. Rhannwch eich straeon drwy ddefnyddio’r ddolen isod.