Mae Momentwm yma!
Sesiynau dawns wythnosol AM DDIM i bobl ifanc 12–22 oed ledled Gogledd Orllewin Cymru.
Mae Momentwm yn rhaglen datblygu dawns gyffrous gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru sy’n cynnig sesiynau wythnosol dwy awr o hyd dan arweiniad artistiaid dawns proffesiynol ledled Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn.
Drwy gydol y rhaglen, fe gewch gyfleoedd i edrych ar:
Techneg Dawns - datblygu eich sgiliau a hyfforddi ar draws ystod o arddulliau dawns gydag artistiaid proffesiynol profiadol.
Coreograffi a Chreadigrwydd - arbrofi gyda symudiad, rhannu syniadau a chreu eich gwaith eich hun.
Perfformio - datblygu'r sgiliau, yr hyder a'r presenoldeb llwyfan i berfformio, dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
Cydweithredu a Lles - cysylltu â phobl ifanc eraill, mynegi eich hun a datblygu gwaith tîm a meddwl creadigol.
P'un a ydych eisoes yn dawnsio'n rheolaidd neu'n edrych am gyfle i fynd â'ch hyfforddiant ymhellach, bydd Momentwm yn eich cefnogi i hyfforddi, archwilio, creu a thyfu.
Rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc o bob rhan o Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn i gymryd rhan yn y rhaglen 18 wythnos hon sydd wedi’i hariannu’n llawn.
Pam ymuno?
Byddwch yn… hyfforddi gydag artistiaid dawns proffesiynol
Archwilio ystod o arddulliau dawns a dulliau creadigol
Datblygu eich techneg, eich hyder a'ch llais creadigol
Cwrdd a chydweithio â dawnswyr ifanc eraill
Creu, perfformio a rhannu eich gwaith eich hun
Yn cael mynediad at hyfforddiant dawns o ansawdd uchel am ddim
Os ydych chi'n 12 - 22 oed ac yn byw yng Ngwynedd, Conwy neu Ynys Môn neu'n gallu teithio i’r ardaloedd yma, cofrestrwch eich diddordeb heddiw a byddwch yn rhan o Momentwm. Mae sesiynau AM DDIM ac yn cael eu cynnal yn ystod y tymor ysgol.
Dewch o hyd i’ch sesiwn Momentwm agosaf.
BANGOR
Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor
Dydd Mawrth, 4:30–6:30pm
CAERGYBI
Canolfan Ucheldre, Caergybi
Dydd Iau, 5-7:00pm
LLANDUDNO
Mostyn, Llandudno
Dydd Sadwrn, 10:45am–12:45pm
Stiwdio Dawns Providero, Llandudno
Dydd Sadwrn, 2:30–4:30pm
Gwiriwch ddyddiad, canolfan ac amser eich sesiwn cyn mynychu. Bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn gwybodaeth am y sesiwn yn uniongyrchol.
Sesiynau wedi dechrau erbyn hyn? Mae dal modd i chi ymuno!
Os ydych chi’n 12–22 oed ac yn byw neu’n gallu teithio i Wynedd, Conwy neu Ynys Môn, byddem yn dwlu clywed gennych chi.
Cwestiynau? Cysylltwch â nyaw@nyaw.org.uk.
Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld y rhaglen yn dwyn ffrwyth a chefnogi pobl ifanc ledled Gogledd Cymru.
Dyma gyflwyniad bach i'r tîm sy’n cyflwyno Momentwm:
-
Mae Kseniia yn artist dawns, perfformiwr, coreograffydd ac addysgwr Wcrainaidd, sydd bellach yn byw yng Ngogledd Cymru. Yn wreiddiol o'r Wcráin, mae ganddi radd Baglor a gradd Meistr gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Dawns o Brifysgol Fetropolitan Borys Grinchenko Kyiv.
Mae ei phrofiad proffesiynol yn cynnwys perfformio gyda Totem Dance Theatre a'r Independent Theatre of Drama and Comedy, yn ogystal â choreograffu ac addysgu myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio.
Ers symud i Ogledd Cymru yn dilyn dechrau goresgyniad Rwsia ar Wcráin, mae Kseniia wedi parhau i ddatblygu ei hymarfer artistig. Mae hi wedi ehangu ei gwaith i ddawns fertigol ac mae'n gyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Cwmni Dawns Hedydd.
Mae Kseniia yn angerddol am greu cysylltiadau trwy symudiad, archwilio mannau newydd a chefnogi datblygiad dawns yng Ngogledd Cymru.
-
Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Branwen yn ddawnsiwr, coreograffydd ac athrawes broffesiynol sy'n arbenigo mewn dawns fasnachol.
Mae ganddi radd BA Dosbarth Cyntaf (Anrh) mewn Perfformio Dawns o LMA Lerpwl ac yn ddiweddar mae wedi cwblhau Gradd Meistr mewn Ymarfer Creadigol: Dawns.
Mae ei phrofiad proffesiynol yn cynnwys bod yn rownd derfynol Britain's Got Talent, gweithio gyda'r BBC, S4C a Gŵyl Geltaidd Lorient, perfformio fel dawnswraig gefndirol i Nicki Belle, a dod yn Bencampwr Prydain deirgwaith gyda'r BDO.
Mae Branwen yn angerddol am greu gofod diogel, croesawgar a phositif lle gall dawnswyr ifanc fagu hyder, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a datblygu eu sgiliau.
-
Mae Eli yn artist dawns gyfoes sy’n byw yng Ngogledd Cymru. Mae ei hymarfer llawrydd yn cwmpasu perfformio, coreograffi, cyfarwyddo symudiad, ac ymgysylltu ieuenctid a chymunedol. Mae hi wedi gweithio gyda sefydliadau gan gynnwys Jones the Dance, Theatr Clwyd a’r Frân Wen.
Hyfforddodd Eli ym Mhrifysgol Caer, gan gwblhau BA ac MA mewn Dawns, cyn parhau yn y brifysgol fel Darlithydd Gwadd am bedair blynedd.
Mae ei hymarfer cyfoes wedi'i wreiddio mewn gwaith llawr, perfformio’n fyrfyfyr a symudiad somatig. Mae Eli yn dod ag ymdeimlad cynnes, cynhwysol a myfyriol i'w sesiynau, gan greu amgylchedd cefnogol a hamddenol lle gall pobl ifanc roi cynnig ar bethau newydd, magu hyder a datblygu eu sgiliau.
-
Mae Tarun yn ddawnsiwr o Gymru a ddechreuodd hyfforddi mewn ballet, tap a dawns fodern yn ifanc iawn. Yn 2020, cafodd ei dderbyn i Northern Ballet School, Manceinion, lle ehangodd ei sgiliau ar draws amrywiaeth o arddulliau dawns a pherfformio.
Mae'n gyffrous gweld y rhaglen yn dod at ei gilydd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at y 12 wythnos nesaf o ddawns, creadigrwydd, cysylltiad a chyfleoedd i bobl ifanc ledled y rhanbarth.
Panel Cynghori Ieuenctid Momentwm
Rydyn ni’n chwilio am grŵp amrywiol o bobl ifanc rhwng 12 a 22 oed o Wynedd, Conwy ac Ynys Môn i ymuno â Phanel Cynghori Ieuenctid Momentwm.
Mae rhaglen Momentwm yn cael ei chreu gyda phobl ifanc, nid dim ond ar eu cyfer. Fel aelod o'r panel, byddwch yn helpu i lunio’r rhaglen ac yn gwneud yn siwr ei bod yn adlewyrchu diddordebau, profiadau, anghenion a dyheadau pobl ifanc ledled Gogledd Cymru.
Bydd eich syniadau a'ch profiadau yn ein helpu ni i:
Siapio sesiynau dawns, cyfleoedd creadigol a chynnig lles Momentwm
Adnabod a lleihau rhwystrau a allai atal pobl ifanc rhag cymryd rhan
Gwneud y rhaglen yn groesawgar, yn gynhwysol ac yn hygyrch
Cynghori ar farchnata a sut rydyn ni’n cyfathrebu â phobl ifanc
Edrych ar gyfleoedd hyfforddiant, perfformiad a dilyniant yn y dyfodol
Cyrraedd ac ymgysylltu â phobl ifanc yn eich cymuned leol
Llywio datblygiad cyfleoedd dawns ieuenctid ledled Cymru yn y dyfodol
Mae llais ieuenctid wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn.2Rydyn ni eisiau clywed beth sy'n bwysig i chi a gwneud yn siŵr bod eich syniadau'n cael gwrandawiad ac yn cael eu gweithredu'n ystyrlon.Pam ymuno?
Dweud eich dweud
Helpwch ni i lunio rhaglen ddawns newydd gyffrous i bobl ifanc yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn.
Ennill profiad
Datblygwch sgiliau mewn arweinyddiaeth, cyfathrebu, cynllunio prosiectau a gwneud penderfyniadau creadigol.
Creu effaith
Helpwch i wneud cyfleoedd dawns yn fwy cynhwysol, hygyrch a pherthnasol i bobl ifanc yn eich cymuned.
Cynrychioli eich cyfoedion
Rhannwch farn a phrofiadau pobl ifanc eraill a gweithredu fel llysgennad ar gyfer Momentwm.
Gwobrwyo eich gwaith
Bydd costau teithio yn cael eu talu, lluniaeth yn cael ei ddarparu, a byddwch yn derbyn taleb Love2shop a geirda i gefnogi ceisiadau a chyfleoedd yn y dyfodol.
Sut i gymryd rhan
Nid oes angen profiad blaenorol o ddawns neu arweinyddiaeth arnoch. Rydyn ni’n chwilio am bobl ifanc sydd ag ystod eang o gefndiroedd, diddordebau a phrofiadau sy'n frwdfrydig am rannu eu barn a helpu i lunio'r rhaglen.
Ymunwch â Phanel Cynghori Ieuenctid Momentwm a helpwch ni i lunio dyfodol dawns ieuenctid yng Ngogledd Cymru.
I fynegi eich diddordeb mewn ymuno â Phanel Cynghori Ieuenctid Momentwn, cwblhewch y ffurflen hon os gwelwch yn dda: