Dawns Genedlaethol
Ieuenctid Cymru
Mae ceisiadau clyweliadau bellach ar gau. Anfonwch e-bost i auditions@nyaw.org.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.
“Yn 2026, bydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn dod ag 20 o ddawnswyr ifanc eithriadol o bob cwr o Gymru at ei gilydd i greu a pherfformio gwaith newydd trydanol i’w berfformio am y tro cyntaf ar lwyfan cenedlaethol yng Nghymru.
Yr hyn sy'n gwneud 2026 yn gyffrous yw'r profiad trawsnewidiol ar lefel diwydiant sy'n aros am aelodau DGIC. Trwy gydol y rhaglen, bydd dawnswyr yn ymarfer yn ddwys gydag ymarferwyr blaenllaw, gan wthio eu galluoedd corfforol, hogi eu lleisiau artistig, a dyrchafu eu crefft berfformio. Ochr yn ochr â hyn, bydd cymorth lles pwrpasol yn helpu aelodau i gryfhau eu gwydnwch corfforol a meddyliol, gan sicrhau eu bod yn ffynnu mewn amgylchedd cwbl holistig, proffesiynol.
Bydd y cwmni eleni yn gweithio law yn llaw â choreograffydd gwadd a thîm creadigol rhagorol, gan gynnwys gwneuthurwyr ffilmiau, dylunwyr gwisgoedd, a dylunwyr goleuadau i ddod â darn newydd sbon yn fyw. Nid yn unig y bydd y gwaith hwn yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn fyw ar y llwyfan, ond bydd dawnswyr hefyd yn cymryd rhan mewn creu dawnsio ar ffilm, wedi'i ffilmio mewn lleoliadau ar draws rhai o dirweddau mwyaf syfrdanol Cymru, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, a safleoedd treftadaeth eiconig. Bydd aelodau'n profi sut beth yw bod yn rhan o gynhyrchiad ffilm ddawns proffesiynol - o weithio ar set i berfformio ar gyfer camera.
Drwy ymuno â DGIC yn 2026, bydd dawnswyr yn dod yn rhan o gwmni dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac yn ymgolli mewn cymuned gefnogol ac uchelgeisiol o artistiaid ifanc talentog o bob cwr o'r wlad.”
Nodyn gan ein cynhyrchydd DGIC
Jamie Jenkins
Pennaeth Dawns & Cynhyrchydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Flyer BSL
Flyer Clywedol
Rhaglen 2026
Bydd Cyn-fyfyriwr Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC), coreograffydd, artist symud a'r perfformiwr o Gymru, Osian Meilir, yn ymuno â DGIC fel Coreograffydd Gwadd ar gyfer 2026.
Bydd aelodau DGIC yn cydweithio â Osian a thîm o diwtoriaid dawns eithriadol i greu gwaith newydd beiddgar sy'n arddangos pŵer a photensial dawnswyr ifanc Cymru. Trwy gyfuniad bywiog o hyfforddiant technegol lefel uchel ac archwilio creadigol dychmygus, bydd dawnswyr yn adeiladu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y llwyfan a'r sgrin - wrth siapio, mireinio a dathlu eu lleisiau artistig unigryw eu hunain.
Dyddiau i’r dyddiadur…
Cofrestrwch erbyn:
11 Chwefror 2026
Dyddiad cau cyflwyno ar-lein: Dydd Gwener 20 Chwefror 2026
Clyweliadau:
14 - 21 Chwefror 2026
Canlyniadau:
31 Mawrth 2026
Clyweliadau:
Dydd Sadwrn 14 Chwefror: Abertawe (AM) / Pen-y-bont ar Ogwr (PM)
Dydd Sul 15 Chwefror: Caerdydd (AM)
Dydd Llun 16 Chwefror: Casnewydd (AM) / Y Fenni (PM)
Dydd Mawrth 17 Chwefror: Llandod (AM) / Pwlleli (PM)
Dydd Mercher 18 Chwefror: Llandudno (AM) / Yr Wyddgrug (PM)
Dydd Iau 19 Chwefror: Ynys Môn (AM)
Dydd Gwener 20 Chwefror: Caerdydd (AM) / Neath (PM)
Dydd Sadwrn 21 Mawrth: Dinbych-y-pysgod (AM)
Diwrnod Darganfod i Aelodau: Dydd Gwener 29 Mai 2026 -
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Cam Un: Dydd Llun 17 - Dydd Sadwrn 29 Awst 2026 -
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Cam Dau: Dydd Mawrth 27 - Dydd Gwener 30 Hydref 2026 - Prifysgol De Cymru (Casnewydd)
Cwestiynau Sy’n Codi’n Aml…
-
Ar gyfer preswyliadau 2026 rhaid i gyfranogwyr fod rhwng 16 a 22 oed ar 17 Awst 2026.
Mae hyn yn golygu y gallech gael clyweliad yn 15 oed, cyn belled â'ch bod yn 16 oed erbyn y dyddiad hwn. I gael unrhyw gwestiynau am ein meini prawf cymhwysedd, anfonwch e-bost: nyaw@nyaw.org.uk -
Ar ôl i chi glicio’r botwm Bwcio Clyweliad, byddwch yn cael eich tywys i’r ffurflen archebu clyweliad i’w chwblhau.
Bydd y ffurflen gais yn gofyn cwestiynau am eich profiadysgol, coleg a pherfformio fydd yn ein helpu yn ystod dy glyweliad.
Bydd y ffurflen gais yn gofyn i chi uwchlwytho llun pen ac ysgwydd diweddar o’ch hun (gall hwn fod yn hunlun / llun wedi ei dynnu ar ffôn) (Dim mwy na 4MB).
Ni ddylai gymryd mwy na tua 10 munud i’w chwblhau.
Codir tâl o £25 am bob clyweliad, ond gallwch ddewis clyweliad am ddim os ydych yn wynebu unrhyw rwystrau ariannol.
Os ydych yn talu’r tâl clyweliad, anfonir dolen dalu ichi trwy e-bost unwaith ichi gyflwyno’r ffurflen.
Mae’n bosibl y caiff amseroedd eu newid rywfaint ond fe anfonwn e-bost atat i gadarnhau dyddiad ac amser dy glyweliad o leiaf 2 wythnos cyn dyddiad y clyweliad.
Os oes gennych unrhyw gwestiyna, neu broblemau gyda’r ffurflen gais newydd, e-bostiwch: auditions@nyaw.org.uk
-
Mae clyweliad 2.5 awr yn costio £25 – mae hyn yn mynd tuag at ein gwaith gweinyddol, llogi lleoliad a ffioedd panel.
Ticiwch ‘Hepgor Ffi’ ar y ffurflen os na allwch dalu ffi’r clyweliad am resymau ariannol. -
Does dim angen paratoi unrhyw beth o flaen llaw. Cyfan yr ydym yn ei ofyn yw dy fod yn gwneud y mwyaf o’r sesiwn trwy fod yn agored, cyflwyno gwaith gyda dy gyd-berfformwyr a mwynhau’r cyfle.
-
Ethos ein clyweliadau yw datblygu amgylchedd cefnogol ac anogol lle rydych yn teimlo yn hyderus i archwilio a darganfod eich potensial gyda’r grŵp. Rydym wedi eu cynllunio fel gweithdai grŵp bach, cyfeillgar 2.5 awr yn cael eu harwain gan banel proffesiynol ynghyd a staff ThCIC.
Rydym yn gweithio yn ddwyieithog a chroesawn ddefnydd o’r Gymraeg, Saesneg a BSL yn ein clyweliadau.
Mae pob clyweliad yn cael ei rhedeg yn ddwyieithog, a chroesawn ddefnydd o’r Gymraeg, Saesneg a BSL yn ein clyweliadau.
Gwisgwch ddillad cyfforddus y gallwch symud yn rhwydd ynddynt.
Dylech ddod â photel ddŵr a/neu ddiodydd oer o’ch dewis (nid pop), ac unrhyw ffrwythau/byrbrydau angenrheidiol i’ch cynnal drwy’r clyweliad.
Bydd y clyweliad yn para 2.5 awr gydag egwyl fyr.
PANELU
Bydd y clyweliadau yn cael eu harwain gan banel o aelodau cyswllt CCIC sydd yn broffesiynol o fewn y diwydiant a staff CCIC.
IAITH
Bydd y clyweliad yn cael ei arwain yn ddwyieithog ac mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg, Saesneg neu BSL.Os oes gennych anghenion dysgu neu mynediad ychwanegol, cysylltwch â auditions@nyaw.org.uk a bydd cynhyrchydd DGIC mewn cysylltiad.
-
Unwaith i’r dyddiad cau basio, byddwn yn eich e-bostio i gadarnhau manylion leoliad, dyddida ac amser a sut i gyraedd.
-
Byddwch yn derbyn e-bost adborth byr i roi gwybod i ni beth oedd eich barn!
Byddwch yn derbyn y canlyniad ac unrhyw gynigion yn yr wythnos sy'n dechrau 1 Mawrth a byddwn yn gofyn i chi gadarnhau os ydych am dderbyn y cynnig hwn erbyn dyddiad penodol.
-
Cost: £1,100
Mae eich ffi aelodaeth yn cynnwys yr holl gostau dysgu, llety, bwyd a bwrdd, teithio o fewn y preswyliad a gweithgareddau cymdeithasol.
Diolch i'r gefnogaeth hael gan ein cyllidwyr a'n cefnogwyr, mae Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn cymhorthdal rhan sylweddol o gostau bod yn aelod o un o'r ensembles ieuenctid cenedlaethol.
Fodd bynnag, ein nod yw sicrhau nad yw arian byth yn rhwystr i gymryd rhan yn unrhyw un o'n ensembles neu brosiectau. Rydym ni’n deall y gall y cyfraniad hwn fod allan o gyrraedd rhai ymgeiswyr, a dyna pam ein bod yn rhedeg cynllun bwrsariaeth hael sy'n cefnogi lle mae angen cymorth. -
Gallai ein Cronfa Bwrsariaeth helpu i dalu am rywfaint neu eich tâl aelodaeth i gyd, fel na fydd unrhyw un yn cael ei rwystro rhag ymgeisio am le gydag Ensembles CCIC am resymau ariannol.
Ymwelwch â CHRONFA BWRSARIAETH CCIC am wybodaeth lawn, yn cynnwys sut i hawlio cymorth tuag at gostau clyweliadau a thâl aelodaeth.