APÊL Y GRONFA BWRSARIAETH

Gan ddyfarnu bwrsariaethau gwerth mwy na £50,000 bob blwyddyn, mae ein cronfa fwrsariaeth yn hanfodol i sicrhau y gall pobl ifanc o bob cefndir gymryd rhan yn ein gwaith.

O ddim ond £200 y flwyddyn, gallech sefydlu bwrsariaeth er cof am rywun annwyl, gan wybod y bydd y rhodd yn mynd yn syth tuag at ddarparu bwrsariaeth i aelod o ensemble.

Gallwch nodi pa ensemble yr hoffech chi i'r fwrsariaeth fynd tuag ato, yn dibynnu ar eich dymuniadau. Gallech hyd yn oed awgrymu pa offeryn, rhan llais neu ranbarth o Gymru yr hoffech chi iddynt elwa ar y fwrsariaeth, felly gallwch chi bersonoli eich rhodd bwrsariaeth yn wirioneddol.

I drafod sefydlu bwrsariaeth, e-bostiwch DavidHopkins@nyaw.org.uk neu ffoniwch David ar 029 2280 7420. Diolch am eich haelioni a'ch cefnogaeth.


Wrth sefydlu bwrsariaeth a enwir:

  • Byddwch yn cael eich credydu yn ein rhaglenni digidol ac ar ein gwefan. Fel arall, gallwch ddewis enwi'r bwrsari ar ôl rhywun annwyl neu er cof am rywun

  • Byddwch yn derbyn gwahoddiadau blynyddol i'n cyngherddau a pherfformiadau haf

  • Gallwch nodi ar gyfer pa ensemble yr hoffech i’r fwrsariaeth gael ei ddefnyddio. Gallech hefyd awgrymu pa offeryn / math o lais y gellid defnyddio'r fwrsariaeth ar ei gyfer, neu o ble yng Nghymru yr hoffech i'r derbynnydd ddod

Diolch i bob un o gefnogwyr presennol y Gronfa Fwrsariaeth. Mae rhestr lawn o gefnogwyr presennol ar ein tudalen Diolch.