
NEWYDDION
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn mynd ar daith yr wythnos yma ar gyfer Haf o Gerddoriaeth
CGIC yn mynd ar daith yr wythnos yma ar gyfer Haf o Gerddoriaeth
CGIC 2024
Mae preswyliad Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) ym Mhrifysgol De Cymru, Llanbedr Pont Steffan, bellach ar y gweill. Mae dros 100 o gerddorion ifanc o bob cwr o Gymru yno, yn gweithio'n galed yn ymarfer rhaglen gyngerdd egnïol Americanaidd cyn cychwyn ar daith yr wythnos hon.
Dan arweiniad yr arweinydd o fri rhyngwladol, Kwamé Ryan, bydd y rhaglen yn cynnwys Symphonic Dances gwych Bernstein o West Side Story a Porgy and Bess: A Symphonic Picture gan Gershwin.
Mae taith cyngerdd haf CGIC yn dechrau gydag Ymarfer Gwisg ar 30 Gorffennaf, yn Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol De Cymru yn Llanbedr Pont Steffan, cyn teithio i Eglwys Gadeiriol eiconig Tyddewi y diwrnod canlynol ar gyfer perfformiad yng Ngŵyl Gerdd Abergwaun.
Ar 1 Awst, byddant yn teithio i Eglwys Gadeiriol Henffordd ar gyfer Gŵyl y Tri Chôr, cyn cyfnod i fyny yn y gogledd yn Eglwys Gadeiriol gothig Llanelwy yn Sir Ddinbych, cyn mynd yn ôl i lawr i’r de ar gyfer cyngerdd cloi yn Neuadd y Brangwyn, lleoliad mawreddog yn Abertawe, ddydd Sul 3 Awst.
Mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed y flwyddyn nesaf. Sefydlwyd y gerddorfa ym 1945, a berfformiwyd ei chyngerdd gyntaf ym 1946. Mae’r Gerddorfa’n nodedig am mai hi yw cerddorfa ieuenctid genedlaethol gyntaf y byd.
Fel gyda phob ensemble CCIC, mae'r Gerddorfa yn datblygu profiad hyfforddi o'r radd flaenaf yn berfformiadau sy'n llawn angerdd ac yn gweithio gyda cherddorion proffesiynol uchel eu parch i helpu i gyflawni rhagoriaeth.
Ni ddylid colli'r perfformiad – archebwch docynnau heddiw!
Repertoire CGIC 2025:
Mason Bates - Attack Decay Sustain Release - 5’
Samuel Barber - Second Essay for Orchestra - 10’
Gershwin - Porgy & Bess, Symphonic Picture - 24’
Bernstein - Symphonic Dances, West Side Story - 23’
Wang Jie - America the Beautiful - 6’
Am ragor o wybodaeth am y cyngherddau ac i archebu tocynnau, ewch i: www.ccic.org.uk/digwyddiadur
Taith CCIC – O Aelod o'r Côr i Gynhyrchydd dan Hyfforddiant
Taith CCIC – O Aelod o'r Côr i Gynhyrchydd dan Hyfforddiant
Bron i 10 mlynedd yn ôl, roeddwn i'n paratoi i fynychu fy nghwrs preswyl cyntaf ar gyfer Côr Hyfforddi Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn Nhrefynwy. Dyma oedd fy mhrofiad cyntaf o breswyliad, ac roeddwn i'n nerfus iawn. Mor nerfus nes i mi bron beidio â mynd.
Nawr 10 mlynedd yn ddiweddarach, 7 preswyliad yn ddiweddarach, a gwell rheolaeth o'm nerfau, gallaf ddweud yn falch fy mod yn Gynhyrchydd dan Hyfforddiant ar gyfer Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru.
Roedd fy mlynyddoedd cyntaf yn y Côr Hyfforddi yn rhan annatod o ddatblygiad fy sgiliau fel aelod o gôr a cherddor, a dyma ble ddysgais pa mor wahanol oedd canu corawl i fod yn unawdydd. Yn sydyn, nid oedd y canu mwyaf uchel – o ran tôn na lefel sain – yn cael ei ystyried yn 'drawiadol', ac ar ôl ychydig o ymarferion dysgais ystyr gair dirgel – asio. Byddai'r sgil newydd hon yn fy helpu i mewn corau niferus dros y blynyddoedd ac yn fy ngalluogi i werthfawrogi'r gerddoriaeth roeddwn i'n ei chreu gydag eraill. Gwelais fod hyn hefyd yn cael effaith gadarnhaol wrth weithio gyda chyfeilyddion cydweithredol, gan greu llawer mwy o gydbwysedd a phartneriaeth o fewn perfformiadau.
Y preswyliad hwn hefyd oedd y tro cyntaf i mi fod i ffwrdd o gartref am wythnos, ac fe ddaeth hynny â'i heriau a'i wersi am gyfrifoldeb hefyd. Byddwn wrth fy modd yn gallu dweud fy mod i'n ddigon synhwyrol i gael digon o gwsg bob nos, ond roedd y profiad newydd o rannu ystafell gysgu gyda 4 arall yn llawer rhy gyffrous! Wrth edrych yn ôl, mi faswn yn argymell cael cymaint o gwsg â phosibl...
Roedd graddio i Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gam mawr. Roeddwn i'n dal yn ifanc, dim ond yn 16, ond roeddwn i'n teimlo fy mod yn cael fy nhrin fel rhywun proffesiynol. Nid yn unig roedd y dyddiau’n hirach a'r gerddoriaeth yn anoddach, ond roedd y disgwyliadau ohonom fel oedolion ifanc i fod yn brydlon ac yn ddisgybledig yn cynyddu. Fodd bynnag, gyda hyn daeth mwy o ymdeimlad o gymuned a pherthyn. Roedd gweithio o ddydd i ddydd i lunio rhaglen amrywiol o arddulliau ac ieithoedd gyda'n gilydd yn fraint, ac fe helpodd i greu cysylltiadau cadarn sydd wedi datblygu i gyfeillgarwch a chysylltiadau gydol oes ledled y wlad. Nawr ble bynnag y byddaf yn mynd, byddaf bob amser yn gweld wyneb cyfeillgar cyfarwydd ym mhob prosiect neu ddigwyddiad gwaith, sy'n dangos bod CCIC wir yn cynhyrchu ac yn meithrin talent Cymru’r dyfodol!
Megan Jones
Yn ystod fy nghyfnod fel aelod o'r Côr, roeddwn i'n ffodus i weithio gyda rhai arweinwyr anhygoel – gan gynnwys Carlo Rizzi, Tim Rhys-Evans a Nia Llewellyn Jones. Roedd Nia yn hynod ysbrydoledig i mi, a hithau’n camu i rôl yr oeddwn yn draddodiadol wedi'i gweld yn cael ei meddiannu gan ddynion. Mae pob un wedi dysgu pethau i mi sydd wedi effeithio'n gadarnhaol ar y ffordd rwy'n perfformio, ond yn bwysicach fyth y ffordd rwy'n meddwl am gerddoriaeth. Deall testun yw fy mlaenoriaeth gyda darn newydd, waeth beth fo'r iaith. Yn ddiddorol, Saesneg yn aml yw'r anoddaf i'w dehongli ac mae angen yr un faint o amser a manylder ag unrhyw iaith arall!
Roedd yr arweinydd Tim Rhys-Evans, sydd wedi bod yn arwain y côr ers fy mlwyddyn gyntaf (ac yn dal i fynd!) yn ddylanwad enfawr arnaf yn ystyried cerddoriaeth fel gyrfa. Doeddwn i erioed wedi ystyried gwneud cais am gonservatoires nes iddo fy annog i roi cynnig arni yn fy Nghlyweliad CCIC yn 2019. Byddaf am byth yn ddiolchgar i Tim am fy nghyflwyno i'r posibilrwydd o yrfa yn y celfyddydau ac agor y drws i mi astudio gradd Baglor mewn Cerddoriaeth mewn Astudiaethau Lleisiol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
“Rwy’n teimlo’n hynod ddiolchgar i CCIC am roi’r cyfleoedd hyn i mi dyfu a llwyddo”
Fe arweiniodd y Côr hefyd i mi gymryd rhan mewn rhai cyfleoedd anhygoel, megis perfformio nifer o gomisiynau, gan gynnwys 'Sorrows of the Somme' gan Brian Hughe, a ysgrifennwyd i goffáu'r milwyr Cymreig a laddwyd ym mrwydr Coed Mametz. Ffefryn arall oedd perfformio yn Stadiwm Principality i agor gêm rygbi Cymru v Lloegr, lle enillon ni! Efallai bod angen cefnogaeth CCIC ar dîm Cymru eto?
Fodd bynnag, uchafbwynt fy amser yn y Côr oedd y cydweithrediad rhwng y Côr a'r Gerddorfa yn ôl yn 2018. Fe wnaethon ni berfformio Salmau Chichester Bernstein mewn lleoliadau anhygoel ledled Cymru, gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Henffordd, Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Neuadd Dewi Sant. Mae'n parhau i fod y darn mwyaf mawreddog o waith i mi gael y pleser o weithio arno erioed. Dyma hefyd fy mhrofiad cyntaf o ganu gyda cherddorfa, a oedd, er yn fyddarol, yn wahanol i unrhyw beth roeddwn i erioed wedi'i brofi o'r blaen! Fe roddodd gyfle i mi gaffael sgil newydd a'm paratoi i ddechrau'r dasg fwy brawychus o waith unigol.
Pan adawais y Côr yn 2023, roedd yn anodd delio â'r ffaith fy mod wedi colli rhywbeth a oedd wedi bod yn rhan ohonof ers blynyddoedd. Roeddwn mor lwcus y cefais wahoddiad yn ôl yr haf canlynol i berfformio yng nghyngerdd pen-blwydd yn 40 fel rhan o Gôr o gyn aelodau. Fe berfformiais ochr yn ochr â ffrindiau, tiwtoriaid, staff a llu o unigolion anhygoel sydd wedi cael eu heffeithio gan CCIC.
Yn yr un flwyddyn, cefais hefyd y pleser o wirfoddoli a dod yn gynorthwyydd cwrs ar gyfer prosiect Assemble, profiad newydd arall i mi feithrin sgiliau ac archwilio llwybr gyrfa wahanol yn y celfyddydau. Roedd y prosiect hwn yn gam allweddol i ennill profiad a magu hyder yn fy sgiliau ac yn y pen draw rhoddodd yr hwb olaf i mi wneud cais am y rôl Cynhyrchydd dan Hyfforddiant.
Yn fy nghyfnod byr yn y swydd, rwyf eisoes wedi profi a dysgu cymaint am y gwaith o gynhyrchu'r preswyliadau, ac mae fy mhrofiadau blaenorol fel aelod wedi bod yn amhrisiadwy wrth wneud penderfyniadau a myfyrio ar ba newidiadau roeddwn i am eu gweld fel aelod. O ran sgiliau, mae fy hyder yn fy sgiliau Cymraeg wedi gwella'n sylweddol diolch i ethos dwyieithog CCIC, yn ogystal â'r gwelliant amlwg yn fy sgiliau TG yn rhinwedd fy rôl. Rwyf eisoes wedi profi llawenydd taith glyweliad 2025, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael profi'r preswyliad o safbwynt Cynhyrchydd.
Wrth fyfyrio ar y 10 mlynedd diwethaf, rwy'n hynod falch o'r hyn rydw i wedi'i gyflawni, ac rwy'n teimlo'n hynod ddiolchgar i CCIC am roi'r cyfleoedd hyn i mi dyfu a llwyddo. Mae'n amlwg bod y cyfleoedd a'r profiadau rhyfeddol a roddwyd i mi wedi fy arwain at rôl Cynhyrchydd dan Hyfforddiant a byddant yn fy helpu i barhau yn fy natblygiad proffesiynol am flynyddoedd i ddod.
Ymlaen i'r 10 mlynedd nesaf, be bynnag a ddaw!
Post blog gan Megan Jones, CCIC Cynhyrchydd Dan Hyfforddiant
Adolygiad Dawns Cymru – Ymateb gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Adolygiad Dawns Cymru – Ymateb gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
©Sian Trenberth Photography
Yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC), rydym ni’n croesawu’r Adolygiad Dawns Cymru hwn ac yn cydnabod ei bwysigrwydd hanfodol wrth lunio dyfodol dawns yng Nghymru. Rydym yn cefnogi ei 11 argymhelliad yn llawn ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio â Chyngor Celfyddydau Cymru a sefydliadau celfyddydol eraill ledled Cymru i helpu i wireddu'r argymhellion hyn.
Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn cefnogi pobl ifanc ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru i gael mynediad at ddawns, ac mae ein cynllun bwrsariaeth yn helpu i sicrhau na ddylai incwm aelwydydd byth fod yn rhwystr i ddawnswyr ifanc talentog. Felly rydym yn croesawu'r argymhelliad yn arbennig o ystyried hyfforddiant.
Mewn cyfnod o anhawster mawr i'r gymuned ddawns yng Nghymru, mae'r adroddiad hwn a'r hwb ariannol gan ACW yn gyfle enfawr i roi egni newydd i'r sector dawns. Yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, byddwn yn sicrhau bod diddordebau pobl ifanc yn rhan o'r sgwrs barhaus.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd amdanom ni yn yr adroddiad, rydym yn falch o gadarnhau ein bod yn recriwtio dawnswyr mewn hyfforddiant proffesiynol a'r rhai nad ydynt mewn hyfforddiant proffesiynol, gyda ffocws cryf ar adnabod a datblygu talent ifanc o Gymru o bob cwr o'r wlad.
Byddwn yn parhau i ymgynghori'n ofalus â phobl ifanc i sicrhau bod ystod eang o arddulliau dawns yn cael eu hadlewyrchu a'u gwerthfawrogi yn ein darpariaeth ein hunain. Er y byddwn yn parhau i gynnal hyfforddiant technegol cryf mewn arddulliau Cyfoes, nid dyma ein unig ffocws. Mae ein dull yn dathlu amrywiaeth mewn ymarfer dawns ac yn agor llwybrau ar gyfer cyfranogiad a mynegiant ehangach ar draws Cymru gyfan. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn fuan yn cynnal Diwrnod Dawns i Fechgyn mewn partneriaeth â Ballet Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru; ac yn ddiweddarach eleni, byddwn yn lansio rhaglen newydd arloesol o gyfleoedd dawns a cherddoriaeth i bobl ifanc mewn ardaloedd penodol o amddifadedd lluosog.
Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn falch o hyrwyddo talent cartref a chefnogi a chyflogi ymarferwyr a choreograffwyr o Gymru ar draws ein rhaglenni. I gydnabod heriau sylweddol y sector ar hyn o bryd, rydym wedi cryfhau ein gallu ein hunain trwy gynyddu’r rôl arweinyddiaeth mewn dawns i swydd amser llawn, gan sicrhau cefnogaeth barhaus a datblygiad strategol ar gyfer dawns yng Nghymru i genedlaethau'r dyfodol.
Jamie Jenkins
Pennaeth Dawns, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
4 Gorffennaf 2025
Ymateb Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i adolygiad CCC o gerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru
Ymateb Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i adolygiad CCC o gerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru
Rydym ni'n croesawu adolygiad strategol gan Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n pwysleisio'n eglur fywioldeb a bregusrwydd cerddoriaeth draddodiadol Cymru, tra'n nodi llwybr clir ar gyfer ei chynaliadwyedd a'i thyfiant.
Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rydym ni'n hyrwyddo pwysigrwydd celfyddydau a chreadigrwydd i bawb ifanc, gan wella eu lles, eu cymunedau a'u haddysg. Rydym ni’n awyddus i chwarae rôl wrth gynnal a datblygu cerddoriaeth werin Cymru drwy addysg a hyfforddiant i bobl ifanc.
Drwy ein ensembles ieuenctid cenedlaethol a phartneriaethau, rydym ni’n darparu llwyfannau i gerddorion ifanc i archwilio cerddoriaeth Gymreig. Mae rhaglenni fel Llinynnau Ynghlwm, Sgiliau Côr a Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dangos ein hymrwymiad i addysg gerddoriaeth o ansawdd uchel sy'n gynhwysol ac sy'n dathlu etifeddiaeth diwylliannol Cymru tra'n annog creadigrwydd ac arloesedd.
Rydym ni’n barod i ddyfnhau ein cydweithrediad â phartneriaid fel Tŷ Cerdd, Coleg Brenhinol Cerdd & Drama Cymru, a Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru i fynd i'r afael â'r bylchau yn y ddarpariaeth a chreu llwybrau hygyrch i bobl ifanc ledled Cymru i ymgysylltu â cherddoriaeth draddodiadol.
Mae buddsoddiad Cyngor y Celfyddydau yn y rhaglen Gwerin yn gam pwysig ymlaen ar gyfer y sector cerddoriaeth werin, ac i rymuso cerddorion ifanc i gysylltu â thraddodiadau gwerin Cymru a chyfrannu atynt. Mae'n hanfodol bod cerddoriaeth werin Cymru yn parhau i fod yn rhan ddeinamig a hanfodol o'n hunaniaeth ddiwylliannol, yn diogelu ein treftadaeth gerddorol unigryw Gymreig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Evan Dawson - Prif Weithredwr,
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
25 Mehefin 2025
Datganiad ar y cynllun arfaethedig i gau Adran Gerdd Prifysgol Caerdydd
Mae’r cynllun arfaethedig i gau adran gerdd Prifysgol Caerdydd yn ergyd fawr i dirwedd ddiwylliannol ac addysgiadol Cymru. Datganiad rhifyn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Mae’r cynllun arfaethedig i gau adran gerdd Prifysgol Caerdydd yn ergyd fawr i dirwedd ddiwylliannol ac addysgiadol Cymru.
Dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru:
“Mae gan adran gerdd Prifysgol Caerdydd hanes balch, wedi ei gydblethu â datblygiad cerddoriaeth Cymru, yn enwedig trwy ddylanwad yr Athro Alun Hoddinott. Fel cyn-bennaeth yr adran, bu Hoddinott yn allweddol wrth ddatblygu’r sefydliad yn bwerdy ar gyfer addysg a dyfeisgarwch cerddorol, gan feithrin doniau megis Karl Jenkins a llu o gerddorion eraill sydd wedi cyfoethogi ein tirwedd ddiwylliannol. Bu’r adran hon yn fagwrfa ar gyfer nifer o gyfansoddwyr, cerddorion ac ysgolheigion adawodd argraff barhaol ar y celfyddydau yng Nghymru ac yn fyd-eang. Mae nifer o aelodau presennol Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn astudio yno.
Rydym yn dystion i dueddiad pryderus ble mae’r celfyddydau, ac yn enwedig gerddoriaeth, yn cael eu dibrisio’n systematig trwy doriadau ariannol a chau sefydliadau. Mae’r penderfyniad hwn gan Brifysgol Caerdydd yn bygwth dyfodol uniongyrchol ein myfyrwyr presennol, y staff a’r gymuned gerddorol ehangach – tra hefyd yn peryglu iechyd diwylliannol tymor hir ein cenedl.
Mae addysg cerddoriaeth yn fwy na dim ond gweithgaredd academaidd – mae’n rhan sylfaenol o hunaniaeth ein cymuned, sy’n cynnig llwybrau mynegiant, datblygiad personol a chyfleoedd proffesiynol ar gyfer ein pobl ifainc. Byddai cau’r adran hon yn cyfyngu’n ddifrifol ar y llwybrau sydd ar gael ar gyfer y rheini sy’n anelu i gyfrannu at dreftadaeth gerddorol cyfoethog Cymru.
Yn ein datganiad "Argyfwng Celfyddydau Ieuenctid" diweddar, fe wnaethom danlinellu sut y mae tanariannu difrifol y celfyddydau ieuenctid yn gwarafun cyfleoedd i bobl ifanc dirifedi, gan effeithio ar eu hiechyd, eu haddysg a llesiant cymunedol. Mae’r penderfyniad hwn gan Brifysgol Caerdydd yn dangos yn blaen yr union faterion yr ydym wedi bod yn ymgyrchu yn eu cylch. Mae’n hollbwysig inni gydnabod a buddsoddi yn y celfyddydau fel elfen sy’n anhepgor ar gyfer gwead ein cymdeithas.
Rydym am bwyso ar Brifysgol Caerdydd i ailystyried eu penderfyniad. Mae rhaid inni gyd weithredu ar fyrder i sicrhau dyfodol ble caiff pob person ifanc yng Nghymru gyfle i elwa o’r celfyddydau, er mwyn sicrhau bod gwaddol diwylliannol ein cenedl, gafodd ei meithrin yn y gorffennol gan bobl fel Alun Hoddinott, yn parhau i ffynnu am genedlaethau i ddod.”
Mae CCIC mewn cysylltiad â'n haelodau niferus o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.
"Ar hyn o bryd rydw i yn fy ail flwyddyn israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, yn astudio cerddoriaeth. Mae'r cynnig i gau'r Ysgol Cerddoriaeth wedi effeithio'n fawr ar staff a myfyrwyr. Rydym i gyd yn ansicr sut mae'r dyfodol yn edrych nawr, ond rydym yn gwybod y byddwn yn teimlo effeithiau'r cau dros y flwyddyn nesaf. Mae'r ffaith bod y brifddinas yn colli ei hysgol gerddoriaeth yn ergyd enfawr."
Aelod CGIC
"Fel myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r Ysgol Cerddoriaeth wedi rhoi llawer o brofiadau gwerthfawr i mi drwy gydol fy nhaith. Mae'n newyddion torcalonnus y gallai ein cwrs cerddoriaeth yng Nghaerdydd dod i ben, ac yn sioc i bawb efallai na fydd myfyrwyr y dyfodol yn cael yr un cyfle hwn."
Aelod CGIC