Taith CCIC – O Aelod o'r Côr i Gynhyrchydd dan Hyfforddiant 

Bron i 10 mlynedd yn ôl, roeddwn i'n paratoi i fynychu fy nghwrs preswyl cyntaf ar gyfer  Côr Hyfforddi Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn Nhrefynwy. Dyma oedd fy mhrofiad cyntaf o breswyliad, ac roeddwn i'n nerfus iawn. Mor nerfus nes i mi bron beidio â mynd.  

Nawr 10 mlynedd yn ddiweddarach, 7 preswyliad yn ddiweddarach, a gwell rheolaeth o'm nerfau, gallaf ddweud yn falch fy mod yn Gynhyrchydd dan Hyfforddiant ar gyfer Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Roedd fy mlynyddoedd cyntaf yn y Côr Hyfforddi yn rhan annatod o ddatblygiad fy sgiliau fel aelod o gôr a cherddor, a dyma ble ddysgais pa mor wahanol oedd canu corawl i fod yn unawdydd. Yn sydyn, nid oedd y canu mwyaf uchel – o ran tôn na lefel sain – yn cael ei ystyried yn 'drawiadol', ac ar ôl ychydig o ymarferion dysgais ystyr gair dirgel – asio. Byddai'r sgil newydd hon yn fy helpu i mewn corau niferus dros y blynyddoedd ac yn fy ngalluogi i werthfawrogi'r gerddoriaeth roeddwn i'n ei chreu gydag eraill. Gwelais fod hyn hefyd yn cael effaith gadarnhaol wrth weithio gyda chyfeilyddion cydweithredol, gan greu llawer mwy o gydbwysedd a phartneriaeth o fewn perfformiadau.  

Y preswyliad hwn hefyd oedd y tro cyntaf i mi fod i ffwrdd o gartref am wythnos, ac fe ddaeth hynny â'i heriau a'i wersi am gyfrifoldeb hefyd. Byddwn wrth fy modd yn gallu dweud fy mod i'n ddigon synhwyrol i gael digon o gwsg bob nos, ond roedd y profiad newydd o rannu ystafell gysgu gyda 4 arall yn llawer rhy gyffrous! Wrth edrych yn ôl, mi faswn yn argymell cael cymaint o gwsg â phosibl... 

Roedd graddio i Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gam mawr. Roeddwn i'n dal yn ifanc, dim ond yn 16, ond roeddwn i'n teimlo fy mod yn cael fy nhrin fel rhywun proffesiynol. Nid yn unig roedd y dyddiau’n hirach a'r gerddoriaeth yn anoddach, ond roedd y disgwyliadau ohonom fel oedolion ifanc i fod yn brydlon ac yn ddisgybledig yn cynyddu. Fodd bynnag, gyda hyn daeth mwy o ymdeimlad o gymuned a pherthyn. Roedd gweithio o ddydd i ddydd i lunio rhaglen amrywiol o arddulliau ac ieithoedd gyda'n gilydd yn fraint, ac fe helpodd i greu cysylltiadau cadarn sydd wedi datblygu i gyfeillgarwch a chysylltiadau gydol oes ledled y wlad. Nawr ble bynnag y byddaf yn mynd, byddaf bob amser yn gweld wyneb cyfeillgar cyfarwydd ym mhob prosiect neu ddigwyddiad gwaith, sy'n dangos bod CCIC wir yn cynhyrchu ac yn meithrin talent Cymru’r dyfodol! 

Megan Jones

Yn ystod fy nghyfnod fel aelod o'r Côr, roeddwn i'n ffodus i weithio gyda rhai arweinwyr anhygoel – gan gynnwys Carlo Rizzi, Tim Rhys-Evans a Nia Llewellyn Jones. Roedd Nia yn hynod ysbrydoledig i mi, a hithau’n camu i rôl yr oeddwn yn draddodiadol wedi'i gweld yn cael ei meddiannu gan ddynion. Mae pob un wedi dysgu pethau i mi sydd wedi effeithio'n gadarnhaol ar y ffordd rwy'n perfformio, ond yn bwysicach fyth y ffordd rwy'n meddwl am gerddoriaeth. Deall testun yw fy mlaenoriaeth gyda darn newydd, waeth beth fo'r iaith. Yn ddiddorol, Saesneg yn aml yw'r anoddaf i'w dehongli ac mae angen yr un faint o amser a manylder ag unrhyw iaith arall! 

Roedd yr arweinydd Tim Rhys-Evans, sydd wedi bod yn arwain y côr ers fy mlwyddyn gyntaf (ac yn dal i fynd!) yn ddylanwad enfawr arnaf yn ystyried cerddoriaeth fel gyrfa. Doeddwn i erioed wedi ystyried gwneud cais am gonservatoires nes iddo fy annog i roi cynnig arni yn fy Nghlyweliad CCIC yn 2019. Byddaf am byth yn ddiolchgar i Tim am fy nghyflwyno i'r posibilrwydd o yrfa yn y celfyddydau ac agor y drws i mi astudio gradd Baglor mewn Cerddoriaeth mewn Astudiaethau Lleisiol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Rwy’n teimlo’n hynod ddiolchgar i CCIC am roi’r cyfleoedd hyn i mi dyfu a llwyddo

Fe arweiniodd y Côr hefyd i mi gymryd rhan mewn rhai cyfleoedd anhygoel, megis perfformio nifer o gomisiynau, gan gynnwys 'Sorrows of the Somme' gan Brian Hughe, a ysgrifennwyd i goffáu'r milwyr Cymreig a laddwyd ym mrwydr Coed Mametz. Ffefryn arall oedd perfformio yn Stadiwm Principality i agor gêm rygbi Cymru v Lloegr, lle enillon ni! Efallai bod angen cefnogaeth CCIC ar dîm Cymru eto?  

Fodd bynnag, uchafbwynt fy amser yn y Côr oedd y cydweithrediad rhwng y Côr a'r Gerddorfa yn ôl yn 2018. Fe wnaethon ni berfformio Salmau Chichester Bernstein mewn lleoliadau anhygoel ledled Cymru, gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Henffordd, Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Neuadd Dewi Sant. Mae'n parhau i fod y darn mwyaf mawreddog o waith i mi gael y pleser o weithio arno erioed. Dyma hefyd fy mhrofiad cyntaf o ganu gyda cherddorfa, a oedd, er yn fyddarol, yn wahanol i unrhyw beth roeddwn i erioed wedi'i brofi o'r blaen! Fe roddodd gyfle i mi gaffael sgil newydd a'm paratoi i ddechrau'r dasg fwy brawychus o waith unigol. 

Pan adawais y Côr yn 2023, roedd yn anodd delio â'r ffaith fy mod wedi colli rhywbeth a oedd wedi bod yn rhan ohonof ers blynyddoedd. Roeddwn mor lwcus y cefais wahoddiad yn ôl yr haf canlynol i berfformio yng nghyngerdd pen-blwydd yn 40 fel rhan o Gôr o gyn aelodau. Fe berfformiais ochr yn ochr â ffrindiau, tiwtoriaid, staff a llu o unigolion anhygoel sydd wedi cael eu heffeithio gan CCIC. 

Yn yr un flwyddyn, cefais hefyd y pleser o wirfoddoli a dod yn gynorthwyydd cwrs ar gyfer prosiect Assemble, profiad newydd arall i mi feithrin sgiliau ac archwilio llwybr gyrfa wahanol yn y celfyddydau. Roedd y prosiect hwn yn gam allweddol i ennill profiad a magu hyder yn fy sgiliau ac yn y pen draw rhoddodd yr hwb olaf i mi wneud cais am y rôl Cynhyrchydd dan Hyfforddiant. 

Yn fy nghyfnod byr yn y swydd, rwyf eisoes wedi profi a dysgu cymaint am y gwaith o gynhyrchu'r preswyliadau, ac mae fy mhrofiadau blaenorol fel aelod wedi bod yn amhrisiadwy wrth wneud penderfyniadau a myfyrio ar ba newidiadau roeddwn i am eu gweld fel aelod. O ran sgiliau, mae fy hyder yn fy sgiliau Cymraeg wedi gwella'n sylweddol diolch i ethos dwyieithog CCIC, yn ogystal â'r gwelliant amlwg yn fy sgiliau TG yn rhinwedd fy rôl. Rwyf eisoes wedi profi llawenydd taith glyweliad 2025, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael profi'r preswyliad o safbwynt Cynhyrchydd. 

Wrth fyfyrio ar y 10 mlynedd diwethaf, rwy'n hynod falch o'r hyn rydw i wedi'i gyflawni, ac rwy'n teimlo'n hynod ddiolchgar i CCIC am roi'r cyfleoedd hyn i mi dyfu a llwyddo. Mae'n amlwg bod y cyfleoedd a'r profiadau rhyfeddol a roddwyd i mi wedi fy arwain at rôl Cynhyrchydd dan Hyfforddiant a byddant yn fy helpu i barhau yn fy natblygiad proffesiynol am flynyddoedd i ddod. 

Ymlaen i'r 10 mlynedd nesaf, be bynnag a ddaw! 

Post blog gan Megan Jones, CCIC Cynhyrchydd Dan Hyfforddiant

Next
Next

Adolygiad Dawns Cymru – Ymateb gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru