Y Genhedlaeth Nesaf o Berfformwyr o Gymru ar  Fin Cychwyn Profiad Hyfforddi Bythgofiadwy 

Fis Awst yma, bydd hanner cant o berfformwyr ifanc o bob cwr o Gymru yn ymuno ag ymarferwyr proffesiynol o fyd y llwyfan a’r sgrin ar gyfer preswyliad haf Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) 2025. 

Bydd y perfformwyr a’r gwneuthurwyr theatr (rhwng 16 a 22 oed) yn cael blas ecsgliwsif ar greu gwaith ar gyfer y llwyfan a’r sgrin, drwy sgriptio, dyfeisio gwaith, yn ogystal ag archwilio sgiliau a swyddi eraill o fewn y diwydiannau creadigol, megis disgrifio sain ac integreiddio hygyrchedd i mewn i gynyrchiadau. Yn ddiweddarach eleni bydd aelodau ThCIC hefyd yn archwilio adrodd straeon ymdrochol, gydag ail breswyliad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, cyn teithio i 'r Wyddgrug am breswyliad pedwar dydd gyda’n partneriaid Theatr Clwyd yn hwyrach yn y flwyddyn. 

Gyda chefnogaeth gan Ganolfan S4C Yr Egin – Canolfan Greadigol a Digidol Sir Gaerfyrddin – bydd preswyliad haf 2025 yn cynnig mewnwelediad dwys i fyd perfformio -ar y llwyfan ac oddi arno. Gyda chydweithredu â Theatr Cymru a Ffilm Cymru, bydd y rhaglen yn rhoi i aelodau fynediad at hyfforddiant disglair dan arweiniad rhai o ymarferwyr mwyaf cyffrous y diwydiant. Yn eu plith, cyfarwyddwyr llwyfan, cynllunwyr sain, cyfarwyddwyr corfforol, rheolwyr llwyfan, cyfarwyddwyr llais, yn ogystal ag arbenigwr hygyrchedd a disgrifio sain. 

Mae tîm creadigol y preswyliad yn cynnwys: Y Dramodydd a Chyfarwyddwr Jennifer Lunn, y Cyfarwyddwr Corfforol a Choreograffydd; Annie-Lunnette Deakin-Foster, sydd wedi gweithio’n helaeth gyda Theatr Clwyd a’r Royal Shakespear Company, a chyn aelod o ThCIC a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, Steffan Donnelly, a fydd yn rhoi mewnwelediad i ystafell ymarfer y cynhyrchiad ar ddod, Romeo a Juliet, yn ogystal â Phennaeth Llais adran Actio CBCDC, Alice White. Bydd Ffilm Cymru hefyd yn arwain ar weithdai ac yn amlygu’r llwybrau hyfforddi sy’n bodoli o fewn y diwydiannau sgrin yng Nghymru. 

Meddai Gruffydd Roberts o Yr Egin S4C: “Rydym yn hynod falch i weithio mewn partneriaeth a chefnogi Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru eto eleni. Mae meithrin talent y dyfodol yn un o amcanion pwysicaf Yr Egin ac rydym yn ymroddedig i chwarae rhan yn natblygiad creadigol artistiaid a phobl ifanc ei’n sir a’n gwlad. Mi fydd croesawu’r holl bobl ifanc i'r ganolfan i ddatblygu a chydweithio yn hynod gyffrous ac edrychwn ymlaen yn fawr iawn at eu croesawu unwaith eto.” 

Bydd aelodau’n mireinio sgiliau perfformio hanfodol ac yn dod i wybod am y diwydiant drwy gyfnod preswyl cyfeillgar a hynod gefnogol. Dyma gyfle i berfformwyr ifanc ddysgu, gweithio a chymdeithasu gyda’i gilydd mewn awyrgylch ddwyieithog, gyda chefnogaeth tîm lles profiadol.  

Mae’r rhaglen wedi’i chefnogi gan Gymru Greadigol, gyda’r nod o gyflwyno elfen hyfforddi craidd: 

  • Crefft y Llwyfan a’r Sgrin  

  • Llawenydd Creu  

  • Llwybrau+  

  • Cefn Llwyfan a Sgiliau Sgrin  

  • Lab 50  

Dwedodd Megan Childs, Cynhyrchydd Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Phennaeth Theatr:  “Y rhan orau o fy swydd yw’r wefr o weld gweithwyr proffesiynol yn rhannu eu crefft gyda’r bobl ifanc  sydd yn llunio dyfodol y celfyddydau yng Nghymru. Bydd rhaglen eleni mor ysbrydoledig ac erioed i aelodau ThCIC ac ymarferwyr fel ei gilydd. Mae derbyn cefnogaeth gref gan ein canolfannau partneru a chwmniau sydd yn agor eu drysau a’u modd hymarfer  i aelodau ifanc ymroddedig TCIC yn gwarantu cyfnod preswyl unigryw gan CCIC yn llawn darganfod, creu a chwarae. Allwn ni ddim aros i gychwyn…” 

Y tu hwnt i weithdai a sesiynau creadigol, mae’r preswyliad yn gyfle i ffurfio cyfeillgarwch, cydweithio a bod yn rhan o gymuned glos a chefnogol. Bydd aelodau hefyd yn derbyn mentoriaeth gan gyn-aelodau ThCIC, gan gefnogi’r genhedlaeth nesaf o’r tu mewn. 

Meddai aelod CCIC 2025, Elliea: "Rwy'n gyffrous iawn i barhau i greu cysylltiadau ac archwilio'r theatr o lens unigryw a Chymreig. Y peth mwyaf cyffrous am y prosiect hwn yw sut mae'n dod â phob ardal o Gymru at ei gilydd ac yn ein huno mewn rhywbeth y mae pob un ohonom yn ei fwynhau, sef celf a mynegiant.”

Cadwch mewn cysylltiad wrth i ni ddilyn siwrneiau’r perfformwyr ifanc, disglair yma. Dilynwch ThCIC ar Instagram ac ein cyfrif TikTok dan arweiniad aelodau. 

Next
Next

Haf o Gerddoriaeth 2025 – BPCIC a CCIC Teithiau’n Cychwyn Wythnos Yma!