Dawns Ragorol a Grëwyd yng Nghymru: Ballet Cymru a Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn Cyflwyno Bil Triphlyg yr Hydref
Bydd Ballet Cymru yn cynnal cydweithrediad cyffrous â Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) gyda bil triphlyg ar y cyd yng Nghanolfan Glan-yr-Afon, Casnewydd, ddydd Iau 30 a dydd Gwener 31 Hydref.
Yn arddangos tri darn o waith byr anhygoel gan goreograffwyr o'r radd flaenaf, bydd y noson yn cynnwys Momentum – Undone gan Marcus Jarrell Willis, Cyfarwyddwr Artistig Phoenix Dance Theatre, sy'n adnabyddus am ei gyfuniad nodedig a ddi-dor o hiwmor a cherddoriaeth. Bydd Cyfarwyddwyr Artistig Ballet Cymru, Darius James OBE ac Amy Doughty, yn cyflwyno creadigaeth newydd sbon, Woven, yn arbennig ar gyfer y rhaglen hon.
Gan ddathlu 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, mae'r dawnswyr ifanc yn dychwelyd fel gwesteion arbennig am y drydedd flwyddyn yn olynol, gan berfformio The Night is Darkest Just Before The Dawn gan y coreograffydd enwog Yukiko Masui. Dyma ddarn sy'n arddangos symudiad pwerus, gan gyfuno dawns Gyfoes, Hip Hop, a Chrefft Ymladd. Mae'r darn yn cael ei ddisgrifio fel teyrnged i 'gefnogwyr tawel' - pobl sy'n sefyll wrth ein hochr yn ystod adegau tywyllaf ein bywyd ac yn ein cefnogi heb gydnabyddiaeth.
Wrth siarad am y darn, meddai Masui: “Fe ysbrydolwyd y darn gan gymeriad yr archarwr, cymeriad hynod bwerus ond mae’n gweithio gyda’r nos, yn y tywyllwch. Does dim sbotolau arno, ond mae’n gwneud pethau dros bobl eraill ac yn hynod bwerus pan does neb yn gwylio.”
U.Dance National Festival 2025 at Sadler’s Wells East presented by One Dance UK, photo Dance Photographer UK/Point of View Photography.
Dan gyfarwyddiad Yukiko Masui a Jamie Jenkins, Pennaeth Dawns Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mae’r cwmni wedi cael ei feithrin drwy amrywiaeth o ddosbarthiadau; megis techneg, archwilio creadigol, dosbarthiadau lles, a mentoriaeth, gyda’r rhan helaeth dan arweiniad cyn aelodau DGIC.
Dwedodd Carlie, o Gastell-nedd, aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2025: "Mae'n Hydref o'r diwedd ac mae hynny'n golygu mai dim ond ychydig wythnosau sydd i fynd tan berfformiad DGIC ac ni allwn aros! Rwy'n gyffrous am y perfformiad hwn oherwydd ein bod ni'n cael rhannu'r llwyfan gyda'r anhygoel Ballet Cymru. Mae'r perfformiad yma’n teimlo'n arbennig iawn, gan fod y cwmni’n dod at ei gilydd i berfformio yng Nghymru, yn cynrychioli ein gwlad, gan rannu ein hangerdd a'n gwaith caled gyda'r gynulleidfa. Rydym yn gobeithio eich gweld chi i gyd yno yn Theatr Glan-yr-Afon Casnewydd ar 30 a 31 Hydref!"
Dywedodd Jack, o Abertawe aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2025: “Dw i mor gyffrous cael perfformio unwaith eto gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru ym mis Hydref. Mae’n gyfle anhygoel, cael rhannu’r llwyfan gyda dawnswyr mor dalentog a pherfformio gwaith gan y coreograffydd Yukiko Masui. Ni allaf aros i ddod â’n holl waith caled yn fyw a rhannu’r profiad arbennig yma gyda’r gynulleidfa. Dw i mor falch o fod yn ddawnsiwr gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru.”
Yn ystod yr haf, daeth cwmni Pen-blwydd DGIC yn 25 at ei gilydd yng Nghaerdydd ar gyfer preswyliad pythefnos o hyd. Nod y preswyliad oedd creu ac ymarfer fersiwn estynedig o’r gwaith cyn mynd i Sadler’s Wells East, Llundain, i’w berfformio am y tro cyntaf ochr yn ochr â National Youth Dance Company Scotland a National Youth Dance Company. Roedd y gynulleidfa gyfan ei thraed yn cymeradwyo.
Archebwch eich tocynnau heddiw, ar gyfer eich cyfle olaf i weld y perfformiad arbennig yma. Mae tocynnau’n costio rhwng £17 ac £20, gyda chonsesiynau ar gael.
U.Dance National Festival 2025 at Sadler’s Wells East presented by One Dance UK, photo Dance Photographer UK/Point of View Photography.