Beyond the Mirror: Rhaglen ddogfen feiddgar gan aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn herio safonau harddwch y diwydiant dawns

Trwy ei rhaglen ddogfen Beyond the Mirror, mae Aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) 2025, Phoebe Clark, yn rhoi llais i ddawnswyr ifanc sy'n benderfynol o ailddiffinio'r diwydiant dawns. Wedi'i wreiddio yn ei phrofiadau personol, mae'r rhaglen ddogfen yn herio safonau harddwch niweidiol ac yn grymuso dawnswyr ifanc i gofleidio’u gwerth y tu hwnt i’r ffordd maent yn edrych. Gyda chefnogaeth DGIC – gofod lle mae artistiaid ifanc yn cael eu dathlu am bwy ydyn nhw – mae Phoebe yn annog eraill i ymuno mewn sgwrs sy'n dathlu dilysrwydd, gwytnwch a thalent.

 "Fe wnes i greu fy rhaglen ddogfen Beyond the Mirror fel rhan o fy nhraethawd hir yn y brifysgol, ond yn fuan iawn fe ddatblygodd yn llawer mwy na phrosiect academaidd. Roedd yn daith hynod bersonol; cyfle i herio normau'r diwydiant dawns a thanio symudiad tuag at newid."

Gan dynnu o'i phrofiadau ei hun – a phobl yn dweud y gallai ei phwysau a’r ffordd y mae hi’n edrych gyfyngu ar ei siawns o lwyddo – daeth Phoebe o hyd i'r dewrder i siarad allan. Wrth wneud hynny, darganfu nad oedd hi ar ei phen ei hun.  

"Mae dawnswyr di-ri eraill wedi wynebu beirniadaeth a phwysau tebyg. Daeth Beyond the Mirror yn llwyfan i roi llais i'r straeon hyn ac i eirioli dros weledigaeth fwy cynhwysol, cefnogol a realistig o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddawnsiwr."  

Llun gan Sian Trenberth

"Mae DGIC bob amser wedi bod yn lle rydw i wedi teimlo'n wirioneddol ddiogel. Lle rwy’n cael fy ngwerthfawrogi a'm gweld, nid am sut rydw i'n edrych, ond am bwy ydw i a'r hyn rydw i'n ei gyfrannu fel artist. Mae gan y sefydliad awyrgylch teuluol sy'n blaenoriaethu rhinweddau mewnol: eich pwrpas, eich purdeb, eich talent a'ch personoliaeth, yn hytrach na'r ffordd rydych yn edrych neu sut rydych yn gwisgo. Pan oeddwn i'n 16 oed, ar adeg pan oeddwn i'n clywed pethau na ddylai unrhyw berson ifanc orfod eu clywed, fe ddaeth DGIC yn angor i mi. Fe wnaeth fy nghadw i ddawnsio. P'un a oeddent yn gwybod neu beidio, roedd y gefnogaeth a'r sicrwydd a gefais ganddynt yn fy atgoffa fy mod i'n dalentog ac yn deilwng, ac roedd hynny'n golygu popeth." 

Dywedodd Pennaeth Dawns Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Jamie Jenkins:

"Mae rhaglen ddogfen Phoebe yn adlewyrchiad pwerus a theimladwy iawn ar realiti llywio'r diwydiant celfyddydau perfformio gyda chyrff ac edrychiadau amrywiol. Mae ei gonestrwydd a'i dewrder wrth rannu ei thaith bersonol yn ddim llai nag ysbrydoledig. Trwy siarad allan gyda bregusrwydd a chryfder o'r fath, mae hi nid yn unig yn berchen ar ei stori ond hefyd yn goleuo'r ffordd i eraill sefyll i fyny, estyn allan, a herio ymddygiadau niweidiol. Yn DGIC rydym yn falch o hyrwyddo unigolrwydd, dathlu amrywiaeth, a meithrin cymuned lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu cefnogi a'u grymuso i fod yn union pwy ydyn nhw." 

Llun gan Sian Trenberth

"Eleni, rwy'n edrych ymlaen at gysylltu gyda rhagor o ddawnswyr, gweithio gyda'r coreograffydd Yukiko Masui, a mynd â'n darn i Lundain ar gyfer perfformiad yn Sadler's Wells East. Mae'n gyfle rhyfeddol. Rwy'n edrych ymlaen at hyfforddi ochr yn ochr ag unigolion o'r un anian ac ymgolli mewn amgylchedd sy'n llawn talent eithriadol ac angerdd a rennir." meddai'r Dawnsiwr, Perfformiwr, ac Athrawes, Phoebe Clark. 

Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn dathlu 25 mlynedd yn 2025 ac fe wnaethom ni ddathlu gyda pherfformiad arbennig yn Saddler’s Wells East ar 25 Gorffennaf - cafwyd cymeradwyaeth fyddarol a’r gynulleidfa gyfan ar ei thraed. Mae'r ensemble dawns yn dychwelyd i Gymru am ddau berfformiad yn The Riverfront, Casnewydd, ar 30 ac 31 Hydref, gyda Ballet Cymru. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, cliciwch yma

Darllenwch fwy am ddathliadau DGIC yn 25

Gwyliwch raglen ddogfen Phoebe…

Next
Next

Dawns Ragorol a Grëwyd yng Nghymru: Ballet Cymru a Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn Cyflwyno Bil Triphlyg yr Hydref