Aelodau BPCIC i gynrychioli Cymru ym Mand Pres Ieuenctid Ewrop 2026
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn hynod gyffrous i gyhoeddi bod tri aelod o Fand Pres Cenedlaethol Cymru (BPCIC) – Dylan Savage, Matthew Slade ac Elis Jones – wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru fel rhan o’r 22ain Band Pres Ieuenctid Ewrop a fydd yn cyfarfod eleni yn Linz, Awstria.
Bob blwyddyn, mae Cymdeithas Bandiau Pres Ewrop yn dod â rhai o gerddorion pres ifanc gorau Ewrop ynghyd i ffurfio Band Pres Ieuenctid Ewrop, sy'n cwrdd ac yn ymarfer gyda'i gilydd am wythnos yn unig cyn perfformio sawl cyngerdd, gan gynnwys un fel rhan o Bencampwriaethau Bandiau Pres mawreddog Ewrop. Mae'r Band wedi gweithio gyda llawer o arweinwyr blaenllaw ym myd y Band Pres, gan gynnwys arweinwyr blaenorol BPCIC, Erik Janssen a Philip Harper, sy'n dychwelyd i arwain BPCIC eleni. Eleni, bydd yr arweinydd hynod brofiadol o Awstria - Karl Geroldinger - yn arwain Band Pres Ieuenctid Ewrop am yr eildro, ar ôl eu harwain am y tro cyntaf yn 2010.
Mae cerddorion yn mynd trwy sawl cam yn y broses ddethol gyda phob aelod-wlad yn enwebu ychydig o gerddorion i'w cynrychioli yn gyntaf. Mae'r cerddorion hyn wedyn yn cyflwyno fideos "clyweliad" ar gyfer y dewis terfynol. Mae Cymru wedi cael cynrychiolaeth dda ym mhob un o’r Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop blaenorol, ac rydym wrth ein boddau bod pob un o'n tri enwebiad wedi'u dethol ar gyfer aelodaeth unwaith eto. Bydd Dylan sy'n chwarae cornet, Matthew ar y Bariton ac Elis ar y Bas, i gyd yn teithio i Linz ym mis Ebrill.
Dywedodd Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd a Dirprwy Brif Weithredwr CCIC: "Mae Dylan, Matthew ac Elis nid yn unig yn gerddorion gwych, ond maen nhw hefyd wedi dangos ymroddiad i'w bandiau lleol ac wrth gwrs i Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru dros nifer o flynyddoedd. Rwy'n falch iawn bod y tri wedi cael eu dewis i ymuno â Band Pres Ieuenctid Ewrop a does gen i ddim amheuaeth y byddant yn cynrychioli eu hunain, eu bandiau a Chymru yn wych. Bydd yn gyfle arbennig iddyn nhw berfformio ochr yn ochr â cherddorion o gymaint o wahanol wledydd a chefndiroedd, ac edrychwn ymlaen at glywed yr hanes i gyd pan fyddan nhw'n dychwelyd i CCIC yn yr haf."
Mae Bandiau Pres Cymru, fel cynrychiolydd Cymru ar Gymdeithas Bandiau Pres Ewrop, yn chwarae rhan allweddol wrth alluogi’r cyfleoedd hyn i gerddorion ifanc. Bob blwyddyn mae’r sefydliad yn gyfrifol am gydlynu enwebiadau’r chwaraewyr talentog hyn o Gymru i gymryd rhan ym Mand Ieuenctid Pres Ewrop, gan helpu i sicrhau bod y wlad yn cael ei chynrychioli ar y llwyfan rhyngwladol mawreddog hwn. Yn ogystal â chydlynu’r enwebiadau, mae Bandiau Pres Cymru ar hyn o bryd yn codi arian i helpu i dalu costau teithio’r tri chynrychiolydd o Gymru, yn ogystal â ffioedd aelodaeth Cymdeithas Bandiau Pres Ewrop, er mwyn sicrhau nad yw rhwystrau ariannol yn atal y cerddorion ifanc rhagorol hyn rhag cymryd rhan yn y profiad cerddorol unigryw unwaith mewn oes hwn.
“Mae Bandiau Pres Cymru yn dymuno pob llwyddiant i Dylan, Matthew ac Elis, ac yn gobeithio y byddant yn cael profiad gwych ac ysbrydoledig wrth gynrychioli Cymru ar lwyfan Ewrop. Mae Bandiau Pres Cymru hefyd yn dymuno pob llwyddiant i’r cynrychiolwyr o Gymru sy’n cystadlu yn y Pencampwriaethau eu hunain - Band Ieuenctid Biwmares ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop a Band Tref Tredegar ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Ewrop - wrth iddynt gynrychioli Cymru yn y digwyddiad rhyngwladol mawreddog hwn.” - Graham Howe, Bandiau Pres Cymru
Cyn i Dylan, Matthew ac Elis ymuno â'u cyfoedion o bob cwr o Ewrop, fodd bynnag, byddant yn ymuno â'u cyd-aelodau o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2026 yn ystod gwyliau'r Pasg ar gyfer eu hymarferion cyntaf o raglen gyffrous eleni.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf ac i ddilyn taith anhygoel ein llysgenhadon BPCIC, gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol - @nationalyouthartswales a @nationalyouthbrassbandofwales.