Cyflwyno Arweinwyr CCIC 2026
Arweinwyr CCIC 2026: Philip Harper (chwith), Tim Rhys Evans (canol) a Andrew Gourlay (dde)
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi enwau’r arweinwyr a fydd yn arwain ensembles cerddorol Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru dros yr haf!
Gyda chlyweliadau wedi'u cwblhau ac aelodaeth 2026 wedi'i gadarnhau, mae'r llwyfan bellach yn barod ar gyfer Haf o Gerddoriaeth cyffrous arall sy'n cynnwys rhai o'r cerddorion ifanc gorau o bob rhan o Gymru.
Mae Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) yn falch iawn o groesawu Philip Harper yn ôl fel ei arweinydd yr haf hwn. Mae Philip, a weithiodd gyda'r Band y tro diwethaf yn 2022, yn un o'r arweinwyr mwyaf dylanwadol ym myd y bandiau pres ac wedi arwain y Cory Band i lwyddiant digynsail ers cymryd yr awenau yn 2012. Yn adnabyddus am gynnal ymarferion egnïol ac am ei arweinyddiaeth ysbrydoledig, mae Philip yn gwybod sut i gael y gorau o aelodau'r Band ac mae'n cynllunio rhaglen amrywiol sy'n cyfuno gwaith cystadleuaeth heriol gyda darnau cyngerdd difyr.
Mae cyn-fyfyriwr Côr Cenedlaethol Cymru (CCIC), Tim Rhys-Evans MBE, yn dychwelyd i arwain ei gyn-gôr dros yr haf. Mae’r cydweithrediad yma, sydd yn mynd o nerth i nerth ers dros wyth mlynedd wedi gweld y Côr yn datblygu ac yn tyfu. Mae Tim wedi bod ar flaen y gad ym maes canu corawl yng Nghymru ers dros 20 mlynedd ac mae'n angerddol am gefnogi cantorion ifanc – fel y ddengys trwy ei waith fel sylfaenydd Elusen Aloud ac Only Boys ac Only Kids Aloud. Yn gyn-ganwr proffesiynol ei hun, mae Tim yn cyfuno dawn gerddorol wych â gwybodaeth helaeth o dechneg leisiol. Mae ganddo enw da iawn am greu mannau cefnogol a phwerus sy’n rhoi lle i gantorion ifanc dyfu mewn hyder a sgiliau.
Mae aelodau CCIC bob amser yn rhoi perfformiadau egnïol o ansawdd uchel o weithiau corawl traddodiadol a mwy cyfoes ac mae’n sicr fydd yr haf hwn yn parhau yn yr un ffordd dan arweinyddiaeth Tim.
Yn 2026, mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) yn gyffrous i groesawu Andrew Gourlay i arwain y Gerddorfa mewn blwyddyn nodedig wrth i ni ddathlu ei phen-blwydd yn 80 oed.
Wedi'i ganmol gan The Guardian fel "seren newydd", mae Andrew wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel arweinydd a gydnabyddir yn rhyngwladol gydag arddull ddeinamig, gydweithredol. Mae wedi arwain yn helaeth ledled y byd gan gynnwys llawer o brif gerddorfeydd y DU ac Ewrop ac mae'n arweinydd rheolaidd yn Proms y BBC. Mae Andrew yn eiriolwr angerddol dros gerddorfeydd ieuenctid ac mae wedi arwain Cerddorfeydd Ieuenctid Cenedlaethol Awstralia, Columbia ac Iwerddon yn ogystal â NYOGB.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn edrych ymlaen yn fawr ato’n arwain CGIC mewn blwyddyn mor arwyddocaol ac, fel cyn-trombonydd proffesiynol, gallwch fod yn dawel eich meddwl ei fod wedi rhaglennu rhaglen wych (gyda digon o offerynnau pres) y bydd ein haelodau a'n cynulleidfaoedd yn ei mwynhau'n fawr yr haf hwn!
Cofrestrwch i gylchlythyr CCIC i gael eich hysbysu pan fydd ein cyngherddau haf yn mynd ar werth.