NEWYDDION

National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Diwrnodau Darganfod Gwerin a Jazz i Gerddorion Ifanc ledled Cymru

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi Diwrnodau Darganfod Gwerin a Jazz RHAD AC AM DDIM ledled Cymru ym mis Mawrth, gan gynnig y cyfle i gerddorion ifanc 14–22 mlwydd oed ddod o hyd i'w sain!

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi Diwrnodau Darganfod Gwerin a Jazz RHAD AC AM DDIM ledled Cymru ym mis Mawrth, gan gynnig y cyfle i gerddorion ifanc 14–22 mlwydd oed ddod o hyd i'w sain! 

Wedi'i gynllunio ar gyfer cerddorion o Gradd 4 ac uwch, mae'r gweithdai undydd hyn yn darparu amgylchedd hwyliog, cynhwysol a chefnogol i brofi cerddoriaeth werin a jazz gyda cherddorion eraill.  

Dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, bydd y Diwrnodau Darganfod yn cyflwyno'r cyfranogwyr i sylfeini gwerin a jazz trwy weithdai ymarferol, chwarae grŵp ac archwilio creadigol, gan orffen y diwrnod gyda sesiwn rhannu anffurfiol i rieni a gofalwyr. 

Dywedodd Cynhyrchydd Gwerin a Jazz Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Angharad Jenkins: “Mae'r Diwrnodau Darganfod hyn yn ymwneud â throchi eich traed i mewn i genre newydd a darganfod ffyrdd newydd o wneud cerddoriaeth gydag eraill. Rydym ni’n croesawu cerddorion clasurol ifanc sy'n chwilfrydig i archwilio genres newydd, yn ogystal â chwaraewyr traddodiadol talentog o bob cefndir a diwylliant nad ydynt efallai wedi dilyn llwybr cerddoriaeth glasurol. Mae gwerin a jazz yn arddulliau cerddoriaeth hynod groesawgar, creadigol, waeth beth fo'ch cefndir cerddorol neu brofiad blaenorol. Dewch draw i roi cynnig ar rywbeth newydd!"  

Hoffai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru annog cerddorion o bob cefndir cerddoriaeth draddodiadol i gymryd rhan yn y Diwrnodau Darganfod ym mis Mawrth – p'un a yw eich cefndir yn Werin Cymreig, neu unrhyw draddodiad cerddoriaeth byd arall, bydd y sesiynau hyn yn hwyl i bawb! 

Cyflwynir y rhaglen gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan gryfhau llwybrau i bobl ifanc yng Nghymru ddarganfod cyfleoedd datblygu yn eu teithiau cerddorol. 
 
Mae lleoedd yn rhad ac am ddim ond yn gyfyngedig, felly mae angen cadw lle ymlaen llaw.  

Am ddyddiadau a lleoliadau, ac i gofrestru, ewch i: www.ccic.org.uk/digwyddiadur

 

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Diwrnod Darganfod Dawns yn dod i Theatr Clwyd ym mis Mawrth

Mae pobl ifanc 12–22 mlwydd oed sydd ag angerdd am ddawns yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad cyffrous Diwrnod Darganfod Dawns, sy’n cael ei gyflwyno gan Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) mewn partneriaeth â Theatr Clwyd, Ballet Cymru a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, ddydd Sul 1 Mawrth 2026. 

Mae pobl ifanc 12–22 mlwydd oed sydd ag angerdd am ddawns yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad cyffrous Diwrnod Darganfod Dawns, sy’n cael ei gyflwyno gan Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) mewn partneriaeth â Theatr Clwyd, Ballet Cymru a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, ddydd Sul 1 Mawrth 2026

Yn rhedeg o 10.30AM - 3PM, bydd y diwrnod hwyliog, cynhwysol a diddorol hwn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr archwilio ystod eang o weithgareddau dawns, darganfod arddulliau newydd a gweithio ochr yn ochr ag artistiaid dawns proffesiynol mewn amgylchedd cefnogol a chroesawgar. Yn agored i bob lefel profiad a chefndir dawns, mae'r diwrnod wedi'i gynllunio i ysbrydoli chwilfrydedd, magu hyder a dathlu creadigrwydd. 

P'un a ydych chi'n newydd i ddawns neu'n ymarfer yn rheolaidd eisoes, mae’r Diwrnod Darganfod Dawns yn cynnig cyfle unigryw i gysylltu â sefydliadau dawns blaenllaw yng Nghymru, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a chwrdd â phobl ifanc eraill sy'n rhannu cariad at symud. 

Mae uchafbwyntiau Diwrnod Darganfod Dawns yn cynnwys: 

  • Archwilio arddulliau dawns newydd 

  • Gweithio gydag artistiaid dawns proffesiynol 

  • Awyrgylch hwyliog, cynhwysol a chefnogol 

  • Yn agored i bob arddull ddawns a lefel profiad 

Manylion y digwyddiad 
Lle? Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug 
Pryd? Dydd Sul 1 Mawrth 2026 
Amser? 10.30AM - 3PM

Cofrestrwch heddiw trwy ccic.org.uk/digwyddiadur

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â jamiejenkins@nyaw.org.uk

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i ddarganfod, creu a dawnsio gyda DGIC, Ballet Cymru a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yng Ngogledd Cymru. 

 

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

PREMIÉRE: Dathlu 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn dathlu 25 mlynedd anhygoel o roi cyfleoedd dawns i ddawnswyr ac artistiaid ifanc o bob cwr o Gymru. I ddathlu maen nhw wedi creu rhaglen ddogfen fer i nodi'r achlysur. 

Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn dathlu 25 mlynedd anhygoel o roi cyfleoedd dawns i ddawnswyr ac artistiaid ifanc o bob cwr o Gymru. I ddathlu maen nhw wedi creu rhaglen ddogfen fer i nodi'r achlysur. 

Ers 2000, mae DGIC wedi cefnogi cannoedd o ddawnswyr ifanc, gan eu helpu nhw i wireddu eu potensial a datblygu eu sgiliau dawns, eu lleisiau creadigol, a'u talent. A hynny drwy weithio gyda choreograffwyr blaenllaw, ymarferwyr a gwneuthurwyr rhagorol, a drwy berfformio ar lwyfannau a sgriniau ledled Cymru a thu hwnt. Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae cannoedd o bobl ifanc wedi cael y cyfle i hyfforddi, creu a rhannu eu cariad at ddawns trwy raglenni DGIC. 

DGIC, Sadler’s Wells (2025)

Nawr, gallwch gael cipolwg y tu ôl i'r llen drwy’r rhaglen ddogfen newydd: National Youth Dance Wales: Celebrating 25 Years sy'n cael ei dangos am y tro cyntaf ar AM, sef cartref digidol Cymru i ddiwylliant Cymru. Wedi'i ffilmio gan On Par Productions, gallwch ddisgwyl uchafbwyntiau, effaith ac atgofion gan ddawnswyr ddoe a heddiw. 

"Gwnaeth Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru i mi ddeall.... sut i weithio'n galed iawn, ond hefyd i garu'r hyn rydych chi'n ei wneud." - Anthony Matsena, Cyn-fyfyrwyr DGIC 2014-16 

Dyddiad? Dydd Mercher 28 Ionawr 
Amser? 7.00–7.15pm 
Ble? Ar-lein ar blatfform digidol AM 

P'un a ydych chi wedi bod yn aelod o DGIC, wedi dilyn eu perfformiadau, neu yn syml iawn wrth eich bodd â dawnsio, dyma'ch cyfle i ddarganfod taith sefydliad dawns ieuenctid y genedl a dathlu ei effaith ar ddawnswyr o bob cwr o Gymru.  

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn lansio clyweliadau ar gyfer ensemble Blwyddyn ei Phen-blwydd yn 50 oed

Mae Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru (ThGIC) yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed eleni gyda chomisiwn theatr dwyieithog uchelgeisiol newydd ‘State of the Youth Nation’.

Mae Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru (ThGIC) yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed eleni gyda chomisiwn theatr dwyieithog uchelgeisiol newydd ‘State of the Youth Nation’. Bydd aelodau ThGIC 2026 yn cydweithio â dramodydd adnabyddus i ddatblygu cynhyrchiad llwyfan newydd beiddgar gydag elfen gerddorol gref. 

Bydd cwrs preswyl blynyddol yr haf yn gorffen gydag arddangosfa o olygfeydd allweddol a darnau cerddorol fydd yn dod yn fyw ar y llwyfan yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf cyn cael ei ddatblygu ymhellach ar gyfer taith yn 2027.  

Ochr yn ochr â datblygu cynhyrchiad blaenllaw, bydd aelodau ThGIC 2026 yn perfformio yng Ngala Pen-blwydd 50 oed ThGIC a chymryd rhan yn y Noson Sgratsh ThGIC gyntaf erioed, gan arddangos eu sgiliau creu theatr eu hunain. 

Yn ystod mis Mawrth ac Ebrill, bydd Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynnal taith clyweliad 12 dyddiad hyd a lled Cymru - o Fangor i Aberystwyth, Wrecsam i Gasnewydd a thu hwnt i'r daith bydd yn sicrhau bod perfformwyr ifanc o bob rhan o'r wlad yn cael y cyfle i ddisgleirio.  Bydd y clyweliad tair awr ar ffurf gweithdy, dan arweiniad panel o weithwyr proffesiynol theatr, yn caniatáu i berfformwyr ifanc deimlo'n hyderus i archwilio a darganfod eu potensial a'u talent.  
 
Mae ThGIC hefyd yn cynnal Gweithdy Blasu Clyweliad rhad ac am ddim gyda chymorth gan Ganolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, ddydd Sul 15 Chwefror, 1–3pm, yn gwahodd pobl ifanc 16–22 mlwydd oed sydd â diddordeb mewn perfformio i "Roi cynnig arni!" trwy weithdy cyfeillgar, ymarferol sy'n cyflwyno hanfodion clyweliad. Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn gweithio ar lais a symudiad, yn ennill technegau adeiladu hyder, ac yn derbyn awgrymiadau arbenigol ar ddewis a chyflwyno areithiau clyweliadau a monologau. 

Dal Gafael (2024)

Pwy ydyn ni’n chwilio amdano? 

Perfformwyr ymroddedig ac angerddol 16–22 mlwydd oed sy’n byw neu astudio'n llawn amser yng Nghymru neu wedi'u geni yng Nghymru ac yn edrych i gymryd y cam nesaf ar eu taith theatr. 
Efallai eich bod chi yn: 

  • Astudio drama neu berfformio yn yr ysgol neu'r coleg; 

  • Hyfforddi yn yr ysgol ddrama a pharatoi ar gyfer y cam nesaf; 

  • Ymwneud â theatr ieuenctid neu theatr gerddorol;  
    neu 

  • Yn berson creadigol angerddol sydd â diddordeb mewn adrodd straeon, creu theatr neu sgiliau cefn llwyfan. 

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynnig clyweliadau rhad ac am ddim i unrhyw un nad ydynt yn gallu fforddio'r ffi clyweliad o £25, heb unrhyw gwestiynau. Mae ein Cronfa Bwrsariaeth hefyd yn helpu i dalu ffioedd aelodaeth, fel nad oes neb yn cael eu hatal rhag gwneud cais am resymau ariannol. 

Beth mae ein haelodau yn ei ddweud? 

"Peidiwch â bod ofn rhoi chi eich hun allan yna, mae pawb yn eich cefnogi chi ac eisiau i chi ddysgu a thyfu." 

"Mae'n glyweliad cyfeillgar iawn. Ychydig oriau o adeiladu a gweithio cyn mynd i weld panel i wneud eich araith.” 

 

Mae Eich Llwyfan yn Aros - Dathlwch 50 mlynedd o Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru a helpu i lunio dyfodol theatr Cymru. Trefnwch glyweliad heddiw. 

Am ddyddiadau clyweliadau a mwy o wybodaeth, ewch i nyaw.org.uk/nytw-2026

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyhoeddi Osian Meilir fel Coreograffydd Gwadd 2026

Rydym ni’n gyffrous i gyhoeddi y bydd Cyn-fyfyriwr Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC), coreograffydd, artist symud a'r perfformiwr o Gymru, Osian Meilir, yn ymuno â DGIC fel Coreograffydd Gwadd ar gyfer 2026.

Rydym ni’n gyffrous i gyhoeddi y bydd Cyn-fyfyriwr Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC), coreograffydd, artist symud a'r perfformiwr o Gymru, Osian Meilir, yn ymuno â DGIC fel Coreograffydd Gwadd ar gyfer 2026.

Osian Meilir

Yn wreiddiol o Orllewin Cymru, mae Osian yn cyfuno cariad dwfn at ddawns werin o Gymru â symudiad cyfoes, gan ddod ag ymdeimlad cyfoethog o hunaniaeth, cymuned a straeon diwylliannol i'w waith. 

Mae creadigaethau’r cyn-fyfyriwr DGIC    sydd wedi graddio o Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance wedi teithio ledled y DU ac yn rhyngwladol - o lwyfannau'r ŵyl Ten Days on the Island yn Awstralia, i berfformiadau yn Biennale de la Danse Lyon.  

Roedd Osian Meilir yn aelod o Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru rhwng 2014 - 16 o dan Gyfarwyddyd Artist Errol White, ac yn ddiweddarach Kerry Nicholls. Yn ystod ei gyfnod gyda DGIC, perfformiodd Osian sawl darn nodedig gan gynnwys H3re gan y coreograffydd Odette Hughes, Scuse Me while I kiss the sky a goreograffwyd gan Theo Clinkard, ac aM a goreograffwyd gan Kerry Nicholls. 

Dywedodd Pennaeth Dawns a Chynhyrchydd, Jamie Jenkins: “Mae gwaith Osian yn dathlu hunaniaeth Gymreig drwy adrodd straeon beiddgar a choreograffi fynegiannol, gyffrous sy'n cysylltu cymuned a diwylliant. Rydym ni wrth ein bodd o'i groesawu yn ôl y tro hwn fel coreograffydd ysbrydoledig a deinamig sy'n barod i ymestyn, herio, a thanio creadigrwydd ein dawnswyr Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Allwn ni ddim aros i weld y gwaith effeithiol mae'n ei greu gyda nhw y flwyddyn nesaf.” 

Dywedodd Coreograffydd Gwadd DGIC 2026, Osian Meilir: “Rwy'n gyffrous iawn o fod yn creu gyda DGIC eleni. Gan fy mod yn gyn-aelod o'r cwmni fy hun, rwy'n gwybod pa mor bwysig ac addysgiadol oedd y blynyddoedd hynny o hyfforddiant yn fy natblygiad fel dawnsiwr ifanc. Rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod a gweithio gyda dawnswyr ifanc anhygoel Cymru ac i fod yn ôl fel rhan o deulu DGIC.”

Ar gyfer cwmni DGIC 2026, bydd Osian yn arwain cydweithrediad creadigol, gan arwain rhai o ddawnswyr ifanc eithriadol Cymru trwy daith gyffrous o hyfforddiant, creu a pherfformio. O dan ei gyfarwyddyd, bydd y dawnswyr yn archwilio ieithoedd symudiadau newydd, yn dyfnhau eu hunaniaeth artistig ac yn ymuno i greu gwaith beiddgar, gwreiddiol a fydd yn cael ei ddangos am y tro cyntaf ar y llwyfan, yn ogystal ag ar ffilm ledled Cymru mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a safleoedd treftadaeth. 

Allwn ni ddim meddwl am ffordd well o ddathlu'r genhedlaeth nesaf o ddawns Gymreig na thrwy bartneriaeth â chyn-gyn-fyfyriwr ac artist y mae ei ymrwymiad i ddiwylliant, cymuned a mynegiant creadigol yn adleisio gwerthoedd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. 

Croeso yn ôl, Osian — mae dy lwyfan yn aros! 

Mae ceisiadau ar gyfer Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru ar agor ar hyn o bryd ac yn cau ar yr 11 o Chwefror. I gael rhagor o wybodaeth am glyweliad ar gyfer DGIC, cliciwch yma

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynnig Gweithdy Blasu Clyweliadau Rhad ac am Ddim gyda Chefnogaeth Canolfan Mileniwm Cymru

Yn galw ar yr holl berfformwyr ifanc yn Ne Cymru sy'n edrych i gymryd eu cam cyntaf i ddod yn aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru!

Yn galw ar yr holl berfformwyr ifanc yn Ne Cymru sy'n edrych i gymryd eu cam cyntaf i ddod yn aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru!  

Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) wedi cyhoeddi Gweithdy Blasu Clyweliadau rhad ac am ddim - ddydd Sul 15 Chwefror, 1–3pm, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd - gan roi cyfle i berfformwyr ifanc baratoi ar gyfer clyweliad.  

Mae'r sesiwn yn gwahodd pobl ifanc 16–22 mlwydd oed sydd â diddordeb mewn perfformio i "Roi Cynnig Arni!" trwy weithdy cyfeillgar, ymarferol sy'n cyflwyno hanfodion clyweliad. Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn gweithio ar lais a symudiad, yn ennill technegau adeiladu hyder, ac yn derbyn awgrymiadau arbenigol ar ddewis a chyflwyno areithiau clyweliadau a monologau. 

Bydd y rhai sydd wedi cadw lle hefyd yn cwrdd ag aelodau diweddar ThCIC, gan gynnig cipolwg uniongyrchol ar yr ensemble a'i broses clyweliad. 

Bydd clyweliadau i ymuno â ThCIC fel aelod yn ei 50fed flwyddyn yn digwydd ledled Cymru ym mis Mawrth ac Ebrill – gyda dyddiadau taith clyweliadau i'w lansio ar 14 Ionawr 2026. Os ydych chi'n caru perfformio ac eisiau cymryd y cam nesaf o gael clyweliad i'r ensemble, mae ThCIC yn annog pobl ifanc i fynd amdani.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim i fynychu, ac nid oes angen unrhyw brofiad clyweliad blaenorol. Mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae'r trefnwyr yn annog cadw lle’n gynnar. 

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gefnogi'n garedig gan Ganolfan Mileniwm Cymru.

Read More
Charlotte Moult Charlotte Moult

Mae Bwrsariaethau yn Agor Drysau i Bobl Ifanc ar Ledled Cymru

Bob blwyddyn, mae pobl ifanc ledled Cymru yn darganfod eu sbarc - cariad at gerddoriaeth, theatr, neu ddawns sy'n teimlo'n fwy nag unrhyw beth maen nhw wedi'i wybod. Ond i lawer, mae eu sbarc yn cael ei ddiffodd cyn iddo gael cyfle i dyfu. 

Costau teithio. Ffioedd cwrs. Gwisgoedd. Amser i ffwrdd o gartref.

Gall rhwystrau sy'n ymddangos yn fach ar bapur fod yn amhosibl mewn gwirionedd. Ac yn rhy aml, mae artistiaid ifanc gwych yn cael eu gadael yn sefyll ar y tu allan, yn gwylio cyfleoedd yn mynd heibio iddynt. 

Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) rydym ni’n credu y dylid meithrin talent - nid ei gyfyngu gan amgylchiadau. 

A dyna lle mae ein cynllun bwrsariaeth yn newid popeth. 

 

Pam Mae Bwrsariaethau yn Bwysig 

Mae'r cynllun bwrsariaeth yn llawer mwy na chymorth ariannol. Mae'n neges i bobl ifanc: 

"Rydych chi'n perthyn yma. Mae eich creadigrwydd yn bwysig. Mae eich dyfodol yn werth buddsoddi ynddo." 

Mae'n sicrhau nad yw cefndir person ifanc byth yn pennu eu dyfodol artistig - eu hangerdd sy'n gwneud hynny. 

Nid moethusrwydd yw'r celfyddydau, i lawer o bobl ifanc, maen nhw'n achubiaeth. Ffynhonnell o hyder. Lle i berthyn. Pan fydd bwrsariaeth yn agor drws, mae'n agor byd. 

Llun: Kirsten McTernan (2025)

Y Gwahaniaeth Mae Un Cyfle yn ei Wneud 

Mae ymuno a ensemble CCIC yn aml yn drobwynt. 

Mae pobl ifanc yn hyfforddi gyda thiwtoriaid ysbrydoledig, yn perfformio ar lwyfannau proffesiynol, yn adeiladu cyfeillgarwch gydol oes, ac yn darganfod eu gwydnwch a'u hunan-gred eu hunain. Maen nhw’n dychwelyd i'w cymunedau gyda hyder newydd, sgiliau newydd, ac ymdeimlad o'r newydd o'r hyn sy'n bosibl iddynt. 

Ac mae'r cyfan yn dechrau gyda rhywun yn eu helpu i gamu drwy'r drws. 

 

Creu Dyfodol Tecach a Mwy Disglair i Gymru 

Pan fydd pobl ifanc yn ffynnu'n greadigol, mae Cymru'n ffynnu. 

Rydym ni’n gweld cymunedau cryfach. 

Lleisiau mwy amrywiol yn ein gofodau diwylliannol. 

Sector creadigol sy'n adlewyrchu Cymru gyfan — nid dim ond y rhai sy'n gallu fforddio cael mynediad iddi. 

Mae'r cynllun bwrsariaeth yn buddsoddi yn nyfodol creadigrwydd Cymru, un person ifanc ar y tro. 

 

Yr Effaith Eleni 

Diolch i haelioni ac ymrwymiad cefnogwyr, partneriaid a chyllidwyr: 

  • Fe wnaeth 61% o'n haelodau - mae hynny’n 166 allan o 272 o bobl ifanc - dderbyn cymorth bwrsariaeth. 

  • Fe wnaeth 95 o bobl ifanc dderbyn bwrsariaeth lawn, gan wneud eu cyfranogiad yn bosibl. 

  • Rhoddwyd cyfanswm o £81,627 mewn cymorth ariannol - cynnydd sylweddol o'r £73,496 y llynedd, sy'n adlewyrchu'r angen cynyddol a'r gefnogaeth gynyddol. 

Y tu ôl i bob un o'r niferoedd hyn mae person ifanc a gafodd ddweud ie - wrth eu talent, eu potensial, a’u dyfodol. 

 

Sut y Gall Pobl Helpu

Bydd CCIC bob amser yn gweithio i gael gwared ar y rhwystrau mae pobl ifanc yn eu hwynebu - ond ni allwn ni wneud hynny ar ein pen ein hunain. 

Mae pob cyfraniad, waeth beth fo'i faint, yn helpu person ifanc yng Nghymru i gymryd cam yr oedden nhw o bosib yn credu ei fod yn amhosibl. Mae'n helpu i sicrhau nad yw cost byth yn rhwystro talent. Ac yn bwysicaf oll, mae'n dangos i berson ifanc bod eu creadigrwydd yn cael ei werthfawrogi. 

Os ydych chi'n fodlon cefnogi ein cynllun bwrsariaeth, byddwch yn helpu i agor y drws i'r genhedlaeth nesaf o artistiaid o Gymru. 

Gyda'n gilydd, gallwn gadw'r drysau hynny ar agor. 

Gyda'n gilydd, gallwn helpu talent i ddisgleirio. 

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Harlequin Print Group yn cyhoeddi cefnogaeth i Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn falch o gyhoeddi bod Harlequin Print Group yn noddwr a chynghreiriad newydd deinamig.

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn falch o gyhoeddi bod Harlequin Print Group yn noddwr a chynghreiriad newydd deinamig. 

Dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: "Mae Harlequin Print Group yn rhannu ein gweledigaeth o Gymru lle gall pob person ifanc ffynnu drwy weithgareddau creadigol a chydweithredol. Maent yn ein helpu i hyrwyddo cyfleoedd i fwy o bobl ifanc, ac i ddathlu ensembles ieuenctid cenedlaethol enwog Cymru. Roedd y printiau fformat mawr a gynhyrchwyd ganddynt ar gyfer ein harddangosfa i ddathlu 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yng Nghasnewydd yn brydferth dros ben! Ar hyn o bryd rydym yn cydweithio â nhw i ddatblygu llyfr sy’n dathlu 25 Mlynedd o DGIC, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn y Gwanwyn."  

Fe wnaethom lansio arddangosfa 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yng Nglan yr Afon, Casnewydd, 30 a 31 Hydref yn nigwyddiadau triphlyg Ballet Cymru a Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at fynd â'r arddangosfa ar daith ledled Cymru yn ystod y misoedd nesaf. Mae lleoliadau i'w cadarnhau. 

"Mae'n bleser o’r mwyaf i ni gefnogi Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gyda'r nawdd hwn. Fel busnes yng Nghymru, mae hyn yn ein galluogi ni i gefnogi'r sefydliad yn ei waith yn meithrin a datblygu talent a chreadigrwydd pobl ifanc yng Nghymru heddiw." - Booie Sall, Cyfarwyddwr Harlequin Print Group. 

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd cynhwysol o ansawdd uchel i gerddorion, dawnswyr, actorion a gwneuthurwyr ifanc ledled Cymru, gan sicrhau na ddylai daearyddiaeth, incwm na chefndir byth fod yn rhwystrau i gymryd rhan yn y celfyddydau.  

Os hoffech gefnogi CCIC gyda chyfraniad ariannol i'n gwaith hanfodol yn y Celfyddydau yng Nghymru, cysylltwch â: tracymarshallgrant@nyaw.org.uk 

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Mwynhewch brynhawn bythgofiadwy o gerddoriaeth a chydweithio!

Ymunwch â ni ar gyfer cyngerdd arbennig lle bydd cerddorion ifanc talentog o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) yn perfformio 'ochr yn ochr' â chwaraewyr o'r radd flaenaf o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. 

Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru 'ochr yn ochr' (2023)

Ymunwch â ni ar gyfer cyngerdd arbennig lle bydd cerddorion ifanc talentog o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) yn perfformio 'ochr yn ochr' â chwaraewyr o'r radd flaenaf o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.  

Rhwng 28 a 30 Tachwedd, bydd aelodau CGIC yn ymuno â'u cymheiriaid proffesiynol o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i ymarfer a pherfformio rhaglen gyffrous o gerddoriaeth a fydd yn cynnwys Concerto Bartók ar gyfer Cerddorfa a Mistico gan Gwydion Rhys o CGIC! 

Bydd yr arweinydd Eidalaidd-Twrcaidd, Nil Venditti yn arwain y prosiect, ac fe gynhelir yr ymarferion a'r cyngerdd yn Neuadd Hoddinott, Canolfan Mileniwm Cymru. 

Ers 2001, mae'r prosiect dwyflynyddol hwn wedi cynnig cyfle prin i aelodau CGIC gamu i fyd cerddorfa broffesiynol a chael mewnwelediad a phrofiad amhrisiadwy. 

Meddai Dirprwy Brif Weithredwr ac Uwch Gynhyrchydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Matthew Jones: "Rydym yn gyffrous i fod yn cydweithio â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC eto ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn. Mae'r prosiect yn gyfle gwych i rai o uwch aelodau a’r aelodau mwyaf profiadol o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru; i weithio'n ddwys ar amserlen ymarfer arferol broffesiynol, eistedd wrth ymyl a dysgu gan gerddorion cerddorfaol proffesiynol profiadol a chwarae cerddoriaeth wych."   

Peidiwch â cholli'r cyfle, ddydd Sul 30 Tachwedd, i weld y genhedlaeth nesaf o dalent o Gymru yn rhannu'r llwyfan gyda rhai o gerddorion gorau'r genedl.  

Mae tocynnau ar werth ar sail Talwch Faint Gallwch gyda phris tocyn awgrymedig o £7.50 fel pris cyffredinol a £2.50 i’r rheiny sydd dan 25 oed. 

 

Rhaglen 

Copland Fanfare for the Common Man 

Gwydion Rhys Mistico 

Concerto Bartók ar gyfer Cerddorfa (Symudiadau I-IV yn unig) 

 

Perfformwyr 

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC 

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru 

Arweinydd: Nil Venditti 

 

Cyfansoddwyr 

Aaron Copland 

Gwydion Rhys 

Béla Bartók 

Read More
Charlotte Moult Charlotte Moult

Recriwtio Ymddiriedolwr: Chwilio am Hyrwyddwyr Celfyddydau Ieuenctid yng Nghymru

Wrth i ni barhau i ddatblygu ein portffolio, rydym yn chwilio am hyd at 4 o ymddiriedolwr a all ein helpu i arloesi, cryfhau sgiliau a thanlinellu ein heffaith.

Cynhyrchiad Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (2023) o ‘Dan Y Wenallt’. Llun gan Kirsten McTernan.

Ers 2017, mae CCIC wedi tyfu i gefnogi talent eithriadol ledled Cymru ym maes cerddoriaeth, theatr a dawns; wrth greu llwybrau hyfforddi sy'n galluogi pobl ifanc o bob cefndir i ddatblygu sgiliau a hyder mewn amgylchedd croesawgar a chydweithredol. Rydym yn cefnogi tua 2,000 o bobl ifanc bob blwyddyn.

Wrth i ni barhau i ddatblygu ein portffolio, rydym yn chwilio am hyd at 4 o ymddiriedolwr a all ein helpu i arloesi, cryfhau sgiliau a thanlinellu ein heffaith. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan:

• Siaradwyr Cymraeg

• Pobl sy'n byw neu'n gweithio yng nghanolbarth/gogledd Cymru

• Pobl o gefndiroedd sydd wedi'u tangynrychioli yn sectorau creadigol Cymru ar hyn o bryd, megis y rhai sy'n byw gydag anabledd, o'r Mwyafrif Byd-eang neu o gefndir incwm isel.

Yn ogystal â'r rhai sydd â:

• Arbenigedd cyfreithiol

• Profiad codi arian

• Sgiliau marchnata a lobïo

Rydym hefyd yn gwerthfawrogi darpar ymddiriedolwyr sydd â dealltwriaeth o un neu fwy o sectorau ein gwaith creadigol ac sydd wedi ymrwymo i gefnogi cenedlaethau'r dyfodol.

SUT I WNEUD CAIS

I fynegi diddordeb mewn dod yn Ymddiriedolwr, anfonwch CV a llythyr byr at nyaw@nyaw.org.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer y rownd recriwtio hon yw 1 Tachwedd 2025.

Read More
News National Youth Arts Wales News National Youth Arts Wales

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn lansio prosiect Eich Dyfodol Creadigol sy’n dod â gweithdai Cerddoriaeth a Dawns am ddim i bobl ifanc Blaenau Gwent a Thorfaen

Mae’r fenter uchelgeisiol traws-sector sy’n cael ei harwain gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a’i hariannu gan Grant Arloesi Tlodi Plant Llywodraeth Cymru yn lansio ddydd Sadwrn yma yn ne ddwyrain Cymru.

Mae’r fenter uchelgeisiol traws-sector sy’n cael ei harwain gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a’i hariannu gan Grant Arloesi Tlodi Plant Llywodraeth Cymru yn lansio ddydd Sadwrn yma yn ne ddwyrain Cymru. 

Nod Eich Dyfodol Creadigol yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb dwfn sy’n bodoli mewn mynediad i gyfleoedd lles a chreadigol i bobl ifanc dan anfantais yn Nhorfaen a Blaenau Gwent – dwy o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru o ran cyfleoedd.  

Gan gydweithio â sawl partner, gan gynnwys Ballet Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Cerdd Gwent, byddwn yn cynnig cyfres o weithdai am ddim a gynlluniwyd ar y cyd, i bobl ifanc 10-18 oed, rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Mawrth 2026, a hynny mewn sawl canolfan. 

Dywedodd Louise Prosser o Ballet Cymru: “Mae Ballet Cymru wrth ei bodd yn gweithio mewn partneriaeth â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i ddod â sesiynau dawns a cherddoriaeth difyr, hygyrch a chyffrous  i chwe chymuned newydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gysylltu â phobl ifanc, tanio creadigrwydd, a datblygu cysylltiadau parhaol drwy brosiect Eich Dyfodol Creadigol.” 

Dywedodd Linton o Gerdd Gwent: “Mae’n wych cydweithio â CCIC ar brosiect Eich Dyfodol Creadigol. O’r diwedd, rydym yn gweld cynllunio cydgysylltiedig drwy byramid addysg gerdd. Mae hwn yn brosiect gwerthfawr a fydd yn rhoi gymaint i’r disgyblion sy’n cymryd rhan!” 

Bydd y gweithdai dwy awr o hyd dan arweiniad gweithwyr proffesiynol o ddiwydiannau dawns, cerddoriaeth a chreadigol yn rhoi sgiliau canu, cyfansoddi, cynhyrchu cerddoriaeth, dawns a choreograffi, yn ogystal â sgiliau creadigol a lles i bobl ifanc yr ardal. Gall pobl ifanc ddewis cymryd rhan ym mhob un gweithgaredd neu ambell un. 

Dywedodd Bruna Garcia, Rheolwr Prosiect Eich Dyfodol Creadigol, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: "Mae mor bwysig bod pob person ifanc yn cael y cyfle i ddatblygu ei greadigrwydd a magu hyder. Mae Eich Dyfodol Creadigol yn ofod diogel lle gall pawb archwilio’u diddordeb mewn cerddoriaeth, dawns, a datblygu sgiliau gwerthfawr, a chael hwyl wrth wneud hynny!" 

 

Os ydych chi’n berson ifanc neu’n adnabod person ifanc rhwng 10 a 18 oed ac yn byw ym Mlaenau Gwent neu Dorfaen, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi... 
 

 Pam ymuno? 

  • Gweithiwch gyda gweithwyr proffesiynol blaenllaw o’r diwydiannau dawns, cerddoriaeth a chreadigol 

  • Dysgwch sgiliau newydd, gwnewch ffrindiau a magwch hyder 

  • Perfformiwch, dangoswch ac archwiliwch eich potensial creadigol 

  • Darperir lluniaeth 

A allech chi fod yn rhan o’n Panel Cynghori Ieuenctid? 

Rydym ni’n chwilio am grŵp o bobl ifanc amrywiol rhwng 14 a 18 mlwydd oed i helpu i lunio Dyfodol Creadigol a sicrhau bod y prosiect yn berthnasol ac yn hygyrch i'ch cymuned.    

Byddwch yn helpu i lunio dyluniad prosiectau, sicrhau hygyrchedd ac annog ymgysylltiad â'r gymuned. Yn ogystal â chynghori ar farchnata, a gweithredu fel llysgenhadon prosiect i'ch cyfoedion.   

Rydym ni’n credu y dylai llais ieuenctid fod yn ganolog i'r hyn rydyn ni'n ei wneud felly rydyn ni eisiau clywed gennych!   

  • Dweud eich dweud: Helpu i lunio prosiect cerddoriaeth a dawns cyffrous i bobl ifanc yn eich ardal chi.   
      

  • Ennill profiad: Sgiliau arweinyddiaeth, cynllunio digwyddiadau, gwneud penderfyniadau creadigol.   
      

  • Cael eich gwobrwyo: Teithio wedi’i dalu, lluniaeth wedi'i ddarparu, geirda ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol, taleb love to shop.   
      

  • Cael effaith: Dylanwadu ar sut mae gweithdai Dyfodol Creadigol yn edrych a sut rydym ni’n cyrraedd pobl ifanc.  

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Llongyfarchiadau enillwyr gwobrau Cerddorfa a Band Pres 2025

Bob blwyddyn ar ein preswyliadau, rydym yn dathlu ein cerddorion sy'n dangos yr addewid a'r ymroddiad mwyaf.

Bob blwyddyn ar ein preswyliadau, rydym yn dathlu ein cerddorion sy'n dangos yr addewid a'r ymroddiad mwyaf. Y tiwtoriaid adrannol sy'n penderfynu pwy sy'n derbyn pob gwobr yn ystod y cyfnodau preswyl.

Hoffai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru rhoi diolch i'r rhai sydd wedi rhoi arian i greu'r gwobrau hyn.

Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

  • Tlws Coffa John Childs

Dyfarnwyd i’r chwaraewr mwyaf addawol ar y cwrs preswyl eleni

Carys Wood

  • Gwobr David Mabey

Dyfarnwyd i’r chwaraewr sydd wedi gwella fwyaf ar y cwrs preswyl

Isla Hawkins

  • Tlws y Prif Gornet

Rhoddir gan Tony Small

Stephanie Jonas


Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru

  • Gwobr Haydn Davies

Dyfarnwyd i’r chwaraewr mwyaf addawol sy’n dal i fod ym myd addysg

Noah Harcourt-Smith

  • Gwobrau Irwyn Walters (Ffrindiau CGIC)

Dyfarnwyd i’r ddau chwaraewr llinynnol mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Tristan Xuan a Jemima Soper

  • Gwobr Wil Jones

Dyfarnwyd i’r chwaraewr chwythbrennau mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Sam Finch

  • Gwobr Goronwy Evans

Dyfarnwyd i'r chwaraewr pres mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Tom Evans

  • Gwobr Telyn Tony Moore

Dyfarnwyd i’r telynor mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Awarded to the most promising harpist at this year’s residency

Heledd Wynn-Newton

  • Gwobr Offerynnau Taro Tony Moore

Dyfarnwyd i’r chwaraewr offerynnau taro mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Carys Underwood

  • Gwobr y Tim Lles

Dyfarnwyd am gyfraniad cyffredinol i’r Cerddorfa

Gwydion Rhys

Llun gan Kirsten McTernan

Read More
News National Youth Arts Wales News National Youth Arts Wales

Mae Eich Llwyfan yn Aros Amdanoch! Clyweliadau Cerddoriaeth CCIC 2026 Nawr ar Agor

Mae clyweliadau ar agor yn swyddogol ar gyfer Band Pres, Côr a Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2026.

Mae clyweliadau ar agor yn swyddogol ar gyfer Band Pres, Côr a Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2026. Gwnewch gais nawr am eich cyfle i berfformio ochr yn ochr â cherddorion ifanc gorau Cymru! 

 
Beth allwch chi ei ddisgwyl fel aelod o CCIC? 

  • Hyfforddiant arbenigol gan gerddorion o’r radd flaenaf 

  • Perfformio mewn canolfannau ledled Cymru  

  • Gweithio gydag arweinwyr rhyngwladol o fri  

  • Gwneud Cymru'n falch trwy gynrychioli eich gwlad 

  • Gwneud ffrindiau oes ac atgofion am byth! 
     

Mae Eich Llwyfan yn Aros Amdanoch – Beth ydych chi’n aros amdano?

 
Dyddiad cau ar gyfer clyweliadau: 12 Hydref 2025 

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol - @nationalyouthartswales i gael diweddariadau. 

Llun gan James O’Driscoll (2025)

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

O'r Ystafelloedd Dosbarth i Ganol y Llwyfan: Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru  yn ysbrydoli perfformwyr ledled Cymru

Ar adeg pan fo'r sector Celfyddydau ledled Cymru yn wynebu pwysau ariannol ac ansicrwydd cynyddol, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi bod yn achubiaeth hanfodol i bobl ifanc greadigol.

Cyn-aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Niamh Moulton, yn cyflwyno ar y sioe deithiol. Llun: Kirsten McTernan

Ar adeg pan fo'r sector Celfyddydau ledled Cymru yn wynebu pwysau ariannol ac ansicrwydd cynyddol, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi bod yn achubiaeth hanfodol i bobl ifanc greadigol. Trwy gydol mis Chwefror a Mawrth 2025, fe wnaeth CCIC ymweld â 15 ysgol uwchradd, colegau a theatrau ieuenctid, gan ymgysylltu â dros 550 o fyfyrwyr 14-18 oed mewn gweithdai deinamig sydd wedi'u cynllunio i feithrin y genhedlaeth nesaf o berfformwyr.

Yn cael ei chyflwyno gan dîm ifanc o gyn-fyfyrwyr Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru (ThGIC) - llawer ohonynt ers hynny wedi adeiladu gyrfaoedd yn y celfyddydau - yn ogystal â darparu datblygiad sgiliau roedd Sioe Deithiol CCIC hefyd yn cyflwyno neges bwerus: ni ddylai cyfleoedd yn y celfyddydau cael eu cadw i ychydig o bobl, yn enwedig gan fod toriadau cyllid yn bygwth culhau'r llwybr.

Dywedodd Megan Childs, Cynhyrchydd Theatr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru:

"Roedd cyfarfod a siarad â myfyrwyr, arweinwyr cyrsiau ac athrawon o ysgolion, colegau a theatrau ieuenctid ledled Cymru yn fraint. Mae'r ymrwymiad i'r celfyddydau yn y sefydliadau addysgol hyn yn ysbrydoledig, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny yng Nghymru sy'n wynebu caledi economaidd go iawn a diffyg adnoddau. Heb os, does dim diffyg brwdfrydedd na thalent ymhlith pobl ifanc yng Nghymru ac yn ddi-os mae angen cefnogi gyda buddsoddiad a chyfleoedd i'r rhai sydd am astudio pynciau'r celfyddydau perfformio naill ai fel cymhwyster neu fel gweithgaredd allgyrsiol."

Mae'r Sioe Deithiol yn rhan o raglen Llysgenhadon newydd CCIC, sy'n cynnig cyfleoedd hyfforddi a hwyluso â thâl i gyn-aelodau ensemble ThGIC. Mae'r cyn-fyfyrwyr hyn nid yn unig yn arwain gweithdai ond hefyd yn rhannu eu teithiau eu hunain, gan ddangos i fyfyrwyr sut y gall cyfranogiad yn y celfyddydau arwain at yrfaoedd proffesiynol a datblygiad personol gydol oes.

Myfyriodd Niamh Moulton, aelod o CCIC 2017-2019 sydd bellach yn gweithio'n broffesiynol yn y celfyddydau:

"Roedd hi'n wych cael dweud wrth fyfyrwyr sydd â diddordeb yn y celfyddydau creadigol beth all Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ei gynnig iddyn nhw. Roedden nhw’r oedran perffaith i allu gwneud cais a chael clyweliad dros sawl blwyddyn wahanol, sy'n rhywbeth yr hoffwn i fod wedi'i wneud. Rwyf hefyd yn falch bod ysgolion yng Nghymru yr un mor angerddol ac awyddus am y celfyddydau ag yw CCIC - cam cadarnhaol i'r cyfeiriad gorau ar gyfer dyfodol y diwydiant."

Ychwanegodd Dafydd Leonard, sydd wedi bod yn rhan o CCIC ers 2019:

“Roeddwn i'n gweld yr awydd i gymryd rhan gan y myfyrwyr yn wirioneddol ysbrydoledig. Roeddwn i eisiau bod [yn llysgennad] oherwydd pa mor arbennig oedd fy amser gyda'r Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Roeddwn i eisiau rhoi gwybod i’r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol ifanc am sut y gallent gymryd rhan a chael profiad bythgofiadwy, yn union fel y gwnes i."

Mae un stop ar y Sioe Deithiol, Afon Taf, Troed y Rhiw, yn enghraifft berffaith. Rhannodd yr athrawes ddrama Miss Jones:

“Roedd y profiad yn amhrisiadwy i'n myfyrwyr, llawer ohonynt yn dod o ardal ddifreintiedig yn gyffredinol lle mae cyfleoedd yn y celfyddydau yn gyfyngedig. Fel yr unig athro Drama ers cymhwyso, rwyf wedi bod yn gweithio i adeiladu'r adran ddrama o'r gwaelod i fyny, gan ymdrechu i ddarparu cyfleoedd creadigol mewn cyfnod lle mae Addysg y Celfyddydau yn cael ei dan-ariannu'n gynyddol a lle nad yw’n derbyn digon o adnoddau. Roedd gweld y myfyrwyr yn ymgysylltu mor frwdfrydig â'r gweithdy a'r cyfleoedd o'u blaenau yn cadarnhau pa mor hanfodol yw'r celfyddydau wrth ysbrydoli hyder, creadigrwydd, a hunanfynegiant.

Llun: Kirsten McTernan

Mae cymryd rhan yn y celfyddydau perfformio yn cynnig llawer o fanteision i bobl ifanc, o datblygiad, manteision cymdeithasol ac emosiynol, twf academaidd a gwybyddol, lles corfforol a meddyliol a twf gyrfa a chyfleoedd. Er hyn, mae'r llwybrau yma yn gynyddol dan fygythiad. 

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Evan Dawson, alwad gref i weithredu mewn ymateb i fwy o doriadau arfaethedig i gyllid y celfyddydau yng Nghymru:

“Ni allwn fforddio bod y genhedlaeth sy'n gwylio o'r ymylon wrth i'n hetifeddiaeth ddiwylliannol a photensial ein hieuenctid gael eu mygu gan doriadau annoeth yn y gyllideb. Gadewch i ni hyrwyddo dadeni ym maes celfyddydau Cymru, nid yn unig er mwyn diwylliant ond er mwyn datblygiad cyfannol ein cymdeithas.  Mae ein plant yn haeddu Cymru lle mae eu mynegiadau creadigol nid yn unig yn cael eu clywed ond yn cael eu dathlu, lle mae eu cyfranogiad yn y celfyddydau yn cael ei ystyried yn rhan sylfaenol o'u twf a'n dyfodol ni ar y cyd.”  Darllenwch y datganiad llawn yma.

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer clyweliadau Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2025, ac yn cau dydd Iau 27 Mawrth. Bydd aelodau dethol yn elwa o dair rhaglen hyfforddi breswyl ddwys, partneriaethau â chwmnïau blaenllaw fel Theatr Clwyd a Chanolfan Mileniwm Cymru, a'r cyfle i lunio cynhyrchiad Pen-blwydd 2026 CCIC—i gyd wrth weithio'n ddwyieithog a meithrin cyfeillgarwch am oes. Bwcio cleweliad yma.

Wrth i Gymru wynebu penderfyniadau anodd ynghylch dyfodol cyllid y celfyddydau, mae ymrwymiad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i rymuso pobl ifanc yn y celfyddydau yn anfon neges glir: mae lleisiau creadigol ein pobl ifanc yn haeddu nid yn unig cael eu clywed—ond eu hyrwyddo.

Os hoffech chi ddarganfod sut y gallai rhoddion helpu i ddarparu cyfleoedd a mynediad i'r celfyddydau i bobl ifanc, cliciwch yma.

Read More
Charlotte Moult Charlotte Moult

Grymuso’r Genhedlaeth Nesaf o Gantorion o Gymru 

Mae rhaglen Sgiliau Côr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi’i chynllunio i helpu cantorion ifanc ledled Cymru i ddatblygu’r hyder â’r medrusrwydd i roi cynnig ar ystod eang o gyfleoedd lleisiol a chorol. O Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i ensembles sirol a thu hwnt, mae’r rhaglen yn darparu’r camau cyntaf i gantorion angerddol, ni waeth beth fo’u profiadau na’u hyfforddiant ffurfiol blaenorol. 

CCIC tîm Mason Edwards a Bruna Garcia yn Sgiliau Côr 2025

Mae rhaglen Sgiliau Côr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi’i chynllunio i helpu cantorion ifanc ledled Cymru i ddatblygu’r hyder â’r medrusrwydd i roi cynnig ar ystod eang o gyfleoedd lleisiol a chorol. O Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i ensembles sirol a thu hwnt, mae’r rhaglen yn darparu’r camau cyntaf i gantorion angerddol, ni waeth beth fo’u profiadau na’u hyfforddiant ffurfiol blaenorol. 

Yn ystod hanner tymor fe barhaodd Sgiliau Côr ar ei thaith o amgylch Cymru, gyda chwrs preswyl pedwar diwrnod a gynlluniwyd i ysbrydoli a datblygu cantorion ifanc 14–18 mlwydd oed. Cynhaliwyd y cwrs yn Llanbedr Pont Steffan Chwefror 24–27 ac fe ddaeth â thîm o arbenigwyr lleisiol a mentoriaid gwadd arbennig  ynghyd i feithrin talentau cerddorol y cyfranogwyr. 

Yn ystod y preswyliad, fe aeth cantorion ifanc brwd ati i fireinio’u techneg leisiol, eu theori gerddoriaeth a sgiliau clyweliad a hynny drwy gyfres o weithdai pwrpasol. Roedd gan y cwrs bwyslais hefyd ar greu cymuned a chysylltiad cymdeithasol, a bu sawl weithgaredd megis disgo distaw a gweithgareddau hwyliog eraill wedi’u cynllunio i helpu cyfranogwyr i fagu hyder a gwneud ffrindiau. 

Fel rhan o waith estyn allan y prosiect, fe gydweithiodd CCIC gyda Chynllun Cerddoriaeth Cenedlaethol Powys i ddarparu gweithdai blas cyn y preswyliad, gan gryfhau ei phresenoldeb yn y canolbarth, ac annog mwy o bobl ifanc i ymwneud â cherddoriaeth corol. 

Roedd rhieni yn canmol effaith Sgiliau Côr i’r cymylau: 

Cafodd [fy merch] amser anhygoel ac fe ddysgodd lawer o’i hamser yno. Ar ôl dysgu gymaint roedd [fy merch] yn awyddus i wybod os fydd unrhyw beth arall tebyg yn digwydd eleni” – Rhiant un o gyfranogwyr Sgiliau Côr   

“Roedden ni am ddweud diolch o galon i bawb am roi’r wythnos fwyaf anhygoel [i’n mab], gyda Sgiliau Côr. Roedd y perfformiad brynhawn yma mor hyfryd – wirioneddol drawiadol. Doedden ni methu credu’r hyn y cyflawnodd y grŵp mewn dim ond ambell i ddiwrnod – anhygoel!”   – Rhiant un o gyfranogwyr Sgiliau Côr   

Dwedodd Bruna Garcia, Swyddog Cyfranogi a Dysgu: 
“Roedd ein preswyliad Sgiliau Côr 2025 yn llwyddiant ysgubol! Dw i mor falch o’r holl bobl ifanc a ymunodd â ni, ac yn ddiolchgar i’n partneriaid a’n cyllidwyr anhygoel a’n helpodd ni i wneud y cyfan yn bosib!” 
 

Mae CCIC yn diolch o galon i’w cefnogwyr, gan gynnwys ABRSM a The Backstage Trust. Drwy eu cefnogaeth hael roedd Sgiliau Côr 2025 yn bosib. 

Gwyliwch uchafbwyntiau Sgiliau Côr 2025 yma 
 
Darganfyddwch ragor o wybodaeth am Sgiliau Côr yma 

Read More
Charlotte Moult Charlotte Moult

Cefnogi Chwaraewyr Llinynnol Ifanc Ledled Cymru

Mae “Llinynnau Ynghlwm”, rhaglen Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn parhau i gael ei rhoi ar waith ledled Cymru.

Mae “Llinynnau Ynghlwm”, rhaglen Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn parhau i gael ei rhoi ar waith ledled Cymru. Yn ystod mis Chwefror, fe groesawyd dros 50 o chwaraewyr llinynnol ifanc i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, ar gyfer diwrnod dwys ac uchelgeisiol o ddysgu cerddorol.

Mae’r fenter strategol hon ar gyfer cerddorion ifanc wedi’i hanelu at y rheiny sydd wedi cyflawni Gradd 5 ac yn uwch, ac fe gyflwynir mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Cerdd Powys. Mae Llinynnau Ynghlwm yn cynnig gofod datblygu cyfeillgar i gerddorion ifanc er mwyn cyfoethogi eu sgiliau a’u profiad cerddorol, tra’n gwneud ffrindiau newydd.

Drwy gydol y gweithdy, a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 15 Chwefror 2025, fe gydweithiodd y cyfranogwyr yn agos gyda thîm Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC), gan ganolbwyntio ar repertoire llinynnol a thechnegau chwarae, a mireinio’u sgiliau. Fe gefnogwyd y grŵp gan diwtoriaid o wasanaethau cerdd lleol a grŵp o Fentoriaid Cymheiriaid – cerddorion ifanc o CGIC.

Roedd y gweithdy hefyd yn cynnwys sesiwn werthfawr am broses glyweliadau ar gyfer ensembles cerdd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Arweiniwyd y sesiwn holi ac ateb gan Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd a Dirprwy Brif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru; tiwtoriaid sy’n rhan o baneli clyweliadau; a Mentoriaid Cymheiriaid sydd â phrofiad uniongyrchol o glyweliad.

Fe orffennodd y dydd gyda pherfformiad arddangos. Fe berfformiodd y cerddorion ifanc y repertoire yr oeddent wedi bod yn gweithio arno, o Mozart i Morfydd Owen. Roedd safon uchel y perfformiadau’n adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled bob un o’r cyfranogwyr drwy gydol y digwyddiad.


Dwedodd Matthew Jones: “Dyma ein hail flwyddyn o gynnal Llinynnau Ynghlwm, ac fe roedd yn wych gweld y dalent ifanc sy’n datblygu yng nghanolbarth Cymru a thu hwnt. Rydym ni’n gobeithio y bydd rhai o’r cerddorion a fu’n rhan o’r digwyddiad wedi’u hysbrydoli ac yn anelu at glyweld ar gyfer ein hensembles Ieuenctid Cenedlaethol yn y blynyddoedd sydd i ddod.”


“Roedd hwn yn gyfle wirioneddol wych. Diolch unwaith eto am yr hyn rydych yn ei wneud i’n plant ac i’r celfyddydau yng Nghymru.”  - Rhiant cyfranogwr Llinynnau Ynghlwm

 

“Diolch yn fawr am gynnal y digwyddiad, dw i’n gobeithio y bydd digwyddiadau rheolaidd eraill tebyg i chwaraewyr llinynnol ifanc yn Ne Cymru”  - Rhiant cyfranogwr Llinynnau Ynghlwm


Mae CCIC yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston,  A&B Cymru, ABRSM, Sefydliad Paul Hamlyn, yn ogystal â’i cyllidwyr craidd, Cyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol – mae eu cefnogaeth wedi gwneud Llinynnau Ynghlwm 2025 yn bosib.

 


“Llinynnau Ynghlwm” 2025 o gyfranogwyr o bob rhan o Gymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Ieuenctid Cymru i ymddangos ym Mand Pres Ewrop 2025

Mae'r tîm yn Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) yn falch iawn wrth i dri o'n cerddorion ifanc rhagorol baratoi i gynrychioli Ewrop ar un o'r llwyfannau mwyaf mawreddog i gerddorion pres ifanc. 

Mae'r tîm yn Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) yn falch iawn wrth i dri o'n cerddorion ifanc rhagorol baratoi i gynrychioli Ewrop ar un o'r llwyfannau mwyaf mawreddog i gerddorion pres ifanc. 

Mae Solomon (Sol) Maghur, sy'n chwarae'r Cornet, Gwen Howe ar y Trombôn Bas, a Sean Linton ar y Tiwba, wedi'u dewis i ymuno â Band Pres Ieuenctid Ewrop (EYBB) 2025. Bydd y triawd yn teithio i Stavanger, Norwy, ym mis Mai eleni i berfformio ochr yn ochr â chwaraewyr pres ifanc gorau Ewrop mewn wythnos o greu cerddoriaeth wefreiddiol a chyfeillgarwch. 

Mae cwrs preswyl EYBB yn gwireddu breuddwyd i lawer o gerddorion pres uchelgeisiol. I Sol, Gwen, a Sean, mae'n garreg filltir arwyddocaol yn eu teithiau cerddorol. Yn ystod yr wythnos, byddant yn ymarfer ac yn perfformio dan arweiniad arweinwyr o'r radd flaenaf, gan arwain at berfformiadau ysblennydd ym Mhencampwriaethau Band Pres Ewrop. Mae'r cyngherddau hyn, sy'n cynnwys Cyngerdd a Seremoni Agoriadol y Gala Mawr, yn addo bod yn uchafbwyntiau bythgofiadwy. 

Dywedodd Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd BPCIC: “Mae Sol, Gwen a Sean yn cynrychioli'r gorau o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae cael eu dewis ar gyfer Band Pres Ieuenctid Ewrop yn gyflawniad rhyfeddol ac yn adlewyrchiad o'u talent a'u hymroddiad eithriadol. Rydym ni wrth ein bodd o'u gweld yn cymryd y cam nesaf hwn ar eu taith gerddorol ac rydym yn hyderus y byddant yn ysbrydoli ac yn creu argraff ar gynulleidfaoedd yn Norwy a thu hwnt. 

 Mae'r EYBB, a sefydlwyd yn gynnar yn y 2000au, nid yn unig yn ddathliad o dalent gerddorol ond yn gyfle unigryw i gerddorion ifanc gysylltu, cydweithio a gwthio ffiniau eu celfyddyd. Bydd Sol, Gwen, a Sean yn ymuno â chyfoedion o bob rhan o Ewrop, gan greu cerddoriaeth sy'n croesi ffiniau ac yn gadael argraff barhaol. 

 Er bod y sêr ifanc hyn yn paratoi ar gyfer eu hantur Ewropeaidd, mae Band Pres Ieuenctid Cenedlaethol Cymru hefyd yn paratoi ar gyfer ei raglen gyffrous yn 2025. Bydd yr ymarferion yn dechrau ym mis Ebrill, ac yna bydd cwrs preswyl wythnos o hyd a thaith a fydd yn dod â pherfformiadau bythgofiadwy i gynulleidfaoedd ledled Cymru. Eleni, mae Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn croesawu arweinydd Cymreig poblogaidd iawn, Paul Holland.

 Am fwy o ddiweddariadau ac i ddilyn taith anhygoel y llysgenhadon ifanc hyn yng Nghymru, ewch i wefan CCIC. 

Read More