Diwrnod Darganfod Dawns yn dod i Theatr Clwyd ym mis Mawrth
Mae pobl ifanc 12–22 mlwydd oed sydd ag angerdd am ddawns yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad cyffrous Diwrnod Darganfod Dawns, sy’n cael ei gyflwyno gan Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) mewn partneriaeth â Ballet Cymru a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, ddydd Sul 1 Mawrth 2026.
Yn rhedeg o 10.30AM - 3PM, bydd y diwrnod hwyliog, cynhwysol a diddorol hwn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr archwilio ystod eang o weithgareddau dawns, darganfod arddulliau newydd a gweithio ochr yn ochr ag artistiaid dawns proffesiynol mewn amgylchedd cefnogol a chroesawgar. Yn agored i bob lefel profiad a chefndir dawns, mae'r diwrnod wedi'i gynllunio i ysbrydoli chwilfrydedd, magu hyder a dathlu creadigrwydd.
P'un a ydych chi'n newydd i ddawns neu'n ymarfer yn rheolaidd eisoes, mae’r Diwrnod Darganfod Dawns yn cynnig cyfle unigryw i gysylltu â sefydliadau dawns blaenllaw yng Nghymru, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a chwrdd â phobl ifanc eraill sy'n rhannu cariad at symud.
Mae uchafbwyntiau Diwrnod Darganfod Dawns yn cynnwys:
Archwilio arddulliau dawns newydd
Gweithio gydag artistiaid dawns proffesiynol
Awyrgylch hwyliog, cynhwysol a chefnogol
Yn agored i bob arddull ddawns a lefel profiad
Manylion y digwyddiad
Lle? Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Pryd? Dydd Sul 1 Mawrth 2026
Amser? 10.30AM - 3PM
Cofrestrwch heddiw trwy ccic.org.uk/digwyddiadur
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â jamiejenkins@nyaw.org.uk.
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i ddarganfod, creu a dawnsio gyda DGIC, Ballet Cymru a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yng Ngogledd Cymru.