O Lwyfannau Cymru i Sgriniau Hollywood: Ruth Jones yn Arwain Dathliadau wrth i Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru droi'n 50 oed

Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) yn lansio ymgyrch blwyddyn o hyd i nodi ei phen-blwydd, gan ddathlu hanner can mlynedd o greu theatr, creadigrwydd a chyfleoedd uchelgeisiol i bobl ifanc ledled Cymru.

Bydd ymgyrch ThCIC50: Ailgysylltu. Dathlu. Siapio’r dyfodol yn dod â chenedlaethau o gyn-fyfyrwyr, cyfranogwyr presennol, cefnogwyr a chynulleidfaoedd ynghyd i ddathlu'r cynyrchiadau, y bobl a'r straeon sydd wedi siapio'r sefydliad ers ei sylfaenu.

Yn lansio'r ymgyrch mae'r ysgrifennwr, actor a chynhyrchydd clodwiw Ruth Jones, un o gyn-fyfyrwyr enwocaf ThCIC, sy'n gwahodd cyn-fyfyrwyr o bob degawd i ailgysylltu â'r sefydliad a rhannu eu hatgofion, eu lluniau a'u straeon.

Dywedodd Ruth Jones, Cyn-aelod a Llysgennad Ymgyrch ThCIC:

"Ers dros 50 mlynedd, mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi bod yn fan lle mae siwrneiau'n cychwyn. Dyma le mae llawer ohonom yn dod o hyd i'n lle yn y theatr am y tro cyntaf, boed hynny ar y llwyfan, cefn llwyfan, yn yr ystafell ymarfer, yng nghadair y cyfarwyddwr, neu'n siapio'r gwaith y tu ôl i'r llenni.

"Nid sgiliau yn unig a ddysgodd ThCIC i ni. Fe osododd safon - cred mewn rhagoriaeth, proffesiynoldeb ac uchelgais - a'r hyder i'w gyflawni. Fe roddodd gymuned i ni ac fe wnaeth ein helpu ni i ddeall pa fath o weithiwr proffesiynol theatr yr oeddem am fod.

"Nawr, mae ThCIC yn ein gwahodd ni, ei gyn-fyfyrwyr, i fod yn rhan o'r hyn sy'n digwydd nesaf. Ailgysylltu â hen ffrindiau a chydweithwyr, dathlu'r profiadau a'n siapiodd ac, os gallwn, helpu i agor yr un drysau i'r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr theatr Cymru - ar y llwyfan, y tu ôl i'r llenni ac ym mhob rhan o’r theatr."

Ruth Jones gan Jordan Sheehy Videography

Am dros hanner can mlynedd, mae ThCIC wedi creu cynyrchiadau uchelgeisiol, meithrin talent ifanc a darparu cyfleoedd i bobl ifanc berfformio, cydweithio a datblygu eu sgiliau creadigol. Mae llawer o gyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus yn y theatr, teledu, ffilm a'r diwydiannau creadigol ehangach, tra bod nifer o rai eraill wedi mynd a’u profiadau ThCIC gyda nhw i bob rhan o fywyd.

O ailddehongliadau beiddgar o weithiau clasurol i gynyrchiadau newydd cwbl wreiddiol, mae ThCIC wedi creu celf fythgofiadwy sydd wedi dod yn rhan o stori theatr Cymru.

Y tu hwnt i'r sgiliau technegol a ddysgwyd, mae'r cynyrchiadau carreg filltir yma’n aros yn y cof am y cyfeillgarwch gydol oes a ffurfiwyd, yr hyder aruthrol a fagwyd a'r posibiliadau creadigol a roddwyd i filoedd o bobl ifanc.

Piblinell o Dalent Fyd-eang

Os edrychwch ar gredydau allforion diwylliannol mwyaf y DU fe welwch ôl ThCIC. Mae rhestr cyn-fyfyrwyr y sefydliad yn cynnwys pobl megis:

  • Matthew Rhys (The Americans, Perry Mason)

  • Rakie Ayola (The Pact, Anthony)

  • Michael Sheen (Good Omens, Frost/Nixon)

  • Morfydd Clark (The Lord of the Rings: The Rings of Power)

  • Russell T Davies (Doctor Who, It’s A Sin)

Y tu hwnt i'r enwau cyfarwydd ar y sgrin, mae ThCIC wedi helpu i siapio'r diwydiant theatr ehangach yng Nghymru a thu hwnt. Ymhlith y cyn-fyfyrwyr mae Manon Steffan Ros (nofelydd, dramodydd a darlledwraig) a Daniel Evans (Cyd-gyfarwyddwr Artistig y Royal Shakespeare Company), ochr yn ochr â chyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, ysgrifenwyr, cynllunwyr, addysgwyr ac arweinwyr celfyddydol sy'n gweithio ar ran y BBC, S4C a chwmnïau teithiol mawr y DU.

Fel rhan o'r dathliadau pen-blwydd, mae ThCIC yn lansio galwad cenedlaethol am straeon cyn-fyfyrwyr, atgofion o’r cynyrchiadau, lluniau, rhaglenni a deunydd archif, gan helpu i greu cofnod byw o bum degawd o greu theatr yng Nghymru.

Drwy gydol y flwyddyn, bydd yr ymgyrch yn rhannu straeon cyn-fyfyrwyr, yn dathlu cynyrchiadau nodedig ac yn creu cyfleoedd i gyn-fyfyrwyr a chyfranogwyr presennol gysylltu, rhannu profiadau a dathlu eu cyfraniad i fywyd diwylliannol Cymru.

Bydd y rhaglen pen-blwydd yn cloi gyda dathliad mawr yn ddiweddarach yn y flwyddyn a phrosiect perfformio sydd â’i ffocws ar y dyfodol yn ystod Haf 2027.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn lansio Cylch y Cyn-fyfyrwyr, rhwydwaith newydd i gyn-fyfyrwyr. Mae’r rhwydwaith wedi'i chynllunio i gryfhau cysylltiadau rhwng aelodau'r gorffennol a'r presennol, ochr yn ochr â Chronfa Chwarae Eich Rhan: 50 Mlynedd Arall, gan helpu i gefnogi dyfodol theatr yng Nghymru.

Dywedodd Megan Childs, Pennaeth Theatr a Chynhyrchydd Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru:

"Mae ThCIC bob amser wedi dod â phobl ifanc eithriadol at ei gilydd i greu theatr uchelgeisiol. Ers hanner can mlynedd rydyn ni wedi adrodd straeon anhygoel ar lwyfannau ledled Cymru tra’n helpu cenedlaethau o bobl ifanc i ddarganfod eu llais creadigol. Wrth i ni ddathlu'r garreg filltir hon, rydyn ni’n edrych ymlaen gyda'r un uchelgais: sef creu lle i hyd yn oed mwy o straeon gael eu hadrodd, mwy o leisiau gael gwrandawiad a mwy o bobl ifanc o bob cefndir a phob rhan o Gymru i ddarganfod eu bod yn perthyn i'n llwyfannau. Dyna'r dyfodol rydyn ni'n ei ddathlu a'r dyfodol rydyn ni'n ei adeiladu gyda'n gilydd."

Gwahoddir cyn-fyfyrwyr, cefnogwyr a ffrindiau ThCIC i ailgysylltu a dod yn rhan o'r dathliadau pen-blwydd trwy rannu eu straeon, atgofion a’u lluniau, a thrwy ymuno â chymuned gynyddol o gyn-fyfyrwyr ThCIC. Dilynwch @nationalyouththeatrewales a @nationalyouthartswales ar Instagram ac ewch i wefan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru - https://www.ccic.org.uk/thcic-50 i gael diweddariadau ar ymgyrchoedd, digwyddiadau pen-blwydd a ffyrdd o gymryd rhan. P'un a wnaethoch chi berfformio ar y llwyfan, gweithio y tu ôl i'r llenni neu gefnogi'r cwmni mewn unrhyw ffordd, mae ThCIC eisiau clywed eich stori.

Next
Next

Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn Comisiynu'r Dramodydd Bethan Marlow ar Gyfer Cynhyrchiad Pen-blwydd yn 50 oed