Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn Comisiynu'r Dramodydd Bethan Marlow ar Gyfer Cynhyrchiad Pen-blwydd yn 50 oed
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) wedi dechrau gweithio ar ddarn beiddgar, dwyieithog, lled-gair-am-air gan y dramodydd arobryn Bethan Marlow; darn sydd â lleisiau, straeon ac uchelgeisiau cenhedlaeth nesaf Cymru wrth ei galon.
Daw'r garreg filltir 50 mlynedd yma ar adeg o ffocws o'r newydd ar y math o Gymru yr ydym am ei hadeiladu a’r ffordd mae pobl ifanc eisiau i'w straeon gael eu hadrodd. I nodi hyn, bydd 25 o berfformwyr ifanc mwyaf addawol Cymru yn cydweithio gyda Bethan dros yr haf i ddatblygu cynhyrchiad uchelgeisiol newydd sy’n llawn cerddoriaeth ac sy’n adlewyrchu cyflwr y genedl. Bydd y cynhyrchiad yn mynd ar daith i lwyfannau Cymru yn ystod 2027.
Yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau'r ensemble a Bethan yr haf hwn bydd y cyfarwyddwr Hannah Noone a thîm creadigol ehangach. Eleni bydd y tîm yn cyflwyno rhagolwg ecsgliwsif o'r gwaith mewn datblygiad, gan gyflwyno detholiad o olygfeydd a darnau o’r gerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 30 Gorffennaf 2026.
Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau gyda chyfres o weithdai ar-lein wedi’u cynnal dros y misoedd diwethaf lle mae aelodau ThCIC a Bethan wedi dod i ’nabod ei gilydd a chydweithio i lunio'r gwaith hwn a'i hunaniaeth.
Yn wreiddiol o ogledd Cymru, mae Bethan yn adnabyddus fel dramodydd sy'n creu bydoedd ffuglennol gyda lleisiau go iawn, gan gydweithio â chymunedau sy'n hawdd eu hanwybyddu yn ein cymdeithas. Sgriptiau sy'n byrlymu â llawenydd cwiar, drama ddirdynnol a dilysrwydd.
Mae gwaith Bethan yn rhychwantu theatr, ffilm a theledu gyda'r gwaith clodwiw Nyrsys (Theatr Cymru) a'r clasur dod i oed Cysgu'n brysur, ill dau yn dyst i'w dull unigryw sy'n dod o hyd i'r rhyfeddol a'r llawenydd ym mywyd beunyddiol trwy straeon sy'n cysylltu â chynulleidfaoedd o bob oed a chefndir.
Meddai Bethan Marlow: "Mae cael y cyfle i weithio gyda pobol ifanc yngNghymru, i ysgrifennu darn o theatr sy'n ymateb i'w meddyliau a'uteimladau nhw am y byd da ni'n byw ynddi heddiw, yn fraint llwyr. Dwi byth yn blino ar weithio gyda lleisiau go iawn a chlywed be' sy'n eu hysgogi nhw. Dwi’nedrych ymlaen yn fawr at weld be' fedra ni greu gyda'n gilydd"
Meddai Megan Childs, Pennaeth Theatr CCIC:
"Ar ôl cael y pleser o eistedd yn y gweithdai ar-lein, y cyfan y gallaf ei ddweud yw os yw'r hyn a ddaw nesaf hanner mor doreithiog o greadigol ac mor hael yn ei ddull o gydweithio, yna mae rhywbeth arbennig iawn ar y gorwel i gyfranogwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd."
Dewch i weld y gwaith
I gael cipolwg arbennig ar waith Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2026, cynhelir perfformiad i rannu’r gwaith mewn datblygiad, gyda thocynnau cyfyngedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ddydd Iau 30 Gorffennaf am 7pm.
Llun: Bethan Marlow gan Kristina Banholzer