Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyhoeddi rhaglen ddatblygu dawns Momentwm

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi cymorth ariannol newydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer datblygu a lansio Momentwm, rhaglen datblygu dawns ieuenctid sydd wedi'i chynllunio i gryfhau'r ddarpariaeth ddawns o ansawdd uchel i bobl ifanc yng Nghymru.  
 
Bydd y rhaglen yn darparu cyfleoedd hyfforddi wythnosol cyson, gan gynnig sesiynau sy'n creu gofod ar gyfer datblygiad technegol, creadigrwydd, myfyrio a lles. Nod Momentwm yw mynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth ranbarthol wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o ddawnswyr mewn amgylchedd cynhwysol a chefnogol.  
 
Ochr yn ochr â'r rhaglen wythnosol, bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cyflwyno ledled Cymru i ddathlu dawns ieuenctid a dod â'r sector at ei gilydd drwy drafod, cyfnewid a rhannu profiadau creadigol. 

"Mae Momentwm yn ymwneud â chreu cyfleoedd i bobl ifanc dyfu'n dechnegol, yn artistig ac yn bersonol trwy ddawns," meddai Jamie Jenkins, Pennaeth Dawns Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

"Rydym ni am i bobl ifanc ledled Cymru deimlo eu bod nhw’n gysylltiedig, yn cael eu cefnogi a'u hysbrydoli, gyda mynediad at hyfforddiant rheolaidd, o ansawdd uchel a phrofiadau creadigol a all gael effaith barhaol ar eu hyder, eu lles a'u huchelgeisiau yn y dyfodol. Mae'r cyllid hwn yn ein galluogi i adeiladu rhywbeth cynaliadwy a gwirioneddol drawsnewidiol ar gyfer dawns ieuenctid yng Nghymru."

Darllenwch ddatganiad Cyngor Celfyddydau Cymru yma.

Previous
Previous

Aelodau Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru’n Dathlu Llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026

Next
Next

Dyma Sŵn Eich Haf! Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyhoeddi Teithiau Cyngerdd Haf 2026