Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cloi ei Dymor Haf 2026 ar Nodyn Uchel

Dros yr haf daeth 355 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru at ei gilydd i hyfforddi, creu, ymarfer a pherfformio. Ar draws 8 preswyliad, cafwyd 19 perfformiad a 2 ymarferiad cyhoeddus, gan fynd â'n pobl ifanc o Fangor i Tyddewi, Abertawe i Gaeredin. Gyda bron 3,500 o bobl fynychu ein 9 cyngerdd haf a daeth 183 o bobl eraill i weld gwaith newydd mewn datblygiad a rennir gan Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru. 

Dathlodd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ei phen-blwydd yn 80 gyda 101 o gerddorion ifanc yn perfformio yn Neuadd Prichard-Jones, Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Neuadd Brangwyn. Cafodd y cyngherddau hefyd eu recordio at ddibenion darlledu gan BBC Radio 3. Daeth Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ag 81 o gantorion ynghyd ar gyfer perfformiadau yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy, Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Neuadd Brangwyn, tra bu Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar daith gyda 57 o gerddorion ifanc, gan berfformio ym Mangor, Tyddewi a Chasnewydd. 

Aeth Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru i Ŵyl Ymylol Caeredin ochr yn ochr â National Youth Dance Scotland i ffurfio Celtic Collective, gan berfformio 9 sioe hynod boblogaidd (gwerthwyd pob tocyn) a derbyn adolygiadau pum seren. Yn ôl yng Nghaerdydd, fe ddechreuodd 20 o ddawnswyr weithio gyda'r coreograffydd Osian Meilir ar ddarn newydd a fydd yn cael ei berfformio yn ystod yr hydref. Fe wnaethon ni hefyd groesawu 16 o fechgyn rhwng 8 a 16 oed i’n Diwrnod Dawns Bechgyn 2026 mewn partneriaeth â Ballet Cymru a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

I Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru, roedd yr haf yma’n nodi dechrau ei 50fed flwyddyn, gyda 24 o actorion ifanc yn gweithio yn Aberystwyth gyda'r cyfarwyddwr Hannah Noone a'r ysgrifennwr Bethan Marlow i ddyfeisio gwaith newydd sbon. Fe rannwyd golygfeydd a chaneuon newydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel cam cyntaf y gwaith sydd bellach yn cael ei ddatblygu ar gyfer cynhyrchiad newydd yn ystod 2027. Ochr yn ochr â hyn, cymerodd 24 o gyfranogwyr ran yn ein rhaglen Llwybrau Proffesiynol, gan edrych ar wahanol agweddau ar theatr, y sgrin a gwaith cefn llwyfan. Mae'r pen-blwydd yn 50 hefyd wedi rhoi cyfle i ni ailgysylltu â'r rheiny sydd wedi bod yn rhan o ThGIC dros y 5 degawd diwethaf, gyda chyn-fyfyrwyr eisoes yn ailgysylltu â ni ac yn rhannu lluniau, rhaglenni, deunydd archif ac atgofion. 

Fe wnaethom orffen yr haf gydag ail ysgol haf Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, gan ddod â 45 o gerddorion ifanc o bob cwr o Gymru ynghyd i weithio gyda rhai o gerddorion jazz mwyaf blaenllaw'r wlad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fe fynychodd mwy na 100 o bobl y perfformiad cyhoeddus terfynol. 

Fel rhan o raglen yr haf, fe wnaethon ni hefyd lansio Chwarae Eich Rhan, ein hymgyrch roi cyhoeddus sy'n gwahodd cynulleidfaoedd, teuluoedd, cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr i helpu i sicrhau nad yw amgylchiadau ariannol yn rhwystr i bobl ifanc gymryd rhan mewn cyfleoedd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae'r gefnogaeth yr ydym yn ei dderbyn drwy'r ymgyrch hon yn hanfodol i'n helpu i barhau i gynnig y cyfleoedd hyn yn y dyfodol. Os ydych chi eisoes wedi cefnogi'r ymgyrch, diolch yn fawr. Os nad ydych wedi cefnogi'r ymgyrch eto, gallwch barhau i Chwarae Eich Rhan drwy gyfrannu rhodd a'n helpu i gyrraedd mwy o bobl ifanc ledled Cymru. 

Mae graddfa gwaith yr haf yn bwysig, ond yr hyn sy'n aros gyda ni fwyaf yw'r bobl ifanc eu hunain - eu hymrwymiad, eu creadigrwydd a'r ffordd y maen nhw wedi cefnogi ei gilydd. Trwy gydol yr haf maen nhw wedi gwneud ffrindiau newydd, wedi magu hyder, wedi gweithio gydag artistiaid a thiwtoriaid proffesiynol a phrofi beth mae'n ei olygu i fod yn rhan o gymuned greadigol. 

Mae llawer mwy i ddod, gyda chynyrchiadau, perfformiadau a chyfleoedd creadigol newydd yn dwyn ffrwyth dros y misoedd nesaf. Mae clyweliadau ar gyfer ensembles cerddorol Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru y flwyddyn nesaf bellach ar agor - yn cau 11 Hydref - ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r grŵp nesaf o bobl ifanc a gweld ble mae eu creadigrwydd yn mynd â nhw. 

Diolch i'n holl gyllidwyr, partneriaid, tiwtoriaid, artistiaid proffesiynol, staff a thimau lles sydd wedi helpu i wneud yr haf hwn yn bosib ac i'r cynulleidfaoedd, teuluoedd, cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr sydd wedi bod yn rhan ohono. Rydym yn hynod falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni yn ystod haf 2026 ac yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod nesaf. 

[Llun gan Evan Dawson, Kirsten McTernan, Ken Grant a Y-Dance]

Next
Next

Llwyddiant O’r Radd Flaenaf i Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru Yng Ngŵyl Ymylol Caeredin