Llwyddiant O’r Radd Flaenaf i Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru Yng Ngŵyl Ymylol Caeredin
Celtic Collective yn derbyn adolygiadau rhagorol wrth i ddawnswyr ifanc o Gymru a'r Alban ddod ynghyd i arddangos dyfodol dawns mewn 9 perfformiad sydd wedi gwerthu pob tocyn.
Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn derbyn adolygiadau pum seren yng Ngŵyl Ymylol Caeredin ar gyfer Celtic Collective, eu cydweithrediad cyffrous gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban (CDCIA).
Gwahoddwyd DGIC gan CDCIA i rannu bil dwbl a gyflwynwyd gan YDance yn Assembly @ Dance Base. Mae’r bil dwbl yn dod â'r ddau gwmni dawns ieuenctid cenedlaethol at ei gilydd i ddathlu talent sy'n dod i'r amlwg, coreograffi uchelgeisiol a phosibiliadau creadigol cydweithio rhwng Cymru a'r Alban.
Mae'r ymateb gan adolygwyr yr Ŵyl Ymylol wedi bod yn gadarn tu hwnt. Fe roddodd Fringe Review bum seren i Celtic Collective, gan gydnabod ansawdd ac uchelgais y gwaith yn ogystal â'r perfformwyr ifanc eithriadol sydd galon y gwaith.
Cafodd y cynhyrchiad ei adolygu hefyd gan The Morning Star, gyda'r beirniad dawns Matthew Hawkins yn cynnwys Celtic Collective yn A day of dance, sef ei grynodeb o’r ŵyl a gyhoeddwyd ar 10 Awst. Fe roddodd yr adolygiad sylw i wyth cynhyrchiad dawns a gyflwynwyd yn yr ŵyl, gan dynnu sylw pellach at ehangder ac ansawdd dawns gyfoes sy'n cael ei pherfformio yng Nghaeredin. Rhoddodd Hawkins 5 seren i Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, gan ddweud bod perfformiad y dawnswyr yn "passionate and voluminous".
“They thrill with exactitude whilst playing right to the edge of it all falling apart”
Daeth Celtic Collective â dau waith gwahanol ynghyd: Momentum – Undone gan Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, wedi'i goreograffu gan Marcus Jarrell Willis, ac Afterglow, wedi'i goreograffu gan Tess Letham ar gyfer Cwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban.
Celtic Collective 2026
Y canlyniad oedd dau ensemble ifanc yn dod at ei gilydd, yn dangos unigolrwydd eu lleisiau artistig a'r potensial rhyfeddol sy'n dod o gydweithio.
Mae Gŵyl Ymylol Caeredin yn disgrifio'r cynhyrchiad fel un sy'n cyfuno "dylanwadau diwylliannol gwahanol gyda dawns gyfoes arloesol", gyda symudiad ensemble bywiog, deuawdau agos atoch a pherfformwyr sy'n dod i'r amlwg yn gwthio eu techneg, eu celfyddyd a'u dychymyg i uchelfannau newydd. Mae'r adolygiad hefyd yn disgrifio'r perfformwyr ifanc fel "sêr sy'n dod i’r amlwg" gan gynnig cipolwg i gynulleidfaoedd ar ddyfodol dawns yn y DU.
I Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, roedd perfformiad Caeredin yn gyfle pwysig i roi dawnswyr ifanc o Gymru ar un o lwyfannau mwyaf y byd.
Ond roedd Celtic Collective yn ymwneud â llawer mwy na chyfle perfformio mawreddog yn unig. Roedd yn ymwneud â phartneriaeth. Roedd yn ymwneud â dawnswyr ifanc o Gymru a'r Alban yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd, yn rhannu syniadau a phrofiadau, yn herio’u hunain yn greadigol a darganfod beth sy’n bosib ei gyflawni pan fyddant yn cael y cyfle i weithio ar lefel broffesiynol.
Roedd y cydweithrediad hefyd yn cynnig datganiad pwerus ynglŷn â dyfodol dawns.
Nid y genhedlaeth nesaf o berfformwyr yw'r dawnswyr hyn yn unig - maent yn goreograffwyr, athrawon, cyfarwyddwyr artistig ac arweinwyr creadigol posibl y dyfodol.
Mae eu profiad yng Nghaeredin yn rhoi'r hyder iddynt gymryd eu camau nesaf, tra'n dangos i gynulleidfaoedd a'r sector dawns ehangach faint o dalent sydd i’w gael yn nawns ieuenctid ledled Cymru a'r Alban.
Mae'r ymateb beirniadol yn adlewyrchu'r addewid hwnnw.
Mae adolygiadau cynharach o Celtic Collective wedi canmol "dwyster a rheolaeth" y dawnswyr, tra bod Plays To See wedi disgrifio'r cynhyrchiad fel “a vibrant presentation of dance from the youth companies of Wales and Scotland” ac wedi’i alw’n “a promising showcase of where Celtic dance might be heading to.”
Fe roddodd y Reviews Hub bedair seren i'r cynhyrchiad gan gloi gan ddweud “Dance in these Celtic nations clearly has a bright future.”
I ddawnswyr ifanc Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, nid yw'r dyfodol hwnnw yn rhyw syniad pell. Mae eisoes wedi dechrau.
"Nes i erioed feddwl y byddai perfformio yng Nghaeredin yn bosibl i mi, ond gwnaeth Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru’r freuddwyd honno yn realiti. Gyda'u cefnogaeth a'u hanogaeth nhw fe gefais gyfle nad oeddwn erioed wedi dychmygu y byddwn i'n ei gael. Rydw i mor ddiolchgar i bawb a roddodd eu ffydd ynof fi a'r dawnswyr eraill ac a helpodd i wireddu’r profiad hwn. Mae perfformio yng Nghaeredin yn rhywbeth na fyddaf byth yn ei anghofio, ac mae wedi dangos i mi bod modd gwireddu breuddwydion gyda'r gefnogaeth iawn." - Tabitha o Abertawe
O stiwdios ymarfer yng Nghymru i lwyfan rhyngwladol Gŵyl Ymylol Caeredin, mae'r artistiaid ifanc hyn yn dangos y ddisgyblaeth, y dychymyg a'r uchelgais sydd eu hangen i fynd â dawns gyfoes ymlaen.
Mae Celtic Collective wedi dangos beth all ddigwydd pan fydd artistiaid ifanc yn cael y cyfle i gydweithio ar draws ffiniau, cydweithio â choreograffwyr blaenllaw a pherfformio gwaith cyfoes uchelgeisiol o flaen cynulleidfaoedd newydd.
A gydag adolygiad pum seren gan y Fringe Review bellach ymhlith anrhydeddau’r cynhyrchiad, mae'r neges o Gaeredin yn glir: Mae dawns ieuenctid Cymru wedi cyrraedd - ac mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn.