Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn lansio clyweliadau ar gyfer ensemble Blwyddyn ei Phen-blwydd yn 50 oed
Mae Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru (ThGIC) yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed eleni gyda chomisiwn theatr dwyieithog uchelgeisiol newydd ‘State of the Youth Nation’. Bydd aelodau ThGIC 2026 yn cydweithio â dramodydd adnabyddus i ddatblygu cynhyrchiad llwyfan newydd beiddgar gydag elfen gerddorol gref.
Bydd cwrs preswyl blynyddol yr haf yn gorffen gydag arddangosfa o olygfeydd allweddol a darnau cerddorol fydd yn dod yn fyw ar y llwyfan yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf cyn cael ei ddatblygu ymhellach ar gyfer taith yn 2027.
Ochr yn ochr â datblygu cynhyrchiad blaenllaw, bydd aelodau ThGIC 2026 yn perfformio yng Ngala Pen-blwydd 50 oed ThGIC a chymryd rhan yn y Noson Sgratsh ThGIC gyntaf erioed, gan arddangos eu sgiliau creu theatr eu hunain.
Yn ystod mis Mawrth ac Ebrill, bydd Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynnal taith clyweliad 12 dyddiad hyd a lled Cymru - o Fangor i Aberystwyth, Wrecsam i Gasnewydd a thu hwnt i'r daith bydd yn sicrhau bod perfformwyr ifanc o bob rhan o'r wlad yn cael y cyfle i ddisgleirio. Bydd y clyweliad tair awr ar ffurf gweithdy, dan arweiniad panel o weithwyr proffesiynol theatr, yn caniatáu i berfformwyr ifanc deimlo'n hyderus i archwilio a darganfod eu potensial a'u talent.
Mae ThGIC hefyd yn cynnal Gweithdy Blasu Clyweliad rhad ac am ddim gyda chymorth gan Ganolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, ddydd Sul 15 Chwefror, 1–3pm, yn gwahodd pobl ifanc 16–22 mlwydd oed sydd â diddordeb mewn perfformio i "Roi cynnig arni!" trwy weithdy cyfeillgar, ymarferol sy'n cyflwyno hanfodion clyweliad. Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn gweithio ar lais a symudiad, yn ennill technegau adeiladu hyder, ac yn derbyn awgrymiadau arbenigol ar ddewis a chyflwyno areithiau clyweliadau a monologau.
Dal Gafael (2024)
Pwy ydyn ni’n chwilio amdano?
Perfformwyr ymroddedig ac angerddol 16–22 mlwydd oed sy’n byw neu astudio'n llawn amser yng Nghymru neu wedi'u geni yng Nghymru ac yn edrych i gymryd y cam nesaf ar eu taith theatr.
Efallai eich bod chi yn:
Astudio drama neu berfformio yn yr ysgol neu'r coleg;
Hyfforddi yn yr ysgol ddrama a pharatoi ar gyfer y cam nesaf;
Ymwneud â theatr ieuenctid neu theatr gerddorol;
neu
Yn berson creadigol angerddol sydd â diddordeb mewn adrodd straeon, creu theatr neu sgiliau cefn llwyfan.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynnig clyweliadau rhad ac am ddim i unrhyw un nad ydynt yn gallu fforddio'r ffi clyweliad o £25, heb unrhyw gwestiynau. Mae ein Cronfa Bwrsariaeth hefyd yn helpu i dalu ffioedd aelodaeth, fel nad oes neb yn cael eu hatal rhag gwneud cais am resymau ariannol.
Beth mae ein haelodau yn ei ddweud?
"Peidiwch â bod ofn rhoi chi eich hun allan yna, mae pawb yn eich cefnogi chi ac eisiau i chi ddysgu a thyfu."
"Mae'n glyweliad cyfeillgar iawn. Ychydig oriau o adeiladu a gweithio cyn mynd i weld panel i wneud eich araith.”
Mae Eich Llwyfan yn Aros - Dathlwch 50 mlynedd o Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru a helpu i lunio dyfodol theatr Cymru. Trefnwch glyweliad heddiw.
Am ddyddiadau clyweliadau a mwy o wybodaeth, ewch i nyaw.org.uk/nytw-2026