NEWYDDION
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn lansio prosiect Eich Dyfodol Creadigol sy’n dod â gweithdai Cerddoriaeth a Dawns am ddim i bobl ifanc Blaenau Gwent a Thorfaen
Mae’r fenter uchelgeisiol traws-sector sy’n cael ei harwain gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a’i hariannu gan Grant Arloesi Tlodi Plant Llywodraeth Cymru yn lansio ddydd Sadwrn yma yn ne ddwyrain Cymru.
Mae’r fenter uchelgeisiol traws-sector sy’n cael ei harwain gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a’i hariannu gan Grant Arloesi Tlodi Plant Llywodraeth Cymru yn lansio ddydd Sadwrn yma yn ne ddwyrain Cymru.
Nod Eich Dyfodol Creadigol yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb dwfn sy’n bodoli mewn mynediad i gyfleoedd lles a chreadigol i bobl ifanc dan anfantais yn Nhorfaen a Blaenau Gwent – dwy o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru o ran cyfleoedd.
Gan gydweithio â sawl partner, gan gynnwys Ballet Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Cerdd Gwent, byddwn yn cynnig cyfres o weithdai am ddim a gynlluniwyd ar y cyd, i bobl ifanc 10-18 oed, rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Mawrth 2026, a hynny mewn sawl canolfan.
Dywedodd Louise Prosser o Ballet Cymru: “Mae Ballet Cymru wrth ei bodd yn gweithio mewn partneriaeth â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i ddod â sesiynau dawns a cherddoriaeth difyr, hygyrch a chyffrous i chwe chymuned newydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gysylltu â phobl ifanc, tanio creadigrwydd, a datblygu cysylltiadau parhaol drwy brosiect Eich Dyfodol Creadigol.”
Dywedodd Linton o Gerdd Gwent: “Mae’n wych cydweithio â CCIC ar brosiect Eich Dyfodol Creadigol. O’r diwedd, rydym yn gweld cynllunio cydgysylltiedig drwy byramid addysg gerdd. Mae hwn yn brosiect gwerthfawr a fydd yn rhoi gymaint i’r disgyblion sy’n cymryd rhan!”
Bydd y gweithdai dwy awr o hyd dan arweiniad gweithwyr proffesiynol o ddiwydiannau dawns, cerddoriaeth a chreadigol yn rhoi sgiliau canu, cyfansoddi, cynhyrchu cerddoriaeth, dawns a choreograffi, yn ogystal â sgiliau creadigol a lles i bobl ifanc yr ardal. Gall pobl ifanc ddewis cymryd rhan ym mhob un gweithgaredd neu ambell un.
Dywedodd Bruna Garcia, Rheolwr Prosiect Eich Dyfodol Creadigol, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: "Mae mor bwysig bod pob person ifanc yn cael y cyfle i ddatblygu ei greadigrwydd a magu hyder. Mae Eich Dyfodol Creadigol yn ofod diogel lle gall pawb archwilio’u diddordeb mewn cerddoriaeth, dawns, a datblygu sgiliau gwerthfawr, a chael hwyl wrth wneud hynny!"
Os ydych chi’n berson ifanc neu’n adnabod person ifanc rhwng 10 a 18 oed ac yn byw ym Mlaenau Gwent neu Dorfaen, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi...
Pam ymuno?
Gweithiwch gyda gweithwyr proffesiynol blaenllaw o’r diwydiannau dawns, cerddoriaeth a chreadigol
Dysgwch sgiliau newydd, gwnewch ffrindiau a magwch hyder
Perfformiwch, dangoswch ac archwiliwch eich potensial creadigol
Darperir lluniaeth
A allech chi fod yn rhan o’n Panel Cynghori Ieuenctid?
Rydym ni’n chwilio am grŵp o bobl ifanc amrywiol rhwng 14 a 18 mlwydd oed i helpu i lunio Dyfodol Creadigol a sicrhau bod y prosiect yn berthnasol ac yn hygyrch i'ch cymuned.
Byddwch yn helpu i lunio dyluniad prosiectau, sicrhau hygyrchedd ac annog ymgysylltiad â'r gymuned. Yn ogystal â chynghori ar farchnata, a gweithredu fel llysgenhadon prosiect i'ch cyfoedion.
Rydym ni’n credu y dylai llais ieuenctid fod yn ganolog i'r hyn rydyn ni'n ei wneud felly rydyn ni eisiau clywed gennych!
Dweud eich dweud: Helpu i lunio prosiect cerddoriaeth a dawns cyffrous i bobl ifanc yn eich ardal chi.
Ennill profiad: Sgiliau arweinyddiaeth, cynllunio digwyddiadau, gwneud penderfyniadau creadigol.
Cael eich gwobrwyo: Teithio wedi’i dalu, lluniaeth wedi'i ddarparu, geirda ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol, taleb love to shop.
Cael effaith: Dylanwadu ar sut mae gweithdai Dyfodol Creadigol yn edrych a sut rydym ni’n cyrraedd pobl ifanc.
Beyond the Mirror: Rhaglen ddogfen feiddgar gan aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn herio safonau harddwch y diwydiant dawns
Trwy ei rhaglen ddogfen Beyond the Mirror, mae Aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) 2025, Phoebe Clark, yn rhoi llais i ddawnswyr ifanc sy'n benderfynol o ailddiffinio'r diwydiant dawns.
Trwy ei rhaglen ddogfen Beyond the Mirror, mae Aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) 2025, Phoebe Clark, yn rhoi llais i ddawnswyr ifanc sy'n benderfynol o ailddiffinio'r diwydiant dawns. Wedi'i wreiddio yn ei phrofiadau personol, mae'r rhaglen ddogfen yn herio safonau harddwch niweidiol ac yn grymuso dawnswyr ifanc i gofleidio’u gwerth y tu hwnt i’r ffordd maent yn edrych. Gyda chefnogaeth DGIC – gofod lle mae artistiaid ifanc yn cael eu dathlu am bwy ydyn nhw – mae Phoebe yn annog eraill i ymuno mewn sgwrs sy'n dathlu dilysrwydd, gwytnwch a thalent.
"Fe wnes i greu fy rhaglen ddogfen Beyond the Mirror fel rhan o fy nhraethawd hir yn y brifysgol, ond yn fuan iawn fe ddatblygodd yn llawer mwy na phrosiect academaidd. Roedd yn daith hynod bersonol; cyfle i herio normau'r diwydiant dawns a thanio symudiad tuag at newid."
Gan dynnu o'i phrofiadau ei hun – a phobl yn dweud y gallai ei phwysau a’r ffordd y mae hi’n edrych gyfyngu ar ei siawns o lwyddo – daeth Phoebe o hyd i'r dewrder i siarad allan. Wrth wneud hynny, darganfu nad oedd hi ar ei phen ei hun.
"Mae dawnswyr di-ri eraill wedi wynebu beirniadaeth a phwysau tebyg. Daeth Beyond the Mirror yn llwyfan i roi llais i'r straeon hyn ac i eirioli dros weledigaeth fwy cynhwysol, cefnogol a realistig o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddawnsiwr."
Llun gan Sian Trenberth
"Mae DGIC bob amser wedi bod yn lle rydw i wedi teimlo'n wirioneddol ddiogel. Lle rwy’n cael fy ngwerthfawrogi a'm gweld, nid am sut rydw i'n edrych, ond am bwy ydw i a'r hyn rydw i'n ei gyfrannu fel artist. Mae gan y sefydliad awyrgylch teuluol sy'n blaenoriaethu rhinweddau mewnol: eich pwrpas, eich purdeb, eich talent a'ch personoliaeth, yn hytrach na'r ffordd rydych yn edrych neu sut rydych yn gwisgo. Pan oeddwn i'n 16 oed, ar adeg pan oeddwn i'n clywed pethau na ddylai unrhyw berson ifanc orfod eu clywed, fe ddaeth DGIC yn angor i mi. Fe wnaeth fy nghadw i ddawnsio. P'un a oeddent yn gwybod neu beidio, roedd y gefnogaeth a'r sicrwydd a gefais ganddynt yn fy atgoffa fy mod i'n dalentog ac yn deilwng, ac roedd hynny'n golygu popeth."
Dywedodd Pennaeth Dawns Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Jamie Jenkins:
"Mae rhaglen ddogfen Phoebe yn adlewyrchiad pwerus a theimladwy iawn ar realiti llywio'r diwydiant celfyddydau perfformio gyda chyrff ac edrychiadau amrywiol. Mae ei gonestrwydd a'i dewrder wrth rannu ei thaith bersonol yn ddim llai nag ysbrydoledig. Trwy siarad allan gyda bregusrwydd a chryfder o'r fath, mae hi nid yn unig yn berchen ar ei stori ond hefyd yn goleuo'r ffordd i eraill sefyll i fyny, estyn allan, a herio ymddygiadau niweidiol. Yn DGIC rydym yn falch o hyrwyddo unigolrwydd, dathlu amrywiaeth, a meithrin cymuned lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu cefnogi a'u grymuso i fod yn union pwy ydyn nhw."
Llun gan Sian Trenberth
"Eleni, rwy'n edrych ymlaen at gysylltu gyda rhagor o ddawnswyr, gweithio gyda'r coreograffydd Yukiko Masui, a mynd â'n darn i Lundain ar gyfer perfformiad yn Sadler's Wells East. Mae'n gyfle rhyfeddol. Rwy'n edrych ymlaen at hyfforddi ochr yn ochr ag unigolion o'r un anian ac ymgolli mewn amgylchedd sy'n llawn talent eithriadol ac angerdd a rennir." meddai'r Dawnsiwr, Perfformiwr, ac Athrawes, Phoebe Clark.
Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn dathlu 25 mlynedd yn 2025 ac fe wnaethom ni ddathlu gyda pherfformiad arbennig yn Saddler’s Wells East ar 25 Gorffennaf - cafwyd cymeradwyaeth fyddarol a’r gynulleidfa gyfan ar ei thraed. Mae'r ensemble dawns yn dychwelyd i Gymru am ddau berfformiad yn The Riverfront, Casnewydd, ar 30 ac 31 Hydref, gyda Ballet Cymru. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, cliciwch yma.
Gwyliwch raglen ddogfen Phoebe…
Dawns Ragorol a Grëwyd yng Nghymru: Ballet Cymru a Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn Cyflwyno Bil Triphlyg yr Hydref
Bydd Ballet Cymru yn cynnal cydweithrediad cyffrous â Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) gyda bil triphlyg ar y cyd yng Nghanolfan Glan-yr-Afon, Casnewydd, ddydd Iau 30 a dydd Gwener 31 Hydref.
Bydd Ballet Cymru yn cynnal cydweithrediad cyffrous â Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) gyda bil triphlyg ar y cyd yng Nghanolfan Glan-yr-Afon, Casnewydd, ddydd Iau 30 a dydd Gwener 31 Hydref.
Yn arddangos tri darn o waith byr anhygoel gan goreograffwyr o'r radd flaenaf, bydd y noson yn cynnwys Momentum – Undone gan Marcus Jarrell Willis, Cyfarwyddwr Artistig Phoenix Dance Theatre, sy'n adnabyddus am ei gyfuniad nodedig a ddi-dor o hiwmor a cherddoriaeth. Bydd Cyfarwyddwyr Artistig Ballet Cymru, Darius James OBE ac Amy Doughty, yn cyflwyno creadigaeth newydd sbon, Woven, yn arbennig ar gyfer y rhaglen hon.
Gan ddathlu 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, mae'r dawnswyr ifanc yn dychwelyd fel gwesteion arbennig am y drydedd flwyddyn yn olynol, gan berfformio The Night is Darkest Just Before The Dawn gan y coreograffydd enwog Yukiko Masui. Dyma ddarn sy'n arddangos symudiad pwerus, gan gyfuno dawns Gyfoes, Hip Hop, a Chrefft Ymladd. Mae'r darn yn cael ei ddisgrifio fel teyrnged i 'gefnogwyr tawel' - pobl sy'n sefyll wrth ein hochr yn ystod adegau tywyllaf ein bywyd ac yn ein cefnogi heb gydnabyddiaeth.
Wrth siarad am y darn, meddai Masui: “Fe ysbrydolwyd y darn gan gymeriad yr archarwr, cymeriad hynod bwerus ond mae’n gweithio gyda’r nos, yn y tywyllwch. Does dim sbotolau arno, ond mae’n gwneud pethau dros bobl eraill ac yn hynod bwerus pan does neb yn gwylio.”
U.Dance National Festival 2025 at Sadler’s Wells East presented by One Dance UK, photo Dance Photographer UK/Point of View Photography.
Dan gyfarwyddiad Yukiko Masui a Jamie Jenkins, Pennaeth Dawns Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mae’r cwmni wedi cael ei feithrin drwy amrywiaeth o ddosbarthiadau; megis techneg, archwilio creadigol, dosbarthiadau lles, a mentoriaeth, gyda’r rhan helaeth dan arweiniad cyn aelodau DGIC.
Dwedodd Carlie, o Gastell-nedd, aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2025: "Mae'n Hydref o'r diwedd ac mae hynny'n golygu mai dim ond ychydig wythnosau sydd i fynd tan berfformiad DGIC ac ni allwn aros! Rwy'n gyffrous am y perfformiad hwn oherwydd ein bod ni'n cael rhannu'r llwyfan gyda'r anhygoel Ballet Cymru. Mae'r perfformiad yma’n teimlo'n arbennig iawn, gan fod y cwmni’n dod at ei gilydd i berfformio yng Nghymru, yn cynrychioli ein gwlad, gan rannu ein hangerdd a'n gwaith caled gyda'r gynulleidfa. Rydym yn gobeithio eich gweld chi i gyd yno yn Theatr Glan-yr-Afon Casnewydd ar 30 a 31 Hydref!"
Dywedodd Jack, o Abertawe aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2025: “Dw i mor gyffrous cael perfformio unwaith eto gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru ym mis Hydref. Mae’n gyfle anhygoel, cael rhannu’r llwyfan gyda dawnswyr mor dalentog a pherfformio gwaith gan y coreograffydd Yukiko Masui. Ni allaf aros i ddod â’n holl waith caled yn fyw a rhannu’r profiad arbennig yma gyda’r gynulleidfa. Dw i mor falch o fod yn ddawnsiwr gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru.”
Yn ystod yr haf, daeth cwmni Pen-blwydd DGIC yn 25 at ei gilydd yng Nghaerdydd ar gyfer preswyliad pythefnos o hyd. Nod y preswyliad oedd creu ac ymarfer fersiwn estynedig o’r gwaith cyn mynd i Sadler’s Wells East, Llundain, i’w berfformio am y tro cyntaf ochr yn ochr â National Youth Dance Company Scotland a National Youth Dance Company. Roedd y gynulleidfa gyfan ei thraed yn cymeradwyo.
Archebwch eich tocynnau heddiw, ar gyfer eich cyfle olaf i weld y perfformiad arbennig yma. Mae tocynnau’n costio rhwng £17 ac £20, gyda chonsesiynau ar gael.
U.Dance National Festival 2025 at Sadler’s Wells East presented by One Dance UK, photo Dance Photographer UK/Point of View Photography.
Llongyfarchiadau enillwyr gwobrau Cerddorfa a Band Pres 2025
Bob blwyddyn ar ein preswyliadau, rydym yn dathlu ein cerddorion sy'n dangos yr addewid a'r ymroddiad mwyaf.
Bob blwyddyn ar ein preswyliadau, rydym yn dathlu ein cerddorion sy'n dangos yr addewid a'r ymroddiad mwyaf. Y tiwtoriaid adrannol sy'n penderfynu pwy sy'n derbyn pob gwobr yn ystod y cyfnodau preswyl.
Hoffai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru rhoi diolch i'r rhai sydd wedi rhoi arian i greu'r gwobrau hyn.
Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Tlws Coffa John Childs
Dyfarnwyd i’r chwaraewr mwyaf addawol ar y cwrs preswyl eleni
Carys Wood
Gwobr David Mabey
Dyfarnwyd i’r chwaraewr sydd wedi gwella fwyaf ar y cwrs preswyl
Isla Hawkins
Tlws y Prif Gornet
Rhoddir gan Tony Small
Stephanie Jonas
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Gwobr Haydn Davies
Dyfarnwyd i’r chwaraewr mwyaf addawol sy’n dal i fod ym myd addysg
Noah Harcourt-Smith
Gwobrau Irwyn Walters (Ffrindiau CGIC)
Dyfarnwyd i’r ddau chwaraewr llinynnol mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Tristan Xuan a Jemima Soper
Gwobr Wil Jones
Dyfarnwyd i’r chwaraewr chwythbrennau mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Sam Finch
Gwobr Goronwy Evans
Dyfarnwyd i'r chwaraewr pres mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Tom Evans
Gwobr Telyn Tony Moore
Dyfarnwyd i’r telynor mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Awarded to the most promising harpist at this year’s residency
Heledd Wynn-Newton
Gwobr Offerynnau Taro Tony Moore
Dyfarnwyd i’r chwaraewr offerynnau taro mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Carys Underwood
Gwobr y Tim Lles
Dyfarnwyd am gyfraniad cyffredinol i’r Cerddorfa
Gwydion Rhys
Llun gan Kirsten McTernan
Mae Eich Llwyfan yn Aros Amdanoch! Clyweliadau Cerddoriaeth CCIC 2026 Nawr ar Agor
Mae clyweliadau ar agor yn swyddogol ar gyfer Band Pres, Côr a Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2026.
Mae clyweliadau ar agor yn swyddogol ar gyfer Band Pres, Côr a Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2026. Gwnewch gais nawr am eich cyfle i berfformio ochr yn ochr â cherddorion ifanc gorau Cymru!
Beth allwch chi ei ddisgwyl fel aelod o CCIC?
Hyfforddiant arbenigol gan gerddorion o’r radd flaenaf
Perfformio mewn canolfannau ledled Cymru
Gweithio gydag arweinwyr rhyngwladol o fri
Gwneud Cymru'n falch trwy gynrychioli eich gwlad
Gwneud ffrindiau oes ac atgofion am byth!
Mae Eich Llwyfan yn Aros Amdanoch – Beth ydych chi’n aros amdano?
Dyddiad cau ar gyfer clyweliadau: 12 Hydref 2025
Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol - @nationalyouthartswales i gael diweddariadau.
Y Genhedlaeth Nesaf o Berfformwyr o Gymru ar Fin Cychwyn Profiad Hyfforddi Bythgofiadwy
Fis Awst yma, bydd hanner cant o berfformwyr ifanc o bob cwr o Gymru yn ymuno ag ymarferwyr proffesiynol o fyd y llwyfan a’r sgrin ar gyfer preswyliad haf Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) 2025.
Fis Awst yma, bydd hanner cant o berfformwyr ifanc o bob cwr o Gymru yn ymuno ag ymarferwyr proffesiynol o fyd y llwyfan a’r sgrin ar gyfer preswyliad haf Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) 2025.
Bydd y perfformwyr a’r gwneuthurwyr theatr (rhwng 16 a 22 oed) yn cael blas ecsgliwsif ar greu gwaith ar gyfer y llwyfan a’r sgrin, drwy sgriptio, dyfeisio gwaith, yn ogystal ag archwilio sgiliau a swyddi eraill o fewn y diwydiannau creadigol, megis disgrifio sain ac integreiddio hygyrchedd i mewn i gynyrchiadau. Yn ddiweddarach eleni bydd aelodau ThCIC hefyd yn archwilio adrodd straeon ymdrochol, gydag ail breswyliad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, cyn teithio i 'r Wyddgrug am breswyliad pedwar dydd gyda’n partneriaid Theatr Clwyd yn hwyrach yn y flwyddyn.
Gyda chefnogaeth gan Ganolfan S4C Yr Egin – Canolfan Greadigol a Digidol Sir Gaerfyrddin – bydd preswyliad haf 2025 yn cynnig mewnwelediad dwys i fyd perfformio -ar y llwyfan ac oddi arno. Gyda chydweithredu â Theatr Cymru a Ffilm Cymru, bydd y rhaglen yn rhoi i aelodau fynediad at hyfforddiant disglair dan arweiniad rhai o ymarferwyr mwyaf cyffrous y diwydiant. Yn eu plith, cyfarwyddwyr llwyfan, cynllunwyr sain, cyfarwyddwyr corfforol, rheolwyr llwyfan, cyfarwyddwyr llais, yn ogystal ag arbenigwr hygyrchedd a disgrifio sain.
Mae tîm creadigol y preswyliad yn cynnwys: Y Dramodydd a Chyfarwyddwr Jennifer Lunn, y Cyfarwyddwr Corfforol a Choreograffydd; Annie-Lunnette Deakin-Foster, sydd wedi gweithio’n helaeth gyda Theatr Clwyd a’r Royal Shakespear Company, a chyn aelod o ThCIC a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, Steffan Donnelly, a fydd yn rhoi mewnwelediad i ystafell ymarfer y cynhyrchiad ar ddod, Romeo a Juliet, yn ogystal â Phennaeth Llais adran Actio CBCDC, Alice White. Bydd Ffilm Cymru hefyd yn arwain ar weithdai ac yn amlygu’r llwybrau hyfforddi sy’n bodoli o fewn y diwydiannau sgrin yng Nghymru.
Meddai Gruffydd Roberts o Yr Egin S4C: “Rydym yn hynod falch i weithio mewn partneriaeth a chefnogi Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru eto eleni. Mae meithrin talent y dyfodol yn un o amcanion pwysicaf Yr Egin ac rydym yn ymroddedig i chwarae rhan yn natblygiad creadigol artistiaid a phobl ifanc ei’n sir a’n gwlad. Mi fydd croesawu’r holl bobl ifanc i'r ganolfan i ddatblygu a chydweithio yn hynod gyffrous ac edrychwn ymlaen yn fawr iawn at eu croesawu unwaith eto.”
Bydd aelodau’n mireinio sgiliau perfformio hanfodol ac yn dod i wybod am y diwydiant drwy gyfnod preswyl cyfeillgar a hynod gefnogol. Dyma gyfle i berfformwyr ifanc ddysgu, gweithio a chymdeithasu gyda’i gilydd mewn awyrgylch ddwyieithog, gyda chefnogaeth tîm lles profiadol.
Mae’r rhaglen wedi’i chefnogi gan Gymru Greadigol, gyda’r nod o gyflwyno elfen hyfforddi craidd:
Crefft y Llwyfan a’r Sgrin
Llawenydd Creu
Llwybrau+
Cefn Llwyfan a Sgiliau Sgrin
Lab 50
Dwedodd Megan Childs, Cynhyrchydd Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Phennaeth Theatr: “Y rhan orau o fy swydd yw’r wefr o weld gweithwyr proffesiynol yn rhannu eu crefft gyda’r bobl ifanc sydd yn llunio dyfodol y celfyddydau yng Nghymru. Bydd rhaglen eleni mor ysbrydoledig ac erioed i aelodau ThCIC ac ymarferwyr fel ei gilydd. Mae derbyn cefnogaeth gref gan ein canolfannau partneru a chwmniau sydd yn agor eu drysau a’u modd hymarfer i aelodau ifanc ymroddedig TCIC yn gwarantu cyfnod preswyl unigryw gan CCIC yn llawn darganfod, creu a chwarae. Allwn ni ddim aros i gychwyn…”
Y tu hwnt i weithdai a sesiynau creadigol, mae’r preswyliad yn gyfle i ffurfio cyfeillgarwch, cydweithio a bod yn rhan o gymuned glos a chefnogol. Bydd aelodau hefyd yn derbyn mentoriaeth gan gyn-aelodau ThCIC, gan gefnogi’r genhedlaeth nesaf o’r tu mewn.
Meddai aelod CCIC 2025, Elliea: "Rwy'n gyffrous iawn i barhau i greu cysylltiadau ac archwilio'r theatr o lens unigryw a Chymreig. Y peth mwyaf cyffrous am y prosiect hwn yw sut mae'n dod â phob ardal o Gymru at ei gilydd ac yn ein huno mewn rhywbeth y mae pob un ohonom yn ei fwynhau, sef celf a mynegiant.”
Cadwch mewn cysylltiad wrth i ni ddilyn siwrneiau’r perfformwyr ifanc, disglair yma. Dilynwch ThCIC ar Instagram ac ein cyfrif TikTok dan arweiniad aelodau.
Haf o Gerddoriaeth 2025 – BPCIC a CCIC Teithiau’n Cychwyn Wythnos Yma!
Y wythnos hon, mae'r llwyfan yn perthyn i gerddorion pres a lleisiol ifanc gorau Cymru gan fod Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cychwyn ar eu teithiau haf 2025.
Y wythnos hon, mae'r llwyfan yn perthyn i gerddorion pres a lleisiol ifanc gorau Cymru gan fod Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cychwyn ar eu teithiau haf 2025.
Yn ffres o berfformiadau buddugoliaethus Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn gynharach y mis hwn, mae'r sbotolau nawr ar y ddau ensemble ieuenctid eithriadol hyn, sy’n dod â'u hegni, eu sgiliau a’u hangerdd i leoliadau cyngerdd trwy Gymru.
Ymunwch â ni ar gyfer Haf Cerddoriaeth Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2025 - o synau cerddorfaol hudolus CGIC, i ddisgleirdeb offerynnau pres, a mawredd cerddoriaeth gorawl.
Peidiwch â cholli eich cyfle i weld y genhedlaeth nesaf o ragoriaeth gerddorol Cymreig - archebwch eich tocynnau heddiw!
Preswyliad haf Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2025
Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru – Taith Cyngherddau 2025
Mae Cyn-fyfyriwr BPCIC a Chyfarwyddwr Cerdd Band Pres Pencampwriaeth Flowers 2024, Paul Holland, yn dychwelyd i arwain ei gyn-fand mewn rhaglen ddisglair yn llawn cerddoriaeth wych sy'n addo rhywbeth i bawb. Yn ymuno â Paul a BPCIC bydd yr offerynnydd taro ifanc disglair Jordan Ashman – enillydd Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC 2022.
21 Awst am 7.30yh – Neuadd William Aston, Wrecsam
22 Awst am 7.30yh – Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
23 Awst am 2yh – Glan-yr-afon, Casnewydd
Ymarferion Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2025
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru – Taith Cyngherddau 2025
Dewch i brofi pŵer lleisiau mewn harmoni mewn lleoliadau trawiadol. Dan gyfarwyddyd ysbrydoledig eu harweinydd Tim Rhys-Evans, bydd y côr rhagorol o ddoniau Cymreig yn cyflwyno perfformiad.
23 Awst am 7.30yh – Cadeirlan Llanelwy, Sir Ddinbych
24 Awst am 3yh– Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd (Mynediad am Ddim)
25 Awst am 3yh – Neuadd y Brangwyn, Abertawe
Mae tocynnau ar gyfer cyngherddau ein Haf o Gerddoriaeth 2025 bellach ar drwy ccic.org.uk/digwyddiadur
Y Bwlch Mewn Celfyddydau Ieuenctid: Mae Cyfleoedd Creadigol Yn Hanfodol Ar Gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Yn Eu Harddegau
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Ieuenctid, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn ymuno â'r alwad fyd-eang i rymuso pobl ifanc.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Ieuenctid, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn ymuno â'r alwad fyd-eang i rymuso pobl ifanc.
Eleni, rydym ni’n tynnu sylw at y gydberthynas amlwg rhwng mynediad cyfyngedig i raglenni celfyddydau ieuenctid mewn rhannau o Gymru, a'r llanw cynyddol o heriau iechyd meddwl ymhlith ein pobl ifanc yn eu harddegau. O Sir Ddinbych i'r Cymoedd, lle mae cyllid y celfyddydau yn aml yn brin, mae pobl ifanc yn colli'r cyfoeth o gyfleoedd creadigol a ddylai gryfhau eu lles, eu gwytnwch a'u dyfodol. Rydym ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i bontio'r bwlch hwn mewn celfyddydau ieuenctid a sicrhau bod pob Cymro yn ei arddegau yn cael y cyfle i ffynnu.
Mae pobl ifanc yn eu harddegau heddiw yn wynebu heriau iechyd meddwl digynsail. Yn ôl adroddiad UNICEF 2021, mae 13% o bobl ifanc 15-24 mlwydd oed yn fyd-eang yn profi anhwylderau iechyd meddwl, gyda gorbryder ac iselder yn arwain y ffordd. Yng Nghymru, mae'r darlun hyd yn oed yn waeth. Fe wnaeth arolwg Llywodraeth Cymru yn 2023 ganfod bod 20% o fyfyrwyr ysgol uwchradd wedi adrodd symptomau gorbryder, gyda chyfraddau uwch mewn ardaloedd dan anfantais economaidd fel rhannau o Gymoedd De Cymru a Gogledd Cymru wledig. Yn ystod prosiectau CCIC ledled Cymru, mae athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd yn dweud wrthym yn rheolaidd bod y ffigurau'n waeth fyth, gyda llawer yn amcangyfrif bod gan dros draean o blant ysgol broblemau iechyd meddwl.
Y rhanbarth sydd â'r problemau iechyd meddwl uchaf a gofnodwyd (yn aml wedi'u marcio gan ysgolion wedi'u tanariannu ac adnoddau cymunedol cyfyngedig) yw’r lle hefyd lle mae’r celfyddydau yn lleiaf hygyrch - ond y mae eu hangen fwyaf. Mewn ardaloedd gyda buddsoddiad celfyddydol isel, mae absenoldeb allfeydd creadigol yn golygu fod pobl ifanc yn agored i niwed, gan waethygu brwydrau iechyd meddwl.
Yn CCIC, rydym ni wedi gweld drosom ni ein hun sut mae creadigrwydd yn trawsnewid bywydau. Mae gennym gyfres reolaidd o raglenni a phrosiectau sydd â'r nod o gyrraedd pobl ifanc yn y "mannau oer" hyn yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys Llinynnau Ynghlwm, Sgiliau Côr, gweithdai dawns a theatr, ac (i ddod yn fuan) ein prosiect Dyfodol Creadigol newydd. Rydym ni’n gweithio'n agos gyda phartneriaid gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, a'u rhaglen bwysig Hapus.
Y Dystiolaeth
Fe wnaeth adolygiad Sefydliad Iechyd y Byd yn 2019 o dros 3,000 o astudiaethau ganfod bod cyfranogiad yn y celfyddydau (boed trwy gerddoriaeth, drama neu gelfyddydau gweledol) yn lleihau iselder, gorbryder a straen tra'n rhoi hwb i hunan-barch a chysylltiad cymdeithasol. Ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, y mae eu hymennydd yn dal i ddatblygu, mae gweithgareddau creadigol fel ymarfer corff meddyliol, gan gryfhau'r cortecs ar flaen yr ymennydd, sy'n llywodraethu datrys problemau a rheoleiddio emosiynol.
Dangosodd astudiaeth o 2020 yn y Cyfnodolyn Ieuenctid a Glasoed fod pobl ifanc yn eu harddegau sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol, fel ysgrifennu neu berfformio, yn adrodd lefelau straen is a mwy o hyder. Yng Nghymru, lle mae cyllid y celfyddydau yn amrywio'n fawr yn ôl rhanbarth, mae'r effaith yn glir.
Mae canolfannau trefol fel Caerdydd, Trefynwy ac Abertawe yn cynnig rhaglenni celfyddydol cadarn, gydag ysgolion a chanolfannau cymunedol yn cynnal corau, grwpiau theatr a dosbarthiadau celf. Ond mewn ardaloedd gwledig fel Sir Ddinbych neu gymunedau difreintiedig ym Mlaenau Gwent, rhaglenni celfyddydol yn aml yw'r cyntaf i gael eu torri pan fydd cyllidebau'n tynhau. Mae cyllid y celfyddydau y pen mewn rhai awdurdodau lleol gwledig yn llai na hanner ardaloedd trefol, gan adael pobl ifanc yn y rhanbarthau hyn gyda llai o gyfleoedd i ymgysylltu'n greadigol.
Mae'r "Bwlch Celfyddydau Ieuenctid" hwn yn arwain at ganlyniadau real. Fe wnaeth astudiaeth yn 2019 yn Psychology of Aesthetics, Creativity, and the Arts ganfod bod canlyniadau iechyd meddwl pobl ifanc yn eu harddegau â mynediad at raglenni celfyddydol yn well, gan gynnwys cyfraddau is o bryder ac iselder. Mewn cyferbyniad, mae ardaloedd â mynediad cyfyngedig i'r celfyddydau (yn aml yn gorgyffwrdd ag amddifadedd economaidd) yn gweld achosion uwch o broblemau iechyd meddwl. Yng Nghymru, mae'r gwahaniaeth hwn yn amlwg: mae cymunedau sydd â'r buddsoddiad celfyddydol isaf, fel rhannau o'r Cymoedd, yn adrodd rhai o'r cyfraddau uchaf o atgyfeiriadau iechyd meddwl ieuenctid.
Lleisiau gan Bobl Ifanc yn eu Harddegau yng Nghymru
Nid ystadegyn yn unig yw diffyg cyfleoedd celfyddydol - mae'n realiti byw i bobl ifanc yng Nghymru.
Ledled Cymru, mae pobl ifanc yn eu harddegau mewn ardaloedd heb ddigon o wasanaethau yn dweud wrthym fod allfeydd creadigol, pan fydd ar gael, yn llinellau achub i lywio pwysau'r glasoed. Mae'r cyfleoedd hyn yn cryfhau bondiau cymdeithasol, gan wrthsefyll yr ynysu sy'n aml yn tanio brwydrau iechyd meddwl; yn ogystal â bod o fudd i'w haddysg, eu hiechyd corfforol a'u hapusrwydd pur.
Tegwch a Mynediad
Nid yw’n bosib gwahanu’r Bwlch Celfyddydau Ieuenctid yng Nghymru oddi wrth anghydraddoldebau ehangach. Mae ardaloedd incwm isel a gwledig, lle mae cyllid y celfyddydau yn brin, hefyd yn wynebu heriau fel gwasanaethau iechyd meddwl cyfyngedig, rhestrau aros hir y GIG ac ysgolion sydd dan bwysau. Fe wnaeth astudiaeth yn 2020 yn The Lancet Public Health dynnu sylw at y ffaith bod amddifadedd economaidd-gymdeithasol, sy'n gyffredin yn y rhanbarthau hyn, yn gwaethygu risgiau iechyd meddwl. Pan fydd diffyg rhaglenni celfyddydol, mae pobl ifanc yn eu harddegau yn colli offeryn profedig ar gyfer ymdopi, gan eu gadael yn fwy agored i straen a datgysylltiad.
Yn CCIC, rydym ni’n credu fod pob unigolyn yn eu harddegau yn haeddu mynediad i'r celfyddydau, waeth beth fo'u cod post. Ein cenhadaeth yw darparu cyfleoedd creadigol o'r radd flaenaf - ond ni allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain. Mae angen newid systemig i sicrhau cyllid teg i'r celfyddydau ledled Cymru. Mae Deddf Lles Cenedlaethau'r DyfodolLlywodraeth Cymru yn galw am genedl iachach, fwy cyfartal - efallai mai buddsoddi mewn celfyddydau ieuenctid yw'r ffordd fwyaf uniongyrchol o gyflawni hyn.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn annog llunwyr polisi, addysgwyr a chymunedau i flaenoriaethu buddsoddiad yn y celfyddydau fel strategaeth iechyd meddwl i bobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru. Nid moethusrwydd dosbarth canol yw'r celfyddydau - maen nhw'n angenrheidiol ar gyfer lles pobl ifanc o bob cefndir. Yn CCIC, rydym wedi ymrwymo i gau'r Bwlch Celfyddydau Ieuenctid, ond mae'n cymryd camau ar y cyd. Y Diwrnod Ieuenctid Rhyngwladol hwn, gadewch i ni sicrhau bod pob unigolyn yn eu harddegau yng Nghymru yn cael y cyfle i greu, cysylltu a ffynnu. Ymunwch â ni i eirioli dros Gymru lle nad oes unrhyw berson ifanc yn cael ei adael heb fywyd creadigol cyfoethog.
Evan Dawson
Prif Swyddog Gweithredol, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Awst 2025
Partneriaeth Dawns Celtic Collective yn Dod â Thalent Newydd o Gymru a'r Alban Ynghyd
Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) a Chwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol yr Alban (NYDCS) yn falch o barhau â'u partneriaeth Celtic Collective - cyfnewidfa diwylliannol deinamig sy'n cysylltu dawnswyr ifanc o'r ddwy wlad trwy gyrsiau preswyl, perfformiadau a chyfleoedd datblygu cydweithredol.
Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) a Chwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol yr Alban (NYDCS) yn falch o barhau â'u partneriaeth Celtic Collective - cyfnewidfa diwylliannol deinamig sy'n cysylltu dawnswyr ifanc o'r ddwy wlad trwy gyrsiau preswyl, perfformiadau a chyfleoedd datblygu cydweithredol.
Eleni, mae'r bartneriaeth yn gweld cyfnewid rhwng dau ddawnsiwr ifanc arbennig: Eira Diamond o Wynedd, Gogledd Cymru, sy'n astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caeredin, a Ross Hoey o Glasgow, Yr Alban. Mae'r cyfnewid yn rhan o ymdrech ehangach i adeiladu cysylltiadau rhwng dawnswyr ifanc ar draws y cenhedloedd Celtaidd.
Meddai Ross: "Mae fy mhrofiad i wedi bod yn wych dod i lawr i Gymru, mae'r stwff mor ddwys, mae’n eich gwneud chi'n neis ac yn gryf ac rydych chi'n cael cymaint o athrawon gwahanol, profiadau gwahanol ac arddulliau symud gwahanol sydd wir yn ehangu eich symud."
Ymunodd Eira â NYDCS yn 2024, ar ôl 2 flynedd fel aelod o DGIC, gan gymryd rhan yn ymarferion a pherfformiadau Weave, wedi'i goreograffu gan Anna Kenrick. Ers mis Medi, mae hi wedi teithio gyda'r cwmni i Stirling, Belfast, a Leeds. Dychwelodd Eira i Gymru i ymuno â chwmni 25ain blwyddyn DGIC ar gyfer cyfnod preswyl dwys pythefnos o hyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd yn gynharach ym mis Gorffennaf.
Meddai Eira: “Mae fy mhrofiad yn NYDCS wedi bod yn anhygoel. Rwy'n credu ei bod hi’n wirioneddol bwysig ymestyn eich cysylltiadau y tu allan i'ch ardal leol yn unig. Felly yn amlwg rydw i wedi dawnsio gyda'r dawnswyr Cymreig hyn nifer o weithiau, felly mae'n wych mynd i ehangu'r gorwelion, a chwrdd â dawnswyr ifanc newydd sydd yr un mor angerddol â fi.
Mae hefyd wedi bod yn wych cael llawer o gyfleoedd i berfformio oherwydd dyna beth rydw i'n hoffi ei wneud fwyaf ac mae NYDCS yn cynnig cymaint o gyfleoedd perfformio. Rydyn ni'n llythrennol ar daith am yr haf cyfan, yn dawnsio mewn llwyth o wahanol leoedd, felly rwy'n ddiolchgar i gael y cyfleoedd perfformio hynny hefyd."
Eira (DGIC) a Ross (NYDCS)
Eleni ymunodd Ross o NYDCS ag Eira yng nghwmni DGIC, lle bu'n gweithio ochr yn ochr â 21 aelod – rhai o'r dawnswyr ifanc gorau ledled Cymru, i gynhyrchu estyniad i ddarn 25 munud y coreograffydd enwog, Yukiko Matsui - "The Night Is Darkest Just Before the Dawn" - a aeth i'r llwyfan a syfrdanu cynulleidfaoedd yn Sadler's Wells East yn Llundain yr wythnos diwethaf.
Dywedodd Jamie Jenkins, Cynhyrchydd a Phennaeth Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru: "Mae wedi bod yn bleser parhau â'n partneriaeth â NYDCS eleni a chael Ross yn ymuno â'r cwmni yn ystod blwyddyn ben-blwydd gyffrous i DGIC. Rydym ni’n falch o gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr ifanc talentog ac yn edrych ymlaen at weld y bartneriaeth yn datblygu ymhellach."
Ychwanegodd Anna Kenrick o Gwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol yr Alban: "Rydym ni’n edrych ymlaen at barhau'r bartneriaeth, gan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous i fwy o ddawnswyr o'r Alban a Chymru yn y dyfodol."
Bydd aelod o NYDCS, Ross Hoey, yn ailymuno â DGIC ar gyfer dau berfformiad olaf yn Glan yr Afon, Casnewydd, ar 30 a 31 Hydref. Bydd y digwyddiad hefyd yn dangos dangosiad cyntaf o raglen ddogfen yn dilyn y cwmni eleni fel rhan o'r dathliadau sy'n nodi 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru.
Bydd NYDCS hefyd yn perfformio yn EVOLUTION gan YDance yn Fringe Caeredin eleni. Yn rhedeg rhwng 5ed -10fed Awst, mae'r gynghrair ryngwladol hon o symudiad a diwylliant yn arddangos doniau dawnswyr o'r DU ac Estonia, ac yn dathlu Prosiect Y yn troi’n 20.
I ddarganfod mwy am ddathliadau 25 Mlynedd DGIC, gwasgwch yma.
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn mynd ar daith yr wythnos yma ar gyfer Haf o Gerddoriaeth
Mae preswyliad Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) ym Mhrifysgol De Cymru, Llanbedr Pont Steffan, bellach ar y gweill. Mae dros 100 o gerddorion ifanc o bob cwr o Gymru yno, yn gweithio'n galed yn ymarfer rhaglen gyngerdd egnïol Americanaidd cyn cychwyn ar daith yr wythnos hon.
CGIC 2024
Mae preswyliad Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) ym Mhrifysgol De Cymru, Llanbedr Pont Steffan, bellach ar y gweill. Mae dros 100 o gerddorion ifanc o bob cwr o Gymru yno, yn gweithio'n galed yn ymarfer rhaglen gyngerdd egnïol Americanaidd cyn cychwyn ar daith yr wythnos hon.
Dan arweiniad yr arweinydd o fri rhyngwladol, Kwamé Ryan, bydd y rhaglen yn cynnwys Symphonic Dances gwych Bernstein o West Side Story a Porgy and Bess: A Symphonic Picture gan Gershwin.
Mae taith cyngerdd haf CGIC yn dechrau gydag Ymarfer Gwisg ar 30 Gorffennaf, yn Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol De Cymru yn Llanbedr Pont Steffan, cyn teithio i Eglwys Gadeiriol eiconig Tyddewi y diwrnod canlynol ar gyfer perfformiad yng Ngŵyl Gerdd Abergwaun.
Ar 1 Awst, byddant yn teithio i Eglwys Gadeiriol Henffordd ar gyfer Gŵyl y Tri Chôr, cyn cyfnod i fyny yn y gogledd yn Eglwys Gadeiriol gothig Llanelwy yn Sir Ddinbych, cyn mynd yn ôl i lawr i’r de ar gyfer cyngerdd cloi yn Neuadd y Brangwyn, lleoliad mawreddog yn Abertawe, ddydd Sul 3 Awst.
Mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed y flwyddyn nesaf. Sefydlwyd y gerddorfa ym 1945, a berfformiwyd ei chyngerdd gyntaf ym 1946. Mae’r Gerddorfa’n nodedig am mai hi yw cerddorfa ieuenctid genedlaethol gyntaf y byd.
Fel gyda phob ensemble CCIC, mae'r Gerddorfa yn datblygu profiad hyfforddi o'r radd flaenaf yn berfformiadau sy'n llawn angerdd ac yn gweithio gyda cherddorion proffesiynol uchel eu parch i helpu i gyflawni rhagoriaeth.
Ni ddylid colli'r perfformiad – archebwch docynnau heddiw!
Repertoire CGIC 2025:
Mason Bates - Attack Decay Sustain Release - 5’
Samuel Barber - Second Essay for Orchestra - 10’
Gershwin - Porgy & Bess, Symphonic Picture - 24’
Bernstein - Symphonic Dances, West Side Story - 23’
Wang Jie - America the Beautiful - 6’
Am ragor o wybodaeth am y cyngherddau ac i archebu tocynnau, ewch i: www.ccic.org.uk/digwyddiadur
Taith CCIC – O Aelod o'r Côr i Gynhyrchydd dan Hyfforddiant
Bron i 10 mlynedd yn ôl, roeddwn i'n paratoi i fynychu fy nghwrs preswyl cyntaf ar gyfer Côr Hyfforddi Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn Nhrefynwy. Dyma oedd fy mhrofiad cyntaf o breswyliad, ac roeddwn i'n nerfus iawn. Mor nerfus nes i mi bron beidio â mynd.
Bron i 10 mlynedd yn ôl, roeddwn i'n paratoi i fynychu fy nghwrs preswyl cyntaf ar gyfer Côr Hyfforddi Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn Nhrefynwy. Dyma oedd fy mhrofiad cyntaf o breswyliad, ac roeddwn i'n nerfus iawn. Mor nerfus nes i mi bron beidio â mynd.
Nawr 10 mlynedd yn ddiweddarach, 7 preswyliad yn ddiweddarach, a gwell rheolaeth o'm nerfau, gallaf ddweud yn falch fy mod yn Gynhyrchydd dan Hyfforddiant ar gyfer Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru.
Roedd fy mlynyddoedd cyntaf yn y Côr Hyfforddi yn rhan annatod o ddatblygiad fy sgiliau fel aelod o gôr a cherddor, a dyma ble ddysgais pa mor wahanol oedd canu corawl i fod yn unawdydd. Yn sydyn, nid oedd y canu mwyaf uchel – o ran tôn na lefel sain – yn cael ei ystyried yn 'drawiadol', ac ar ôl ychydig o ymarferion dysgais ystyr gair dirgel – asio. Byddai'r sgil newydd hon yn fy helpu i mewn corau niferus dros y blynyddoedd ac yn fy ngalluogi i werthfawrogi'r gerddoriaeth roeddwn i'n ei chreu gydag eraill. Gwelais fod hyn hefyd yn cael effaith gadarnhaol wrth weithio gyda chyfeilyddion cydweithredol, gan greu llawer mwy o gydbwysedd a phartneriaeth o fewn perfformiadau.
Y preswyliad hwn hefyd oedd y tro cyntaf i mi fod i ffwrdd o gartref am wythnos, ac fe ddaeth hynny â'i heriau a'i wersi am gyfrifoldeb hefyd. Byddwn wrth fy modd yn gallu dweud fy mod i'n ddigon synhwyrol i gael digon o gwsg bob nos, ond roedd y profiad newydd o rannu ystafell gysgu gyda 4 arall yn llawer rhy gyffrous! Wrth edrych yn ôl, mi faswn yn argymell cael cymaint o gwsg â phosibl...
Roedd graddio i Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gam mawr. Roeddwn i'n dal yn ifanc, dim ond yn 16, ond roeddwn i'n teimlo fy mod yn cael fy nhrin fel rhywun proffesiynol. Nid yn unig roedd y dyddiau’n hirach a'r gerddoriaeth yn anoddach, ond roedd y disgwyliadau ohonom fel oedolion ifanc i fod yn brydlon ac yn ddisgybledig yn cynyddu. Fodd bynnag, gyda hyn daeth mwy o ymdeimlad o gymuned a pherthyn. Roedd gweithio o ddydd i ddydd i lunio rhaglen amrywiol o arddulliau ac ieithoedd gyda'n gilydd yn fraint, ac fe helpodd i greu cysylltiadau cadarn sydd wedi datblygu i gyfeillgarwch a chysylltiadau gydol oes ledled y wlad. Nawr ble bynnag y byddaf yn mynd, byddaf bob amser yn gweld wyneb cyfeillgar cyfarwydd ym mhob prosiect neu ddigwyddiad gwaith, sy'n dangos bod CCIC wir yn cynhyrchu ac yn meithrin talent Cymru’r dyfodol!
Megan Jones
Yn ystod fy nghyfnod fel aelod o'r Côr, roeddwn i'n ffodus i weithio gyda rhai arweinwyr anhygoel – gan gynnwys Carlo Rizzi, Tim Rhys-Evans a Nia Llewellyn Jones. Roedd Nia yn hynod ysbrydoledig i mi, a hithau’n camu i rôl yr oeddwn yn draddodiadol wedi'i gweld yn cael ei meddiannu gan ddynion. Mae pob un wedi dysgu pethau i mi sydd wedi effeithio'n gadarnhaol ar y ffordd rwy'n perfformio, ond yn bwysicach fyth y ffordd rwy'n meddwl am gerddoriaeth. Deall testun yw fy mlaenoriaeth gyda darn newydd, waeth beth fo'r iaith. Yn ddiddorol, Saesneg yn aml yw'r anoddaf i'w dehongli ac mae angen yr un faint o amser a manylder ag unrhyw iaith arall!
Roedd yr arweinydd Tim Rhys-Evans, sydd wedi bod yn arwain y côr ers fy mlwyddyn gyntaf (ac yn dal i fynd!) yn ddylanwad enfawr arnaf yn ystyried cerddoriaeth fel gyrfa. Doeddwn i erioed wedi ystyried gwneud cais am gonservatoires nes iddo fy annog i roi cynnig arni yn fy Nghlyweliad CCIC yn 2019. Byddaf am byth yn ddiolchgar i Tim am fy nghyflwyno i'r posibilrwydd o yrfa yn y celfyddydau ac agor y drws i mi astudio gradd Baglor mewn Cerddoriaeth mewn Astudiaethau Lleisiol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
“Rwy’n teimlo’n hynod ddiolchgar i CCIC am roi’r cyfleoedd hyn i mi dyfu a llwyddo”
Fe arweiniodd y Côr hefyd i mi gymryd rhan mewn rhai cyfleoedd anhygoel, megis perfformio nifer o gomisiynau, gan gynnwys 'Sorrows of the Somme' gan Brian Hughe, a ysgrifennwyd i goffáu'r milwyr Cymreig a laddwyd ym mrwydr Coed Mametz. Ffefryn arall oedd perfformio yn Stadiwm Principality i agor gêm rygbi Cymru v Lloegr, lle enillon ni! Efallai bod angen cefnogaeth CCIC ar dîm Cymru eto?
Fodd bynnag, uchafbwynt fy amser yn y Côr oedd y cydweithrediad rhwng y Côr a'r Gerddorfa yn ôl yn 2018. Fe wnaethon ni berfformio Salmau Chichester Bernstein mewn lleoliadau anhygoel ledled Cymru, gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Henffordd, Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Neuadd Dewi Sant. Mae'n parhau i fod y darn mwyaf mawreddog o waith i mi gael y pleser o weithio arno erioed. Dyma hefyd fy mhrofiad cyntaf o ganu gyda cherddorfa, a oedd, er yn fyddarol, yn wahanol i unrhyw beth roeddwn i erioed wedi'i brofi o'r blaen! Fe roddodd gyfle i mi gaffael sgil newydd a'm paratoi i ddechrau'r dasg fwy brawychus o waith unigol.
Pan adawais y Côr yn 2023, roedd yn anodd delio â'r ffaith fy mod wedi colli rhywbeth a oedd wedi bod yn rhan ohonof ers blynyddoedd. Roeddwn mor lwcus y cefais wahoddiad yn ôl yr haf canlynol i berfformio yng nghyngerdd pen-blwydd yn 40 fel rhan o Gôr o gyn aelodau. Fe berfformiais ochr yn ochr â ffrindiau, tiwtoriaid, staff a llu o unigolion anhygoel sydd wedi cael eu heffeithio gan CCIC.
Yn yr un flwyddyn, cefais hefyd y pleser o wirfoddoli a dod yn gynorthwyydd cwrs ar gyfer prosiect Assemble, profiad newydd arall i mi feithrin sgiliau ac archwilio llwybr gyrfa wahanol yn y celfyddydau. Roedd y prosiect hwn yn gam allweddol i ennill profiad a magu hyder yn fy sgiliau ac yn y pen draw rhoddodd yr hwb olaf i mi wneud cais am y rôl Cynhyrchydd dan Hyfforddiant.
Yn fy nghyfnod byr yn y swydd, rwyf eisoes wedi profi a dysgu cymaint am y gwaith o gynhyrchu'r preswyliadau, ac mae fy mhrofiadau blaenorol fel aelod wedi bod yn amhrisiadwy wrth wneud penderfyniadau a myfyrio ar ba newidiadau roeddwn i am eu gweld fel aelod. O ran sgiliau, mae fy hyder yn fy sgiliau Cymraeg wedi gwella'n sylweddol diolch i ethos dwyieithog CCIC, yn ogystal â'r gwelliant amlwg yn fy sgiliau TG yn rhinwedd fy rôl. Rwyf eisoes wedi profi llawenydd taith glyweliad 2025, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael profi'r preswyliad o safbwynt Cynhyrchydd.
Wrth fyfyrio ar y 10 mlynedd diwethaf, rwy'n hynod falch o'r hyn rydw i wedi'i gyflawni, ac rwy'n teimlo'n hynod ddiolchgar i CCIC am roi'r cyfleoedd hyn i mi dyfu a llwyddo. Mae'n amlwg bod y cyfleoedd a'r profiadau rhyfeddol a roddwyd i mi wedi fy arwain at rôl Cynhyrchydd dan Hyfforddiant a byddant yn fy helpu i barhau yn fy natblygiad proffesiynol am flynyddoedd i ddod.
Ymlaen i'r 10 mlynedd nesaf, be bynnag a ddaw!
Post blog gan Megan Jones, CCIC Cynhyrchydd Dan Hyfforddiant
Adolygiad Dawns Cymru – Ymateb gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC), rydym ni’n croesawu’r Adolygiad Dawns Cymru hwn ac yn cydnabod ei bwysigrwydd hanfodol wrth lunio dyfodol dawns yng Nghymru.
©Sian Trenberth Photography
Yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC), rydym ni’n croesawu’r Adolygiad Dawns Cymru hwn ac yn cydnabod ei bwysigrwydd hanfodol wrth lunio dyfodol dawns yng Nghymru. Rydym yn cefnogi ei 11 argymhelliad yn llawn ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio â Chyngor Celfyddydau Cymru a sefydliadau celfyddydol eraill ledled Cymru i helpu i wireddu'r argymhellion hyn.
Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn cefnogi pobl ifanc ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru i gael mynediad at ddawns, ac mae ein cynllun bwrsariaeth yn helpu i sicrhau na ddylai incwm aelwydydd byth fod yn rhwystr i ddawnswyr ifanc talentog. Felly rydym yn croesawu'r argymhelliad yn arbennig o ystyried hyfforddiant.
Mewn cyfnod o anhawster mawr i'r gymuned ddawns yng Nghymru, mae'r adroddiad hwn a'r hwb ariannol gan ACW yn gyfle enfawr i roi egni newydd i'r sector dawns. Yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, byddwn yn sicrhau bod diddordebau pobl ifanc yn rhan o'r sgwrs barhaus.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd amdanom ni yn yr adroddiad, rydym yn falch o gadarnhau ein bod yn recriwtio dawnswyr mewn hyfforddiant proffesiynol a'r rhai nad ydynt mewn hyfforddiant proffesiynol, gyda ffocws cryf ar adnabod a datblygu talent ifanc o Gymru o bob cwr o'r wlad.
Byddwn yn parhau i ymgynghori'n ofalus â phobl ifanc i sicrhau bod ystod eang o arddulliau dawns yn cael eu hadlewyrchu a'u gwerthfawrogi yn ein darpariaeth ein hunain. Er y byddwn yn parhau i gynnal hyfforddiant technegol cryf mewn arddulliau Cyfoes, nid dyma ein unig ffocws. Mae ein dull yn dathlu amrywiaeth mewn ymarfer dawns ac yn agor llwybrau ar gyfer cyfranogiad a mynegiant ehangach ar draws Cymru gyfan. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn fuan yn cynnal Diwrnod Dawns i Fechgyn mewn partneriaeth â Ballet Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru; ac yn ddiweddarach eleni, byddwn yn lansio rhaglen newydd arloesol o gyfleoedd dawns a cherddoriaeth i bobl ifanc mewn ardaloedd penodol o amddifadedd lluosog.
Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn falch o hyrwyddo talent cartref a chefnogi a chyflogi ymarferwyr a choreograffwyr o Gymru ar draws ein rhaglenni. I gydnabod heriau sylweddol y sector ar hyn o bryd, rydym wedi cryfhau ein gallu ein hunain trwy gynyddu’r rôl arweinyddiaeth mewn dawns i swydd amser llawn, gan sicrhau cefnogaeth barhaus a datblygiad strategol ar gyfer dawns yng Nghymru i genedlaethau'r dyfodol.
Jamie Jenkins
Pennaeth Dawns, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
4 Gorffennaf 2025
Ymateb Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i adolygiad CCC o gerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru
Rydym ni'n croesawu adolygiad strategol gan Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n pwysleisio'n eglur fywioldeb a bregusrwydd cerddoriaeth draddodiadol Cymru, tra'n nodi llwybr clir ar gyfer ei chynaliadwyedd a'i thyfiant.
Rydym ni'n croesawu adolygiad strategol gan Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n pwysleisio'n eglur fywioldeb a bregusrwydd cerddoriaeth draddodiadol Cymru, tra'n nodi llwybr clir ar gyfer ei chynaliadwyedd a'i thyfiant.
Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rydym ni'n hyrwyddo pwysigrwydd celfyddydau a chreadigrwydd i bawb ifanc, gan wella eu lles, eu cymunedau a'u haddysg. Rydym ni’n awyddus i chwarae rôl wrth gynnal a datblygu cerddoriaeth werin Cymru drwy addysg a hyfforddiant i bobl ifanc.
Drwy ein ensembles ieuenctid cenedlaethol a phartneriaethau, rydym ni’n darparu llwyfannau i gerddorion ifanc i archwilio cerddoriaeth Gymreig. Mae rhaglenni fel Llinynnau Ynghlwm, Sgiliau Côr a Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dangos ein hymrwymiad i addysg gerddoriaeth o ansawdd uchel sy'n gynhwysol ac sy'n dathlu etifeddiaeth diwylliannol Cymru tra'n annog creadigrwydd ac arloesedd.
Rydym ni’n barod i ddyfnhau ein cydweithrediad â phartneriaid fel Tŷ Cerdd, Coleg Brenhinol Cerdd & Drama Cymru, a Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru i fynd i'r afael â'r bylchau yn y ddarpariaeth a chreu llwybrau hygyrch i bobl ifanc ledled Cymru i ymgysylltu â cherddoriaeth draddodiadol.
Mae buddsoddiad Cyngor y Celfyddydau yn y rhaglen Gwerin yn gam pwysig ymlaen ar gyfer y sector cerddoriaeth werin, ac i rymuso cerddorion ifanc i gysylltu â thraddodiadau gwerin Cymru a chyfrannu atynt. Mae'n hanfodol bod cerddoriaeth werin Cymru yn parhau i fod yn rhan ddeinamig a hanfodol o'n hunaniaeth ddiwylliannol, yn diogelu ein treftadaeth gerddorol unigryw Gymreig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Evan Dawson - Prif Weithredwr,
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
25 Mehefin 2025
Cyfle Swydd: Arweinydd Tîm Lles (TCIC)
Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru’n chwilio am Arweinydd Tîm Lles brwdfrydig ac egnïol i ymuno â chwrs preswyl Haf 2025. Byddwch yn gweithio gydag ac yn rheoli ein swyddogion lles, sy’n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi lles ac anghenion bob dydd ein haelodau, sydd rhwng 16 - 22 oed.
Gweithiwch gyda ni’r Haf hwn!
Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru’n chwilio am Arweinydd Tîm Lles brwdfrydig ac egnïol i ymuno â chwrs preswyl Haf 2025. Byddwch yn gweithio gydag ac yn rheoli ein swyddogion lles, sy’n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi lles ac anghenion bob dydd ein haelodau, sydd rhwng 16 - 22 oed.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n rhannu ein hymrwymiad i greu amgylchedd cefnogol a chreadigol, er mwyn caniatáu i’n perfformwyr ifanc ffynnu a gwneud eu gwaith gorau yn ystod eu hamser gyda ni. Rydym yn chwilio am rywun fydd yn croesawu’r cyfle i gynllunio a throsglwyddo gweithgareddau cymdeithasol hwyliog ar rai nosweithiau a fyddai wrth eu bodd yn cydweithio gyda rhai o ymarferwyr theatr mwyaf creadigol a chyffrous Cymru a thu hwnt. Mae’r rôl hon yn galw am weithio dros nos ac mae gallu gweithio oriau hyblyg yn hanfodol.
Profiad hanfodol:
Profiad dangosadwy o weithio gydag oedolion ifanc mewn lleoliad celfyddydau neu addysg.
Wedi cwblhau hyfforddiant achrededig ar Ddiogelu Plant a Phobl Ifanc.
Sgiliau trefnu a rhyngbersonol rhagorol.
Deall pwysigrwydd Iechyd a Diogelwch o fewn lleoliad addysg neu gelfyddydau.
Wedi rheoli timau bach neu staff mewn rhyw fodd.
Cyfforddus yn siarad ac ysgrifennu Cymraeg.
Meddu ar drwydded yrru ac yn gallu gyrru car llog.
Dros 26 oed (er mwyn cydymffurfio â pholisi diogelu CCIC).
Yn fodlon derbyn gwiriad DBS manwl (y bydd CCIC yn talu amdano).
Ar gael rhwng y 24ain a’r 30ain Awst 2025 (yn cynnwys dros nos).
Dymunol (ond nid yn hanfodol)
Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Achrededig.
Wedi derbyn Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Achrededig.
Profiad o weithio ym maes theatr neu ddrama.
Telerau
Rhaid i chi fod ar gael ar gyfer y cyfnod rhwng y 24ain a’r 30ain o Awst (yn cynnwys dros nos gan fod hon yn swydd ar gwrs preswyl).
Y ffi ar gyfer y cyfnod cyfan a chyfarfodydd briffio ar-lein ymlaen llaw fydd £900.
Darperir y llety i gyd mewn ystafell sengl en-suite yn fflat y Tîm Lles gyda chegin a lolfa i’w rhannu.
Darperir Brecwast, Cinio a Swper (a the a choffi) gan y staff arlwyo.
Telir am eich costau teithio ar ddechrau a diwedd y cwrs preswyl.
Bydd Arweinydd y Tîm Lles yn gyfrifol am rota y tîm lles a sicrhau y bydd pob aelod o’r tîm lles yn derbyn digon o amser i ffwrdd o’u dyletswyddau yn ystod yr wythnos. Os bydd arweinydd y Tîm Lles angen amser penodol i ffwrdd o’r cwrs preswyl, gellir trefnu hyn gyda chynhyrchydd ThCIC o roi digon o rybudd ymlaen llaw.
Cynhelir cyfweliadau anffurfiol ar 16eg Gorffennaf rhwng 9am ac 1pm neu 6pm ac 8pm. Nodwch os mai’r bore neu’r.
I ymgeisio am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais ganlynol i fynegi eich diddordeb erbyn y 9fed Gorffennaf.
Bydd buddsoddiad mewn Addysg Gerddoriaeth yng Nghymru yn cefnogi gwasanaethau i adeiladu darpariaeth
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) wedi croesawu cyllid parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru am y 3 mlynedd nesaf.
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi croesawu cyllid parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru am y 3 mlynedd nesaf.
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC)
Mae'r buddsoddiad o £12m (£4m bob blwyddyn) yn mynd i alluogi'r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol i gynnal a chynyddu ei ddarpariaeth o'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerddorol hyd at Fawrth 2028, gan hybu mynediad teg i addysg gerddorol o safon i bob dysgwr yng Nghymru.
Ers ei lansio yn 2022, mae Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru (GCC Cymru) wedi cefnogi miloedd o ddysgwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol, dysgu sut i chwarae offerynnau, i adeiladu ar sgiliau creadigol ac i ddarganfod llwybrau newydd i gyfoethogi cyfleoedd yn y byd cerddorol trwy raglenni ysgol a chymuned.
Mae GCC Cymru wedi'i gydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac mae'n gweithio'n agos gyda'r holl Awdurdodau Lleol yng Nghymru, a gwahanol bartneriaid, i weithredu’r cynllun. Bydd y cylch ariannol newydd yn caniatáu i Wasanaethau Cerddoriaeth barhau i ddarparu rhaglenni craidd, fel y rhaglen Cerddoriaeth mewn Ysgolion, Creu Cerddoriaeth gydag eraill, i ddatblygu'r strategaeth gynhwysol ‘Cynnwys Pob Nodyn’ a'r llyfrgell offerynnau cenedlaethol. Bydd GCC Cymru hefyd yn parhau i gynnig mynediad am ddim i ddisgyblion ac athrawon i'r platfform addysg gerddoriaeth ddwyieithog lwyddiannus, Charanga Cymru.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru:
“Mae gan Gymru hanes balch o ragoriaeth gerddorol ymysg ei phobl ifanc, sy’n cyfrannu at ein hunaniaeth genedlaethol, cymuned, canlyniadau addysgol, gwytnwch meddyliol a hapusrwydd. Bydd y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn ein helpu ni yn Celfyddydau Ieuenctid Cymru i barhau i ddarparu'r Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Cymru - mewn partneriaeth agos â'r gwasanaethau cerdd rhagorol ledled y wlad.
“Mewn cyfnod pan fo teuluoedd yng Nghymru yn ymgymryd â phob math o heriau, gall cerddoriaeth a chreadigrwydd helpu i godi gorwelion pobl ifanc, adfywio eu breuddwydion a'u hysbrydoli i ddod yn ddinasyddion ffyniannus Cymreig y dyfodol.”
“Mae effaith greadigol, gymdeithasol ac addysgol GCC Cymru ar bobl ifanc ledled Cymru, beth bynnag yw eu cefndir, wedi ei ddangos yn glir yn ystod y blynyddoedd cynnar, ac mae'n eithriadol,” meddai'r Athro Helena Gaunt, Pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Chadeirydd bwrdd ymgynghori GCC Cymru. “Bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau â'r cyllid hwn yn galluogi'r nifer o wasanaethau cerddoriaeth, athrawon cerddoriaeth, ysgolion a’n sefydliadau partner sy'n gyfrifol am gyflawni’r Cynllun i gynnal y llwyddiannau enfawr sydd wedi bod hyd yn hyn, ac i wireddu gweledigaeth y gwasanaeth hwn.”
Dywedodd Cydlynydd Cenedlaethol GCC Cymru, Mari Lloyd Pritchard:
“Rydym ni'n falch eithriadol bod y cyllid yn parhau am y tair blynedd nesaf. Mae Gwasanaethau Cerddoriaeth ledled Cymru wedi gweithio’n ddiflino dros y tair blynedd diwethaf i gynnig cyfleoedd addysg gerddorol ragorol i blant a phobl ifanc ym mhob sir ledled Cymru, ac rydym ni’n cael ein cyffroi gan y canlyniadau ysbrydoledig o’r gwaith hwn bob dydd.
“Mae adferiad yn cymryd amser, ac yn ogystal â’n partneriaid allweddol sydd yn ein cefnogi'n fawr, edrychwn ymlaen at adeiladu ar y sylfeini pwysig hyn a sicrhawyd yn llwyddiannus ers 2022.”
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Llefarydd CLllC ar Addysg: “Rydym yn falch o weld cefnogaeth barhaus ar gyfer y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol. Mae cerddoriaeth yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu pobl ifanc i fynegi eu hunain, adeiladu hyder a datblygu sgiliau newydd. Bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau bod mwy o blant yn gallu profiad y llawenydd o greu cerddoriaeth, ble bynnag maen nhw'n byw a pha bynnag yw eu cefndir. “Yn yr hinsawdd economaidd heriol sydd heddiw, mae'n galonogol gweld Llywodraeth Cymru yn cynnal ei chefnogaeth ar gyfer addysg gerddorol a’r celfyddydau. Ar adeg pan mae llawer o wasanaethau dan bwysau, mae'r ffaith nad yw'r cyllid hwn wedi lleihau yn arwydd cryf o'r gwerth a roddir ar greadigrwydd a chyfleoedd i bawb. Mae buddsoddi mewn cerddoriaeth hefyd yn fuddsoddiad mewn lles, hyder, a thaith addysgol ehangach ein pobl ifanc.”
Dychweliad Yukiko: DGIC yn cyhoeddi Cwmni’r 25ain Flwyddyn
Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn falch iawn o gyhoeddi dychweliad y Coreograffydd a'r Cyfarwyddwr Symudiad enwog, Yukiko Masui.
Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn falch iawn o gyhoeddi dychweliad y Coreograffydd a'r Cyfarwyddwr Symudiad enwog, Yukiko Masui.
Bydd y coreograffydd o fri rhyngwladol a anwyd yn Tokyo, ac sy'n byw yn Llundain, yn ymuno â DGIC yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf ar gyfer cwrs preswyl pythefnos o hyd gyda' Chwmni’r 25ain Flwyddyn cyn iddynt deithio i Lundain ar gyfer perfformiad cyffrous yn y 'Cartref Dawns' enwog - Sadler's Wells.
Bydd y cwmni yn ail-lwyfannu The Night is Darkest Just Before Dawn gan Yukiko Masui - cyfuniad pwerus o Ddawns Gyfoes, Hip Hop, a Chelfyddydau Ymladd. Bydd y darn yn cael ei ailwampio a'i ymestyn gan gynnwys adrannau newydd.
Daeth aelodau ensemble 25ain flwyddyn DGIC at ei gilydd yn gynharach y mis hwn i gwrdd fel cwmni wyneb yn wyneb am y tro cyntaf. Dechreuodd y diwrnod gydag Errol White o White & Givan a Sefydliad Theatr, Dawns, Ffilm a Theledu yr Alban ar gyfer gweithdy Dwys Elitaidd gyda'n dawnswyr, gan ddilyn gyda ffitio gwisgoedd a thynnu penluniau proffesiynol.
"Roedd yn fraint gweithio gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Gwaith gwych gan bawb!", meddai'r perfformiwr, coreograffydd a chyfarwyddwr symudiad arobryn, Errol White.
DGIC 2025 Cwmni
Mae cwmni eleni yn gymysgedd bywiog o gyn-fyfyrwyr sy'n dychwelyd a wynebau ffres. Rydym ni’n falch o groesawu nifer o ddawnswyr sy'n dychwelyd, sy'n dod â phrofiad a dealltwriaeth o ethos a gwerthoedd DGIC gyda nhw. Ochr yn ochr â nhw, mae naw o ddawnswyr newydd yn ymuno â'r cwmni am y tro cyntaf yn dilyn clyweliadau ledled y wlad fis Mawrth diwethaf.
Dywedodd Jamie Jenkins, Pennaeth Dawns yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “Rydw i wedi fy nghyffroi gan egni'r ensemble eleni. Mae'r dawnswyr hyn yn hynod dalentog - yn bendant maen nhw’n rhai i'w gwylio!"
Yn ystod y cwrs preswyl eleni ym mis Gorffennaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, bydd aelodau'r ensemble yn cael cyfle i gymryd ystod o ddosbarthiadau ochr yn ochr â chyn-fyfyrwyr DGIC, a rhai sy’n cael eu cyflwyno gan gyn-fyfyrwyr DGIC.
DGIC 2025 Cwmni
Bydd On Par Productions yn cofnodi taith y cwmni o'r 'Diwrnod Darganfod' i'r perfformiad yn Sadler's Wells East, gyda’r nod o anrhydeddu hanes cyfoethog Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru tra'n dathlu ysbryd bywiog ei haelodau presennol.
Trwy ddal hanfod DGIC, rydym ni’n ceisio ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol o ddawnswyr a dathlu'r rhai sydd wedi bod yn rhan o'r ensemble ers ei sefydlu ac wedi helpu i lunio’r rhaglen.
Bydd y cwmni eleni yn dychwelyd i berfformio yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd, ar Hydref 31. Bydd gwybodaeth am docynnau yn cael ei gyhoeddi yn fuan.
Gwyliwch "DGIC 2024 yn y stiwdio gyda Yukiko Masui"
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru’n lansio Haf o Gerddoriaeth 2025
Tri Ensemble Cenedlaethol, Un Tymor o Gyngherddau Ledled Cymru na Ddylid eu Colli.
Tri Ensemble Cenedlaethol, Un Tymor o Gyngherddau Ledled Cymru na Ddylid eu Colli.
Dros yr haf, bydd nodau cerddorion ifanc fwyaf disglair Cymru yn atseinio ar draws y wlad. Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch o gyhoeddi eu Haf o Gerddoriaeth 2025 – tymor anhygoel o berfformiadau byw gan Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Bydd y tri ensemble cenedlaethol o fri yn perfformio mewn lleoliadau eiconig ar draws Cymru, gan gynnwys Neuadd y Brangwyn yn Abertawe a Chadeirlan Llanelwy yn Sir Ddinbych – yn ogystal â dros y ffin – gan roi cyfle i gynulleidfaoedd brofi celfyddyd, egni a chreadigrwydd y genhedlaeth nesaf o gerddorion talentog o Gymru.
“Mae’r haf yma yn garreg filltir i artistiaid ifanc o Gymru,” meddai Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd a Dirprwy Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. “Mae Haf o Gerddoriaeth 2025 yn dod â’n cerddorion ifanc mwyaf talentog ynghyd â chyfarwyddyd cerddorol o safon byd eang, a hynny mewn lleoliadau trawiadol, mewn dathliad arbennig o ddyfodol cerddorol Cymru.”
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru’n lansio Haf o Gerddoriaeth 2025.
🎻Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru – Taith Cyngherddau 2025
Dan arweiniad yr arweinydd o fri rhyngwladol, Kwamé Ryan, bydd y rhaglen gwbl Americanaidd yn cynnwys Dawnsfeydd Symffonig gwych Bernstein o West Side Story a Porgy and Bess: A Symphonic Picture gan Gershwin. Dewch i ddathlu talent cerddorion ifanc gorau Cymru wrth iddynt ddod â’r gweithiau eiconig yma’n fyw!
31 Gorffennaf am 7.30pm – Eglwys Gadeiriol Tyddewi (Gŵyl Gerdd Abergwaun)
1 Awst am 2.15pm – Cadeirlan Henffordd (Gŵyl Three Choirs)
2 Awst am 2.30pm – Cadeirlan Llanelwy, Sir Ddinbych
3 Awst am 3pm – Neuadd y Brangwyn, Abertawe
🎺 Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru – Taith Cyngherddau 2025
Mae Cyn-fyfyriwr BPCIC a Chyfarwyddwr Cerdd Band Pres Pencampwriaeth Flowers 2024, Paul Holland, yn dychwelyd i arwain ei gyn-fand mewn rhaglen ddisglair yn llawn cerddoriaeth wych sy'n addo rhywbeth i bawb. Yn ymuno â Paul a BPCIC bydd yr offerynnydd taro ifanc disglair Jordan Ashman – enillydd Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC 2022.
21 Awst am 7.30pm – Neuadd William Aston, Wrecsam
22 Awst am 7.30pm – Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
23 Awst am 3pm – Glan-yr-afon, Casnewydd
🎶 Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru – Taith Cyngherddau 2025
Dewch i brofi pŵer lleisiau mewn harmoni mewn lleoliadau trawiadol. Dan gyfarwyddyd ysbrydoledig eu harweinydd Tim Rhys-Evans, bydd y côr rhagorol o ddoniau Cymreig yn cyflwyno perfformiad syfrdanol sy'n llawn angerdd, egni a rhagoriaeth gerddorol.
23 Awst am 7.30pm – Cadeirlan Llanelwy, Sir Ddinbych
24 Awst (amser i’w gadarnhau) – Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd (Mynediad am Ddim)
25 Awst am 3pm – Neuadd y Brangwyn, Abertawe
🎟️ Tocynnau a Rhagor o Wybodaeth
Ymunwch â ni’r Haf hwn er mwyn dathlu sgiliau ac angerdd rhagorol cerddorion ifanc o Gymru —a byddwch yn rhan o ddyfodol cerddoriaeth yng Nghymru!
Mae tocynnau ar gyfer cyngherddau ein Haf o Gerddoriaeth 2025 bellach ar werth drwy ccic.org.uk/digwyddiadur
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn Derbyn Gwobr gan Sefydliad Garfield Weston i Gefnogi Ehangu Strategol Ledled Cymru
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch o gyhoeddi grant sylweddol o £30,000 gan Sefydliad Garfield Weston.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch o gyhoeddi grant sylweddol o £30,000 gan Sefydliad Garfield Weston. Bydd y cyllid hanfodol yma’n helpu i ddiogelu dyfodol pum ensemble cenedlaethol ieuenctid Cymru a galluogi CCIC i ehangu ar eu gwaith yn cyrraedd pobl ifanc ar draws y wlad.
“Mae’r gefnogaeth graidd yma gan Sefydliad Garfield Weston yn gwneud gwahaniaeth go iawn yn ystod amser allweddol,” meddai Evan Dawson, Prif Weithredwr CCIC. “Bydd y cyllid yn cryfhau nid yn unig ein gallu i ddarparu ar gyfer cannoedd o gerddorion, actorion a pherfformwyr ifanc talentog ar draws pum ensemble cenedlaethol, ond hefyd yn ein galluogi ni i barhau ein rhaglen strategol yn adnabod a mynd i’r afael ag unrhyw fylchau mewn darpariaeth greadigol yng Nghymru.”
Mae rhaglen strategol CCIC yn cynnwys cyflwyno gweithdai a phrosiectau creadigol a dargedwyd mewn cymunedau sydd â mynediad cyfyngedig at y celfyddydau. Gwaith sydd, yn sgil pwysau ariannol digynsail ar sector celfyddydau Cymru, yn dod yn fwyfwy hanfodol.
Daw’r grant gan un o gyllidwyr elusennol mwyaf uchaf eu parch y DU. Wedi’i sefydlu gan deulu ym 1958, mae Sefydliad Garfield Weston yn creu grantiau sy’n cefnogi ystod eang o elusennau ledled y DU. Hyd yn hyn mae’r Sefydliad wedi rhoi dros £1.5 biliwn, gyda dros hanner o’r swm hwnnw wedi’i roi yn y ddegawd ddiwethaf yn unig. Yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf, fe roddwyd dros £100 miliwn i gwta llai na 1,800 o elusennau ar draws y DU.
“Nid buddsoddiad yn ein sefydliad ni yn unig yw’r grant hael hwn – mae’n fuddsoddiad yn nyfodol creadigol pobl ifanc ym mhob sir yng Nghymru,” ychwanega Evan Dawson. “Rydym yn hynod ddiolchgar i Sefydliad Garfield Weston am gydsefyll â ni.”
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd cynhwysol o ansawdd uchel ar gyfer artistiaid ifanc ar draws y wlad, gan sicrhau nad yw daearyddiaeth a chefndir yn rhwystrau i gymryd rhan yn y celfyddydau.
Os hoffech chi gefnogi gwaith hanfodol CCIC yn y celfyddydau yng Nghymru gyda chyfraniad ariannol, cysylltwch â tracymarshallgrant@nyaw.org.uk os gwelwch yn dda.
Dathlu Assemble: Siwrne Greadigol o Lawenydd a Chynhwysiant
Dan arweiniad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr, fe gychwynnodd “Assemble” yn ystod Hydref 2023. Mae’n brosiect creadigol llawen dwy flynedd o hyd, sy’n ymwneud yn gyfan gwbl â dychymyg a chynhwysiant, gyda’r sbotolau ar bobl ifanc.
Dan arweiniad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr, fe gychwynnodd “Assemble” yn ystod Hydref 2023. Mae’n brosiect creadigol llawen dwy flynedd o hyd, sy’n ymwneud yn gyfan gwbl â dychymyg a chynhwysiant, gyda’r sbotolau ar bobl ifanc.
Rydym wedi cydweithio â thair ysgol nad ydynt yn y brif ffrwd ar draws De Cymru (Ysgol y Deri, Ysgol Greenfield ac Ysgol Crug Glas) gan gyflwyno gweithdai creadigol bob pythefnos, trefnu ymweliadau diwylliannol, a helpu pobl ifanc anabl i archwilio’u syniadau, hunaniaethau a’u talentau drwy’r celfyddydau.
Ac ar ddydd Iau 10fed o Ebrill, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, roedd hi’n amser i ni ddathlu popeth maen nhw wedi’i gyflawni!
Fe agorwyd y diwrnod gan ein tîm Cyfranogiad a Dysgu – Hope Dowsett a Bruna Garcia – ac fe roddwyd croeso cynnes, egnïol i deuluoedd, athrawon, cefnogwyr a phobl ifanc. Cafwyd ddiwrnod o rannu perfformiadau, dathlu, ac, wrth gwrs… cacen.
“Mae hwn wedi bod antur fywiog, egnïol ac ambell dro’n llawn swigod”
– Bruna Garcia, Swyddog Cyfranogiad a Dysgu
Roedd ein gwaith yng Nghymru yn rhedeg ochr yn ochr â rhaglenni cyfochrog yn Llundain a Manceinion, gyda phob elfen wedi'i chynllunio i adlewyrchu lleisiau a blaenoriaethau lleol. Yma yng Nghymru, rydym wedi bod yn falch o arwain gyda gofal, creadigrwydd a chymuned.
O weithdai yn yr ystafell ddosbarth i deithiau theatr bythgofiadwy (ie, roedd y pengwiniaid ym Madagascar yn uchafbwynt go iawn!), mae Assemble wedi bod yn ymwneud â chreu mannau diogel a chyffrous i bobl ifanc archwilio pwy ydyn nhw, cysylltu ag eraill, a meithrin eu hyder trwy greadigrwydd.
“Yr hyn sydd wedi gwneud y prosiect yma mor arwyddocaol yw’r gymuned y mae e wedi’i greu”, meddai Hope. “Mae pobl ifanc a gwirfoddolwyr wedi dod at ei gilydd drwy eu hangerdd dros greadigrwydd, meithrin cyfeillgarwch, datblygu gwaith tîm, a dod yn eiriolwyr dros newid.”
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf bu sesiynau bob pythefnos – yn llawn chwerthin, chwarae, sgyrsiau ystyrlon a sawl paned o de. Ond y peth mwyaf amlwg oedd y llawenydd pur yn yr ystafell.
“Mae Assemble wedi dangos i ni’r hyn sy’n bosib pan fyddwn wirioneddol yn gwrando ar bobl ifanc – yn enwedig y rheiny nad ydynt yn cael gwrandawiad yn aml. Mae tîm Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn hynod falch o bob person ifanc a gymerodd ran. Byddwn yn parhau i gefnogi pwysigrwydd y celfyddydau a chydweithrediad creadigol ar gyfer pob person ifanc yng Nghymru, gan gynnwys y rheiny nad ydynt mewn ysgolion prif ffrwd.”
— Evan Dawson, Prif Weithredwr, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae’r prosiect hwn wedi bod yn ymdrech gyfunol gyda’n partneriaid ardderchog, o Theatr Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr, meddyliau creadigol Hijinx, Craidd, ac Uchelgais Grand, i ymchwilwyr London Metropolitan University, Tîm Creadigol Dysgu Canolfan Mileniwm Cymru, a’r athrawon arbennig sy’n gadael i ni droi eu hystafelloedd dosbarth yn llwyfannau, moroedd, a lloriau dawns.
Diolch o galon i’n harianwyr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Paul Hamlyn — am wneud prosiectau fel yma’n bosib, ac am gefnogi’r math o gelfyddydau sydd wirioneddol yn newid bywydau.
Wrth gwrs, mae’r diolch mwyaf i’r bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o Assemble. Rydych chi wedi dangos beth sy’n bosib pan mae creadigrwydd i bawb.
Daeth y diwrnod i ben yn y ffordd orau posib – gyda phaned a chacen. Oherwydd os ydyn ni wedi dysgu unrhyw beth yn ystod Assemble, mae pethau gwych yn digwydd pan fyddwn yn dod ynghyd. A dyw parti ddim yn barti heb baned a chacen!
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn awyddus mai megis cychwyn yw hwn i’r bobl ifanc sy’n rhan o Assemble. Nid yw’r siwrne hon yn dod i ben fan hyn – gawn ni barhau i greu, cysylltu a dathlu pobl ifanc ledled Cymru.
Os hoffech chi gysylltu â’n tîm Cyfranogiad a Dysgu ynglŷn â phrosiect Assemble, cysylltwch â: hopedowsett@nyaw.org.uk / brunagarcia@nyaw.org.uk
Lansio Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Dros y Pasg fe ddaeth 45 o gerddorion jazz ifanc o bob cwr o Gymru ynghyd ar gyfer preswyliad cyntaf un Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
Cychwyn Cyfnod Newydd o Jazz yng Nghymru
Dros y Pasg fe ddaeth 45 o gerddorion jazz ifanc o bob cwr o Gymru ynghyd ar gyfer preswyliad cyntaf un Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Roedd y cwrs uchelgeisiol tri diwrnod hwn yn nodi lansio menter newydd o bwys gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Jazz Explorers Cymru – partneriaeth uchelgeisiol wedi’i chynllunio i feithrin y genhedlaeth nesaf o gerddorion jazz yng Nghymru.
Mae Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cael ei lansio yng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Prif Weithredwr CCIC, Evan Dawson yn dal meicroffon yng nghanol y ddelwedd cyn i'r cerddorion ifanc berfformio. Llun gan: Kirsten McTernan.
Tri Diwrnod o Gerddoriaeth, Mentoriaeth a Hud
Cafodd offerynwyr a chantorion ifanc rhwng 14–22 oed eu trochi mewn gweithdai, ymarferion, sesiynau byrfyfyrio a dosbarthiadau meistr gyda rhai o gerddorion jazz enwocaf Cymru, gan gynnwys Andrew Bain, Paula Gardiner, Huw Warren, Joe Northwood a Gethin Liddington. Cafodd y preswylwyr gefnogaeth hefyd gan fyfyrwyr jazz cyfredol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a fu’n chwarae rôl weithredol o fentora.
“Mae’n wych cael bod ar y cwrs yma. Dwi wedi dysgu CYMAINT o ran byrfyfyrio a chwarae’n gyffredinol” – Karishma Sharma-Barrow, cyfranogwr JCIC
“Mae’n gyfle gwych i gwrdd â cherddorion eraill – cerddorion sydd wedi dod o bob rhan o’r wlad – pob un ohonynt ar lefelau gwahanol, ond mae bob amser rhywbeth y gallwch chi ddysgu gan rywun arall, yn enwedig yr athrawon. Maent wedi gweithio’n dda gyda ni.” – Tom Kochalski, cyfranogwr JCIC
Mae effaith y preswyliad wedi’i deimlo y tu hwnt i’r myfyrwyr yn unig – gyda theuluoedd yn gweld ei werth hefyd.
“Cafodd fy mab amser anhygoel, ac fe ddysgodd lawer. Cyn mynd, roedd e braidd yn bryderus am fod yn rhan o grŵp mor fawr o bobl ifanc, ond fe deimlodd ei fod wedi’i gynnwys ac roedd e mor gyfforddus drwy gydol y preswyliad. Doedd e ddim am i’r cwrs ddod i ben.” – Rhiant un o’r cyfranogwyr
“Mae [fy mab] wrth ei fodd yn chwarae jazz a dyma’r cyfle cyntaf mae e wedi’i gael i berfformio gyda cherddorion o’r un anian.” – Rhiant un o’r cyfranogwyr
“Diolch o galon am drefnu cwrs mor wych. Roedd fy mab wrth ei fodd, ac wedi mwynhau yn fawr – mae e’n drist bod y cyfan wedi dod i ben ac yn gobeithio y byddwch yn ei gynnal unwaith eto’n fuan!” – Rhiant un o’r cyfranogwyr
Dyfodol Jazz Cysylltiedig i Gymru
Megis cychwyn yw’r preswyliad cyntaf hwn. Mae Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn mynd i dyfu’n rhaglen gydol-blwyddyn sy’n cynnig mynediad digynsail i addysg jazz o’r radd flaenaf a chyfleoedd i berfformio i gerddorion ledled Cymru.
“Rydym yn adeiladu rhwydwaith jazz genedlaethol sy’n cysylltu talent ifanc gyda mentoriaid, cyfoedion, a chyfleoedd sydd heb fodoli ar y raddfa hon o’r blaen,” meddai Andrew Bain, Pennaeth Jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. “Mae hwn yn gam mawr i jazz Gymreig.”
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru, mae’r prosiect yn garreg filltir yn natblygiad cerddoriaeth gynhwysol. Mae’n creu gofod i bobl ifanc gysylltu, mynegi eu hunain a dychmygu dyfodol mewn jazz neu gerddoriaeth fyrfyfyr.
Mwy i Ddod!
“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn cydweithio â Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Jazz Explorers Cymru i ddeall pa gyfleoedd sydd ar gael i egin gerddorion jazz yng Nghymru – ac fe ddarganfu bod bwlch mawr yn y ddarpariaeth,” meddai Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. “Mae’r prosiect hwn yn gyfle enfawr i ddarganfod y bobl ifanc hynny a’u dod â nhw ynghyd i gydweithio, dysgu gan diwtoriaid ardderchog y Coleg, a symud ymlaen ar eu siwrnai.”
Er mwyn bod ymhlith y cyntaf i glywed am gyrsiau Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn y dyfodol, ymunwch â rhestr bostio CCIC neu dilynwch @nationalyouthartswales ar y cyfryngau cymdeithasol.