NEWYDDION

National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru’n troi’n 25  – Ymunwch yn y Dathlu!

Dewch i ddawnsio, hel atgofion a chael eich ysbrydoli! Mae eleni’n nodi 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn grymuso dawnswyr ifanc ac yn llywio dyfodol dawns yng Nghymru.  

Dewch i ddawnsio, hel atgofion a chael eich ysbrydoli! Mae eleni’n nodi 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn grymuso dawnswyr ifanc ac yn llywio dyfodol dawns yng Nghymru.  
 
I nodi’r garreg filltir anhygoel yma, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn lansio dathliad cenedlaethol – sy’n anrhydeddu ein gorffennol, yn arddangos ein presennol ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr. Gallwch edrych ymlaen at berfformiadau pwerus, straeon cofiadwy, a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol sy’n gosod y llwyfan ar gyfer y 25 mlynedd nesaf! 

Byddwn yn rhannu’r holl fomentau, atgofion, a’r hud sydd wedi diffinio DGIC – a chredwch chi ni, mae pethau mawr ar y gorwel. 

Rydym yn mynd â stori DGIC ar daith! Bydd arddangosfa ddynamig a rhyngweithiol yn teithio i theatrau, llyfrgelloedd a mannau cymunedol ledled Cymru, gan ddod â’n hanes yn fyw. Ond mae mwy — yn ogystal â’r arddangosfa bydd pob lleoliad ar hyd y daith yn cynnal gweithdy dawns DGIC AM DDIM, dan arweiniad ein cyn disgyblion anhygoel a staff DGIG. Pa un ai a ydych yn ddawnsiwr profiadol neu am roi cynnig arni, dyma eich cyfle chi i brofi egni a llawenydd DGIC! 

I ddathlu’r garreg filltir arbennig hon, rydym yn cyhoeddi Rhaglen Arbennig i Ddathlu 25 Mlynedd, sy’n llawn dop â: 

  • Delweddau trawiadol o berfformiadau 

  • Cyfweliadau ecsgliwsif gyda choreograffwyr a chyn disgyblion  

  • Mewnwelediad gan y rheiny sydd wedi helpu i siapio DGIC, o banelwyr ymgynghorol, arweinwyr grŵp ac eiriolwyr dawns 

  • Darluniau nas gwelwyd erioed o’r blaen o gynlluniau ein cynyrchiadau eiconig 

…a llawer mwy! 

Mae’r rhaglen yn gymaint fwy na chofrodd – mae’n waddol ar gyfer dawnswyr, addysgwyr a chefnogwyr y celfyddydau. 

Ac mae’r cyffro’n parhau! Byddwn yn cyhoeddi Cwmni a Choreograffydd DGIC yn 25 cyn bo hir—a bydd y cwmni’n creu coreograffi gwefreiddiol ar gyfer dau berfformiad o bwys: 

SADLER’S WELLS, LLUNDAIN – 25 Gorffennaf, 2025 
Yn rhannu’r llwyfan â Chwmni Dawns Genedlaethol Ieuenctid yr Alban a Chwmni Dawns Genedlaethol Ieuenctid (Lloegr). 

GLAN-YR-AFON, CASNEWYDD – 30 a 31 Hydref, 2025 
Byddwn yn dychwelyd i Gymru ar gyfer arddangosiad mawreddog o angerdd, pŵer a chelfyddyd. 


Dwedodd Jamie Jenkins, Pennaeth Dawns, Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru: 

Am 25 mlynedd, mae DGIC wedi bod yn gatalydd i ddawnswyr ifanc – gan danio creadigrwydd, creu cysylltiadau gydol oes, a gwthio ffiniau yr hyn sy’n bosib ym myd dawns. Mae’r garreg filltir hon yn gwneud mwy nag edrych yn ôl; rydym yn camu’n eofn i’r dyfodol, gan ddathlu pŵer symudiad, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i gamu i’r llwyfan.” 

Oeddech Chi’n Rhan o DGIC? Rydym Ni Am Glywed Gennych Chi! 

Os fuoch chi’n rhan o DGIC ar un adeg, rydych chi bob amser yn rhan o’r teulu! Os wnaethoch chi ddawnsio gyda ni, cysylltwch â ni! Rhannwch eich enw, eich lleoliad a’r flwyddyn y buoch chi’n rhan o DGIC – ac os oes gennych chi luniau neu fideos, byddem ni wrth ein boddau’n eu gweld nhw! 

Dyma eich dathliad chi, ac rydym ni am i chi fod yn rhan ohono… Beth am wneud hon yn flwyddyn i’w chofio— mae #DGIC25 yn cychwyn nawr!  
 

Read More
National Youth Arts Wales National Youth Arts Wales

O'r Ystafelloedd Dosbarth i Ganol y Llwyfan: Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru  yn ysbrydoli perfformwyr ledled Cymru

Ar adeg pan fo'r sector Celfyddydau ledled Cymru yn wynebu pwysau ariannol ac ansicrwydd cynyddol, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi bod yn achubiaeth hanfodol i bobl ifanc greadigol.

Cyn-aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Niamh Moulton, yn cyflwyno ar y sioe deithiol. Llun: Kirsten McTernan

Ar adeg pan fo'r sector Celfyddydau ledled Cymru yn wynebu pwysau ariannol ac ansicrwydd cynyddol, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi bod yn achubiaeth hanfodol i bobl ifanc greadigol. Trwy gydol mis Chwefror a Mawrth 2025, fe wnaeth CCIC ymweld â 15 ysgol uwchradd, colegau a theatrau ieuenctid, gan ymgysylltu â dros 550 o fyfyrwyr 14-18 oed mewn gweithdai deinamig sydd wedi'u cynllunio i feithrin y genhedlaeth nesaf o berfformwyr.

Yn cael ei chyflwyno gan dîm ifanc o gyn-fyfyrwyr Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru (ThGIC) - llawer ohonynt ers hynny wedi adeiladu gyrfaoedd yn y celfyddydau - yn ogystal â darparu datblygiad sgiliau roedd Sioe Deithiol CCIC hefyd yn cyflwyno neges bwerus: ni ddylai cyfleoedd yn y celfyddydau cael eu cadw i ychydig o bobl, yn enwedig gan fod toriadau cyllid yn bygwth culhau'r llwybr.

Dywedodd Megan Childs, Cynhyrchydd Theatr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru:

"Roedd cyfarfod a siarad â myfyrwyr, arweinwyr cyrsiau ac athrawon o ysgolion, colegau a theatrau ieuenctid ledled Cymru yn fraint. Mae'r ymrwymiad i'r celfyddydau yn y sefydliadau addysgol hyn yn ysbrydoledig, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny yng Nghymru sy'n wynebu caledi economaidd go iawn a diffyg adnoddau. Heb os, does dim diffyg brwdfrydedd na thalent ymhlith pobl ifanc yng Nghymru ac yn ddi-os mae angen cefnogi gyda buddsoddiad a chyfleoedd i'r rhai sydd am astudio pynciau'r celfyddydau perfformio naill ai fel cymhwyster neu fel gweithgaredd allgyrsiol."

Mae'r Sioe Deithiol yn rhan o raglen Llysgenhadon newydd CCIC, sy'n cynnig cyfleoedd hyfforddi a hwyluso â thâl i gyn-aelodau ensemble ThGIC. Mae'r cyn-fyfyrwyr hyn nid yn unig yn arwain gweithdai ond hefyd yn rhannu eu teithiau eu hunain, gan ddangos i fyfyrwyr sut y gall cyfranogiad yn y celfyddydau arwain at yrfaoedd proffesiynol a datblygiad personol gydol oes.

Myfyriodd Niamh Moulton, aelod o CCIC 2017-2019 sydd bellach yn gweithio'n broffesiynol yn y celfyddydau:

"Roedd hi'n wych cael dweud wrth fyfyrwyr sydd â diddordeb yn y celfyddydau creadigol beth all Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ei gynnig iddyn nhw. Roedden nhw’r oedran perffaith i allu gwneud cais a chael clyweliad dros sawl blwyddyn wahanol, sy'n rhywbeth yr hoffwn i fod wedi'i wneud. Rwyf hefyd yn falch bod ysgolion yng Nghymru yr un mor angerddol ac awyddus am y celfyddydau ag yw CCIC - cam cadarnhaol i'r cyfeiriad gorau ar gyfer dyfodol y diwydiant."

Ychwanegodd Dafydd Leonard, sydd wedi bod yn rhan o CCIC ers 2019:

“Roeddwn i'n gweld yr awydd i gymryd rhan gan y myfyrwyr yn wirioneddol ysbrydoledig. Roeddwn i eisiau bod [yn llysgennad] oherwydd pa mor arbennig oedd fy amser gyda'r Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Roeddwn i eisiau rhoi gwybod i’r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol ifanc am sut y gallent gymryd rhan a chael profiad bythgofiadwy, yn union fel y gwnes i."

Mae un stop ar y Sioe Deithiol, Afon Taf, Troed y Rhiw, yn enghraifft berffaith. Rhannodd yr athrawes ddrama Miss Jones:

“Roedd y profiad yn amhrisiadwy i'n myfyrwyr, llawer ohonynt yn dod o ardal ddifreintiedig yn gyffredinol lle mae cyfleoedd yn y celfyddydau yn gyfyngedig. Fel yr unig athro Drama ers cymhwyso, rwyf wedi bod yn gweithio i adeiladu'r adran ddrama o'r gwaelod i fyny, gan ymdrechu i ddarparu cyfleoedd creadigol mewn cyfnod lle mae Addysg y Celfyddydau yn cael ei dan-ariannu'n gynyddol a lle nad yw’n derbyn digon o adnoddau. Roedd gweld y myfyrwyr yn ymgysylltu mor frwdfrydig â'r gweithdy a'r cyfleoedd o'u blaenau yn cadarnhau pa mor hanfodol yw'r celfyddydau wrth ysbrydoli hyder, creadigrwydd, a hunanfynegiant.

Llun: Kirsten McTernan

Mae cymryd rhan yn y celfyddydau perfformio yn cynnig llawer o fanteision i bobl ifanc, o datblygiad, manteision cymdeithasol ac emosiynol, twf academaidd a gwybyddol, lles corfforol a meddyliol a twf gyrfa a chyfleoedd. Er hyn, mae'r llwybrau yma yn gynyddol dan fygythiad. 

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Evan Dawson, alwad gref i weithredu mewn ymateb i fwy o doriadau arfaethedig i gyllid y celfyddydau yng Nghymru:

“Ni allwn fforddio bod y genhedlaeth sy'n gwylio o'r ymylon wrth i'n hetifeddiaeth ddiwylliannol a photensial ein hieuenctid gael eu mygu gan doriadau annoeth yn y gyllideb. Gadewch i ni hyrwyddo dadeni ym maes celfyddydau Cymru, nid yn unig er mwyn diwylliant ond er mwyn datblygiad cyfannol ein cymdeithas.  Mae ein plant yn haeddu Cymru lle mae eu mynegiadau creadigol nid yn unig yn cael eu clywed ond yn cael eu dathlu, lle mae eu cyfranogiad yn y celfyddydau yn cael ei ystyried yn rhan sylfaenol o'u twf a'n dyfodol ni ar y cyd.”  Darllenwch y datganiad llawn yma.

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer clyweliadau Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2025, ac yn cau dydd Iau 27 Mawrth. Bydd aelodau dethol yn elwa o dair rhaglen hyfforddi breswyl ddwys, partneriaethau â chwmnïau blaenllaw fel Theatr Clwyd a Chanolfan Mileniwm Cymru, a'r cyfle i lunio cynhyrchiad Pen-blwydd 2026 CCIC—i gyd wrth weithio'n ddwyieithog a meithrin cyfeillgarwch am oes. Bwcio cleweliad yma.

Wrth i Gymru wynebu penderfyniadau anodd ynghylch dyfodol cyllid y celfyddydau, mae ymrwymiad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i rymuso pobl ifanc yn y celfyddydau yn anfon neges glir: mae lleisiau creadigol ein pobl ifanc yn haeddu nid yn unig cael eu clywed—ond eu hyrwyddo.

Os hoffech chi ddarganfod sut y gallai rhoddion helpu i ddarparu cyfleoedd a mynediad i'r celfyddydau i bobl ifanc, cliciwch yma.

Read More
Charlotte Moult Charlotte Moult

Grymuso’r Genhedlaeth Nesaf o Gantorion o Gymru 

Mae rhaglen Sgiliau Côr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi’i chynllunio i helpu cantorion ifanc ledled Cymru i ddatblygu’r hyder â’r medrusrwydd i roi cynnig ar ystod eang o gyfleoedd lleisiol a chorol. O Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i ensembles sirol a thu hwnt, mae’r rhaglen yn darparu’r camau cyntaf i gantorion angerddol, ni waeth beth fo’u profiadau na’u hyfforddiant ffurfiol blaenorol. 

CCIC tîm Mason Edwards a Bruna Garcia yn Sgiliau Côr 2025

Mae rhaglen Sgiliau Côr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi’i chynllunio i helpu cantorion ifanc ledled Cymru i ddatblygu’r hyder â’r medrusrwydd i roi cynnig ar ystod eang o gyfleoedd lleisiol a chorol. O Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i ensembles sirol a thu hwnt, mae’r rhaglen yn darparu’r camau cyntaf i gantorion angerddol, ni waeth beth fo’u profiadau na’u hyfforddiant ffurfiol blaenorol. 

Yn ystod hanner tymor fe barhaodd Sgiliau Côr ar ei thaith o amgylch Cymru, gyda chwrs preswyl pedwar diwrnod a gynlluniwyd i ysbrydoli a datblygu cantorion ifanc 14–18 mlwydd oed. Cynhaliwyd y cwrs yn Llanbedr Pont Steffan Chwefror 24–27 ac fe ddaeth â thîm o arbenigwyr lleisiol a mentoriaid gwadd arbennig  ynghyd i feithrin talentau cerddorol y cyfranogwyr. 

Yn ystod y preswyliad, fe aeth cantorion ifanc brwd ati i fireinio’u techneg leisiol, eu theori gerddoriaeth a sgiliau clyweliad a hynny drwy gyfres o weithdai pwrpasol. Roedd gan y cwrs bwyslais hefyd ar greu cymuned a chysylltiad cymdeithasol, a bu sawl weithgaredd megis disgo distaw a gweithgareddau hwyliog eraill wedi’u cynllunio i helpu cyfranogwyr i fagu hyder a gwneud ffrindiau. 

Fel rhan o waith estyn allan y prosiect, fe gydweithiodd CCIC gyda Chynllun Cerddoriaeth Cenedlaethol Powys i ddarparu gweithdai blas cyn y preswyliad, gan gryfhau ei phresenoldeb yn y canolbarth, ac annog mwy o bobl ifanc i ymwneud â cherddoriaeth corol. 

Roedd rhieni yn canmol effaith Sgiliau Côr i’r cymylau: 

Cafodd [fy merch] amser anhygoel ac fe ddysgodd lawer o’i hamser yno. Ar ôl dysgu gymaint roedd [fy merch] yn awyddus i wybod os fydd unrhyw beth arall tebyg yn digwydd eleni” – Rhiant un o gyfranogwyr Sgiliau Côr   

“Roedden ni am ddweud diolch o galon i bawb am roi’r wythnos fwyaf anhygoel [i’n mab], gyda Sgiliau Côr. Roedd y perfformiad brynhawn yma mor hyfryd – wirioneddol drawiadol. Doedden ni methu credu’r hyn y cyflawnodd y grŵp mewn dim ond ambell i ddiwrnod – anhygoel!”   – Rhiant un o gyfranogwyr Sgiliau Côr   

Dwedodd Bruna Garcia, Swyddog Cyfranogi a Dysgu: 
“Roedd ein preswyliad Sgiliau Côr 2025 yn llwyddiant ysgubol! Dw i mor falch o’r holl bobl ifanc a ymunodd â ni, ac yn ddiolchgar i’n partneriaid a’n cyllidwyr anhygoel a’n helpodd ni i wneud y cyfan yn bosib!” 
 

Mae CCIC yn diolch o galon i’w cefnogwyr, gan gynnwys ABRSM a The Backstage Trust. Drwy eu cefnogaeth hael roedd Sgiliau Côr 2025 yn bosib. 

Gwyliwch uchafbwyntiau Sgiliau Côr 2025 yma 
 
Darganfyddwch ragor o wybodaeth am Sgiliau Côr yma 

Read More
Charlotte Moult Charlotte Moult

Cefnogi Chwaraewyr Llinynnol Ifanc Ledled Cymru

Mae “Llinynnau Ynghlwm”, rhaglen Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn parhau i gael ei rhoi ar waith ledled Cymru.

Mae “Llinynnau Ynghlwm”, rhaglen Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn parhau i gael ei rhoi ar waith ledled Cymru. Yn ystod mis Chwefror, fe groesawyd dros 50 o chwaraewyr llinynnol ifanc i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, ar gyfer diwrnod dwys ac uchelgeisiol o ddysgu cerddorol.

Mae’r fenter strategol hon ar gyfer cerddorion ifanc wedi’i hanelu at y rheiny sydd wedi cyflawni Gradd 5 ac yn uwch, ac fe gyflwynir mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Cerdd Powys. Mae Llinynnau Ynghlwm yn cynnig gofod datblygu cyfeillgar i gerddorion ifanc er mwyn cyfoethogi eu sgiliau a’u profiad cerddorol, tra’n gwneud ffrindiau newydd.

Drwy gydol y gweithdy, a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 15 Chwefror 2025, fe gydweithiodd y cyfranogwyr yn agos gyda thîm Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC), gan ganolbwyntio ar repertoire llinynnol a thechnegau chwarae, a mireinio’u sgiliau. Fe gefnogwyd y grŵp gan diwtoriaid o wasanaethau cerdd lleol a grŵp o Fentoriaid Cymheiriaid – cerddorion ifanc o CGIC.

Roedd y gweithdy hefyd yn cynnwys sesiwn werthfawr am broses glyweliadau ar gyfer ensembles cerdd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Arweiniwyd y sesiwn holi ac ateb gan Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd a Dirprwy Brif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru; tiwtoriaid sy’n rhan o baneli clyweliadau; a Mentoriaid Cymheiriaid sydd â phrofiad uniongyrchol o glyweliad.

Fe orffennodd y dydd gyda pherfformiad arddangos. Fe berfformiodd y cerddorion ifanc y repertoire yr oeddent wedi bod yn gweithio arno, o Mozart i Morfydd Owen. Roedd safon uchel y perfformiadau’n adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled bob un o’r cyfranogwyr drwy gydol y digwyddiad.


Dwedodd Matthew Jones: “Dyma ein hail flwyddyn o gynnal Llinynnau Ynghlwm, ac fe roedd yn wych gweld y dalent ifanc sy’n datblygu yng nghanolbarth Cymru a thu hwnt. Rydym ni’n gobeithio y bydd rhai o’r cerddorion a fu’n rhan o’r digwyddiad wedi’u hysbrydoli ac yn anelu at glyweld ar gyfer ein hensembles Ieuenctid Cenedlaethol yn y blynyddoedd sydd i ddod.”


“Roedd hwn yn gyfle wirioneddol wych. Diolch unwaith eto am yr hyn rydych yn ei wneud i’n plant ac i’r celfyddydau yng Nghymru.”  - Rhiant cyfranogwr Llinynnau Ynghlwm

 

“Diolch yn fawr am gynnal y digwyddiad, dw i’n gobeithio y bydd digwyddiadau rheolaidd eraill tebyg i chwaraewyr llinynnol ifanc yn Ne Cymru”  - Rhiant cyfranogwr Llinynnau Ynghlwm


Mae CCIC yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston,  A&B Cymru, ABRSM, Sefydliad Paul Hamlyn, yn ogystal â’i cyllidwyr craidd, Cyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol – mae eu cefnogaeth wedi gwneud Llinynnau Ynghlwm 2025 yn bosib.

 


“Llinynnau Ynghlwm” 2025 o gyfranogwyr o bob rhan o Gymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Ieuenctid Cymru i ymddangos ym Mand Pres Ewrop 2025

Mae'r tîm yn Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) yn falch iawn wrth i dri o'n cerddorion ifanc rhagorol baratoi i gynrychioli Ewrop ar un o'r llwyfannau mwyaf mawreddog i gerddorion pres ifanc. 

Mae'r tîm yn Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) yn falch iawn wrth i dri o'n cerddorion ifanc rhagorol baratoi i gynrychioli Ewrop ar un o'r llwyfannau mwyaf mawreddog i gerddorion pres ifanc. 

Mae Solomon (Sol) Maghur, sy'n chwarae'r Cornet, Gwen Howe ar y Trombôn Bas, a Sean Linton ar y Tiwba, wedi'u dewis i ymuno â Band Pres Ieuenctid Ewrop (EYBB) 2025. Bydd y triawd yn teithio i Stavanger, Norwy, ym mis Mai eleni i berfformio ochr yn ochr â chwaraewyr pres ifanc gorau Ewrop mewn wythnos o greu cerddoriaeth wefreiddiol a chyfeillgarwch. 

Mae cwrs preswyl EYBB yn gwireddu breuddwyd i lawer o gerddorion pres uchelgeisiol. I Sol, Gwen, a Sean, mae'n garreg filltir arwyddocaol yn eu teithiau cerddorol. Yn ystod yr wythnos, byddant yn ymarfer ac yn perfformio dan arweiniad arweinwyr o'r radd flaenaf, gan arwain at berfformiadau ysblennydd ym Mhencampwriaethau Band Pres Ewrop. Mae'r cyngherddau hyn, sy'n cynnwys Cyngerdd a Seremoni Agoriadol y Gala Mawr, yn addo bod yn uchafbwyntiau bythgofiadwy. 

Dywedodd Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd BPCIC: “Mae Sol, Gwen a Sean yn cynrychioli'r gorau o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae cael eu dewis ar gyfer Band Pres Ieuenctid Ewrop yn gyflawniad rhyfeddol ac yn adlewyrchiad o'u talent a'u hymroddiad eithriadol. Rydym ni wrth ein bodd o'u gweld yn cymryd y cam nesaf hwn ar eu taith gerddorol ac rydym yn hyderus y byddant yn ysbrydoli ac yn creu argraff ar gynulleidfaoedd yn Norwy a thu hwnt. 

 Mae'r EYBB, a sefydlwyd yn gynnar yn y 2000au, nid yn unig yn ddathliad o dalent gerddorol ond yn gyfle unigryw i gerddorion ifanc gysylltu, cydweithio a gwthio ffiniau eu celfyddyd. Bydd Sol, Gwen, a Sean yn ymuno â chyfoedion o bob rhan o Ewrop, gan greu cerddoriaeth sy'n croesi ffiniau ac yn gadael argraff barhaol. 

 Er bod y sêr ifanc hyn yn paratoi ar gyfer eu hantur Ewropeaidd, mae Band Pres Ieuenctid Cenedlaethol Cymru hefyd yn paratoi ar gyfer ei raglen gyffrous yn 2025. Bydd yr ymarferion yn dechrau ym mis Ebrill, ac yna bydd cwrs preswyl wythnos o hyd a thaith a fydd yn dod â pherfformiadau bythgofiadwy i gynulleidfaoedd ledled Cymru. Eleni, mae Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn croesawu arweinydd Cymreig poblogaidd iawn, Paul Holland.

 Am fwy o ddiweddariadau ac i ddilyn taith anhygoel y llysgenhadon ifanc hyn yng Nghymru, ewch i wefan CCIC. 

Read More
News Charlotte Moult News Charlotte Moult

Datganiad ar y cynllun arfaethedig i gau Adran Gerdd Prifysgol Caerdydd

Mae’r cynllun arfaethedig i gau adran gerdd Prifysgol Caerdydd yn ergyd fawr i dirwedd ddiwylliannol ac addysgiadol Cymru. Datganiad rhifyn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Mae’r cynllun arfaethedig i gau adran gerdd Prifysgol Caerdydd yn ergyd fawr i dirwedd ddiwylliannol ac addysgiadol Cymru.

Dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru:

“Mae gan adran gerdd Prifysgol Caerdydd hanes balch, wedi ei gydblethu â datblygiad cerddoriaeth Cymru, yn enwedig trwy ddylanwad yr Athro Alun Hoddinott. Fel cyn-bennaeth yr adran, bu Hoddinott yn allweddol wrth ddatblygu’r sefydliad yn bwerdy ar gyfer addysg a dyfeisgarwch cerddorol, gan feithrin doniau megis Karl Jenkins a llu o gerddorion eraill sydd wedi cyfoethogi ein tirwedd ddiwylliannol. Bu’r adran hon yn fagwrfa ar gyfer nifer o gyfansoddwyr, cerddorion ac ysgolheigion adawodd argraff barhaol ar y celfyddydau yng Nghymru ac yn fyd-eang. Mae nifer o aelodau presennol Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn astudio yno. 

Rydym yn dystion i dueddiad pryderus ble mae’r celfyddydau, ac yn enwedig gerddoriaeth, yn cael eu dibrisio’n systematig trwy doriadau ariannol a chau sefydliadau. Mae’r penderfyniad hwn gan Brifysgol Caerdydd yn bygwth dyfodol uniongyrchol ein myfyrwyr presennol, y staff a’r gymuned gerddorol ehangach – tra hefyd yn peryglu iechyd diwylliannol tymor hir ein cenedl. 

Mae addysg cerddoriaeth yn fwy na dim ond gweithgaredd academaidd – mae’n rhan sylfaenol o hunaniaeth ein cymuned, sy’n cynnig llwybrau mynegiant, datblygiad personol a chyfleoedd proffesiynol ar gyfer ein pobl ifainc. Byddai cau’r adran hon yn cyfyngu’n ddifrifol ar y llwybrau sydd ar gael ar gyfer y rheini sy’n anelu i gyfrannu at dreftadaeth gerddorol cyfoethog Cymru. 

Yn ein datganiad "Argyfwng Celfyddydau Ieuenctid" diweddar, fe wnaethom danlinellu sut y mae tanariannu difrifol y celfyddydau ieuenctid yn gwarafun cyfleoedd i bobl ifanc dirifedi, gan effeithio ar eu hiechyd, eu haddysg a llesiant cymunedol. Mae’r penderfyniad hwn gan Brifysgol Caerdydd yn dangos yn blaen yr union faterion yr ydym wedi bod yn ymgyrchu yn eu cylch. Mae’n hollbwysig inni gydnabod a buddsoddi yn y celfyddydau fel elfen sy’n anhepgor ar gyfer gwead ein cymdeithas. 

Rydym am bwyso ar Brifysgol Caerdydd i ailystyried eu penderfyniad. Mae rhaid inni gyd weithredu ar fyrder i sicrhau dyfodol ble caiff pob person ifanc yng Nghymru gyfle i elwa o’r celfyddydau, er mwyn sicrhau bod gwaddol diwylliannol ein cenedl, gafodd ei meithrin yn y gorffennol gan bobl fel Alun Hoddinott, yn parhau i ffynnu am genedlaethau i ddod.”

Mae CCIC mewn cysylltiad â'n haelodau niferus o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.

"Ar hyn o bryd rydw i yn fy ail flwyddyn israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, yn astudio cerddoriaeth. Mae'r cynnig i gau'r Ysgol Cerddoriaeth wedi effeithio'n fawr ar staff a myfyrwyr. Rydym i gyd yn ansicr sut mae'r dyfodol yn edrych nawr, ond rydym yn gwybod y byddwn yn teimlo effeithiau'r cau dros y flwyddyn nesaf. Mae'r ffaith bod y brifddinas yn colli ei hysgol gerddoriaeth yn ergyd enfawr."

Aelod CGIC

"Fel myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r Ysgol Cerddoriaeth wedi rhoi llawer o brofiadau gwerthfawr i mi drwy gydol fy nhaith. Mae'n newyddion torcalonnus y gallai ein cwrs cerddoriaeth yng Nghaerdydd dod i ben, ac yn sioc i bawb efallai na fydd myfyrwyr y dyfodol yn cael yr un cyfle hwn."

Aelod CGIC

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Argyfwng Celfyddydau Ieuenctid: Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn Galw ar Lywodraeth Cymru i Weithredu Nawr

Fel eiriolwyr dros greadigrwydd ieuenctid yng Nghymru, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru heddiw yn seinio rhybudd am sefyllfa "gywilyddus" cyllid celfyddydau ieuenctid yn ein cenedl. Rydym ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r sefyllfa frys hon, gan sicrhau bod pob person ifanc yn gallu manteisio ar bŵer trawsnewidiol y celfyddydau.

Fel eiriolwyr dros greadigrwydd ieuenctid yng Nghymru, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru heddiw yn seinio rhybudd am sefyllfa "gywilyddus" cyllid celfyddydau ieuenctid yn ein cenedl. Rydym ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r sefyllfa frys hon, gan sicrhau bod pob person ifanc yn gallu manteisio ar bŵer trawsnewidiol y celfyddydau.

Mae adroddiad diweddar y Senedd "Degawd o Doriadau" yn datgelu tirwedd o esgeulustod a thanariannu cronig, gan beryglu nid yn unig y celfyddydau, ond hefyd ein hunaniaeth ddiwylliannol a datblygiad cenedlaethau'r dyfodol.

Mae Cymru, a oedd unwaith yn ferw o fynegiant artistig, bellach yr isaf ond un yn Ewrop am fuddsoddiad yn y celfyddydau y person. Nid rhifau ar daenlen yn unig yw'r dirywiad hwn - mae'n naratif o gyfleoedd a gollwyd, llai o greadigrwydd a dyfodol lle nad oes gan ein plant fynediad at gyfleoedd celfyddydol a allai lunio eu bywydau. Fel yr amlygwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn ei Adroddiad Effaith Economaidd diweddar, bu gostyngiad gwirioneddol o 40% mewn cyllid refeniw ar gyfer diwylliant ers 2010. Gyda phob blwyddyn sy'n mynd heibio, rydym yn colli tir mewn maes y dylai Cymru fod yn ei arwain.

Cyferbynnwch hyn â'r dystiolaeth gymhellol o astudiaeth yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a gyhoeddwyd ychydig wythnosau yn ôl. Mae'r ymchwil hon yn tanlinellu'r hyn mae'r rhai ohonom yn y celfyddydau wedi ei wybod ers blynyddoedd - mae ymgysylltu â'r celfyddydau a diwylliant yn cael effaith ddofn ar iechyd a lles. Mae'r astudiaeth yn datgelu y gall cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau diwylliannol leihau'r angen am wasanaethau gofal iechyd, gwella iechyd meddwl a meithrin cydlyniant cymunedol. Yn fwy penodol, mae'n meintioli'r enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad, sy'n dangos, am bob punt a fuddsoddir yn y celfyddydau a diwylliant, bod elw sylweddol mewn buddion economaidd, cymdeithasol ac iechyd. Dangosodd Adroddiad Effaith Cyngor Celfyddydau Cymru ei hun, bod economi Cymru yn elwa o £2.51 am bob £1 sy'n cael ei wario ar weithgareddau diwylliannol. Yn syml, y mwyaf rydyn ni'n ei wario ar y celfyddydau, y mwyaf rydyn ni'n ei arbed mewn mannau eraill.

Pwysleisiodd Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “Rydym ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried sut mae adnoddau’n cael eu dyrannu, gan roi pwyslais o'r newydd ar 'atal' fel buddsoddiad strategol. Mae angen cynllun hirdymor - un sy'n cydnabod y celfyddydau, yn enwedig celfyddydau ieuenctid, fel seilwaith hanfodol ar gyfer Cymru iach, fywiog a llewyrchus. Yn hanfodol, rhaid i hon fod yn strategaeth gynhwysfawr sy'n integreiddio cyllidebau ar gyfer Addysg, Diwylliant ac Iechyd. Nid moethusrwydd yw'r celfyddydau, ond anghenraid i ddatblygu meddyliau ifanc. Maen nhw’n darparu llwyfan ar gyfer mynegiant, dysgu a gwydnwch. Mae buddsoddiad yn y celfyddydau ieuenctid yn fuddsoddiad yn arweinwyr, meddylwyr ac arloeswyr y dyfodol yng Nghymru.

Dadl Economaidd

Y tu hwnt i werth cynhenid y celfyddydau, mae achos economaidd clir. Mae'r sector celfyddydau yn cyfrannu'n uniongyrchol at GDP, yn cefnogi economïau lleol ac yn creu swyddi. Ar ben hynny, mae'r enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad yn y celfyddydau, fel y gwelir gan yr astudiaeth DCMS, yn gwrthbwyso’r buddsoddiad cychwynnol yn sylweddol.

Iechyd a Lles

Mae manteision lles cyfranogiad yn y celfyddydau yn ddiamheuol. Ar adegau pan fo iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yn bryder cynyddol, gall y celfyddydau gynnig llwybrau therapiwtig, gan leihau baich cymdeithasol costau iechyd trwy atal ac ymyrraeth gynnar.

Cadwraeth Ddiwylliannol ac Arloesi

Mae Cymru mewn perygl o golli ei naratifau diwylliannol unigryw os nad ydym yn eu meithrin drwy'r celfyddydau. Nid yw rhaglenni celfyddydau ieuenctid yn ymwneud â gwarchod diwylliant yn unig, ond mae hefyd yn ymwneud â gwthio ffiniau a meithrin arloesedd.

Adeiladu Cymuned

Mae rhaglenni celfyddydol yn dod â chymunedau at ei gilydd, gan greu gofodau cynhwysol lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu. Mae'r cydlyniant cymdeithasol hwn yn hanfodol, yn enwedig mewn oes lle gall rhaniadau fwrw gwreiddiau.

Evan Dawson Added: “Unwaith eto, rydym ni’n annog Llywodraeth Cymru i ail-werthuso dyraniad adnoddau, gan flaenoriaethu 'atal' fel buddsoddiad strategol ar gyfer y dyfodol.” Ni allwn fforddio bod y genhedlaeth sy'n gwylio o'r ymylon wrth i'n hetifeddiaeth ddiwylliannol a photensial ein hieuenctid gael eu mygu gan doriadau annoeth yn y gyllideb. Gadewch i ni hyrwyddo dadeni ym maes celfyddydau Cymru, nid yn unig er mwyn diwylliant ond er mwyn datblygiad cyfannol ein cymdeithas.   Mae ein plant yn haeddu Cymru lle mae eu mynegiadau creadigol nid yn unig yn cael eu clywed ond yn cael eu dathlu, lle mae eu cyfranogiad yn y celfyddydau yn cael ei ystyried yn rhan sylfaenol o'u twf a'n dyfodol ni ar y cyd.”

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Bydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dyfarnu mwy o fwrsariaethau i bobl ifanc diolch i gyllid newydd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi derbyn grant Ysgoloriaeth Celfyddydau o £171,990 gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i gefnogi pobl ifanc o gefndiroedd incwm is i gael mynediad i'n hyfforddiant perfformio uwch yn y celfyddydau.

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi derbyn grant Ysgoloriaeth Celfyddydau o £171,990 gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i gefnogi pobl ifanc o gefndiroedd incwm is i gael mynediad i'n hyfforddiant perfformio uwch yn y celfyddydau.

Ein gweledigaeth yw adeiladu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru drwy rymuso'r genhedlaeth nesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr. Yn ogystal ag arwain pum ensemble ieuenctid cenedlaethol Cymru (theatr, dawns, cerddorfa, côr a band pres), mae gennym hefyd drosolwg strategol o iechyd celfyddydau ieuenctid ledled Cymru. Bob blwyddyn rydym yn ymgysylltu â thua 2,000 o bobl ifanc (16-22 oed), o bob sir yng Nghymru, drwy gyfleoedd hyfforddi a pherfformio eithriadol.

Bydd y cyllid newydd hwn gan Ymddiriedolaeth Leverhulme yn caniatáu i CCIC dyfu ei rhaglen bresennol o fwrsariaethau a rhaglenni datblygu, gan sicrhau na ddylai incwm cartref fyth fod yn rhwystr i'r bobl ifanc mwyaf talentog anelu at yrfa yn y celfyddydau. Yn ogystal â chynnig gostyngiadau o hyd at 100% mewn ffioedd ar gyfer ein preswyliadau haf, bydd y rhai sydd fwyaf mewn angen hefyd yn derbyn grant bwrsariaeth i helpu i dalu costau teithio a threuliau eraill. Bydd CCIC yn parhau i gynnig hepgoriadau ffioedd awtomatig i bobl ifanc sy'n dod o aelwydydd sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, Prydau Ysgol am Ddim neu Grantiau Dysgu llawn Llywodraeth Cymru, yn ogystal â gofalwyr ifanc, y rhai sy'n ceisio aelodau â phrofiad o loches neu ofal.

Dywedodd Evan Dawson, Prif Swyddog Gweithredol CCIC, ar y cyhoeddiad: "Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rydym ni i gyd yn falch iawn ac yn teimlo’n ostyngedig o dderbyn yr arian hwn gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. Gyda'u cefnogaeth, byddwn yn parhau i sicrhau y gall pob person ifanc yng Nghymru gael mynediad at hyfforddiant perfformio uwch a llawen yn y celfyddydau, waeth beth fo'u hamgylchiadau ariannol.

Mae'r grant hwn yn gwneud Ymddiriedolaeth Leverhulme yn Brif Gefnogwr Cronfa Bwrsariaeth CCIC. Mae'r Gronfa Bwrsariaeth hefyd yn cael ei chefnogi'n flynyddol gan Gronfa Fwrsariaeth Neil a Mary Ellen Webber, a Chyfeillion Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru. Rydym ni hefyd yn ddiolchgar i'r holl unigolion sy'n rhoi i'n cronfa bwrsariaeth trwy ddebyd uniongyrchol – gallwch ymuno â nhw drwy ymweld â https://www.nyaw.org.uk/support-us .

Un rhan yn unig o'r ymdrech barhaus i weithio tuag at sector celfyddydau mwy teg i berfformwyr ifanc yw cynllun bwrsariaeth estynedig CCIC. Mae CCIC hefyd yn ehangu ei ystod o brosiectau datblygu, sydd wedi'u cynllunio i ddarparu hyfforddiant wedi'i dargedu i bobl ifanc o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, fel y rhai ag anabledd, neu gymunedau sy'n profi hiliaeth. Mae'r rhain yn cynnwys y rhaglenni Strings Attached a Cor Skills, a'r prosiect Assemble ar gyfer ysgolion nad ydynt yn brif ffrwd.

About the Leverhulme Trust

Since its foundation in 1925, the Leverhulme Trust has provided grants and scholarships for research and education, funding research projects, fellowships, studentships, bursaries and prizes; it operates across all the academic disciplines, the intention being to support talented individuals as they realise their personal vision in research and professional training. Today, it is one of the largest all-subject providers of research funding in the UK, distributing approximately £120 million a year. For more information about the Trust, please visit www.leverhulme.ac.uk 

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn Lansio Menter Llinynnau Ynghlwm

Yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rydym ni’n credu y dylai pob person ifanc gael y cyfle i ffynnu drwy'r celfyddydau. Fel rhan o'n cyfrifoldeb strategol dros ecoleg celfyddydau ieuenctid yng Nghymru, rydym yn nodi llwybrau talent allweddol i'n pum ensemble cenedlaethol, ac yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau.

Yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rydym ni’n credu y dylai pob person ifanc gael y cyfle i ffynnu drwy'r celfyddydau. Fel rhan o'n cyfrifoldeb strategol dros ecoleg celfyddydau ieuenctid yng Nghymru, rydym yn nodi llwybrau talent allweddol i'n pum ensemble cenedlaethol, ac yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau.

Mae Llinynnau Ynghlwm yn brosiect newydd ar gyfer chwaraewyr llinynnol ifanc o safon Gradd 4 ac uwch, sy'n cael ei redeg mewn cydweithrediad â gwasanaethau cerdd De-ddwyrain Cymru.

Cynhaliwyd y digwyddiad deuddydd cyntaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ar 12 a 13 Hydref, gan ddod â dros 50 o chwaraewyr llinynnol ifanc o bob rhan o Dde Cymru at ei gilydd i ymuno â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Gweithiodd y cyfranogwyr yn ddwys gyda thîm Tiwtorial CCIC, gan baratoi repertoire llinynnol gwych wrth ddysgu mwy am dechnegau chwarae a gweithio mewn ensemble. Fe'u cefnogwyd gan diwtoriaid o'r gwasanaethau cerdd a thîm o Fentoriaid Cymheiriaid, cerddorion ifanc o fewn rhengoedd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Roedd cyfle hefyd i glywed mwy am y broses clyweliadau ar gyfer ensembles cerddoriaeth Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Arweiniwyd y sesiwn holi ac ateb gan Matthew Jones o Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gyda thiwtoriaid sy'n eistedd ar baneli clyweliadau CCIC a'r Mentoriaid Cymheiriaid sydd wedi bod trwy'r broses clyweliad nifer o weithiau eu hunain.

Daeth y penwythnos i ben drwy rannu'r gerddoriaeth roedden nhw wedi'i dysgu, gyda'r safon o chwarae'n dyst i'r gwaith caled a'r ymroddiad roedd y cyfranogwyr wedi'i ddangos dros y penwythnos.

Dywedodd Megan George o RhCT: "Fe wnes i wir fwynhau chwarae dros y penwythnos. Roedd y dewis o ddarnau'n wych ac roedd mor ddefnyddiol dysgu technegau cerddorfaol llinynnau priodol"

Dywedodd rhiant cyfranogwr: "Mae yna rai ardaloedd o Gymru sydd wedi colli eu cerddorfa ieuenctid ranbarthol a gall gwneud y naid o lefel sir i lefel Genedlaethol deimlo fel naid anferthol. Roedd y safon a gyflawnwyd mewn deuddydd yn hynod drawiadol ac mae wedi rhoi cyfle i'r myfyrwyr bontio'r bwlch hwnnw. Rydym ni angen mwy o'r dyddiau hyn!"

"Yn ystod cyfnodau clo COVID, cafodd y rhan fwyaf o gyfleoedd i gerddorion ifanc eu cymryd i ffwrdd. Gellir dadlau mai'r rhai a oedd newydd ddechrau ar eu taith gerddorol ar yr adeg honno yw'r rhai sydd wedi’u heffeithio fwyaf. Yn sydyn ataliwyd eu gallu i symud ymlaen, cafodd ymarferion wythnosol a gwersi eu rhoi ar stop, ac roedd chwarae gyda phobl ifanc o'r un anian mewn sefyllfa breswyl yn amhosib.

Dywedodd Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd a Dirprwy Brif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: Mae bellach yn flaenoriaeth i bawb mewn addysg gerddorol yng Nghymru ddarparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr canolradd ar frys i adfer tir coll, adennill eu hysbrydoliaeth, a chyrraedd eu potensial llawn. Wedi’i ategu gan Wasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru, mae cydweithio a chydweithio â gwasanaethau cerddoriaeth a sefydliadau eraill yn golygu y gallwn wneud mwy gyda'n gilydd."  

Y penwythnos hwn oedd y cyntaf o'r hyn rydym ni’n gobeithio fydd yn rhaglen waith barhaus, gyda chynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer prosiectau tebyg yng Ngogledd, Gorllewin a Chanolbarth Cymru.

Mae CCIC yn ddiolchgar iawn i gefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Colwinston, ABRSM a chronfa Culture Step Arts & Business yn ogystal â'n cyllidwyr craidd, Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol y mae eu cyllid wedi gwneud y prosiect Strings Attached yn bosibl.

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Siapio Dyfodol Cerddoriaeth yng Nghymru: Haf syfrdanol CCIC

Yr haf hwn, daeth Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru â'r cerddorion ifanc mwyaf talentog o bob rhan o Gymru at ei gilydd ar gyfer cyfres o gyrsiau preswyl a chyngherddau cerddorol dwys. Yn cynnwys ein ensembles ieuenctid cenedlaethol enwog – Band Pres, Côr a Cherddorfa – roedd yn dymor o angerdd, creadigrwydd a pherfformiadau bythgofiadwy.

Yr haf hwn, daeth Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru â'r cerddorion ifanc mwyaf talentog o bob rhan o Gymru at ei gilydd ar gyfer cyfres o gyrsiau preswyl a chyngherddau cerddorol dwys. Yn cynnwys ein ensembles ieuenctid cenedlaethol enwog – Band Pres, Côr a Cherddorfa – roedd yn dymor o angerdd, creadigrwydd a pherfformiadau bythgofiadwy.

Fe wnaeth 231 o gerddorion ifanc, oedd yn cynrychioli pob cornel o Gymru, gymryd rhan. Gyda'i gilydd, fe wnaethant berfformio deg cyngerdd yn rhai o leoliadau mwyaf eiconig Cymru: yn Nhyddewi (mewn partneriaeth â Gŵyl Abergwaun), Bangor, Llanelwy, Caerdydd ac Abertawe. Roedd pob perfformiad yn syfrdanol ac yn arloesol, gydag egni a brwdfrydedd y cerddorion ifanc i’w deimlo gan bawb yn y gynulleidfa.

Un uchafbwynt oedd cyngerdd hamddenol cyntaf erioed CCIC yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd. Roedd y digwyddiad arloesol hwn yn gwneud cerddoriaeth fyw yn hygyrch i bawb, gan groesawu pobl o bob gallu i brofi llawenydd perfformiad cerddorfa fyw. Nid oedd llawer o'r rhai wnaeth fynychu erioed wedi bod mewn cyngerdd cerddoriaeth glasurol o'r blaen.

Dan arweiniad arbenigedd yr arweinwyr o safon fyd-eang Erik Janssen, Tim Rhys-Evans a Tianyi Lu, ynghyd â'u timau creadigol priodol, cyrhaeddodd pob ensemble uchelfannau rhagoriaeth newydd. Roedd eu hangerdd a'u harweinyddiaeth yn ysbrydoli’r cerddorion ifanc i roi eu gorau, gan greu perfformiadau a oedd nid yn unig yn dechnegol drawiadol ond hefyd yn hynod deimladwy.

Meddai Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: "Fel bob amser, braint a phleser llwyr oedd cael gweithio gydag aelodau hynod dalentog ensembles Cerdd CCIC. Roedd cymaint o uchafbwyntiau, gan gynnwys cyngherddau gwych yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi hardd fel rhan o Ŵyl Abergwaun; cyngerdd pen-blwydd ardderchog yn 40 mlwydd oed gyda'r Côr yn Neuadd Brangwyn; a chyngerdd hamddenol cyntaf i'r Gerddorfa. Mae bob amser yn ymdrech tîm enfawr i wneud y cyrsiau preswyl a'r teithiau cyngerdd hyn yn llwyddiant, felly diolch i holl dîm staff CCIC, y tiwtor, lles a thimau rheoli llwyfan, ein harweinwyr gwych, ac wrth gwrs y bobl ifanc eu hunain! Alla i ddim aros i weld beth ddaw yn 2025 - felly gwnewch gais!"

Gyda thymor 2024 bellach y tu ôl i ni, mae'r cyffro eisoes yn adeiladu ar gyfer yr hyn sydd i ddod yn 2025. Mae CCIC yn parhau i feithrin ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o gerddorion Cymreig, a gyda chymaint o dalent eisoes yn disgleirio, mae'r dyfodol yn edrych yn fwy disglair nag erioed.

Os ydych chi'n gerddor ifanc sydd am fod yn rhan o'r profiad anhygoel hwn, nawr yw'r amser perffaith i wneud cais ar gyfer ensembles cerddoriaeth CCIC 2025. Peidiwch â cholli'r cyfle i weithio gydag arweinwyr byd-enwog, perfformio mewn lleoliadau anhygoel, ac ymuno â chymuned o gerddorion ifanc talentog.

Dywedodd Evan Dawson, Prif Swyddog Gweithredol Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: "Yr haf hwn, rydym ni unwaith eto wedi gweld gallu rhyfeddol Cymru i gynhyrchu cerddorion ifanc o'r radd flaenaf. Yr hyn sy'n gwneud yr ensembles hyn mor arbennig yw, yn ogystal â chwarae rhinweddol, fod y cerddorion ifanc yn ffurfio cymuned mor gefnogol i helpu i ddod â'r gorau allan yn ei gilydd. Mae'n ostyngedig ac yn ysbrydoledig. Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i hyrwyddo pwysigrwydd cerddoriaeth i bob person ifanc, gan adeiladu ar y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud mewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru, mewn amgylchiadau anodd iawn. Helpwch ni i ledaenu'r gair am ein rownd nesaf o glyweliadau, ac os oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i gefnogi ein gwaith yn ariannol, byddwn yn sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r celfyddydau ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru".

Ai chi yw dyfodol cerddoriaeth yng Nghymru? Gwnewch gais am glyweliad heddiw am eich cyfle i fod yn rhan o daith fythgofiadwy CCIC yn 2025. Dyma eich llwyfan chi!

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Y Cyfarwyddwr Symud o’r West End a’r Coreograffydd Yukiko Masui yn cychwyn preswyliad Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2024 a chyfnewid trawsffiniol gyda Cwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban

Mae'r cyffro'n byrlymu yng nghwrs preswyl Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) eleni, sydd ar ei anterth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Mae 17 o ddawnswyr ifanc talentog wedi cael eu dewis ac wedi ymgynnull o bob rhan o Gymru am gyfnod dwys a gwefreiddiol o hyfforddi a chreu.

Mae'r cyffro'n byrlymu yng nghwrs preswyl Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) eleni, sydd ar ei anterth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Mae 17 o ddawnswyr ifanc talentog wedi cael eu dewis ac wedi ymgynnull o bob rhan o Gymru am gyfnod dwys a gwefreiddiol o hyfforddi a chreu.

Eleni, mae'n bleser gan DGIC gyhoeddi bod y cwrs preswyl yn cael ei arwain gan y coreograffydd rhyngwladol o fri ac Aelod Oes Anrhydeddus Equity Yukiko Masui, yn ffres o weithio fel Cyfarwyddwr Symud ar gynhyrchiad West End Cwmni Jamie Lloyd o Romeo and Juliet. Yn ogystal â gweithio gyda Yukiko Masui, bydd ein dawnswyr hefyd yn cael cyfle i gymryd dosbarthiadau dyddiol gyda grŵp amrywiol o artistiaid dawns, gan archwilio amrywiaeth eang o arddulliau o ddawns gyfoes i theatr gorfforol. Mae'r amlygiad hwn i wahanol dechnegau a safbwyntiau yn sicrhau profiad cyflawn, gan ganiatáu i bob dawnsiwr ehangu eu set sgiliau a'u mynegiant artistig.

Gwyliwch "DGIC 2024 Yn sitwdio gyda Yukiko Masui".

Mae cwmni eleni yn gymysgedd bywiog o gyn-fyfyrwyr sy'n dychwelyd a wynebau ffres. Rydym ni’n falch o groesawu naw dawnsiwr sy'n dychwelyd, sy'n dod â phrofiad a dealltwriaeth o ethos a gwerthoedd DGIC gyda nhw. Ochr yn ochr â nhw, mae wyth o ddawnswyr newydd yn ymuno â'r cwmni am y tro cyntaf yn dilyn clyweliadau ledled y wlad fis Chwefror diwethaf.

Fel rhan o'n partneriaeth gyffrous gyda'r Celtic Collective, mae carfan eleni yn cynnwys dawnsiwr sy’n cymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid gyda Cwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban (NYDCS). Mae'r fenter hon wedi'i chynllunio i gysylltu aelodau DGIC a NYDCS trwy frwdfrydedd ac awydd cyffredin i wella eu datblygiad dawns a'u hymwybyddiaeth o'r sector, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  Yn gyfnewid am hyn, bydd un o ddawnswyr DGIC yn cael cyfle i gael profiad amhrisiadwy drwy ymuno â National Youth Dance Company of Scotland  yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Dywedodd Maura, aelod DGIC a myfyriwr cyfnewid Celtic Collective: “A minnau erioed wedi bod i Gymru, mae wedi bod yn brofiad teithio i lawr i ran newydd o'r DU. Rwy'n berson eithaf swil, tawedog, mae'r cwrs preswyl wedi gwneud i mi ddod allan o fy nghragen oherwydd ei amserlen ddwys, ei rhaglen lles a'i rhaglen gymdeithasol. Mae'r cwrs preswyl wedi gwneud i mi deimlo mor dda amdanaf fi fy hun. Mae cwrdd ag aelodau eraill DGIC wedi dysgu cymaint i mi am hyfforddiant proffesiynol, sydd wedi bod mor ddefnyddiol ac rwyf bellach wedi gwneud cysylltiadau cefnogol gyda dawnswyr ifanc eraill i gyd diolch i'r cwrs preswyl hwn a gwaith Anna o NYDCS a Jamie o DGIC".

Yn gyfnewid, bydd Eira, dawnsiwr DGIC o Wynedd, Gogledd Cymru, yn cael cyfle i gael profiad amhrisiadwy drwy ymuno â Chwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol yr Alban yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Dywedodd Eira: "Rwy'n gyffrous iawn i ymuno â Chwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol yr Alban fel rhan o'r rhaglen gyfnewid Celtic Collective. Mae'r cyfle i weithio gyda dawnswyr a choreograffwyr mor dalentog yn wirioneddol anhygoel, ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r Alban ac ymgolli yn y profiad hwn. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle anhygoel hwn."

Dywedodd Jamie Jenkins, cynhyrchydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru: "Mae'r cyfnewid hwn gyda National Youth Dance Company of Scotland yn gyfle gwych i'n dawnswyr brofi gwahanol amgylcheddau creadigol a dysgu gan eu cyfoedion ledled y DU. Mae'n ymwneud ag ehangu gorwelion, adeiladu cysylltiadau, a gwthio ffiniau'r hyn y gall ein dawnswyr ifanc ei gyflawni. Rydym ni mor falch o barhau â'r bartneriaeth hon eleni ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae'r bartneriaeth hon yn esblygu ac yn cyfoethogi dawnswyr ein cwmnïau."

Wrth i'r cwrs preswyl barhau, mae'r cyffro ar gyfer y perfformiadau terfynol yn cynyddu fel perfformwyr gwadd gyda'r cwmni arobryn Ballet Cymru, lle bydd y dawnswyr ifanc talentog hyn yn arddangos canlyniadau eu gwaith caled o dan arweiniad arbenigol Masui. Gyda'r cyfuniad o goreograffi gweledigaethol Masui, talentau amrywiol y dawnswyr, ac ysbryd arloesol DGIC, a fydd yn cyrraedd carreg filltir arwyddocaol 25 mlynedd yn 2025, bydd y cwrs preswyl eleni yn bennod arloesol yn hanes y cwmni.

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn Cyhoeddi Eu Cynhyrchiad Teithiol 2024 Dal Gafael / Hold On mewn Partneriaeth â Fio a Theatr Genedlaethol Cymru

Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (NYTW) yn falch o gyhoeddi ei chynhyrchiad theatr arloesol, “Dal Gafael / Hold On,” a grëwyd mewnpartneriaeth â Fio a Theatr Genedlaethol Cymru.

Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (NYTW) yn falch o gyhoeddi ei chynhyrchiad theatr arloesol, “Dal Gafael / Hold On,” a grëwyd mewnpartneriaeth â Fio a Theatr Genedlaethol Cymru. Yn cael ei berfformio am y tro cyntaf ar 4 Medi yn Theatr y Sherman, Caerdydd, cyn teithio i Galeri Caernarfon, bydd y cynhyrchiaddeinamig hwn wedi’i gyfarwyddo gan Dr. Sita Thomas yn arddangos doniau eithriadol y cast o 22 aelod, sy'n cynrychioli'r perfformwyr ifanc disgleiriaf o bob cwr o Gymru.

Mae Dal Gafael / Hold On wedi cael ei gomisiynu'n benodol ar gyfer ensemble ieuenctid 2024 ThCIC ac mae wedi’i gyd-ysgrifennu gan y dramodwyr cyffrous o Gymru, Mared Llywelyn a Steven Kavuma.

Mae'r ddrama ddwyieithog yn plethu teithiau dau berson gyda’i gilydd yn gywrain, pob un ynbrwydro heriau personol yng nghanol cefndir argyfwng hinsawdd a byd sy'n newid yngyflym. Mae eu bywydau yn croestori'n annisgwyl, gan eu harwain i wynebu nid yn unig eubrwydrau eu hunain ond hefyd oblygiadau ehangach eu hamgylchedd. Wrth iddyn nhwlywio'r heriau hyn, maen nhw’n cwestiynu addewidion Echo Earth, dinas arloesol sy'n addodiogelu ei dinasyddion.

Mae'r tîm ysgrifennu wedi defnyddio dull ysgrifennu arloesol, gan ddod â dau lais gwahanolynghyd a chyfuno'r ddau drwy gydweithio ar-lein ac yn bersonol. Mae Mared, o Ben Llŷn a Steven, sydd wedi’i eni yn Uganda a’i fagu Abertawe, yn dod â safbwyntiau amrywiol sy'ncyfoethogi'r naratif, gan greu archwiliad cymhellol o ddiwylliant Cymru a materion byd-eangcyfoes gan gynnwys themâu hunaniaeth, cyfeillgarwch, galar, a'r argyfwng hinsawdd.

O dan gyfarwyddyd artistig Dr. Sita Thomas a chefnogaeth creadigol Steffan Donnelly, y ddau eu hunain yn gyn-fyfyrwyr ThCIC, mae'r cast talentog wedi bod drwy broses clyweliadau yn gynharach eleni a byddant yn ymgymryd â chwrs preswyl ymdrochol ynystod mis Awst. Mae'r cwrs preswyl a thaith y perfformiad 3 wythnos o hyd nid yn unig yncanolbwyntio ar ymarferion ond mae wedi'i ddylunio i wella lles cymdeithasol a datblygiadproffesiynol. Mae'n sicrhau bod pob cyfranogwr yn ffynnu o fewn cymuned gefnogol sy’ncael ei harwain yn broffesiynol. Mae arwyddocâd arbennig i natur ddwyieithog y cynhyrchiad, gan roi cyfle amhrisiadwy i bobl ifanc gydweithio, hyfforddi, a rhannu euprofiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg, a thrwy hynny ddyfnhau eu cysylltiad â'u treftadaethddiwylliannol cyffredin.

Mynegodd Dr. Sita Thomas, Cyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Symud/Coreograffydd: “Dal Gafael / Hold On” ei brwdfrydedd: “Rydym ni’n gyffrous i gyhoeddi ein partneriaeth gydaTheatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Genedlaethol ar gyfer cynhyrchiad hir-ddisgwyliedig Haf 2024. Fel cyn-aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2006, mae'n anrhydedd gwirioneddol dychwelyd i gyfarwyddo cynhyrchiad eleni. Mae'r cydweithrediad hwn yn nodi cynghrair bwerus ymhlith ein tair sefydliad, ganamlygu ein hymrwymiad ar y cyd i feithrin doniau ac egni cenhedlaeth nesaf actorion a gwneuthurwyr theatr Cymru. Gyda'n gilydd, rydym ni’n cychwyn ar daith i dynnu sylw at straeon, diwylliannau a gwleidyddiaeth y Mwyafrif Byd-eang a'r iaith Gymraeg. Bydd einhymrwymiad ar y cyd i roi llwyfan i'r naratifau hyn yn amlwg wrth i ni fynd i'r afael ag archwilio mytholegau diwylliannol ac ymdrin â materion pwysig ein hoes fel cyfiawnder hinsawdd. Mae'r cynhyrchiad hwn yn addo bod yn ddathliad o safbwyntiau amrywiol Cymru, ynglod i'n treftadaeth gyffredin, ac yn dyst i'r dirwedd theatrig fywiog a dynamig sydd ganGymru i'w chynnig. Rydym ni’n edrych ymlaen at y fenter gyffrous hon a chroesawu cynulleidfaoedd i'n perfformiadau yn yr Haf.”

Ychwanegodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae'n gyffrous iawn i Theatr Gen gydweithio gyda Fio a ThCIC ar ysgrifennu dwyieithognewydd sy'n archwilio'r argyfwng hinsawdd ac yn canolbwyntio ar leisiau ifanc yngNghymru gyfoes. Mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnig profiadau a llwybrau i bobl ifanc i mewni'r celfyddydau sy'n bwysig iawn i ni. Yn ôl yn 2009 roeddwn i'n aelod o Theatr IeuenctidGenedlaethol Cymru ac roedd yn brofiad ffurfiannol anhygoel - dysgais gymaint ac rwy'n dal i fod yn ffrindiau gyda llawer o'r artistiaid y cwrddais â nhw yno - felly mae bod yn rhan o'rprosiect hwn yn teimlo'n arbennig o ystyrlon.”

Bydd cynulleidfaoedd yn cael eu hymdrochi yn y llwyfannu a'r naratif, gan gynnwysdefnyddio fideo a sain o ddoniau'r Dylunydd Sain, Eadyth Crawford. Yn llawn emosiwndwys ac archwiliad disyflyd o'r cyfrifoldebau mae cenedlaethau hŷn a'r rhai sydd mewn grymi ddiogelu dyfodol ein planed yn eu hwynebu.

Rhannodd y cyd-awdur Mared Llywelyn ei meddyliau: “Dwi'n edrych ymlaen gymaint igydweithio ar y darn cyffrous yma efo Steven ar eich cyfer chi! Ac i chi roi bywyd i'r geiriaua'r cymeriadau.”

Adleisiodd y cyd-awdur Steven Kavuma y teimlad hwn: “Dyma fy nhro cyntaf ynysgrifennu ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru ac rwy'n gyffrous iawn i gydweithio â chi ac ysgrifennu deunydd sy'n addas i chi. Cymru am byth ac ati, ie”

Amlygodd Megan Childs, Cynhyrchydd ThCIC, bwysigrwydd y prosiect: “Drwy ddod â phartneriaid creadigol ac artistiaid rhagorol at ei gilydd, amcan ThCIC yw amlygu straeon a phrofiadau pobl ifanc Cymru a sicrhau bod ein cwmni ifanc talentog yn cael disgleirio arlwyfan"

Gallwch weld Dal Gafael / Hold On yn y perfformiad cyntaf yn Ne Cymru cyn teithio iOgledd Cymru fis Medi hwn. Mae'r cynhyrchiad hwn nid yn unig yn arddangos talent ieuenctid Cymru ond hefyd yn cynnig llwyfan hanfodol ar gyfer trafodaethau am ein dyfodolcyffredin.

 Dyddiadau Perfformiadau:

Bydd isdeitlau Cymraeg a Saesneg yn yr holl berfformiadau.

• Caerdydd: Theatr y Sherman, Maw 3 Medi - 8pm; Mer 4 Medi - 8pm gyda dehongliBSL a disgrifio sain

• Caernarfon: Galeri, Gwe 6 Medi — 7.30pm Gyda is-deitlau; Dydd Sadwrn 7 Medi — 5pm

 Am ragor o wybodaeth a diweddariadau, ewch i ccic.org.uk a dilynwch ein taith ar y cyfryngau cymdeithasol @NationalYouthTheatreWales.

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn Dathlu Llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd wastad wedi bod yn ddathliad o ddiwylliant, creadigrwydd ac ysbryd cymunedol Cymru, a doedd eleni ddim yn eithriad.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd wastad wedi bod yn ddathliad o ddiwylliant, creadigrwydd ac ysbryd cymunedol Cymru, a doedd eleni ddim yn eithriad. Fel bob amser, roedd y digwyddiad yn arddangosfa fawreddog o dalentau gorau'r genedl, ac ymhlith y rhai a ddaeth i'r amlwg roedd nifer o aelodau a chyn-fyfyrwyr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC). Roedd eu perfformiadau a’u llwyddiannau rhyfeddol yn tanlinellu llwyddiant a dylanwad parhaus CCIC wrth lunio’r genhedlaeth nesaf o artistiaid Cymreig.

Ymhlith y llu o aelodau a chyn-fyfyrwyr a welsom ar y Maes roedd Kellie-Gwen Morgan o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC), a syfrdanodd y beirniaid ac ennill yn y gystadleuaeth ddeialog gyda’u partner actio. Uchafbwynt arall oedd cynrychiolaeth gref aelodau CCIC yn y cystadlaethau offerynnol. Cymerodd llawer o aelodau Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) ran gyda Band Ieuenctid De Cymru a Band Pres Ieuenctid Beaumaris.

Yn y categori corawl, fe wnaeth Côr Taflais, oedd yn cael ei gyd-arwain gan aelod o Griw Creu Newid CCIC ac aelod o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru Caradog Jones, ennill y gystadleuaeth 'Côr Newydd i’r Eisteddfod' a ffurfiwyd yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod eleni. Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu'r gwaith caled a'r cydweithio sydd wrth galon ethos CCIC, gan ddangos sut mae ein haelodau'n cyfrannu at dirwedd ddiwylliannol ehangach Cymru.  Roeddem hefyd wrth ein bodd i weld aelodau Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru Branwen Medi Jones yn dod yn ail yn y gystadleuaeth unawd “alaw werin” a’r gystadleuaeth unawd o sioe gerdd, ynghyd ag Erin Thomas, wnaeth greu argraff wrth ddod yn ail yng nghystadleuaeth yr unawd mezzo/contralto/uwchdenor. Fodd bynnag, nid yr aelodau presennol yn unig y gwnaethom ni eu gweld. Braf oedd gweld cyn-fyfyrwyr Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Caitlin Hockley a Rhys Archer yn dod yn ail yn y cystadlaethau unawd soprano ac unawd tenor yn eu tro yn ogystal â Nathan James Dearden yn hawlio Tlws y Cyfansoddwr.

Dywedodd Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd CCIC: “Fel bob amser, roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad gwych o ddiwylliant cyfoethog Cymru. O ystyried bod y bywyd diwylliannol hwn yn teimlo dan fygythiad i ryw raddau ar hyn o bryd, roedd yn wych bod yn rhan o ddathliad mor fywiog. Llongyfarchiadau i’n holl aelodau a chyn-fyfyrwyr wnaeth gymryd rhan, perfformio ar y llwyfan a mwynhau llwyddiant a hyd yn oed weithio y tu ôl i’r llenni. Roedd yn hyfryd cerdded o gwmpas y Maes a gweld cymaint o wynebau cyfarwydd, cyfeillgar!”

Yn ogystal â'r buddugoliaethau hyn, cafodd cerddorion cerddorfaol CCIC effaith arwyddocaol hefyd. Ffurfiodd pump o chwaraewyr llinynnol presennol Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC) yr ensemble ar gyfer perfformiad siambr hyfryd o Requiem Fauré yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Muni ar ei newydd wedd.

Wrth i’r Eisteddfod ddirwyn i’w therfyn, gwelsom offerynwyr taro CGIC yn ymuno â’n chwaraewyr llinynnol i chwarae yn y cyngerdd clo, gan berfformio ddarn newydd a ysbrydolwyd gan yr Anthem Genedlaethol. Roedd y perfformiad hwn yn ddiweddglo teilwng i wythnos sydd wedi amlygu dawn ac undod cymuned CCIC.

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac ABRSM yn cydweithio i hybu addysg gerddorol yng Nghymru

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a The Associated Board of the Royal Schools of Music yn gyffrous i gyhoeddi partneriaeth newydd i gefnogi addysg gerddorol yng Nghymru.

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) a The Associated Board of the Royal Schools of Music (ABRSM) yn gyffrous i gyhoeddi partneriaeth newydd i gefnogi addysg gerddorol yng Nghymru.

Mae'r ddau sefydliad yn rhannu ymrwymiad i hyrwyddo addysg a phrofiadau cerddoriaeth hygyrch, difyr a chynhwysol o ansawdd uchel i bobl ifanc ledled Cymru.

Cyhoeddwyd y bartneriaeth mewn cyngerdd gan Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn y Neuadd Fawr, Abertawe ddydd Sul 28 Gorffennaf.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar y tri ffrwd canlynol:

1. Llwybrau Talent

Mae CCIC yn cynnal clyweliadau ledled Cymru bob blwyddyn - ac yna'n cefnogi'r cerddorion ifanc mwyaf talentog i ffurfio ensembles, gan dderbyn hyfforddiant o'r radd flaenaf a pherfformio gyda'i gilydd.

Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd, mae CCIC yn gweithio gyda gwasanaethau cerddoriaeth, sefydliadau ac ysgolion ledled Cymru i ddadansoddi llwybrau dilyniant ar draws gwahanol offerynnau (a lleisiau) a genres cerddoriaeth.

Gan fanteisio ar y gwaith uchod, bydd CCIC ac ABRSM yn nodi mannau oer yn y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc ac yn cyflwyno amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys "Côr Skills" i roi profiad i gantorion o ganu corawl, a rhaglen "Strings Attached" i hybu sgiliau chwaraewyr ffidil, fiola, bas a sielo ifanc.

2. Llais Ieuenctid

Bydd ABRSM a CCIC yn cefnogi rhaglenni cynrychiolaeth ieuenctid y naill a’r llall, gan gynnwys cynnig cyfleoedd newydd i bobl ifanc ar gyfer hyfforddiant, dylanwadu ar bolisi a phrofiad gwaith. Yn ddiweddar, mae CCIC wedi penodi tri ymddiriedolwr ifanc i'w bwrdd ac wedi creu 'Criw Creu Newid' ifanc i ddylanwadu ar weithgareddau CCIC. Bydd yn rhannu'r profiadau hyn gydag ABRSM, gyda'r bwriad o ddatblygu modelau newydd o arfer gorau ar gyfer sector y celfyddydau gyda'i gilydd.

3. Data

Bydd ABRSM a CCIC yn datblygu ffyrdd newydd o gasglu data am addysg gerddorol a chyfranogiad ledled Cymru, ac yn cymathu eu data presennol, i nodi pa offerynnau sy'n cael eu dysgu i safon uchel, pa rai sy'n llai poblogaidd, a pha rannau o'r wlad sydd fwyaf angen cymorth.

Dywedodd James Welburn, Dirprwy Bennaeth Ymgysylltu ABRSM: "Rydym ni’n falch iawn o fod yn cydweithio â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar yr hyn yr ydym ni’n rhagweld fydd yn bartneriaeth ddiddorol ac egnïol i gefnogi cerddorion ifanc ledled Cymru. Rydym ni’n arbennig o gyffrous am ein rhaglenni llais ieuenctid, gan helpu i wreiddio lleisiau pobl ifanc o fewn ein sefydliadau a'r sector ehangach, a chadw cerddorion ifanc wrth wraidd popeth a wnawn."

Dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “ABRSM yw un o sefydliadau addysg gerddorol mwyaf blaenllaw Y byd ac rydym ni’n gyffrous i gychwyn ar y bartneriaeth newydd hon. Gyda'n gilydd, rydym ni’n deall y rôl emosiynol mae cerddoriaeth yn ei chwarae ym mywydau pobl ifanc, gan gydnabod a dathlu'r ystod amrywiol o gefndiroedd mae pob unigolyn yn eu cyflwyno, wrth fanteisio ar ein rhwydwaith cerddorol o gyfansoddwyr, athrawon a pherfformwyr. Rydym ni i gyd wrth ein bodd ein bod yn gweithio mewn partneriaeth agosach ag ABRSM i helpu i ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc i ffynnu trwy greu cerddoriaeth greadigol, arloesol a hael, ledled Cymru gyfan." 

Read More
Guest User Guest User

Llongyfarchiadau i enillwyr ein gwobrau Cerddorfa a Band Pres 2024

Bob blwyddyn ar ein preswyliadau, rydym yn dathlu ein cerddorion sy'n dangos yr addewid a'r ymroddiad mwyaf. Y tiwtoriaid adrannol sy'n penderfynu pwy sy'n derbyn pob gwobr yn ystod y cyfnodau preswyl.

Bob blwyddyn ar ein preswyliadau, rydym yn dathlu ein cerddorion sy'n dangos yr addewid a'r ymroddiad mwyaf. Y tiwtoriaid adrannol sy'n penderfynu pwy sy'n derbyn pob gwobr yn ystod y cyfnodau preswyl.

Hoffai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru rhoi diolch i'r rhai sydd wedi rhoi arian i greu'r gwobrau hyn.

Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Tlws Coffa John Childs

Dyfarnwyd i’r chwaraewr mwyaf addawol ar y cwrs preswyl eleni

Solomon Maghur

Gwobr David Mabey

Dyfarnwyd i’r chwaraewr sydd wedi gwella fwyaf ar y cwrs preswyl

Cari Jones

Tlws y Prif Gornet

Er cof Tony Small

Erin Maloney

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Gwobr Haydn Davies

Dyfarnwyd i’r chwaraewr mwyaf addawol sy’n dal i fod ym myd addysg

Xinrong Zou

Gwobrau Irwyn Walters (Ffrindiau CGIC)

Dyfarnwyd i’r ddau chwaraewr llinynnol mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Sharon Liang a Mali Wood

Gwobr Wil Jones

Dyfarnwyd i’r chwaraewr chwythbrennau mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Amélie Donovan

Gwobr Goronwy Evans

Dyfarnwyd i'r chwaraewr pres mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Carys Williams

Gwobr Telyn Tony Moore

Dyfarnwyd i’r telynor mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Yasmin Richards

Gwobr Offerynnau Taro Tony Moore

Dyfarnwyd i’r chwaraewr offerynnau taro mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni

Max Manuel

Gwobr Tîm Lles

Am gyfraniad cyffredinol i’r Gerddorfa

Aled Thistlewood

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Haf o Gyngherddau Syfrdanol gan Gerddorion Ifanc Gorau Cymru

Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi y bydd aelodau ein carfan 2024 hynod dalentog ar draws Band Pres, Cerddorfa a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn teithio ledled Cymru yr haf hwn, gan arddangos eu sgil a’u hymrwymiad mewn cyfres o gyngherddau cyhoeddus syfrdanol.

Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi y bydd aelodau ein carfan 2024 hynod dalentog ar draws Band Pres, Cerddorfa a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn teithio ledled Cymru yr haf hwn, gan arddangos eu sgil a’u hymrwymiad mewn cyfres o gyngherddau cyhoeddus syfrdanol. Byddant yn ymweld â lleoliadau ar draws y wlad o Sir Benfro i Ddinbych ym mis Gorffennaf, Awst a Medi ac mae tocynnau ar werth nawr.

Yn dilyn proses glyweld gynhwysfawr yn gynharach eleni, mae aelodau ein ensembles wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru gyda lle chwenychedig yn eu priod Ensembles Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Cyn bo hir bydd ein haelodau’n cychwyn ar gwrs preswyl wythnos o hyd, yn gweithio gyda thimau creadigol cyffrous o bob rhan o’r byd, yn perffeithio eu repertoire cyngherddau cyn camu ar y llwyfan i syfrdanu cynulleidfaoedd ym Mangor, Llanelwy, Llanbedr Pont Steffan, Abertawe a Chaerdydd. Bydd y tri Ensemble hefyd yn perfformio yn Eglwys Gadeiriol fawreddog Tyddewi fel rhan o Ŵyl Gerdd Abergwaun 2024.

Dywedodd Matthew Jones, Uwch Gynhyrchydd CCIC: “Un o rannau gorau fy swydd yw profi perfformiadau gwych ein ensembles cerddoriaeth. Ymhlith rhai o gerddorion mwyaf dawnus Cymru, mae ein haelodau ifanc yn gweithio’n galed yn ystod ein cyrsiau preswyl yn yr haf i roi rhaglen gyffrous o gerddoriaeth at ei gilydd i chi ei mwynhau. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’n perfformiadau, lle gallwn ddathlu’r gorau o dalent gerddorol Cymru gyda’n gilydd.”

Am y tro cyntaf erioed, bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio cyngerdd cynhwysol, hamddenol. Yn cael ei gynnal yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd Caerdydd, mae'r perfformiad hwn sy’n fyrrach o ran hyd wedi'i gynllunio i ddarparu amgylchedd croesawgar a hygyrch i bob cynulleidfa, gan gynnwys pobl anabl, plant iau ac aelodau o'r gynulleidfa sy’n niwrowahanol.

 Mae dathlu gwaith Cyn-fyfyrwyr CCIC hefyd yn nodwedd o'r tymor eleni. Bydd yr ensembles yn perfformio cerddoriaeth a ysgrifennwyd gan dri chyn-aelod gyda Steel Tracks gan Michael Triggs, a aned yng Nghaerdydd, yn cael ei berfformio gan y Band Pres, Five Windows gan Niamh O'Donnell o Aberystwyth yn rhan o raglen y Gerddorfa tra bydd y Côr yn perfformio Cainc, comisiwn newydd sbon gan y gyfansoddwraig a aned yng Nghaerfyrddin, Claire Victoria Roberts, i gerdd a ysgrifennwyd gan y bardd Cymraeg enwog, Mererid Hopwood.

Gyda haf cyffrous o gyngherddau syfrdanol yn dod i leoliad yn agos atoch chi, mae rhywbeth at ddant pawb. Peidiwch âcholli allan-ewch i'n tudalen Beth Sydd Ymlaen am restr lawn ac ymunwch â ni i glywed dyfodol cerddoriaeth Gymraeg.

Read More
Guest User Guest User

Ein Cyngerdd Hamddenol yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd

Ar 31 Awst, bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio cyngerdd hamddenol, wedi'i gynllunio i fod yn gynhwysol a chroesawgar ar gyfer pob oedran ac anghenion mynediad.

Yn y canllaw hwn, gallwch ddarganfod mwy am beth i'w ddisgwyl, a beth fydd gennym ni ar waith ar y diwrnod i'ch helpu i fwynhau'r cyngerdd.

Ar 31 Awst, bydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio cyngerdd hamddenol, wedi'i gynllunio i fod yn gynhwysol a chroesawgar ar gyfer pob oedran ac anghenion mynediad.

Yn y canllaw hwn, gallwch ddarganfod mwy am beth i'w ddisgwyl, a beth fydd gennym ni ar waith ar y diwrnod i'ch helpu i fwynhau'r cyngerdd.

Beth yw Cyngerdd Hamddenol?

Cyngerdd sy'n addas ar gyfer pob cynulleidfa, ni waeth eu hoedran na'u hanghenion mynediad.

Mae gan y lleoliad seddi hyblyg gyda digon o le ar gyfer cadeiriau olwyn, cerbydau symudedd neu bramiau/bygis.

Bydd dau le ymlacio ar gyfer unrhyw un sy'n teimlo wedi eu llethu, wedi cyffroi’n fawr neu a fyddai'n elwa o amser tawel ar unrhyw adeg yn ystod y cyngerdd.  Mae'r rhain wedi'u lleoli yn y cyntedd ac mewn ystafell ar wahân lle gellir trosglwyddo'r cyngerdd drwy sgrin. Os ydych chi angen unrhyw gefnogaeth, bydd aelod o staff CCIC mewn crys-t coch yn gallu eich cyfeirio i'r mannau hyn.

Bydd y cyngerdd hwn yn fyrrach na chyngerdd cerddorfaol nodweddiadol. Bydd yn cynnwys elfennau o brif raglen gyngerdd y Gerddorfa a bydd yn para tua 1awr 15munud.

Bydd polisi drws agored ac mae aelodau'r gynulleidfa yn rhydd i fynd a dod a chyfathrebu fel maen nhw angen.

Ni fydd aelodau'r gerddorfa yn gwisgo’r wisg gyngerdd ffurfiol, yn hytrach byddant yn gwisgo eu dillad eu hunain.


Y Gerddoriaeth

Five Windows gan Niamh O’Donnell

Ysgrifennwyd y darn hwn gan gyfansoddwr ifanc o Aberystwyth o'r enw Niamh (i’w ynganu Neeve) O'Donnell. Ysbrydolwyd cerddoriaeth Niamh gan wahanol baentiadau gan yr artistiaid George Braque a Wassily Kandinsky. Mae'r gerddoriaeth, wedi'i rhannu'n bum adran yn disgrifio'r hyn mae Niamh yn ei weld a'i deimlo wrth edrych ar y paentiadau. Gallwch ddod o hyd i recordiad o'i darn yma: Niamh O'Donnell; Five Windows - recordiad

The Firebird Suite gan Igor Stravinsky

Bale a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr Rwsiaidd Igor Stravinsy ym 1910 oedd The Firebird. Yn ddiweddarach, creodd Stravinsky dair cyfres o'r gerddoriaeth bale ar gyfer perfformiadau cyngerdd. Y gerddoriaeth y byddwch chi'n ei glywed yn y cyngerdd hwn yw symudiadau dethol o'r gyfres a ysgrifennwyd ym 1945.

Mae thema'r gerddoriaeth yn seiliedig ar chwedlau gwerin Rwsiaidd, a byddwch yn clywed Stravinsky yn darlunio gerddi hudolus, tywysogion drwg, cariad ac wrth gwrs y Firebird hudolus!

Romeo a Juliet gan Sergei Prokofiev

Ysgrifennodd cyfansoddwr Rwsieg arall, Sergei Prokofiev, y bale Romeo a Juliet yn seiliedig ar ddrama William Shakespeare ym 1940. Bydd y gerddorfa yn perfformio symudiadau dethol o'r bale yn y perfformiad hwn, gan gynnwys un symudiad y bydd unrhyw un sy'n gwylio The Apprentice, yn ei adnabod yn syth!

Mae pob symudiad yn disgrifio elfen wahanol o stori enwog Shakespeare am y cariadon trist eu tynged hyn yn hyfryd mewn cerddoriaeth.


Ar y Diwrnod

Bydd y cyngerdd yn dechrau am 3.30pm, ond byddwn yn agor y drysau o 2.30pm, felly mae croeso i chi ddod yn gynnar ac ymgyfarwyddo â gofod y cyngerdd a'r lleoliad.

Bydd gennym ni staff ar gael i helpu gyda pharcio a’ch arwain chi i'r lleoliad.

Bydd y Gerddorfa'n dechrau gwneud eu ffordd i ardal y llwyfan o tua 3.15pm ac yn treulio peth amser yn chwarae eu hofferynnau i gynhesu'n barod ar gyfer dechrau'r cyngerdd.

Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, ni fydd y cyngerdd hamddenol hwn yn cynnwys dehongliad BSL mwyach. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

Y Lleoliad

Mae Canolfan yr Holl Genhedloedd yn lleoliad cwbl hygyrch heb unrhyw ymylon mwy nag 1cm i fynd o amgylch yr adeilad cyfan.

Bydd yr holl weithgarwch ar gyfer y cyngerdd hwn yn digwydd ar y llawr gwaelod, ond mae lifft i'r llawr cyntaf os oes angen.

Mae toiledau hygyrch ar gael ar y llawr gwaelod.

Maes Parcio

Mae 260 o leoedd parcio am ddim mewn dau faes parcio cyfagos, gyda digon o barcio hygyrch ar gael. Mae gennym ni hefyd y gallu i ddynodi lleoedd parcio hygyrch ychwanegol os oes angen.

Bydd parcio hygyrch yn cael ei ddarparu ym maes parcio'r Gorllewin, sy'n hygyrch drwy Sachville Avenue, o Heol yr Eglwys Newydd.

Teithio i'r Lleoliad

Mae Canolfan yr Holl Genhedloedd mewn safle da ar gyfer gyrru ac mae 260 o leoedd parcio am ddim i fynychwyr mewn dau faes parcio cyfagos.

Gallwch gyrraedd Maes Parcio y Gorllewin trwy Sachville Avenue oddi ar Heol yr Eglwys Newydd. Dyma'r lleiaf o'r ddau faes parcio ac felly mae'n llenwi'n gyflymach. Bydd y maes parcio hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer parcio hygyrch ac felly rydym ni’n annog unrhyw un nad oes angen parcio hygyrch i ddefnyddio maes parcio'r Dwyrain yn lle hynny.

Gallwch gyrraedd Maes Parcio y Dwyrain yn syth oddi ar ffordd ymadael yr A48 i mewn i Gaerdydd ac mae'n cynnig dros 200 o lefydd.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r cyngerdd hwn, yna cysylltwch â ni ar nyaw@nyaw.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 2280 7420 a byddwn yn falch o helpu.

Read More
Guest User Guest User

Aelodau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn mynd tu ôl i'r llenni gyda 'Nye' y National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru

Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gyffrous i lansio ei chynnig aelodaeth ar gyfer 2024 gyda Llwybrau Proffesiynol yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Theatr Clwyd ac mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru gyda'r cyfle unigryw hwn i gymryd rhan mewn diwrnod dwys o weithdai dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) yn gyffrous i lansio ei chynnig aelodaeth ar gyfer 2024 gyda Llwybrau Proffesiynol yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Theatr Clwyd ac mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru gyda'r cyfle unigryw hwn i gymryd rhan mewn diwrnod dwys o weithdai dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Wedi'i gynllunio i feithrin talent ifanc ledled Cymru, mae Llwybrau Proffesiynol yn agored i bobl ifanc 16–22 oed, sydd eisiau ennill sgiliau perfformio a dysgu am y diwydiant theatr gan gynnwys rolau cefn llwyfan.

Ym mis Mai, gwyliodd mwy na 40 o bobl ifanc un o'r sioeau mwyaf poblogaidd yn y dref, wrth iddynt fynd y tu ôl i'r llenni yng nghynhyrchiad diweddaraf y National Theatre (NT) a Chanolfan Mileniwm Cymru (WMC) o 'Nye'. Gyda Michael Sheen yn serennu, cyn-fyfyriwr ThCIC, roedd y cast a'r tîm creadigol hefyd yn cynnwys nifer o gyn-fyfyrwyr ThCIC gan gynnwys Remy Beasley, Lee Mengo, Dyfan Dwyfor a Mali O'Donnell.

Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yw un o’r pethau mwyaf arbennig wnes i erioed ac rydw i’n ei gario gyda mi, hyd heddiw
— Remy Beasley, cyn-fyfyriwr ThCIC

Dan arweiniad Cyfarwyddwr Cyswllt Nye, Francesca Goodridge a Bablu Shikdar o Ganolfan Mileniwm Cymru, cymerodd yr aelod o ThCIC ran mewn gweithdai sgript a theatr gorfforol yn seiliedig ar olygfeydd o Nye ochr yn ochr â sesiynau ar gyflwyno, podledu a llwybrau gyrfa, gan gynnig mewnwelediadau amhrisiadwy i'r llwybrau amrywiol yn y celfyddydau.

Cafodd y garfan gipolwg hefyd ar y cynlluniau newydd cyffrous ar gyfer y gofodau creadigol a'r cyfleoedd i bobl ifanc yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Roedd uchafbwyntiau eraill y dydd yn cynnwys mynediad at baratoadau cyn y perfformiad cast Nye ynghyd â sesiwn holi ac ateb gydag aelodau'r cast a'r tîm creadigol ar y cynhyrchiad. Rhoddodd hyn lwyfan ysbrydoledig i aelodau ifanc ThCIC gysylltu â gweithwyr proffesiynol profiadol ac ennill gwybodaeth uniongyrchol o'r diwydiant. Fe wnaeth y cyfranogwyr ifanc hefyd fwynhau gwylio Nye yn Theatr Donald Gordan, gan ddenu brwdfrydedd mawr.

Yn ystod y sesiwn holi ac ateb, dywedodd y cyn-fyfyriwr, Remy Beasley: "Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yw un o'r pethau mwyaf arbennig wnes i erioed ac rydw i'n ei gario gyda mi, hyd heddiw. Mae'r rhan fwyaf o’r ffrindiau gorau sydd gen i nawr yn dod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Bydd y berthynas hon yn parhau am ddegawdau o'ch bywyd. Mae'n lle arbennig iawn i fod."

Dywedodd Megan Childs, Cynhyrchydd ThCIC: "Roedd hwn yn ddechrau perffaith i raglen ThCIC 2024, gan ddod ag aelodau ThCIC o'r gorffennol a'r presennol at ei gilydd drwy'r ddrama nodedig hon gan Tim Price a National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru, sydd ei hun yn awdur cynyrchiadau ThCIC yn y gorffennol. Rydym ni’n ddiolchgar iawn am haelioni cwmni Nye a Chanolfan Mileniwm Cymru wrth groesawu’r genhedlaeth nesaf o artistiaid o Gymru i’w hymarfer a’u sioe, gan gynnig y cydbwysedd perffaith o ysbrydoliaeth a datblygu sgiliau mae Llwybrau Proffesiynol yn anelu ato."

Mae ThCIC yn estyn diolch o galon i National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru am wneud y profiad cyfoethog hwn yn bosibl.

Wrth edrych tua'r dyfodol, mae ThCIC yn edrych ymlaen yn eiddgar at benwythnos preswyl llawn o weithgarwch Llwybrau Proffesiynol yn Theatr Clwyd ym mis Mehefin yn canolbwyntio ar y ddrama Rope gan Patrick Hamilton yn ogystal â chyhoeddi manylion cynhyrchiad hir-ddisgwyliedig yr haf mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru a chwmni theatr Fio.

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn galw am gydnabyddiaeth gyhoeddus bod cyfranogiad y celfyddydau yn hanfodol i les meddyliol pob person ifanc.

Yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl 2024, rydym ni’n tynnu sylw at yr argyfwng ym maes iechyd meddwl i arddegwyr yng Nghymru, a'r rôl arwyddocaol y gallai cyfranogiad yn y celfyddydau ei chwarae wrth fynd i'r afael â hyn.

Yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl 2024, rydym ni’n tynnu sylw at yr argyfwng ym maes iechyd meddwl i arddegwyr yng Nghymru, a'r rôl arwyddocaol y gallai cyfranogiad yn y celfyddydau ei chwarae wrth fynd i'r afael â hyn.

Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yng Nghymru

Nododd 24% o bobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru lefelau “uchel iawn” o symptomau iechyd meddwl yn y blynyddoedd yn dilyn cyfnod clo COVID-19, yn ôl adroddiad diweddaraf y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd merched bron ddwywaith yn fwy tebygol na bechgyn o fod wedi adrodd am lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl.

Yn yr un modd, cyhoeddodd Mind Cymru ymchwil yn dangos bod 34% o bobl ifanc 16-24 mlwydd oed wedi profi iechyd meddwl oedd yn dirywio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dywedodd niferoedd uchel eu bod yn teimlo dan fwy o straen (42%), yn fwy pryderus (41%), yn fwy isel (36%) ac yn dioddef cwsg gwaeth (39%), ac roedd tua thraean hefyd yn nodi eu bod yn datblygu teimladau o unigrwydd (30%).

Effeithiau Rhyfeddol Cyfranogiad y Celfyddydau

Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd gan y Grŵp Ymchwil Bioymddygiadol Cymdeithasol yn UCL yn dangos bod pobl ifanc sy'n cymryd rhan yn rheolaidd yn y celfyddydau mewn llai o berygl o brofi iselder yn ystod glasoed. Mae ganddynt hunan-barch uwch hefyd, sydd yn ei dro yn effeithio ar ddatblygiad a lles gydol oes.

Ar gyfer y cannoedd o bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn ensembles a phrosiectau ieuenctid CCIC, rydym ni wedi gweld yn uniongyrchol y rôl bwysig mae'r celfyddydau yn ei chwarae yn eu hiechyd a'u hapusrwydd:

Dywedodd Aelod o Gwrs Preswyl CCIC: “Roedd bod yn aelod o CCIC yn werthfawr iawn i'm hiechyd meddwl dros y cyfnod clo... Roedd dychwelyd i gwrs preswyl yn bersonol yn 2022 yn brofiad anhygoel, a wnaeth yn bendant fy helpu i adennill llawer o'r hyder yr oeddwn wedi'i golli dros y cyfnod clo.”

Rydym ni wedi clywed straeon newyddion yr un mor gadarnhaol gan ein mudiadau partner niferus ledled Cymru, gan gynnwys Gwasanaethau Cerdd Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig  y BBC,  Urdd Gobaith Cymru, Elusen Aloud, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Ballet Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Theatr Clwyd ac eraill. Mae gan Gymru ecoleg gyfoethog ac amrywiol o gyfleoedd celfyddydol i bobl ifanc, o oedran cynradd, hyd at addysg uwch, a thu hwnt. Fe wnaeth cyflwyno'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerdd yn 2022 helpu i gynyddu cydweithio ar draws yr holl sefydliadau cerddoriaeth cenedlaethol, ac rydym yn datblygu strategaethau tebyg ar draws y sectorau theatr a dawns.

Buddsoddiad Cyhoeddus yn y Celfyddydau

Yn ei chyllideb ar gyfer 2024-25, gwnaeth Llywodraeth Cymru doriadau ar draws sawl sector er mwyn mynd i'r afael â diffyg sylweddol yn ei chyllideb gwerth £23bn. Mae cymorth i ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth wedi gostwng £16m (gan gynnwys toriad o 10.5% i Gyngor Celfyddydau Cymru) wrth i'r llywodraeth ail-flaenoriaethu gwariant ar gyfer gwasanaethau iechyd. Bydd hyn yn gostwng £1.9m arall wrth i gyllidebau awdurdodau lleol gael eu heffeithio.

O ganlyniad, bydd darpariaeth celfyddydol ar gyfer pobl ifanc yn anochel yn cael ei lleihau. Mae'r holl dystiolaeth uchod yn awgrymu y byddwn ni’n gweld effaith uniongyrchol ar iechyd meddwl a chorfforol pobl ifanc ledled Cymru, gydag effeithiau pwysig i'r GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol. Gallai'r costau ychwanegol canlyniadol hynny fod yn fwy na'r £18m sydd wedi'i dynnu oddi wrth ddarpariaeth y celfyddydau.

Dywedodd Evan Dawson, Prif Swyddog Gweithredol CCIC: "Mae'r gyllideb ar gyfer addysg a chyfranogiad celfyddydol yng Nghymru yn sicrhau enillion enfawr ar y buddsoddiad hwnnw. Mae angen i'r llywodraeth ddeall ar frys y bydd gwario llai ar ddarpariaeth y celfyddydau i bobl ifanc yn cynyddu straen ar y GIG. I'r gwrthwyneb, os ydym yn buddsoddi mwy mewn darpariaeth celfyddydau wedi'i thargedu, byddem yn cefnogi iechyd meddwl i bawb, wrth adeiladu Cymru hyderus, greadigol a hael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd David Jackson OBE, Cadeirydd CCIC: “Mae effaith gadarnhaol cyfranogiad yn y celfyddydau ar iechyd meddwl yn amlwg ers tro, ac ni fu erioed fwy o angen yr effaith hon nag yn awr. Mae'n hollbwysig y dylai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru barhau i ddatblygu ac ehangu ei gweithgareddau er budd pobl ifanc Cymru.”

Read More
Tom Kemp Tom Kemp

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn lansio Criw Creu Newid.

Ar Ddiwrnod y Ddaear 2024, rydym yn gyffrous i lansio'r Criw Creu Newid - cydweithfa ieuenctid newydd sy'n cefnogi pobl greadigol ifanc i ddylanwadu ar ddyfodol y celfyddydau ledled Cymru. Bydd yn meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr y celfyddydau, gan ganolbwyntio ar faterion amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol.

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn grymuso'r genhedlaeth nesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i greu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru.

Ar Ddiwrnod y Ddaear 2024, rydym yn gyffrous i lansio'r Criw Creu Newid - cydweithfa ieuenctid newydd sy'n cefnogi pobl greadigol ifanc i ddylanwadu ar ddyfodol y celfyddydau ledled Cymru. Bydd yn meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr y celfyddydau, gan ganolbwyntio ar faterion amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol.

Credwn y dylai pob person ifanc gael mynediad at ystod eang o gyfleoedd artistig a diwylliannol fel rhan o fywyd iach, cysylltiedig â chyflawn. Gan ddod â gweledigaethwyr ifanc o bob rhan o Gymru at ei gilydd,  bydd Criw Creu Newid yn darparu llwyfan i lunio cyfeiriad strategol ac artistig CCIC, a dylanwadu ar newid yn sector celfyddydau ehangach Cymru. Bydd y gydweithfa yn helpu i nodi'r rhwystrau sy'n atal cymaint o bobl ifanc rhag cymryd rhan yn y celfyddydau, a sut y gellid goresgyn y rhain. Bydd yn grymuso pobl ifanc i yrru cynnydd a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ledled y sefydliad.

Yn ogystal â hwyluso deialog a gweithrediadau, bydd Criw Creu Newid yn gwasanaethu fel canolbwynt ar gyfer meithrin arweinwyr sector celfyddydau Cymru yn y dyfodol. Trwy ddosbarthiadau meistr a sesiynau hyfforddi sgiliau dan arweiniad gweithwyr proffesiynol dylanwadol, bydd aelodau'n cael cyfle i hogi eu sgiliau arwain ac ehangu gorwelion eu gyrfaoedd eu hunain.

Dywedodd Mason Edwards, Cynhyrchydd Cynorthwyol gyda CCIC: "Rwy'n falch iawn i weld lansiad y Criw Creu Newid wrth i Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru barhau â'i waith tuag at feithrin Llais Ieuenctid ym mhob rhan o'r sefydliad. Fel aelodau ar y cyd, nid yn unig y bydd gan y bobl ifanc hyn sedd wrth fwrdd CCIC, ond hefyd y cyfle i ddod at ei gilydd fel y genhedlaeth nesaf o arweinwyr y celfyddydau a helpu i lunio dyfodol celfyddydau Cymru er gwell".

Mae'r Criw Creu Newid yn cynnwys deg bobl ifanc, 18-25 oed o sawl cefndir ledled Cymru - wedi'u huno gan eu hangerdd am y celfyddydau a'u hymrwymiad i newid cadarnhaol. Byddant yn cyfarfod drwy gydol y flwyddyn i gydweithio ar fentrau allweddol fel stiwardiaeth amgylcheddol, partneriaethau cymunedol, cyfrifoldeb cymdeithasol a mesurau amrywiaeth a chynhwysiant.

Wrth wraidd y prosiect mae Adroddiad Criw Creu Newid, dogfen uchelgeisiol a luniwyd gan ei aelodau i arwain gwaith CCIC yn y blynyddoedd sydd i ddod. Bydd hyn yn cynrychioli gweledigaeth ar y cyd o ddyfodol mwy cyfiawn, teg a bywiog, gan wasanaethu fel cwmpawd wrth i CCIC lywio'r ffordd o'n blaenau.

Dywedodd Rightkeysonly, aelod o’r Criw Creu Newid CCIC: "Gan fy mod yn gorfforol anabl, yn niwroamrywiol, ac yn rhan o'r gymuned LGBT+ fy hun, rwy'n cael fy ngyrru i wella mynediad i'r celfyddydau, gan nad oedd bob amser ar gael i mi dyfu i fyny. Rwy'n credu bod CCIC yn gwneud y celfyddydau yn fwy hygyrch i unigolion amrywiol, a hoffwn gyfrannu at y daith honno".

Dywedodd Karema Ahmed, aelod arall o’r Criw Creu Newid CCIC: "Mae ymuno â CCIC fel Criw Creu Newidyn cynnig cyfleoedd dysgu amhrisiadwy. Rwyf wrth fy modd â'r safbwyntiau amrywiol yn y prosiect, gan ein galluogi i ddeall ein gilydd yn well. Rwy'n gobeithio, ar ôl y prosiect hwn, ein bod i gyd yn gallu cael gwell persbectif ar yr hyn sydd angen newid er gwell i'r dyfodol".

 I ddarganfod mwy am y prosiect ac i ddarllen straeon unigol y Criw Creu Newid, ewch draw i dudalen we Criw Creu Newid.

Read More