Bydd buddsoddiad mewn Addysg Gerddoriaeth yng Nghymru yn cefnogi gwasanaethau i adeiladu darpariaeth
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi croesawu cyllid parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru am y 3 mlynedd nesaf.
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC)
Mae'r buddsoddiad o £12m (£4m bob blwyddyn) yn mynd i alluogi'r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol i gynnal a chynyddu ei ddarpariaeth o'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerddorol hyd at Fawrth 2028, gan hybu mynediad teg i addysg gerddorol o safon i bob dysgwr yng Nghymru.
Ers ei lansio yn 2022, mae Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru (GCC Cymru) wedi cefnogi miloedd o ddysgwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol, dysgu sut i chwarae offerynnau, i adeiladu ar sgiliau creadigol ac i ddarganfod llwybrau newydd i gyfoethogi cyfleoedd yn y byd cerddorol trwy raglenni ysgol a chymuned.
Mae GCC Cymru wedi'i gydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac mae'n gweithio'n agos gyda'r holl Awdurdodau Lleol yng Nghymru, a gwahanol bartneriaid, i weithredu’r cynllun. Bydd y cylch ariannol newydd yn caniatáu i Wasanaethau Cerddoriaeth barhau i ddarparu rhaglenni craidd, fel y rhaglen Cerddoriaeth mewn Ysgolion, Creu Cerddoriaeth gydag eraill, i ddatblygu'r strategaeth gynhwysol ‘Cynnwys Pob Nodyn’ a'r llyfrgell offerynnau cenedlaethol. Bydd GCC Cymru hefyd yn parhau i gynnig mynediad am ddim i ddisgyblion ac athrawon i'r platfform addysg gerddoriaeth ddwyieithog lwyddiannus, Charanga Cymru.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru:
“Mae gan Gymru hanes balch o ragoriaeth gerddorol ymysg ei phobl ifanc, sy’n cyfrannu at ein hunaniaeth genedlaethol, cymuned, canlyniadau addysgol, gwytnwch meddyliol a hapusrwydd. Bydd y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn ein helpu ni yn Celfyddydau Ieuenctid Cymru i barhau i ddarparu'r Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Cymru - mewn partneriaeth agos â'r gwasanaethau cerdd rhagorol ledled y wlad.
“Mewn cyfnod pan fo teuluoedd yng Nghymru yn ymgymryd â phob math o heriau, gall cerddoriaeth a chreadigrwydd helpu i godi gorwelion pobl ifanc, adfywio eu breuddwydion a'u hysbrydoli i ddod yn ddinasyddion ffyniannus Cymreig y dyfodol.”
“Mae effaith greadigol, gymdeithasol ac addysgol GCC Cymru ar bobl ifanc ledled Cymru, beth bynnag yw eu cefndir, wedi ei ddangos yn glir yn ystod y blynyddoedd cynnar, ac mae'n eithriadol,” meddai'r Athro Helena Gaunt, Pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Chadeirydd bwrdd ymgynghori GCC Cymru. “Bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau â'r cyllid hwn yn galluogi'r nifer o wasanaethau cerddoriaeth, athrawon cerddoriaeth, ysgolion a’n sefydliadau partner sy'n gyfrifol am gyflawni’r Cynllun i gynnal y llwyddiannau enfawr sydd wedi bod hyd yn hyn, ac i wireddu gweledigaeth y gwasanaeth hwn.”
Dywedodd Cydlynydd Cenedlaethol GCC Cymru, Mari Lloyd Pritchard:
“Rydym ni'n falch eithriadol bod y cyllid yn parhau am y tair blynedd nesaf. Mae Gwasanaethau Cerddoriaeth ledled Cymru wedi gweithio’n ddiflino dros y tair blynedd diwethaf i gynnig cyfleoedd addysg gerddorol ragorol i blant a phobl ifanc ym mhob sir ledled Cymru, ac rydym ni’n cael ein cyffroi gan y canlyniadau ysbrydoledig o’r gwaith hwn bob dydd.
“Mae adferiad yn cymryd amser, ac yn ogystal â’n partneriaid allweddol sydd yn ein cefnogi'n fawr, edrychwn ymlaen at adeiladu ar y sylfeini pwysig hyn a sicrhawyd yn llwyddiannus ers 2022.”
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Llefarydd CLllC ar Addysg: “Rydym yn falch o weld cefnogaeth barhaus ar gyfer y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol. Mae cerddoriaeth yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu pobl ifanc i fynegi eu hunain, adeiladu hyder a datblygu sgiliau newydd. Bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau bod mwy o blant yn gallu profiad y llawenydd o greu cerddoriaeth, ble bynnag maen nhw'n byw a pha bynnag yw eu cefndir. “Yn yr hinsawdd economaidd heriol sydd heddiw, mae'n galonogol gweld Llywodraeth Cymru yn cynnal ei chefnogaeth ar gyfer addysg gerddorol a’r celfyddydau. Ar adeg pan mae llawer o wasanaethau dan bwysau, mae'r ffaith nad yw'r cyllid hwn wedi lleihau yn arwydd cryf o'r gwerth a roddir ar greadigrwydd a chyfleoedd i bawb. Mae buddsoddi mewn cerddoriaeth hefyd yn fuddsoddiad mewn lles, hyder, a thaith addysgol ehangach ein pobl ifanc.”