Dychweliad Yukiko: DGIC yn cyhoeddi Cwmni’r 25ain Flwyddyn
Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn falch iawn o gyhoeddi dychweliad y Coreograffydd a'r Cyfarwyddwr Symudiad enwog, Yukiko Masui.
Bydd y coreograffydd o fri rhyngwladol a anwyd yn Tokyo, ac sy'n byw yn Llundain, yn ymuno â DGIC yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf ar gyfer cwrs preswyl pythefnos o hyd gyda' Chwmni’r 25ain Flwyddyn cyn iddynt deithio i Lundain ar gyfer perfformiad cyffrous yn y 'Cartref Dawns' enwog - Sadler's Wells.
Bydd y cwmni yn ail-lwyfannu The Night is Darkest Just Before Dawn gan Yukiko Masui - cyfuniad pwerus o Ddawns Gyfoes, Hip Hop, a Chelfyddydau Ymladd. Bydd y darn yn cael ei ailwampio a'i ymestyn gan gynnwys adrannau newydd.
Daeth aelodau ensemble 25ain flwyddyn DGIC at ei gilydd yn gynharach y mis hwn i gwrdd fel cwmni wyneb yn wyneb am y tro cyntaf. Dechreuodd y diwrnod gydag Errol White o White & Givan a Sefydliad Theatr, Dawns, Ffilm a Theledu yr Alban ar gyfer gweithdy Dwys Elitaidd gyda'n dawnswyr, gan ddilyn gyda ffitio gwisgoedd a thynnu penluniau proffesiynol.
"Roedd yn fraint gweithio gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Gwaith gwych gan bawb!", meddai'r perfformiwr, coreograffydd a chyfarwyddwr symudiad arobryn, Errol White.
DGIC 2025 Cwmni
Mae cwmni eleni yn gymysgedd bywiog o gyn-fyfyrwyr sy'n dychwelyd a wynebau ffres. Rydym ni’n falch o groesawu nifer o ddawnswyr sy'n dychwelyd, sy'n dod â phrofiad a dealltwriaeth o ethos a gwerthoedd DGIC gyda nhw. Ochr yn ochr â nhw, mae naw o ddawnswyr newydd yn ymuno â'r cwmni am y tro cyntaf yn dilyn clyweliadau ledled y wlad fis Mawrth diwethaf.
Dywedodd Jamie Jenkins, Pennaeth Dawns yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “Rydw i wedi fy nghyffroi gan egni'r ensemble eleni. Mae'r dawnswyr hyn yn hynod dalentog - yn bendant maen nhw’n rhai i'w gwylio!"
Yn ystod y cwrs preswyl eleni ym mis Gorffennaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, bydd aelodau'r ensemble yn cael cyfle i gymryd ystod o ddosbarthiadau ochr yn ochr â chyn-fyfyrwyr DGIC, a rhai sy’n cael eu cyflwyno gan gyn-fyfyrwyr DGIC.
DGIC 2025 Cwmni
Bydd On Par Productions yn cofnodi taith y cwmni o'r 'Diwrnod Darganfod' i'r perfformiad yn Sadler's Wells East, gyda’r nod o anrhydeddu hanes cyfoethog Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru tra'n dathlu ysbryd bywiog ei haelodau presennol.
Trwy ddal hanfod DGIC, rydym ni’n ceisio ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol o ddawnswyr a dathlu'r rhai sydd wedi bod yn rhan o'r ensemble ers ei sefydlu ac wedi helpu i lunio’r rhaglen.
Bydd y cwmni eleni yn dychwelyd i berfformio yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd, ar Hydref 31. Bydd gwybodaeth am docynnau yn cael ei gyhoeddi yn fuan.
Gwyliwch "DGIC 2024 yn y stiwdio gyda Yukiko Masui"