Partneriaeth Dawns Celtic Collective yn Dod â Thalent Newydd o Gymru a'r Alban Ynghyd

Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) a Chwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol yr Alban (NYDCS) yn falch o barhau â'u partneriaeth Celtic Collective - cyfnewidfa diwylliannol deinamig sy'n cysylltu dawnswyr ifanc o'r ddwy wlad trwy gyrsiau preswyl, perfformiadau a chyfleoedd datblygu cydweithredol.

Eleni, mae'r bartneriaeth yn gweld cyfnewid rhwng dau ddawnsiwr ifanc arbennig: Eira Daimond o Wynedd, Gogledd Cymru, sy'n astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caeredin, a Ross Hoey o Glasgow, Yr Alban. Mae'r cyfnewid yn rhan o ymdrech ehangach i adeiladu cysylltiadau rhwng dawnswyr ifanc ar draws y cenhedloedd Celtaidd.

Meddai Ross: "Mae fy mhrofiad i wedi bod yn wych dod i lawr i Gymru, mae'r stwff mor ddwys, mae’n eich gwneud chi'n neis ac yn gryf ac rydych chi'n cael cymaint o athrawon gwahanol, profiadau gwahanol ac arddulliau symud gwahanol sydd wir yn ehangu eich symud."

Ymunodd Eira â NYDCS yn 2024, ar ôl 2 flynedd fel aelod o DGIC, gan gymryd rhan yn ymarferion a pherfformiadau Weave, wedi'i goreograffu gan Anna Kenrick. Ers mis Medi, mae hi wedi teithio gyda'r cwmni i Stirling, Belfast, a Leeds. Dychwelodd Eira i Gymru i ymuno â chwmni 25ain blwyddyn DGIC ar gyfer cyfnod preswyl dwys pythefnos o hyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd yn gynharach ym mis Gorffennaf.

Meddai Eira: “Mae fy mhrofiad yn NYDCS wedi bod yn anhygoel. Rwy'n credu ei bod hi’n wirioneddol bwysig ymestyn eich cysylltiadau y tu allan i'ch ardal leol yn unig. Felly yn amlwg rydw i wedi dawnsio gyda'r dawnswyr Cymreig hyn nifer o weithiau, felly mae'n wych mynd i ehangu'r gorwelion, a chwrdd â dawnswyr ifanc newydd sydd yr un mor angerddol â fi.

Mae hefyd wedi bod yn wych cael llawer o gyfleoedd i berfformio oherwydd dyna beth rydw i'n hoffi ei wneud fwyaf ac mae NYDCS yn cynnig cymaint o gyfleoedd perfformio. Rydyn ni'n llythrennol ar daith am yr haf cyfan, yn dawnsio mewn llwyth o wahanol leoedd, felly rwy'n ddiolchgar i gael y cyfleoedd perfformio hynny hefyd."

Eleni ymunodd Ross o NYDCS ag Eira yng nghwmni DGIC, lle bu'n gweithio ochr yn ochr â 21 aelod – rhai o'r dawnswyr ifanc gorau ledled Cymru, i gynhyrchu estyniad i ddarn 25 munud y coreograffydd enwog, Yukiko Matsui - "The Night Is Darkest Just Before the Dawn" - a aeth i'r llwyfan a syfrdanu cynulleidfaoedd yn Sadler's Wells East yn Llundain yr wythnos diwethaf.

Dywedodd Jamie Jenkins, Cynhyrchydd a Phennaeth Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru: "Mae wedi bod yn bleser parhau â'n partneriaeth â NYDCS eleni a chael Ross yn ymuno â'r cwmni yn ystod blwyddyn ben-blwydd gyffrous i DGIC. Rydym ni’n falch o gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr ifanc talentog ac yn edrych ymlaen at weld y bartneriaeth yn datblygu ymhellach."

Ychwanegodd Anna Kenrick o Gwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol yr Alban: "Rydym ni’n edrych ymlaen at barhau'r bartneriaeth, gan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous i fwy o ddawnswyr o'r Alban a Chymru yn y dyfodol."

Bydd aelod o NYDCS, Ross Hoey, yn ailymuno â DGIC ar gyfer dau berfformiad olaf yn Glan yr Afon, Casnewydd, ar 30 a 31 Hydref. Bydd y digwyddiad hefyd yn dangos dangosiad cyntaf o raglen ddogfen yn dilyn y cwmni eleni fel rhan o'r dathliadau sy'n nodi 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Bydd NYDCS hefyd yn perfformio yn EVOLUTION gan YDance yn Fringe Caeredin eleni. Yn rhedeg rhwng 5ed -10fed Awst, mae'r gynghrair ryngwladol hon o symudiad a diwylliant yn arddangos doniau dawnswyr o'r DU ac Estonia, ac yn dathlu Prosiect Y yn troi’n 20.

I ddarganfod mwy am ddathliadau 25 Mlynedd DGIC, gwasgwch yma.

Next
Next

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn mynd ar daith yr wythnos yma ar gyfer Haf o Gerddoriaeth