Lansio Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Cychwyn Cyfnod Newydd o Jazz yng Nghymru
Dros y Pasg fe ddaeth 45 o gerddorion jazz ifanc o bob cwr o Gymru ynghyd ar gyfer preswyliad cyntaf un Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Roedd y cwrs uchelgeisiol tri diwrnod hwn yn nodi lansio menter newydd o bwys gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Jazz Explorers Cymru – partneriaeth uchelgeisiol wedi’i chynllunio i feithrin y genhedlaeth nesaf o gerddorion jazz yng Nghymru.
Mae Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cael ei lansio yng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Prif Weithredwr CCIC, Evan Dawson yn dal meicroffon yng nghanol y ddelwedd cyn i'r cerddorion ifanc berfformio. Llun gan: Kirsten McTernan.
Tri Diwrnod o Gerddoriaeth, Mentoriaeth a Hud
Cafodd offerynwyr a chantorion ifanc rhwng 14–22 oed eu trochi mewn gweithdai, ymarferion, sesiynau byrfyfyrio a dosbarthiadau meistr gyda rhai o gerddorion jazz enwocaf Cymru, gan gynnwys Andrew Bain, Paula Gardiner, Huw Warren, Joe Northwood a Gethin Liddington. Cafodd y preswylwyr gefnogaeth hefyd gan fyfyrwyr jazz cyfredol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a fu’n chwarae rôl weithredol o fentora.
“Mae’n wych cael bod ar y cwrs yma. Dwi wedi dysgu CYMAINT o ran byrfyfyrio a chwarae’n gyffredinol” – Karishma Sharma-Barrow, cyfranogwr JCIC
“Mae’n gyfle gwych i gwrdd â cherddorion eraill – cerddorion sydd wedi dod o bob rhan o’r wlad – pob un ohonynt ar lefelau gwahanol, ond mae bob amser rhywbeth y gallwch chi ddysgu gan rywun arall, yn enwedig yr athrawon. Maent wedi gweithio’n dda gyda ni.” – Tom Kochalski, cyfranogwr JCIC
Mae effaith y preswyliad wedi’i deimlo y tu hwnt i’r myfyrwyr yn unig – gyda theuluoedd yn gweld ei werth hefyd.
“Cafodd fy mab amser anhygoel, ac fe ddysgodd lawer. Cyn mynd, roedd e braidd yn bryderus am fod yn rhan o grŵp mor fawr o bobl ifanc, ond fe deimlodd ei fod wedi’i gynnwys ac roedd e mor gyfforddus drwy gydol y preswyliad. Doedd e ddim am i’r cwrs ddod i ben.” – Rhiant un o’r cyfranogwyr
“Mae [fy mab] wrth ei fodd yn chwarae jazz a dyma’r cyfle cyntaf mae e wedi’i gael i berfformio gyda cherddorion o’r un anian.” – Rhiant un o’r cyfranogwyr
“Diolch o galon am drefnu cwrs mor wych. Roedd fy mab wrth ei fodd, ac wedi mwynhau yn fawr – mae e’n drist bod y cyfan wedi dod i ben ac yn gobeithio y byddwch yn ei gynnal unwaith eto’n fuan!” – Rhiant un o’r cyfranogwyr
Dyfodol Jazz Cysylltiedig i Gymru
Megis cychwyn yw’r preswyliad cyntaf hwn. Mae Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn mynd i dyfu’n rhaglen gydol-blwyddyn sy’n cynnig mynediad digynsail i addysg jazz o’r radd flaenaf a chyfleoedd i berfformio i gerddorion ledled Cymru.
“Rydym yn adeiladu rhwydwaith jazz genedlaethol sy’n cysylltu talent ifanc gyda mentoriaid, cyfoedion, a chyfleoedd sydd heb fodoli ar y raddfa hon o’r blaen,” meddai Andrew Bain, Pennaeth Jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. “Mae hwn yn gam mawr i jazz Gymreig.”
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru, mae’r prosiect yn garreg filltir yn natblygiad cerddoriaeth gynhwysol. Mae’n creu gofod i bobl ifanc gysylltu, mynegi eu hunain a dychmygu dyfodol mewn jazz neu gerddoriaeth fyrfyfyr.
Mwy i Ddod!
“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn cydweithio â Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Jazz Explorers Cymru i ddeall pa gyfleoedd sydd ar gael i egin gerddorion jazz yng Nghymru – ac fe ddarganfu bod bwlch mawr yn y ddarpariaeth,” meddai Evan Dawson, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. “Mae’r prosiect hwn yn gyfle enfawr i ddarganfod y bobl ifanc hynny a’u dod â nhw ynghyd i gydweithio, dysgu gan diwtoriaid ardderchog y Coleg, a symud ymlaen ar eu siwrnai.”
Er mwyn bod ymhlith y cyntaf i glywed am gyrsiau Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn y dyfodol, ymunwch â rhestr bostio CCIC neu dilynwch @nationalyouthartswales ar y cyfryngau cymdeithasol.