NEWYDDION
Creadigrwydd fel Amddiffyniad: Pam mae Celfyddydau Ieuenctid yn Bwysig ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd
Thema fyd-eang Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni yw Profiadau bywyd yn cael eu clywed: lleisiau go iawn, newid go iawn. Rydyn ni, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yn gweld hyn bob tro y mae person ifanc yn dod i mewn i ystafell ymarfer, neuadd gymunedol neu eglwys gadeiriol ac yn cael ei gymryd o ddifri fel artist, ac fel person.
Thema fyd-eang Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni yw Profiadau bywyd yn cael eu clywed: lleisiau go iawn, newid go iawn. Rydyn ni, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yn gweld hyn bob tro y mae person ifanc yn dod i mewn i ystafell ymarfer, neuadd gymunedol neu eglwys gadeiriol ac yn cael ei gymryd o ddifri fel artist, ac fel person.
Plentyndod yng Nghymru
Mae'r angen yn parhau i fod yn ddwys. Mae Asesiad o Anghenion Iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd yn 2026 yn amcangyfrif bod gan 135,500 o blant a phobl ifanc rhwng 8 a 25 oed yng Nghymru gyflwr iechyd meddwl gyda diagnosis (mae hynny'n oddeutu un o bob chwe phlentyn 8–10 oed, un o bob pum plentyn 11–16 oed, ac un o bob pedwar person ifanc 17–24 oed). Anawsterau emosiynol fel gorbryder sydd wedi cynyddu fwyaf sydyn. Mae merched a phobl ifanc o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael eu heffeithio'n anghyfartal.
Canfu astudiaeth arall gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd yr hydref hwn, fod cwsg gwael, bwlio, pwysau academaidd, delwedd negyddol o'r corff a diffyg cefnogaeth gan athrawon neu ffrindiau i gyd yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwaeth a lles is. Mae pobl ifanc yn disgrifio gwasanaethau sy'n rhy aml yn teimlo'n rhy gyffredinol a heb eu teilwra ar gyfer yr unigolyn, yn enwedig pan fo anghenion iechyd meddwl yn gorgyffwrdd â niwroamrywiaeth.
Ni fydd y canfyddiadau hyn yn synnu'r athrawon, y gweithwyr ieuenctid a’r rhieni rydyn ni'n cwrdd â nhw ledled Cymru. Yr hyn a ddylai gael ei glywed yn glir eleni, yw'r canfyddiad arall yn yr un Asesiad: sef, ochr yn ochr â pherthnasoedd cynnar, cysylltu â’r gymuned ac ymarfer corff, fe enwir cyfleoedd ar gyfer creadigrwydd fel ffactor amddiffynnol.
Y Dystiolaeth
Canfu adolygiad Sefydliad Iechyd y Byd fwy na 3,000 o astudiaethau fod cymryd rhan yn y celfyddydau (cerddoriaeth, drama, dawns, celfyddydau gweledol) yn lleihau iselder, gorbryder a straen tra'n cryfhau hunan-barch a chysylltiad cymdeithasol. Mae ymchwil gan Grŵp Ymchwil Bioymddygiad Cymdeithasol UCL yn dangos bod pobl ifanc sy'n cymryd rhan yn rheolaidd yn y celfyddydau yn wynebu risg is o iselder yn ystod eu harddegau, ac mae ganddynt hunan-barch uwch sy'n parhau wrth iddynt dyfu’n oedolion.
Yn dilyn y cyfnod clo fe ddywedodd aelod preswyl CCIC yn glir: "Roedd bod yn aelod o CCIC yn werthfawr iawn i'm hiechyd meddwl... Roedd dychwelyd i breswyliad ar leoliad yn brofiad anhygoel, ac yn sicr fe wnaeth fy helpu i adennill llawer o'r hyder yr oeddwn wedi'i golli."
Mae hwnna’n brofiad byw. Mae hefyd yn ataliad.
Mae atal o werth economaidd yn ogystal â gwerth dynol
Mae iechyd meddwl gwael eisoes yn costio’n ddrud. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi, hyd yn oed cyn y pandemig, fod problemau iechyd meddwl yn £4.8 biliwn y flwyddyn i economi Cymru - ac mae'r costau hynny wedi cynyddu ers hynny. Yr opsiwn drutaf un yw aros nes bod pobl ifanc yn cyrraedd argyfwng.
Mae'r dewis arall yn dechrau cael ei feintioli. Mae ymchwil annibynnol dan arweiniad economegwyr iechyd ym Mhrifysgol Bangor, a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn amcangyfrif bod ymgysylltu â'r celfyddydau yn darparu o leiaf £588 miliwn y flwyddyn mewn manteision iechyd, lles a chynhyrchiant ledled Cymru. Mae buddsoddi mewn sefydliadau aml-flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynhyrchu enillion o £11.08 am bob £1 mewn termau iechyd, lles a chynhyrchiant.
Y ffigwr ieuenctid yw'r un sydd fwyaf diddorol. Mae'r un dadansoddiad yn canfod pe bai rhaglenni celfyddydol yn cyrraedd dim ond 5% o bobl ifanc ar lwybrau iechyd meddwl y GIG yng Nghymru (gan gynnwys y rhai a gyfeiriwyd at CAMHS) y gallent gynhyrchu tua £9.5 miliwn y flwyddyn mewn buddion iechyd meddwl a lles. Mae'r amcangyfrif hwnnw'n fwriadol geidwadol, ac wedi'i fodelu ar raglenni creadigol a werthuswyd eisoes sydd yn rhedeg yng Nghymru yn barod.
Dyma'r achos atal wedi’i gyflwyno mewn niferoedd. Nid yw creadigrwydd yn disodli gofal clinigol - ond fe all leihau nifer y bobl ifanc sydd angen cymorth iechyd meddwl - ac mae'n dychwelyd gwerth a llawenydd i economi Cymru ar yr un pryd. Dylid cynllunio cyllidebau diwylliant, addysg ac iechyd ar y cyd am y rheswm hwnnw. Mae punt a wariwyd yn gynnar mewn ystafell ymarfer yn werth mwy na phunt a wariwyd yn hwyr pan mae rhywun ar restr aros.
Dyfodol Creadigol: mynd â'r gwaith i'r lle mae ei angen fwyaf
Y llynedd fe wnaethom ysgrifennu am Fwlch y Celfyddydau Ieuenctid - y mannau hynny yng Nghymru lle mae’r angen uchaf o ran cymorth iechyd meddwl a lle mae’r cyfleoedd creadigol yn brin. Eleni rydyn ni wedi bod yn gweithio o fewn y bwlch hwnnw.
Cefnogwyd ein prosiect Dyfodol Creadigol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac fe’i hariannwyd gan Grant Arloesi Tlodi Plant Llywodraeth Cymru. Darparodd weithdai wythnosol am ddim i bobl ifanc 10–18 oed mewn chwe chymuned ar draws Torfaen a Blaenau Gwent. Gyda phartneriaid yn cynnwys Ballet Cymru a Cherdd Gwent, fe wnaeth y cyfranogwyr ysgrifennu a chynhyrchu caneuon, datblygu coreograffi, ac ymarfer y sgiliau sy’n hanfodol i unrhyw berfformiad: hyder, gwaith tîm ac arwain. Yr Asesiad Effaith Iechyd a gynhaliwyd gennym oedd y tro cyntaf i hyn gael ei wneud ar brosiect celfyddydol yng Nghymru erioed.
Beth mae CCIC yn ei wneud
Bob blwyddyn, mae cannoedd o bobl ifanc o bob awdurdod lleol yng Nghymru yn ymuno â'r ensembles Ieuenctid Cenedlaethol - y Gerddorfa, y Côr, y Band Pres, y Theatr a’r ensemble Dawns. Maent yn ymarfer yn ddwys, yn perfformio ar lwyfannau proffesiynol (yr haf hwn ym Mangor, Llanelwy, Tyddewi, Abertawe a Chasnewydd) ac yn cloi’r cyfan gyda ffrindiau newydd a chyfeillgarwch parhaol. Mae rhaglenni fel Momentwm yn ymestyn y cynnig hwnnw'n lleol, gan gynnig sesiynau dawns wythnosol am ddim ar draws Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Rydyn ni hefyd yn cyflwyno amrywiaeth o raglenni llwybrau, megis Sgiliau Côr, Llwybr Llinynnau, Diwrnodau Darganfod Cerddoriaeth Werin a Jazz.
Mae mynediad yn rhan o'r gwaith iechyd meddwl. Eleni, fe dderbyniodd 61% o aelodau ein hensembles - 166 o'r 272 o bobl ifanc - gymorth bwrsariaeth. Derbyniodd 95 person ifanc fwrsariaeth lawn. Ni ddylai cost byth fod yn rheswm dros atal person ifanc rhag bod yn yr ystafell y maent yn teimlo eu bod yn perthyn iddi.
Nid moethusrwydd yw'r celfyddydau. I lawer o bobl ifanc maent yn gwbl hanfodol: yn ffynhonnell hyder, yn lle i berthyn, ac yn ffordd o gael eu clywed cyn i argyfwng daro.
Buddsoddi mewn Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae pobl ifanc yng Nghymru eisoes yn dweud wrthym beth sy'n eu helpu: bod gyda chyfoedion sydd eisiau'r un pethau â nhw; gweithio gydag oedolion sy'n disgwyl iddyn nhw fod yn fedrus, a chael rhywle i fynd iddo yn rheolaidd nad yw'n glinig nac yn ystafell ddosbarth.
Nid yw hynny'n cymryd lle CAMHS, cwnsela neu ddull system gyfan NEST/NYTH. Mae'n rhan o'r darlun ehangach. Os yw creadigrwydd yn ffactor amddiffynnol, yna mae celfyddydau ieuenctid yn seilwaith iechyd cyhoeddus. Mae'r dystiolaeth economaidd bellach yn cyfateb i'r hyn y mae pobl ifanc wedi bod yn ei ddweud wrthym ers blynyddoedd lawer. Dylid eu hariannu, eu cynllunio a'u mesur fel y cyfryw - ar draws Addysg, Diwylliant ac Iechyd - oherwydd bod atal yn rhatach, yn fwy caredig ac yn fwy effeithiol nag argyfwng.
Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, byddwn yn parhau i eirioli dros bwysigrwydd celfyddydau ieuenctid. Mae pob person ifanc yng Nghymru yn haeddu'r cyfle i greu, cysylltu a ffynnu.
Evan Dawson, Prif Swyddog Gweithredol, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Bwrsariaethau yn Agor y Drws: Y nifer uchaf erioed o bobl ifanc ledled Cymru yn ymuno yn yr ensembles cenedlaethol dros yr haf
Unwaith eto eleni, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi dweud ‘ie’ wrth gerddorion, cantorion, actorion a dawnswyr ifanc na fyddai fel arall wedi gallu cymryd rhan yn un o’r ensembles.
CCIC 2026
Unwaith eto eleni, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi dweud ‘ie’ wrth gerddorion, cantorion, actorion a dawnswyr ifanc na fyddai fel arall wedi gallu cymryd rhan yn un o’r ensembles.
Gall teithio, ffioedd preswyliad ac amser i ffwrdd o gartref olygu bod ensemble cenedlaethol allan o gyrraedd i rai, hyd yn oed ar ôl clyweliad llwyddiannus. Mae cynllun bwrsariaeth CCIC yn bodoli er mwyn sicrhau nad incwm aelwydydd sy'n penderfynu pwy sy'n cael hyfforddi a pherfformio ar y lefel uchaf.
Yn 2026/27, dyfarnwyd y swm uchaf erioed o £142,514 mewn cymorth bwrsariaeth. Derbyniodd 230 o'r 355 aelod (65%) gymorth. Roedd hynny i fyny o £81,627 y flwyddyn flaenorol, a ddyfarnwyd i 166 o aelodau o gyfanswm o 272.
Gall cymorth dalu hyd at 100% o ffioedd preswyliad. Gall y rhai sydd fwyaf mewn angen hefyd dderbyn cymorth gyda chostau teithio a chostau eraill. Mae hepgor ffioedd awtomatig yn parhau i fod ar waith i bobl ifanc mewn aelwydydd sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, Prydau Ysgol am ddim neu Grant Dysgu llawn Llywodraeth Cymru, ac ar gyfer gofalwyr ifanc, aelodau â phrofiad ofod mewn gofal a'r rhai sy'n ceisio lloches. Mae ffioedd clyweliad hefyd yn cael eu hepgor yn llawn lle byddent yn rhwystr.
"O ran y fwrsariaeth fe wnaeth wahaniaeth enfawr i'm profiad cyffredinol o fod yn aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru am y tro cyntaf. A bod yn onest, pan ges i fy nghlyweliad, doeddwn i ddim yn gwybod digon am y costau a faint y byddai'n rhaid i ni ei dalu i fod yn rhan o'r rhaglen. Fodd bynnag, unwaith y des i wybod am y fwrsariaeth codwyd pwysau mawr oddi ar fy ysgwyddau."
- Aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Dywedodd rhiant aelod o Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: "Roedd y broses fwrsariaeth yn syml i wneud cais amdani ac yn cael ei phrosesu'n brydlon."
Dim ond oherwydd ein cyllidwyr y mae'r gwaith hwn yn bosib.
Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Leverhulme. Mae ei grant ‘Art Scholarship’ wedi caniatáu i CCIC dyfu'r rhaglen fwrsariaeth, gan gynnwys cymorth tuag at 100% o’r ffioedd i aelodau iau o aelwydydd incwm is a chymorth ychwanegol gyda theithio a threuliau. Mae bwrsariaeth Leverhulme ochr yn ochr â dyfarniadau asesu incwm CCIC ei hun - nid oes rhaid i aelodau ddewis pa gynllun i wneud cais amdano.
Rydyn ni hefyd yn diolch i Sefydliad Garfield Weston am ei ddyfarniad o gefnogaeth graidd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r grant hwnnw'n helpu i ddiogelu pum ensemble ieuenctid cenedlaethol Cymru a gwaith ehangach CCIC ledled y wlad.
Mae'r gronfa fwrsariaeth hefyd yn cael ei chefnogi bob blwyddyn gan Gronfa Bwrsariaeth Neil a Mary Ellen Webber, Ymddiriedolaeth Bluefields, Cyfeillion Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, ac unigolion sy'n rhoi yn rheolaidd.
Mae nod CCIC yn parhau i fod yn syml: ni ddylai unrhyw berson ifanc sy'n cael cynnig lle orfod ei wrthod am resymau ariannol. Talent, ymrwymiad a haelioni yn unig ddylai fod o bwys.
Os hoffech helpu person ifanc arall i gymryd eu lle mewn ensemble, ewch I ccic.org.uk/cyfrannu neu cysylltwch â nyaw@nyaw.org.uk
Perfformiwch dros Gymru: Clyweliadau ar agor ar gyfer ensembles cerddoriaeth ieuenctid Cymru 2027
Mae gan gerddorion ifanc rhwng 16 a 22 oed tan 11 Hydref i wneud cais am Gerddorfa, Côr a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2027
Mae gan gerddorion ifanc rhwng 16 a 22 oed tan 11 Hydref i wneud cais am Gerddorfa, Côr a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2027
Os ydych chi am berfformio yn rhai o'r neuaddau cyngerdd gorau yn y wlad, ochr yn ochr â cherddorion ifanc gorau'r wlad, dyma eich cyfle. Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) wedi agor clyweliadau ar gyfer ei dri ensemble cerddoriaeth blaenllaw ar gyfer 2027: Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC), Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC).
Bydd aelodau'r gerddorfa yn gweithio tuag at symffoni fawr dan arweiniad y maestro Carlo Rizzi, arweinydd o fri rhyngwladol y mae ei yrfa wedi mynd ag ef i La Scala yn yr Eidal a'r Met yn Efrog Newydd. Mae gan Carlo berthynas hirsefydlog gyda CGIC ac mae'r Uwch Gynhyrchydd, Matthew Jones, yn dweud: "Unwaith eto, bydd yn brofiad na ddylid ei golli!"
CGIC (2026)
Bydd cerddorion CGIC yn cael eu hyfforddi gan dîm o diwtoriaid o'r radd flaenaf, gan ddechrau ar 20 a 21 Mawrth 2027 gydag ymarferion cyn y preswyliad. Cynhelir y preswyliad haf rhwng 20 Gorffennaf a 1 Awst, gan orffen gyda thaith pedair noson: Neuadd Prichard Jones ym Mangor - 29 Gorffennaf, Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan - 30 Gorffennaf, Eglwys Gadeiriol Tyddewi - 31 Gorffennaf ac yn cloi yn Neuadd Brangwyn yn Abertawe - 1 Awst.
Bydd cantorion sy'n ymuno â CCIC yn dod yn rhan o gôr sy'n adnabyddus am berfformiadau egnïol o ystod eang o gerddoriaeth - o repertoire clasurol a chomisiynau newydd sbon i theatr gerdd a threfniadau caneuon pop. Bydd y Côr unwaith eto yn cael ei arwain gan Tim Rhys-Evans, sydd wedi arwain CCIC ers 2018 ac sy'n gyn-aelod. Yn arweinydd corawl ac arbenigwr lleisiol o fri rhyngwladol, mae wedi arwain y Côr o nerth i nerth ers bron i ddegawd.
Bydd aelodau'r côr yn cwrdd ar 24 a 25 Mawrth 2027 ar gyfer ymarferion cyn y preswyliad, ac yna preswyliad haf ym Mhrifysgol Bangor rhwng 17 a 27 Awst. Bydd y cyfnod preswyl yn gorffen gyda thaith cyngerdd tair noson: Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn Sir Ddinbych - 25 Awst, Eglwys Gadeiriol Tyddewi yng ngorllewin Cymru - 26 Awst a Neuadd Brangwyn yn Abertawe - 27 Awst.
Mae gan gerddorion pres hefyd haf cyffrous o'u blaenau gyda Margaret Antrobus yn arwain BPCIC am y tro cyntaf. Yn arweinydd, athrawes a chwaraewr bariton sy'n weithgar ledled y DU a Norwy, fe arweiniodd Fand Pres Ieuenctid Ewrop yn 2025 ac mae wedi beirniadu cystadlaethau mawr gan gynnwys Pencampwriaethau Ewrop 2026. Gall y band ddisgwyl cymysgedd o ganeuon safonol band pres, darnau prawf heriol a ffefrynnau cyngherddau. Bydd manylion y repertoire yn cael eu cyhoeddi’n fuan.
Bydd aelodau BPCIC yn cyfarfod ar gyfer ymarferion cyn y cyfnod preswyl ar 23 a 24 Mawrth 2027, cyn cyfnod preswyl yr haf rhwng 14 a 22 Awst. Daw'r cyfnod preswyl i ben gyda thaith gyngherddau dros dair noson: y Great Hall, Abertawe, ar 20 Awst; Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 21 Awst; a Neuadd Prichard Jones, Bangor, ar 22 Awst.
BPCIC (2025)
Pwy all wneud cais?
Dylai ymgeiswyr fod rhwng 16 a 22 oed ar 31 Awst 2027, sy'n golygu y gallwch ddod am glyweliad yn 15 oed os byddwch chi'n troi'n 16 erbyn 31 Awst 2027. Rhaid i chi fod wedi cael eich geni yng Nghymru, fod yn byw yng Nghymru, neu fod yn astudio'n llawn amser yng Nghymru. Dylai offerynwyr fel arfer fod tua safon Gradd 8, er nad oes angen i chi fod wedi pasio'r arholiad.
Sut brofiad yw’r clyweliad?
Mae CCIC yn cynnal clyweliadau fel gweithdai cyfeillgar, cefnogol. Byddwch yn cael amser mewn ystafell baratoi cyn cwrdd â phanel o ddau neu dri o bobl. Gallwch ddisgwyl perfformio darnau rydych chi wedi’u dewis, rhai graddfeydd ac, yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r rhain yn ddarnau byr, wedi'u paratoi. Mae pecynnau clyweliadau gyda chanllawiau offeryn-benodol ar gael ar y tudalennau clyweliadau ar gyfer yr ensemble.
Cynhelir clyweliadau ledled Cymru rhwng 18 Tachwedd a 6 Rhagfyr. Gall ymgeiswyr Cerddorfa a Band Pres hefyd gyflwyno clyweliad fideo erbyn 22 Tachwedd. Bydd y canlyniadau'n cael eu hanfon allan yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 14 Rhagfyr.
Beth yw’r gost?
Mae ffi o £30 am y clyweliad, ond mae clyweliadau am ddim ar gael i unrhyw un nad yw'n gallu ei fforddio; ticiwch y blwch ‘hepgor ffioedd’ ar y ffurflen - ni fyddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau ynglŷn â hyn.
Mae ceisiadau'n cau ar 11 Hydref 2026. Ewch i ccic.org.uk/clyweliadau i wneud cais – ac yn 2027, gallech berfformio dros Gymru!
Llongyfarchiadau enillwyr gwobrau Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol a Band Pres Cymru 2026
Bob blwyddyn ar ein preswyliadau, rydym yn dathlu ein cerddorion sy'n dangos yr addewid a'r ymroddiad mwyaf. Y tiwtoriaid adrannol sy'n penderfynu pwy sy'n derbyn pob gwobr yn ystod y cyfnodau preswyl.
Bob blwyddyn ar ein preswyliadau, rydym yn dathlu ein cerddorion sy'n dangos yr addewid a'r ymroddiad mwyaf. Y tiwtoriaid adrannol sy'n penderfynu pwy sy'n derbyn pob gwobr yn ystod y cyfnodau preswyl.
Hoffai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru rhoi diolch i'r rhai sydd wedi rhoi arian i greu'r gwobrau hyn.
Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Tlws Coffa John Childs
Dyfarnwyd i’r chwaraewr mwyaf addawol ar y cwrs preswyl eleni
Matthew Slade
Gwobr David Mabey
Dyfarnwyd i’r chwaraewr sydd wedi gwella fwyaf ar y cwrs preswyl
Iestyn Seiriol
Tlws y Prif Gornet
Rhoddir gan Tony Small
Stephanie Jonas
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Gwobr Haydn Davies
Dyfarnwyd i’r chwaraewr mwyaf addawol sy’n dal i fod ym myd addysg
Ethan Pawley
Gwobrau Irwyn Walters (Ffrindiau CGIC)
Dyfarnwyd i’r ddau chwaraewr llinynnol mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Sarah Derrick and Susannah Rance
Gwobr Wil Jones
Dyfarnwyd i’r chwaraewr chwythbrennau mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Rita Feditsa
Gwobr Goronwy Evans
Dyfarnwyd i'r chwaraewr pres mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Dylan Savage and Sean Linton
Gwobr Telyn Tony Moore
Dyfarnwyd i’r telynor mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Isobel Hill & Heledd Wynn-Newton
Gwobr Offerynnau Taro Tony Moore
Dyfarnwyd i’r chwaraewr offerynnau taro mwyaf addawol yn y cwrs preswyl eleni
Josh Gurner
Gwobr y Tim Lles
Dyfarnwyd am gyfraniad cyffredinol i’r Cerddorfa
Rhys Ferguson & Carys Williams
Gwobr David Jackson gyntaf yn cael ei chyflwyno yng nghyngerdd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Cyflwynwyd Gwobr David Jackson gyntaf yng nghyngerdd olaf taith 2026 Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar 21 Awst, yn Neuadd Brangwyn, Abertawe.
Cyflwynwyd Gwobr David Jackson gyntaf yng nghyngerdd olaf taith 2026 Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar 21 Awst, yn Neuadd Brangwyn, Abertawe.
Crëwyd y wobr er cof am David Jackson, Cadeirydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru o fis Hydref 2017 hyd haf 2025, pan fu’n rhaid iddo gamu i lawr oherwydd salwch. Bu farw ar 17 Hydref 2025.
Yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd, arweiniodd David y sefydliad drwy ei flynyddoedd ffurfiannol. Canolbwyntiodd i ddechrau ar arweinyddiaeth y pum Ensemble Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, cyn helpu i ehangu cylch gwaith CCIC i gynnwys celfyddydau eraill. Eiriolodd dros greadigrwydd cyfunol o ansawdd uchel i bob person ifanc, ac roedd yn benderfynol na fyddai neb yn cael ei adael ar ôl, yn enwedig oherwydd anabledd neu galedi ariannol. Mae miloedd o bobl ifanc ledled Cymru wedi cymryd rhan ym mhrosiectau, ensembles a pherfformiadau CCIC o ganlyniad.
Cyn ei farwolaeth, cytunodd CCIC â David y byddai gwobr flynyddol newydd yn cael ei sefydlu yn ei enw i ddathlu’r canwr mwyaf addawol yng Nghôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Ar ei awgrym ef, mae’r wobr yn cydnabod y canwr mwyaf “addawol a hael” y flwyddyn, fel y’i dewisir gan arweinydd a thiwtoriaid y côr.
Mae’r enillydd yn derbyn gwobr ariannol a’r cyfle i roi recital unigol yng nghyngerdd olaf y côr y flwyddyn nesaf.
Cyflwynwyd y wobr gyntaf eleni i James Oakley.
Llun gan Kirsten McTernan
Dyweddod arweinydd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Tim Rhys-Evans: “Dwi wrth fy modd bod Gwobr David Jackson eleni wedi mynd i James Oakley, canwr côr sydd nid yn unig wedi bod yn aelod ffyddlon ac ymroddedig o CCIC ers blynyddoedd lawer, ond sydd hefyd yn ymgorffori’r haelioni a oedd yn rhan mor ganolog o bwy oedd David, a pham y dewisodd y gair penodol hwnnw ar gyfer meini prawf y wobr sy’n dwyn ei enw. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf o’i gyfnod gyda’r côr, mae James wedi bod yn Arweinydd Adran y Tenoriaid yn y Nash, ac mae bob amser yn gefn i’w gyd-denoriaid. Mae’n wynebu pob her â phositifrwydd a gwên fawr... rhywbeth dwi’n gwybod y bydd yn rhinwedd bwysig yn ei yrfa ddewisol yn Theatr Gerdd. Mae James yn angerddol iawn dros ganu ac mae ganddo lais cain, ynghyd â sensitifrwydd wrth berfformio ym maes Theatr Gerdd. Mae’n flin gen i fod amser James yn Nash wedi dod i ben, ond dwi’n ddiolchgar iawn am bopeth y mae wedi’i gyfrannu at y côr. Dymunaf bob llwyddiant iddo ar gyfer y dyfodol."
Bwriad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yw i Wobr David Jackson ddod yn uchafbwynt blynyddol yn nhymor Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Os hoffech roi rhodd i gefnogi’r gwaith hwn, ewch i https://www.ccic.org.uk/cyfrannu.
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cloi ei Dymor Haf 2026 ar Nodyn Uchel
Dros yr haf daeth 355 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru at ei gilydd i hyfforddi, creu, ymarfer a pherfformio. Ar draws 8 preswyliad, cafwyd 19 perfformiad a 2 ymarferiad cyhoeddus, gan fynd â'n pobl ifanc o Fangor i Tyddewi, Abertawe i Gaeredin. Fe wnaeth dros 2,500 o bobl fynychu ein 9 cyngerdd haf a daeth 183 o bobl eraill i weld gwaith newydd mewn datblygiad a rennir gan Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru.
Dros yr haf daeth 355 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru at ei gilydd i hyfforddi, creu, ymarfer a pherfformio. Ar draws 8 preswyliad, cafwyd 19 perfformiad a 2 ymarferiad cyhoeddus, gan fynd â'n pobl ifanc o Fangor i Tyddewi, Abertawe i Gaeredin. Gyda bron 3,500 o bobl fynychu ein 9 cyngerdd haf a daeth 183 o bobl eraill i weld gwaith newydd mewn datblygiad a rennir gan Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru.
Dathlodd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ei phen-blwydd yn 80 gyda 101 o gerddorion ifanc yn perfformio yn Neuadd Prichard-Jones, Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Neuadd Brangwyn. Cafodd y cyngherddau hefyd eu recordio at ddibenion darlledu gan BBC Radio 3. Daeth Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ag 81 o gantorion ynghyd ar gyfer perfformiadau yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy, Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Neuadd Brangwyn, tra bu Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar daith gyda 57 o gerddorion ifanc, gan berfformio ym Mangor, Tyddewi a Chasnewydd.
Aeth Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru i Ŵyl Ymylol Caeredin ochr yn ochr â National Youth Dance Scotland i ffurfio Celtic Collective, gan berfformio 9 sioe hynod boblogaidd (gwerthwyd pob tocyn) a derbyn adolygiadau pum seren. Yn ôl yng Nghaerdydd, fe ddechreuodd 20 o ddawnswyr weithio gyda'r coreograffydd Osian Meilir ar ddarn newydd a fydd yn cael ei berfformio yn ystod yr hydref. Fe wnaethon ni hefyd groesawu 16 o fechgyn rhwng 8 a 16 oed i’n Diwrnod Dawns Bechgyn 2026 mewn partneriaeth â Ballet Cymru a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
I Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru, roedd yr haf yma’n nodi dechrau ei 50fed flwyddyn, gyda 24 o actorion ifanc yn gweithio yn Aberystwyth gyda'r cyfarwyddwr Hannah Noone a'r ysgrifennwr Bethan Marlow i ddyfeisio gwaith newydd sbon. Fe rannwyd golygfeydd a chaneuon newydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel cam cyntaf y gwaith sydd bellach yn cael ei ddatblygu ar gyfer cynhyrchiad newydd yn ystod 2027. Ochr yn ochr â hyn, cymerodd 24 o gyfranogwyr ran yn ein rhaglen Llwybrau Proffesiynol, gan edrych ar wahanol agweddau ar theatr, y sgrin a gwaith cefn llwyfan. Mae'r pen-blwydd yn 50 hefyd wedi rhoi cyfle i ni ailgysylltu â'r rheiny sydd wedi bod yn rhan o ThGIC dros y 5 degawd diwethaf, gyda chyn-fyfyrwyr eisoes yn ailgysylltu â ni ac yn rhannu lluniau, rhaglenni, deunydd archif ac atgofion.
Fe wnaethom orffen yr haf gydag ail ysgol haf Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, gan ddod â 45 o gerddorion ifanc o bob cwr o Gymru ynghyd i weithio gyda rhai o gerddorion jazz mwyaf blaenllaw'r wlad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fe fynychodd mwy na 100 o bobl y perfformiad cyhoeddus terfynol.
Fel rhan o raglen yr haf, fe wnaethon ni hefyd lansio Chwarae Eich Rhan, ein hymgyrch roi cyhoeddus sy'n gwahodd cynulleidfaoedd, teuluoedd, cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr i helpu i sicrhau nad yw amgylchiadau ariannol yn rhwystr i bobl ifanc gymryd rhan mewn cyfleoedd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Mae'r gefnogaeth yr ydym yn ei dderbyn drwy'r ymgyrch hon yn hanfodol i'n helpu i barhau i gynnig y cyfleoedd hyn yn y dyfodol. Os ydych chi eisoes wedi cefnogi'r ymgyrch, diolch yn fawr. Os nad ydych wedi cefnogi'r ymgyrch eto, gallwch barhau i Chwarae Eich Rhan drwy gyfrannu rhodd a'n helpu i gyrraedd mwy o bobl ifanc ledled Cymru.
Mae graddfa gwaith yr haf yn bwysig, ond yr hyn sy'n aros gyda ni fwyaf yw'r bobl ifanc eu hunain - eu hymrwymiad, eu creadigrwydd a'r ffordd y maen nhw wedi cefnogi ei gilydd. Trwy gydol yr haf maen nhw wedi gwneud ffrindiau newydd, wedi magu hyder, wedi gweithio gydag artistiaid a thiwtoriaid proffesiynol a phrofi beth mae'n ei olygu i fod yn rhan o gymuned greadigol.
Mae llawer mwy i ddod, gyda chynyrchiadau, perfformiadau a chyfleoedd creadigol newydd yn dwyn ffrwyth dros y misoedd nesaf. Mae clyweliadau ar gyfer ensembles cerddorol Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru y flwyddyn nesaf bellach ar agor - yn cau 11 Hydref - ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r grŵp nesaf o bobl ifanc a gweld ble mae eu creadigrwydd yn mynd â nhw.
Diolch i'n holl gyllidwyr, partneriaid, tiwtoriaid, artistiaid proffesiynol, staff a thimau lles sydd wedi helpu i wneud yr haf hwn yn bosib ac i'r cynulleidfaoedd, teuluoedd, cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr sydd wedi bod yn rhan ohono. Rydym yn hynod falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni yn ystod haf 2026 ac yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod nesaf.
[Llun gan Evan Dawson, Kirsten McTernan, Ken Grant a Y-Dance]
Llwyddiant O’r Radd Flaenaf i Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru Yng Ngŵyl Ymylol Caeredin
Celtic Collective yn derbyn adolygiadau rhagorol wrth i ddawnswyr ifanc o Gymru a'r Alban ddod ynghyd i arddangos dyfodol dawns mewn 9 perfformiad sydd wedi gwerthu pob tocyn.
Celtic Collective yn derbyn adolygiadau rhagorol wrth i ddawnswyr ifanc o Gymru a'r Alban ddod ynghyd i arddangos dyfodol dawns mewn 9 perfformiad sydd wedi gwerthu pob tocyn.
Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn derbyn adolygiadau pum seren yng Ngŵyl Ymylol Caeredin ar gyfer Celtic Collective, eu cydweithrediad cyffrous gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban (CDCIA).
Gwahoddwyd DGIC gan CDCIA i rannu bil dwbl a gyflwynwyd gan YDance yn Assembly @ Dance Base. Mae’r bil dwbl yn dod â'r ddau gwmni dawns ieuenctid cenedlaethol at ei gilydd i ddathlu talent sy'n dod i'r amlwg, coreograffi uchelgeisiol a phosibiliadau creadigol cydweithio rhwng Cymru a'r Alban.
Mae'r ymateb gan adolygwyr yr Ŵyl Ymylol wedi bod yn gadarn tu hwnt. Fe roddodd Fringe Review bum seren i Celtic Collective, gan gydnabod ansawdd ac uchelgais y gwaith yn ogystal â'r perfformwyr ifanc eithriadol sydd galon y gwaith.
Cafodd y cynhyrchiad ei adolygu hefyd gan The Morning Star, gyda'r beirniad dawns Matthew Hawkins yn cynnwys Celtic Collective yn A day of dance, sef ei grynodeb o’r ŵyl a gyhoeddwyd ar 10 Awst. Fe roddodd yr adolygiad sylw i wyth cynhyrchiad dawns a gyflwynwyd yn yr ŵyl, gan dynnu sylw pellach at ehangder ac ansawdd dawns gyfoes sy'n cael ei pherfformio yng Nghaeredin. Rhoddodd Hawkins 5 seren i Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, gan ddweud bod perfformiad y dawnswyr yn "passionate and voluminous".
“They thrill with exactitude whilst playing right to the edge of it all falling apart”
Daeth Celtic Collective â dau waith gwahanol ynghyd: Momentum – Undone gan Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, wedi'i goreograffu gan Marcus Jarrell Willis, ac Afterglow, wedi'i goreograffu gan Tess Letham ar gyfer Cwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban.
Celtic Collective 2026
Y canlyniad oedd dau ensemble ifanc yn dod at ei gilydd, yn dangos unigolrwydd eu lleisiau artistig a'r potensial rhyfeddol sy'n dod o gydweithio.
Mae Gŵyl Ymylol Caeredin yn disgrifio'r cynhyrchiad fel un sy'n cyfuno "dylanwadau diwylliannol gwahanol gyda dawns gyfoes arloesol", gyda symudiad ensemble bywiog, deuawdau agos atoch a pherfformwyr sy'n dod i'r amlwg yn gwthio eu techneg, eu celfyddyd a'u dychymyg i uchelfannau newydd. Mae'r adolygiad hefyd yn disgrifio'r perfformwyr ifanc fel "sêr sy'n dod i’r amlwg" gan gynnig cipolwg i gynulleidfaoedd ar ddyfodol dawns yn y DU.
I Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, roedd perfformiad Caeredin yn gyfle pwysig i roi dawnswyr ifanc o Gymru ar un o lwyfannau mwyaf y byd.
Ond roedd Celtic Collective yn ymwneud â llawer mwy na chyfle perfformio mawreddog yn unig. Roedd yn ymwneud â phartneriaeth. Roedd yn ymwneud â dawnswyr ifanc o Gymru a'r Alban yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd, yn rhannu syniadau a phrofiadau, yn herio’u hunain yn greadigol a darganfod beth sy’n bosib ei gyflawni pan fyddant yn cael y cyfle i weithio ar lefel broffesiynol.
Roedd y cydweithrediad hefyd yn cynnig datganiad pwerus ynglŷn â dyfodol dawns.
Nid y genhedlaeth nesaf o berfformwyr yw'r dawnswyr hyn yn unig - maent yn goreograffwyr, athrawon, cyfarwyddwyr artistig ac arweinwyr creadigol posibl y dyfodol.
Mae eu profiad yng Nghaeredin yn rhoi'r hyder iddynt gymryd eu camau nesaf, tra'n dangos i gynulleidfaoedd a'r sector dawns ehangach faint o dalent sydd i’w gael yn nawns ieuenctid ledled Cymru a'r Alban.
Mae'r ymateb beirniadol yn adlewyrchu'r addewid hwnnw.
Mae adolygiadau cynharach o Celtic Collective wedi canmol "dwyster a rheolaeth" y dawnswyr, tra bod Plays To See wedi disgrifio'r cynhyrchiad fel “a vibrant presentation of dance from the youth companies of Wales and Scotland” ac wedi’i alw’n “a promising showcase of where Celtic dance might be heading to.”
Fe roddodd y Reviews Hub bedair seren i'r cynhyrchiad gan gloi gan ddweud “Dance in these Celtic nations clearly has a bright future.”
I ddawnswyr ifanc Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, nid yw'r dyfodol hwnnw yn rhyw syniad pell. Mae eisoes wedi dechrau.
"Nes i erioed feddwl y byddai perfformio yng Nghaeredin yn bosibl i mi, ond gwnaeth Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru’r freuddwyd honno yn realiti. Gyda'u cefnogaeth a'u hanogaeth nhw fe gefais gyfle nad oeddwn erioed wedi dychmygu y byddwn i'n ei gael. Rydw i mor ddiolchgar i bawb a roddodd eu ffydd ynof fi a'r dawnswyr eraill ac a helpodd i wireddu’r profiad hwn. Mae perfformio yng Nghaeredin yn rhywbeth na fyddaf byth yn ei anghofio, ac mae wedi dangos i mi bod modd gwireddu breuddwydion gyda'r gefnogaeth iawn." - Tabitha o Abertawe
O stiwdios ymarfer yng Nghymru i lwyfan rhyngwladol Gŵyl Ymylol Caeredin, mae'r artistiaid ifanc hyn yn dangos y ddisgyblaeth, y dychymyg a'r uchelgais sydd eu hangen i fynd â dawns gyfoes ymlaen.
Mae Celtic Collective wedi dangos beth all ddigwydd pan fydd artistiaid ifanc yn cael y cyfle i gydweithio ar draws ffiniau, cydweithio â choreograffwyr blaenllaw a pherfformio gwaith cyfoes uchelgeisiol o flaen cynulleidfaoedd newydd.
A gydag adolygiad pum seren gan y Fringe Review bellach ymhlith anrhydeddau’r cynhyrchiad, mae'r neges o Gaeredin yn glir: Mae dawns ieuenctid Cymru wedi cyrraedd - ac mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn.
Mae Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dychwelyd i Gaerdydd ym mis Awst
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dychwelyd yr haf hwnam gwrs preswyl 4 diwrnod, fydd yn cael ei gynnal 25–28 Awst yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dychwelyd yr haf hwnam gwrs preswyl 4 diwrnod, fydd yn cael ei gynnal 25–28 Awst yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.
Yn agored i gerddorion ifanc 14+ mlwydd oed, mae'r cwrs preswyl yn cynnig wythnos llawn hwyl o chwarae, dysgu a gwneud cerddoriaeth gyda'i gilydd, gan weithio ochr yn ochr â thîm rhagorol o diwtoriaid gan gynnwys Huw Warren, Andrew Bain, Paula Gardiner, Tomos Williams a Joe Northwood.
Nid yw'r cwrs yn addas ar gyfer dechreuwyr llwyr - fel canllaw, dylai cyfranogwyr fod o gwmpas safon Gradd 3 neu uwch - ond y peth pwysicaf yw angerdd am jazz a pharodrwydd i ddysgu, chwarae a chydweithio gyda cherddorion ifanc eraill o bob cwr o Gymru.
Meddai Angharad Jenkins, Cynhyrchydd Gwerin a Jazz Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: "Allwn ni ddim aros i groesawu cerddorion jazz ifanc o bob cwr o Gymru i Gaerdydd yr haf hwn. Mae'n wythnos llawen, gydweithredol, ac yn gyfle gwych i chwarae ochr yn ochr â rhai o addysgwyr jazz mwyaf blaenllaw y wlad."
Meddai Pennaeth Astudiaethau Jazz yng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: “Mae’n wych i gyhoeddi dychweliad Cwrs Preswyl Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Rydym wrthi'n cynllunio cwrs arbennig gyda rhai o gerddorion jazz gorau Cymru, sy’n barod i ysbrydoli a meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent jazz ifanc Cymraeg. Alla i ddim aros i ddechrau!”
Mae'r wythnos yn adeiladu tuag at digwyddiad rhannu yng nghyntedd CBCDC ar yPrynhawn Gwener, lle gwahoddir rhieni, ffrindiau a theulu i ymuno a dathlu cerddoriaeth yr wythnos cyn i bawb fynd adref.
Mae’r cwrs preswyl 4 diwrnod yn costio £400, sy'n cynnwys dysgu, tair noson o lety a phrydau bwyd. Mae bwrsariaethau ar gael i'r rhai sydd angen cymorth ariannol, ac mae unrhyw un sy'n teithio o ymhellach i ffwrdd sydd angen llety ar nos Lun yn cael eu hannog i gysylltu â ni.
Mae Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn bartneriaeth uchelgeisiol rhwng Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Gwasanaethau Cerdd Cenedlaethol Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, gan adeiladu rhaglen ddatblygu newydd i ysbrydoli a chefnogi cerddorion jazz ifanc ledled Cymru.
Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly argymhellir cadw lle yn gynnar.
I gadw eich lle, ewch i: https://www.ccic.org.uk/digwyddiadau/cwrs-preswyl-jazz-cenedlaethol-ieuenctid-cymru
Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn Mynd i Ŵyl Ymylol Caeredin ym Mis Awst Eleni
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn perfformio yng Ngŵyl Ymylol Caeredin dros yr haf, gan ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban (NYDCS) ar gyfer bil dwbl beiddgar o ddawns gyfoes.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn perfformio yng Ngŵyl Ymylol Caeredin dros yr haf, gan ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban (NYDCS) ar gyfer bil dwbl beiddgar o ddawns gyfoes.
Cynhelir Celtic Collective, a gyflwynir gan YDance a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yn Assembly @ Dance Base rhwng 7 a 16 Awst 2026, gyda pherfformiadau dyddiol am 4:05pm.
Ar ôl dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed yn 2025, mae perfformio yng ngŵyl gelfyddydau fwyaf y byd yn garreg filltir go arbennig i DGIC, gan fynd ag egni creadigol rhai o ddawnswyr ifanc mwyaf addawol Cymru i gynulleidfa ryngwladol.
Bydd DGIC yn perfformio Momentum – Undone, gan y Coreograffydd Marcus Jarrell Willis gan ddefnyddio casgliad pwerus o gerddoriaeth sy’n cynnwys darnau gan James Blake, Jacob Collier, Tchaikovsky, ac Ólafur Arnalds. Mae'r darn yn ein hatgoffa nad yw'r daith byth wedi'i gorffen mewn gwirionedd, gan ofyn y cwestiwn "Unwaith y byddwn yn dod o hyd i gyfeiriad go iawn, beth sy'n digwydd nesaf?"
Dywedodd Jamie Jenkins, Pennaeth Dawns Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: "Mae Momentum – Undone yn fyfyrdod pwerus ar wytnwch, trawsnewid, a symudiad cyson datblygu. Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn parhau i greu lle i artistiaid ifanc archwilio syniadau uchelgeisiol gyda gonestrwydd, dewrder ac egni anhygoel."
"Fel dawnsiwr ifanc o Gymru, mae cael y cyfle i berfformio yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn anrhydedd anhygoel. Mae'n gyfle i rannu fy angerdd ar y llwyfan, dysgu gan gymaint o berfformwyr talentog, a chynrychioli Cymru gyda balchder. Rwy'n edrych ymlaen yn arw at wneud y mwyaf o bob eiliad o'r profiad anhygoel yma." - Dawnsiwr DGIC
Gan rannu'r llwyfan, bydd NYDCS yn perfformio Afterglow, wedi’i goreograffu gan Tess Letham - gwaith sy'n symud trwy chwilio, methu, ac yn y pen draw ildio i lawenydd cyfunol. Gyda'i gilydd, mae'r ddau ddarn yn dathlu'r gorau o'r hyn sydd gan y genhedlaeth nesaf o ddawnswyr o Gymru a'r Alban i'w gynnig.
Meddai Cyfarwyddwr YDance, Anna Kendrick: "Mae YDance wrth eu boddau’n cyflwyno cydweithfa Geltaidd yng Ngŵyl Ymylol 2026. Mae'r cydweithrediad hwn rhwng Cwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban a Chwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dathlu cyfuno dau ddylanwad diwylliannol gwahanol, a chreu bil dwbl pwerus, arloesol. Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at weld y perfformwyr ifanc yma’n dod at ei gilydd i wthio’u hunain, rhannu technegau, datblygu eu crefft ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr cyfoes."
Rydym yn gobeithio y byddwch yn ymuno â ni yng Nghaeredin ym mis Awst ac yn profi angerdd, manylrwydd ac uchelgais dawnswyr ifanc cyffrous Cymru.
Mae tocynnau ar gael o £14.25 i fyny ac argymhellir y sioe 60 munud o hyd i blant 12 oed a hŷn.
Mae tocynnau ar gael ar gwefan Gŵyl Ymylol Caeredin.
O Lwyfannau Cymru i Sgriniau Hollywood: Ruth Jones yn Arwain Dathliadau wrth i Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru droi'n 50 oed
Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) yn lansio ymgyrch blwyddyn o hyd i nodi ei phen-blwydd, gan ddathlu hanner can mlynedd o greu theatr, creadigrwydd a chyfleoedd uchelgeisiol i bobl ifanc ledled Cymru.
Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) yn lansio ymgyrch blwyddyn o hyd i nodi ei phen-blwydd, gan ddathlu hanner can mlynedd o greu theatr, creadigrwydd a chyfleoedd uchelgeisiol i bobl ifanc ledled Cymru.
Bydd ymgyrch ThCIC50: Ailgysylltu. Dathlu. Siapio’r dyfodol yn dod â chenedlaethau o gyn-fyfyrwyr, cyfranogwyr presennol, cefnogwyr a chynulleidfaoedd ynghyd i ddathlu'r cynyrchiadau, y bobl a'r straeon sydd wedi siapio'r sefydliad ers ei sylfaenu.
Yn lansio'r ymgyrch mae'r ysgrifennwr, actor a chynhyrchydd clodwiw Ruth Jones, un o gyn-fyfyrwyr enwocaf ThCIC, sy'n gwahodd cyn-fyfyrwyr o bob degawd i ailgysylltu â'r sefydliad a rhannu eu hatgofion, eu lluniau a'u straeon.
Dywedodd Ruth Jones, Cyn-aelod a Llysgennad Ymgyrch ThCIC:
"Ers dros 50 mlynedd, mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi bod yn fan lle mae siwrneiau'n cychwyn. Dyma le mae llawer ohonom yn dod o hyd i'n lle yn y theatr am y tro cyntaf, boed hynny ar y llwyfan, cefn llwyfan, yn yr ystafell ymarfer, yng nghadair y cyfarwyddwr, neu'n siapio'r gwaith y tu ôl i'r llenni.
"Nid sgiliau yn unig a ddysgodd ThCIC i ni. Fe osododd safon - cred mewn rhagoriaeth, proffesiynoldeb ac uchelgais - a'r hyder i'w gyflawni. Fe roddodd gymuned i ni ac fe wnaeth ein helpu ni i ddeall pa fath o weithiwr proffesiynol theatr yr oeddem am fod.
"Nawr, mae ThCIC yn ein gwahodd ni, ei gyn-fyfyrwyr, i fod yn rhan o'r hyn sy'n digwydd nesaf. Ailgysylltu â hen ffrindiau a chydweithwyr, dathlu'r profiadau a'n siapiodd ac, os gallwn, helpu i agor yr un drysau i'r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr theatr Cymru - ar y llwyfan, y tu ôl i'r llenni ac ym mhob rhan o’r theatr."
Ruth Jones gan Jordan Sheehy Videography
Am dros hanner can mlynedd, mae ThCIC wedi creu cynyrchiadau uchelgeisiol, meithrin talent ifanc a darparu cyfleoedd i bobl ifanc berfformio, cydweithio a datblygu eu sgiliau creadigol. Mae llawer o gyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus yn y theatr, teledu, ffilm a'r diwydiannau creadigol ehangach, tra bod nifer o rai eraill wedi mynd a’u profiadau ThCIC gyda nhw i bob rhan o fywyd.
O ailddehongliadau beiddgar o weithiau clasurol i gynyrchiadau newydd cwbl wreiddiol, mae ThCIC wedi creu celf fythgofiadwy sydd wedi dod yn rhan o stori theatr Cymru.
Y tu hwnt i'r sgiliau technegol a ddysgwyd, mae'r cynyrchiadau carreg filltir yma’n aros yn y cof am y cyfeillgarwch gydol oes a ffurfiwyd, yr hyder aruthrol a fagwyd a'r posibiliadau creadigol a roddwyd i filoedd o bobl ifanc.
Piblinell o Dalent Fyd-eang
Os edrychwch ar gredydau allforion diwylliannol mwyaf y DU fe welwch ôl ThCIC. Mae rhestr cyn-fyfyrwyr y sefydliad yn cynnwys pobl megis:
Matthew Rhys (The Americans, Perry Mason)
Rakie Ayola (The Pact, Anthony)
Michael Sheen (Good Omens, Frost/Nixon)
Morfydd Clark (The Lord of the Rings: The Rings of Power)
Russell T Davies (Doctor Who, It’s A Sin)
Y tu hwnt i'r enwau cyfarwydd ar y sgrin, mae ThCIC wedi helpu i siapio'r diwydiant theatr ehangach yng Nghymru a thu hwnt. Ymhlith y cyn-fyfyrwyr mae Manon Steffan Ros (nofelydd, dramodydd a darlledwraig) a Daniel Evans (Cyd-gyfarwyddwr Artistig y Royal Shakespeare Company), ochr yn ochr â chyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, ysgrifenwyr, cynllunwyr, addysgwyr ac arweinwyr celfyddydol sy'n gweithio ar ran y BBC, S4C a chwmnïau teithiol mawr y DU.
Fel rhan o'r dathliadau pen-blwydd, mae ThCIC yn lansio galwad cenedlaethol am straeon cyn-fyfyrwyr, atgofion o’r cynyrchiadau, lluniau, rhaglenni a deunydd archif, gan helpu i greu cofnod byw o bum degawd o greu theatr yng Nghymru.
Drwy gydol y flwyddyn, bydd yr ymgyrch yn rhannu straeon cyn-fyfyrwyr, yn dathlu cynyrchiadau nodedig ac yn creu cyfleoedd i gyn-fyfyrwyr a chyfranogwyr presennol gysylltu, rhannu profiadau a dathlu eu cyfraniad i fywyd diwylliannol Cymru.
Bydd y rhaglen pen-blwydd yn cloi gyda dathliad mawr yn ddiweddarach yn y flwyddyn a phrosiect perfformio sydd â’i ffocws ar y dyfodol yn ystod Haf 2027.
Bydd yr ymgyrch hefyd yn lansio Cylch y Cyn-fyfyrwyr, rhwydwaith newydd i gyn-fyfyrwyr. Mae’r rhwydwaith wedi'i chynllunio i gryfhau cysylltiadau rhwng aelodau'r gorffennol a'r presennol, ochr yn ochr â Chronfa Chwarae Eich Rhan: 50 Mlynedd Arall, gan helpu i gefnogi dyfodol theatr yng Nghymru.
Dywedodd Megan Childs, Pennaeth Theatr a Chynhyrchydd Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru:
"Mae ThCIC bob amser wedi dod â phobl ifanc eithriadol at ei gilydd i greu theatr uchelgeisiol. Ers hanner can mlynedd rydyn ni wedi adrodd straeon anhygoel ar lwyfannau ledled Cymru tra’n helpu cenedlaethau o bobl ifanc i ddarganfod eu llais creadigol. Wrth i ni ddathlu'r garreg filltir hon, rydyn ni’n edrych ymlaen gyda'r un uchelgais: sef creu lle i hyd yn oed mwy o straeon gael eu hadrodd, mwy o leisiau gael gwrandawiad a mwy o bobl ifanc o bob cefndir a phob rhan o Gymru i ddarganfod eu bod yn perthyn i'n llwyfannau. Dyna'r dyfodol rydyn ni'n ei ddathlu a'r dyfodol rydyn ni'n ei adeiladu gyda'n gilydd."
Gwahoddir cyn-fyfyrwyr, cefnogwyr a ffrindiau ThCIC i ailgysylltu a dod yn rhan o'r dathliadau pen-blwydd trwy rannu eu straeon, atgofion a’u lluniau, a thrwy ymuno â chymuned gynyddol o gyn-fyfyrwyr ThCIC. Dilynwch @nationalyouththeatrewales a @nationalyouthartswales ar Instagram ac ewch i wefan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru - https://www.ccic.org.uk/thcic-50 i gael diweddariadau ar ymgyrchoedd, digwyddiadau pen-blwydd a ffyrdd o gymryd rhan. P'un a wnaethoch chi berfformio ar y llwyfan, gweithio y tu ôl i'r llenni neu gefnogi'r cwmni mewn unrhyw ffordd, mae ThCIC eisiau clywed eich stori.
Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn Comisiynu'r Dramodydd Bethan Marlow ar Gyfer Cynhyrchiad Pen-blwydd yn 50 oed
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) wedi dechrau gweithio ar ddarn beiddgar, dwyieithog, lled-gair-am-air gan y dramodydd arobryn Bethan Marlow; darn sydd â lleisiau, straeon ac uchelgeisiau cenhedlaeth nesaf Cymru wrth ei galon.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (ThCIC) wedi dechrau gweithio ar ddarn beiddgar, dwyieithog, lled-gair-am-air gan y dramodydd arobryn Bethan Marlow; darn sydd â lleisiau, straeon ac uchelgeisiau cenhedlaeth nesaf Cymru wrth ei galon.
Daw'r garreg filltir 50 mlynedd yma ar adeg o ffocws o'r newydd ar y math o Gymru yr ydym am ei hadeiladu a’r ffordd mae pobl ifanc eisiau i'w straeon gael eu hadrodd. I nodi hyn, bydd 25 o berfformwyr ifanc mwyaf addawol Cymru yn cydweithio gyda Bethan dros yr haf i ddatblygu cynhyrchiad uchelgeisiol newydd sy’n llawn cerddoriaeth ac sy’n adlewyrchu cyflwr y genedl. Bydd y cynhyrchiad yn mynd ar daith i lwyfannau Cymru yn ystod 2027.
Yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau'r ensemble a Bethan yr haf hwn bydd y cyfarwyddwr Hannah Noone a thîm creadigol ehangach. Eleni bydd y tîm yn cyflwyno rhagolwg ecsgliwsif o'r gwaith mewn datblygiad, gan gyflwyno detholiad o olygfeydd a darnau o’r gerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 30 Gorffennaf 2026.
Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau gyda chyfres o weithdai ar-lein wedi’u cynnal dros y misoedd diwethaf lle mae aelodau ThCIC a Bethan wedi dod i ’nabod ei gilydd a chydweithio i lunio'r gwaith hwn a'i hunaniaeth.
Yn wreiddiol o ogledd Cymru, mae Bethan yn adnabyddus fel dramodydd sy'n creu bydoedd ffuglennol gyda lleisiau go iawn, gan gydweithio â chymunedau sy'n hawdd eu hanwybyddu yn ein cymdeithas. Sgriptiau sy'n byrlymu â llawenydd cwiar, drama ddirdynnol a dilysrwydd.
Mae gwaith Bethan yn rhychwantu theatr, ffilm a theledu gyda'r gwaith clodwiw Nyrsys (Theatr Cymru) a'r clasur dod i oed Cysgu'n brysur, ill dau yn dyst i'w dull unigryw sy'n dod o hyd i'r rhyfeddol a'r llawenydd ym mywyd beunyddiol trwy straeon sy'n cysylltu â chynulleidfaoedd o bob oed a chefndir.
Meddai Bethan Marlow: "Mae cael y cyfle i weithio gyda pobol ifanc yngNghymru, i ysgrifennu darn o theatr sy'n ymateb i'w meddyliau a'uteimladau nhw am y byd da ni'n byw ynddi heddiw, yn fraint llwyr. Dwi byth yn blino ar weithio gyda lleisiau go iawn a chlywed be' sy'n eu hysgogi nhw. Dwi’nedrych ymlaen yn fawr at weld be' fedra ni greu gyda'n gilydd"
Meddai Megan Childs, Pennaeth Theatr CCIC:
"Ar ôl cael y pleser o eistedd yn y gweithdai ar-lein, y cyfan y gallaf ei ddweud yw os yw'r hyn a ddaw nesaf hanner mor doreithiog o greadigol ac mor hael yn ei ddull o gydweithio, yna mae rhywbeth arbennig iawn ar y gorwel i gyfranogwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd."
Dewch i weld y gwaith
I gael cipolwg arbennig ar waith Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2026, cynhelir perfformiad i rannu’r gwaith mewn datblygiad, gyda thocynnau cyfyngedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ddydd Iau 30 Gorffennaf am 7pm.
Llun: Bethan Marlow gan Kristina Banholzer
Eich Dyfodol Creadigol: Trawsnewid Bywydau Pobl Ifanc Drwy'r Celfyddydau
Mae'r prosiect Eich Dyfodol Creadigol yn rhaglen gelfyddydol ddeinamig a chydweithredol dan arweiniad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Wedi'i chyflwyno mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerddoriaeth Gwent, Ballet Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwasanaethau lleol, roedd yn archwilio a all cyfleoedd creadigol gael effaith arwyddocaol ar bobl ifanc sy'n wynebu heriau tlodi.
"Cyn Eich Dyfodol Creadigol, ni fyddwn i wedi meddu ar yr hyder i wneud unrhyw beth fel 'na. Fe wnaeth gweld fy hun ar y sgrin yn dawnsio a chanu wneud i mi sylweddoli beth rydw i'n gallu ei wneud."
Mae'r prosiect Eich Dyfodol Creadigol yn rhaglen gelfyddydol ddeinamig a chydweithredol dan arweiniad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Wedi'i chyflwyno mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerddoriaeth Gwent, Ballet Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwasanaethau lleol, roedd yn archwilio a all cyfleoedd creadigol gael effaith arwyddocaol ar bobl ifanc sy'n wynebu heriau tlodi.
Cyrraedd y Rhai Sydd ei Angen Fwyaf
Wedi'i ariannu drwy Gronfa Arloesi Tlodi Plant Llywodraeth Cymru, fe wnaeth Eich Dyfodol Creadigol gefnogi 233 o bobl ifanc 10–18 mlwydd oed ar draws Torfaen a Blaenau Gwent. Dros gyfnod o 6 mis, cyflwynodd y rhaglen 61 o weithdai ar draws 9 lleoliad, gan gyflogi 13 o ymarferwyr llawrydd. Cyrhaeddodd bobl ifanc mewn ysgolion, clybiau ieuenctid, lleoliadau cymunedol a thu hwnt, gan ymestyn ei gyrhaeddiad ymhellach gyda rhaglen 5 wythnos ym Merthyr Tudful a sesiynau Dawns Darganfod yn yr Wyddgrug - gan brofi bod awydd am brofiadau creadigol o ansawdd uchel mewn cymunedau ledled De Cymru.
Gan gydnabod rhwystrau fel trafnidiaeth, cost, hyder ac ymrwymiadau cystadleuol, fe wnaeth y tîm addasu’n gyflym o fodel cymunedol wythnosol traddodiadol i ddarpariaeth fwy hyblyg, ymatebol:
Sesiynau mewn ysgolion
Partneriaethau clybiau ieuenctid
Diwrnodau Profiad Eich Dyfodol Creadigol yn Ballet Cymru
Gweithdai untro a phrofiadau dwys
Trwy fynd â chyfleoedd creadigol yn uniongyrchol i bobl ifanc a darparu mynediad rhad ac am ddim (gan gynnwys cymorth bwyd a thrafnidiaeth), nod y rhaglen oedd cael gwared ar rwystrau traddodiadol i gyfranogiad.
Sgiliau Creadigol, Hyder a Dyheadau Gyrfa
Ymgollodd y cyfranogwyr mewn cynhyrchu cerddoriaeth, DJio, bîtbocsio, dawns (gan gynnwys brêcddawnsio), ysgrifennu caneuon, dysgu offerynnol a gwneud ffilmiau. Roedd gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant - gan gynnwys artistiaid o The Voice - yn drawsnewidiol.
Rhannodd pobl ifanc:
"Roeddwn i wedi fy syfrdanu ein bod ni yn yr un ystafell â rhywun o The Voice, ac fod e'n ein dysgu ni."
"Mae Eich Dyfodol Creadigol wedi fy helpu gyda hyder yn chwarae'r gitâr."
"Fe wnaeth i mi feddwl y gallwn i wneud hynny."
Adroddodd llawer am gynnydd sylweddol yn eu hyder, gydag un cyfranogwr yn symud o 4 hunan-raddedig i 8 ar ôl perfformio ar y llwyfan. Fe wnaeth eraill ddarganfod sgiliau newydd mewn drymio, coreograffi, ffilmio a gwaith tîm, tra'n cael mewnwelediad go iawn i lwybrau gyrfa creadigol.
Lles a Chysylltiadau Cymdeithasol
Roedd lles wedi'i blethu trwy gydol y rhaglen trwy ymwybyddiaeth ofalgar, cerddoriaeth, symudiad a gweithgareddau myfyriol. I lawer, daeth Eich Dyfodol Creadigol yn angor hanfodol:
"Pe na bawn i'n gwneud Eich Dyfodol Creadigol byddwn i'n gorwedd yn y gwely."
"Byddwn i'n gwneud dim pe na bawn i yma, o arhoswch, byddwn i'n mynd ar fy Xbox..."
Mae'r prosiect yn meithrin cyfeillgarwch newydd, lleihau ynysu a chreu mannau diogel, cynhwysol. Roedd cyfranogwyr yn gwerthfawrogi'r agwedd gymdeithasol yn arbennig:
"Y peth gorau am Eich Dyfodol Creadigol yw cwrdd â phobl newydd a faint o weithgareddau rydym ni'n ei wneud."
Un o gyflawniadau pwysig y prosiect oedd cwblhau Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (HIA) – y tro cyntaf i sefydliad celfyddydol yng Nghymru ymgymryd â'r broses ffurfiol hon. Wedi'i gynnal mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, darparodd yr HIA dystiolaeth gadarn o effeithiau cadarnhaol y rhaglen ar les corfforol, meddyliol a chymdeithasol cyfranogwyr. Mae'r dull arloesol hwn yn cryfhau'r achos dros y celfyddydau fel offeryn pwerus ar gyfer iechyd y cyhoedd a datblygu cymunedol.
Dywedodd Abigail Malcom, Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd (Asesu Polisi ac Effaith) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, a fu'n bartner â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar y rhaglen: "Fe wnaeth Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cymorth cynghori i Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) i gyflwyno Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) o'u rhaglen Eich Dyfodol Creadigol. Helpodd yr HIA i dynnu sylw at sut roedd y prosiect yn debygol o effeithio ar iechyd a lles pobl ifanc sy'n byw yn Nhorfaen a Blaenau Gwent. Trwy ystyried ystod eang o effeithiau, nododd yr HIA gyfleoedd i fanteisio i’r eithaf ar ganlyniadau iechyd cadarnhaol a lliniaru canlyniadau anfwriadol posibl.
Gwnaeth yr HIA nifer o argymhellion, gan gynnwys pwysleisio pwysigrwydd defnyddio iaith gynhwysol a hygyrch trwy gydol y prosiect i herio canfyddiadau ac annog cyfranogiad ehangach. Bydd ystyried yr argymhellion hyn yn helpu i lywio cyflawniad yn y dyfodol a chryfhau gallu'r rhaglen i gefnogi canlyniadau iechyd, lles a bywyd‑i bobl ifanc ar draws Torfaen a Blaenau Gwent."
Cymunedau Cryfach Trwy Bartneriaeth
Mae Eich Dyfodol Creadigol yn enghraifft o bŵer cydweithredu. Gweithiodd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn agos gyda Gwasanaeth Cerddoriaeth Gwent, Ballet Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ysgolion lleol a gwasanaethau ieuenctid. Gyda'i gilydd, fe wnaethant gyd-ddylunio atebion oedd yn cynnig darpariaeth ymatebol, effaith uchel wrth chwalu rhwystrau i'r celfyddydau. Fe wnaeth teithiau theatr i Ganolfan Mileniwm Cymru a Glan yr Afon, ochr yn ochr â diwrnodau stiwdio yn Ballet Cymru, agor profiadau diwylliannol nad oedd llawer o gyfranogwyr erioed wedi gallu manteisio arnynt o'r blaen.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Eich Dyfodol Creadigol, Bruna Garcia: "Mae wedi bod yn fendith wirioneddol gweithio ar Eich Dyfodol Creadigol a chwrdd â chymaint o bobl ifanc anhygoel. Rwy'n hynod falch ein bod ni wedi gallu rhoi cyfle iddyn nhw archwilio eu creadigrwydd trwy ddawns a cherddoriaeth. Roedd y prosiect yn cynnig mwy na gweithdy yn unig, fe wnaeth greu gofod diogel a chefnogol lle gallai pobl ifanc roi cynnig ar bethau newydd, datblygu eu doniau, ac adeiladu cysylltiadau cymdeithasol ystyrlon â'u cyfoedion.
Mae wedi bod yn wirioneddol werth chweil gweld eu twf a gweld pa mor bell maen nhw wedi dod yn ystod y prosiect. I lawer, mae wedi eu hysbrydoli i fod yn greadigol a dilyn eu hangerdd yn y celfyddydau. Mae'r prosiect hwn wedi bod yn amhrisiadwy nid yn unig i'r bobl ifanc dan sylw, ond hefyd i Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, gan ein galluogi i ehangu ein cyrhaeddiad a chyflwyno mwy o bobl ifanc i'r sefydliad a'i gyfleoedd."
Dysgu ar gyfer y Dyfodol
Er bod y rhaglen yn hynod gadarnhaol, roedd adborth gonest yn tynnu sylw at feysydd i'w datblygu - megis cynnig mwy o ddewis mewn gweithgareddau lles a rheoli lefelau sŵn mewn sesiynau cerddoriaeth. Bydd y mewnwelediadau hyn, ynghyd â'r risg amlwg o golli momentwm pan fydd prosiectau yn dod i ben, yn siapio gwaith yn y dyfodol.
Pam Mae Hyn yn Bwysig
"Roedd Eich Dyfodol Creadigol yn fwy na chyfres o weithdai. Mae'n dangos pan fyddwn ni’n buddsoddi mewn cyfleoedd creadigol i bobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan dlodi, ein bod ni’n gweld cynnydd mesuradwy mewn hyder, sgiliau, lles, dyhead a chysylltiad cymdeithasol. Yng ngeiriau cyfranogwyr, heb y cyfleoedd hyn byddai llawer wedi parhau'n ddatgysylltiedig, yn ynysig neu'n “mynd i drafferthion”. Gyda nhw, daethant yn berfformwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cerddorion, pobl ifanc hyderus sy'n barod i gamu i'r byd." - Jamie Jenkins, Pennaeth Dawns, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
"Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn credu bod pob person ifanc yng Nghymru yn haeddu mynediad at brofiadau creadigol trawsnewidiol. Mae prosiectau fel Eich Dyfodol Creadigol yn dangos y rôl bwerus y gall sefydliadau celfyddydol ei chwarae wrth fynd i'r afael â thlodi plant, cefnogi iechyd meddwl ac adeiladu cymunedau cryfach a mwy creadigol. Rydym ni’n annog cyllidwyr, llunwyr polisi a phartneriaid i barhau i fuddsoddi mewn darpariaeth celfyddydau ieuenctid sy'n hyblyg, yn gynhwysol ac yn gysylltiedig yn ddwfn ag anghenion lleol." - Evan Dawson, Prif Swyddog Gweithredol, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect a'r gwaith sy’n cael ei wneud ledled Cymru gan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, cysylltwch â nyaw@nyaw.org.uk neu ewch i'n gwefan www.ccic.org.uk
Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyhoeddi cwmni 2026 dan arweiniad y Coreograffydd Cymraeg Osian Meilir
Yn dilyn proses glyweliadau drylwyr ar ôl gweld y nifer mwyaf erioed o geisiadau aelodaeth eleni, mae carfan 2026 Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn cwrdd am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd.
Yn dilyn proses glyweliadau drylwyr ar ôl gweld y nifer mwyaf erioed o geisiadau aelodaeth eleni, mae carfan 2026 Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn cwrdd am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd.
Roedd Diwrnod Darganfod Aelodau DGIC 2026 yn gyfle i'r dawnswyr ifanc rhwng 16 a 22 mlwydd oed gwrdd â'u cyd-berfformwyr o bob cwr o Gymru, cymryd rhan mewn ffitiadau gwisgoedd cyn y cwrs preswyl a sesiwn ffotograffau swyddogol y cwmni - gan ddal dechrau'r hyn fydd yn brofiad cofiadwy a thrawsnewidiol.
"Mae bod yn aelod o Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn bendant yn fraint enfawr ac yn gyfle anhygoel, yn enwedig o weld y darnau blaenorol maen nhw wedi'u gwneud." - Isabella, 17 oed - Aelod DGIC 2026
"Mae bod yn rhan o Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn agor llawer o gyfleoedd i mi ac yn fy ngalluogi i weithio gyda choreograffwyr anhygoel" - Baz, 16 oed - Aelod DGIC 2026
"Mae bod yn aelod o Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn bwysig iawn i mi gan fy mod yn cael cysylltu â llawer o ddawnswyr o bob cwr o Gymru a chydweithio â choreograffwyr." - Tabitha, 22 oed – Aelod DGIC 2026
Cafodd y dawnswyr ifanc talentog ac eiddgar - 9 ohonynt yn aelodau sy'n dychwelyd - gyfle i gwrdd â thîm Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a dysgu mwy am yr hyn sy'n gysylltiedig â cwrs preswyl haf DGIC, lle bydd y dawnswyr yn dod at ei gilydd am bythefnos dwys i hyfforddi, cydweithio a chreu.
Yn llawn dosbarthiadau techneg dyddiol a gweithdai creadigol dan arweiniad ystod gyffrous ac amrywiol o artistiaid dawns proffesiynol, mae cwrs preswyl yr haf yn gyfle i'r dawnswyr archwilio gwahanol dechnegau dawns a thyfu fel perfformiwr amlbwrpas wrth gael mewnwelediad i'r diwydiant dawns ehangach.
Dywedodd Jamie Jenkins, Pennaeth Dawns yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: "Rydw i’n teimlo’n llawen egni oherwydd ensemble eleni. Mae'n gyffrous gweld llawer o wynebau yn dychwelyd ochr yn ochr â chyfoeth o dalent newydd. Gyda'i gilydd, maen nhw'n dod â chymysgedd gwych o wynebau cyfarwydd a ffres i DGIC. Mae'r dawnswyr hyn i gyd yn dod â rhywbeth unigryw, ac ni allwn aros i'w gweld nhw wrthi yr haf hwn!"
Un o uchafbwyntiau'r cwrs preswyl fydd creu gwaith newydd sbon gyda'n coreograffydd gwadd yn 2026, Osian Meilir. Bydd aelodau DGIC 2026 yn rhan o'r broses greadigol lawn, o'r syniadau cychwynnol i'r perfformiad, gan weithio'n agos gydag Osian i ddatblygu darn sy'n adlewyrchu eu talent, eu hunaniaeth a'u lleisiau ar y cyd.
Dywedodd Coreograffydd Gwadd DGIC 2026, Osian Meilir: “Rwy'n gyffrous iawn o fod yn creu gyda DGIC eleni. Gan fy mod yn gyn-aelod o'r cwmni fy hun, rwy'n gwybod pa mor bwysig ac addysgiadol oedd y blynyddoedd hynny o hyfforddiant yn fy natblygiad fel dawnsiwr ifanc. Rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod a gweithio gyda dawnswyr ifanc anhygoel Cymru ac i fod yn ôl fel rhan o deulu DGIC.”
Ar gyfer carfan DGIC 2026, bydd Osian yn arwain cydweithrediad creadigol, gan arwain grŵp eithriadol o ddawnswyr eleni trwy daith gyffrous o greu a pherfformio. O dan ei gyfarwyddyd, bydd y dawnswyr yn archwilio ieithoedd symudiad newydd, yn dyfnhau eu hunaniaeth artistig ac yn gweithio gyda'i gilydd i greu gwaith beiddgar, gwreiddiol a fydd yn cael ei berfformio am y tro cyntaf ar y llwyfan ac ar ffilm, wedi'i osod yn erbyn rhai o dirweddau mwyaf ysbrydoledig Cymru.
Bydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn perfformio ochr yn ochr â Ballet Cymru rhagorol yng Nglan yr Afon, Casnewydd, ym mis Hydref. Bydd gwybodaeth am docynnau yn cael ei chyhoeddi yn fuan.
Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr newyddion a chyfleoedd misol CCIC i gael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion DGIC.
DGIC 2026. Llun gan: Kirsten McTernan.
Cyhoeddi Aelodau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2026
Rydym ni’n gyffrous i ddatgelu Aelodaeth Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2026!
Rydym ni’n gyffrous i ddatgelu Aelodaeth Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2026!
Perfformwyr ifanc eithriadol o bob cwr o Gymru a thu hwnt, i gyd yn rhannu cymhelliant creadigol sy'n ymgorffori uchelgais ac ysbryd ThCIC.
Bydd y grŵp talentog hwn o aelodau sy'n dychwelyd ac wynebau newydd yn gweithio gyda ni ar draws ein rhaglenni Ensemble a Llwybrau Proffesiynol, gan gymryd rhan mewn cyrsiau preswyl sgiliau a gwneud theatr eithriadol a byddant wrth wraidd datblygu cynhyrchiad pen-blwydd nodedig ThCIC yn 50 mlwydd oed.
“Yr hyn oedd yn amlwg ar ôl ein taith clyweliadau ar draws Gymru yn gynharach eleni yw bod dyfodol diwylliannol a chreadigol Cymru mewn dwylo diogel a hynod o gyffrous. Mae'r 50 o bobl ifanc yma yn dod ag awydd eithriadol i dyfu eu harfer a rhannu eu talent fel aelodau o Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru. Fedra i ddim aros i ddechrau gweithio gyda nhw ochr yn ochr â thimau proffesiynol llawrydd a phartneriaid yn y diwydiant wrth i ni ddathlu 50 oed Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a llunio'r weledigaeth ar gyfer y 50 nesaf!” - Megan Childs, Cynhyrchydd a Pennaeth Theatr yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Cadwch eich llygaid ar agor am gyhoeddiadau perfformiadau a’r tîm creadigol yn fuan...
Aelodau Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru’n Dathlu Llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026
Mae’n bleser gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) ddathlu llwyddiant ysgubol ein haelodau yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.
Mae’n bleser gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) ddathlu llwyddiant ysgubol ein haelodau yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026. Ar draws y cystadlaethau perfformio cerddoriaeth a drama, cipiodd ein haelodau nifer sylweddol o wobrau cyntaf, ail a thrydydd, gan arddangos doniau, creadigedd ac ymrwymiad neilltuol cerddorion a pherfformwyr ifanc o bob cwr o Gymru.
Llongyfarchiadau i bob aelod wnaeth gystadlu a chynrychioli eu cymunedau gyda chlod!
Enillwyr Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 – aelodau CCIC:
Aelodau o Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
· Unawd Pres – Bl. 10 a dan 19 oed: 1af - Gruffydd Siôn, 2il - Iestyn Seiriol, a 3ydd - Meilir Tudur Davies
· Unawd Gitâr - Bl. 10 a dan 19 oed: 1af - Meilir Tudur Davies
· Unawd Offerynnau Taro – Bl. 10 a dan 19 oed: 2il – Catrin-Alaw Gwilliam
Aelodau o Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
· Gwobr Syr Bryn Terfel – Unawd, 19-25 oed: 2il - Leisa Mair Lloyd-Edwards
· Unawd S/A - Bl.10 a dan 19 oed: 1af – Mared Eos Phillips, 2il - Celyn Richards, a 3ydd - Beca Hogg
· Alaw Werin Unigol - Bl.10 a dan 19 oed: 2il - Celyn Richards
· Unawd Cerdd Dant - Bl.10 a dan 19 oed: 1af – Gwenno Beech, 2il - Celyn Richards, a 3ydd - Ela Mablen Griffiths-Jones
· Llefaru Unigol - Bl.10 a dan 19 oed: 1af - Gwenno Beech
· Perfformiad o Gân Sioe Gerdd - Bl.10 a dan 19 oed: 2il - Mared Eos Phillips
Heledd Wyn Newton. Llun: Kirsten McTernan
Aelodau o Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
· Medal Y Prif Gyfansoddwr: 1af - Heledd Wyn Newton
· Gwobr Rakhi Singh - Offerynnol 19-25 oed: 2il - Carwyn Lloyd
· Unawd Chwythbrennau - Bl.10 a dan 19 oed: 1af – Owen Frohawk, a 3ydd - Alys Lavery
· Unawd Llinynnol (ac eithrio’r gitâr) - Bl. 10 a dan 19 oed: 1af - Tanwen Lloyd
Aelodau o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
· Y Fedal Ddrama: Glain Llwyd
· Gwobr Matthew Rhys - Monolog 19-25 oed: 1af - Jona Milone
· Perfformiad o Gân Sioe Gerdd 19-25 oed: 3ydd - Miriam Llwyd Davies
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn falch iawn o bob aelod a gymerodd ran yn yr ŵyl eleni. Mae eu llwyddiant yn adlewyrchiad, nid yn unig o’u talent a’u hymroddiad, ond hefyd o gryfder darpariaeth celfyddydau ieuenctid ledled Cymru. Llongyfarchiadau!
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyhoeddi rhaglen ddatblygu dawns Momentwm
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi cymorth ariannol newydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer datblygu a lansio Momentwm, rhaglen datblygu dawns ieuenctid sydd wedi'i chynllunio i gryfhau'r ddarpariaeth ddawns o ansawdd uchel i bobl ifanc yng Nghymru.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi cymorth ariannol newydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer datblygu a lansio Momentwm, rhaglen datblygu dawns ieuenctid sydd wedi'i chynllunio i gryfhau'r ddarpariaeth ddawns o ansawdd uchel i bobl ifanc yng Nghymru.
Bydd y rhaglen yn darparu cyfleoedd hyfforddi wythnosol cyson, gan gynnig sesiynau sy'n creu gofod ar gyfer datblygiad technegol, creadigrwydd, myfyrio a lles. Nod Momentwm yw mynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth ranbarthol wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o ddawnswyr mewn amgylchedd cynhwysol a chefnogol.
Ochr yn ochr â'r rhaglen wythnosol, bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cyflwyno ledled Cymru i ddathlu dawns ieuenctid a dod â'r sector at ei gilydd drwy drafod, cyfnewid a rhannu profiadau creadigol.
"Mae Momentwm yn ymwneud â chreu cyfleoedd i bobl ifanc dyfu'n dechnegol, yn artistig ac yn bersonol trwy ddawns," meddai Jamie Jenkins, Pennaeth Dawns Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
"Rydym ni am i bobl ifanc ledled Cymru deimlo eu bod nhw’n gysylltiedig, yn cael eu cefnogi a'u hysbrydoli, gyda mynediad at hyfforddiant rheolaidd, o ansawdd uchel a phrofiadau creadigol a all gael effaith barhaol ar eu hyder, eu lles a'u huchelgeisiau yn y dyfodol. Mae'r cyllid hwn yn ein galluogi i adeiladu rhywbeth cynaliadwy a gwirioneddol drawsnewidiol ar gyfer dawns ieuenctid yng Nghymru."
Darllenwch ddatganiad Cyngor Celfyddydau Cymru yma.
Dyma Sŵn Eich Haf! Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyhoeddi Teithiau Cyngerdd Haf 2026
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn gyffrous i gyhoeddi lansiad ei deithiau cyngerdd haf 2026, gyda Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC), Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) a Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn perfformio yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst ar draws Cymru.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn gyffrous i gyhoeddi lansiad ei deithiau cyngerdd haf 2026, gyda Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru (CGIC), Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (BPCIC) a Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn perfformio yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst ar draws Cymru.
Bydd CGIC yn dathlu carreg filltir anhygoel o 80 mlynedd fel cerddorfa genedlaethol ieuenctid hynaf y byd yn 2026, gan lansio ei Thaith Ddathlu ym Mangor yn Neuadd Pritchard Jones ar 29 Gorffennaf. Andrew Gourlay fydd yn arwain y gerddorfa o 100 o aelodau ar gyfer y flwyddyn ddathlu hon. Wedi’i ganmol gan bapur newydd The Guardian fel “seren yn esgyn”, mae Andrew wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel arweinydd cerddorfaol sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, gyda steil deinamig a chydweithredol. Mae wedi arwain yn helaeth ar draws y DU ac Ewrop, yn westai rheolaidd yn y BBC Proms ac yn eiriolwr angerddol dros gerddorfeydd ieuenctid.
Hefyd yn cychwyn yng Ngogledd Cymru, mae CCIC yn lansio ei daith 2026 yng Nghadeirlan Llanelwy ar 19 Awst. Wedi'i sefydlu ym 1984, a'i gyn-aelodauyn cynnwys Syr Bryn Terfel a Katherine Jenkins, bydd y côr yn cael ei arwain gan Tim Rhys-Evans MBE, cyn-aelod o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac un o'r ffigurau mwyaf enwog ym myd cerddoriaeth gorawl Cymru. Mae Tim wedi bod ar flaen y gad ym myd canu corawl yng Nghymru ers dros 20 mlynedd, gyda 2026 yn nodi ei wythfed flwyddyn yn arwain côr o dros 90 o gantorion ifanc. O dan gyfarwyddyd Tim, gall cynulleidfaoedd ddisgwyl cymysgedd bywiog o gerddoriaeth - o ddarnau newydd sbon a hoff ddarnau corawl i ychydig o syrpreisys ar hyd y ffordd.
Bydd BPCIC dan arweiniad Philip Harper fel arweinydd y Band Pres yr haf hwn. Mae Philip, a weithiodd ddiwethaf gyda'r band yn 2022, yn un o'r arweinwyr mwyaf dylanwadol ym myd y bandiau pres, ac mae wedi arwain Band Cory i lwyddiant digynsail ers cymryd y llyw yn 2012. Yn adnabyddus am ei ymarferion llawn egni a'i arweinyddiaeth ysbrydoledig, edrychwn ymlaen at weld Philip yn cael y gorau un o'n chwaraewyr, ac mae ganddo raglen amrywiol sy'n cyfuno gweithiau cystadleuol heriol â darnau cyngerdd difyr. Gall cynulleidfaoedd edrych ymlaen at noson o ddawn gerddorol egnïol o'r safon uchaf. Mae'r band - sef 59 o'r chwaraewyr pres ifanc gorau yn y wlad - yn gorffen ei daith 2026 yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd, ar 23 Awst.
Mae tocynnau ar gyfer y dair taith i gyd ar werth nawr. Archebwch ar ccic.org.uk/digwyddiadau a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @nationalyouthartswales am y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf drwy gydol yr haf.
Dyddiadau llawn y teithiau cyngerdd:
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
29/07 - 7:30pm, Neuadd Prichard Jones, Bangor
31/07 - 7pm, Eglwys Gadeiriol Dewi Sant, Tyddewi
01/08 - 3pm, Neuadd Brangwyn, Abertawe *
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
2026 Noddwr Tymor: Lux Family Law
19/08 - 7:30pm, Eglwys Gadeiriol Llanelwy, Llanelwy
20/08 - 7:30pm, Eglwys Gadeiriol Dewi Sant, Tyddewi
21/08 - 7pm, Neuadd Brangwyn, Abertawe
Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
21/08 - 7:30pm, Neuadd Prichard Jones, Bangor
22/08 - 7:30pm, Eglwys Gadeiriol Dewi Sant, Tyddewi
23/08 - 2pm, Theatr Glan yr Afon, Casnewydd
Ymddiriedolwyr Newydd wedi’u Penodi yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn falch o gyhoeddi penodiad pedwar ymddiriedolwr newydd i’w Fwrdd Cenedlaethol, yn dilyn proses recriwtio gyhoeddus yn gynharach eleni.
O’r chwith i’r dde: Karen Pimbley, Matthew Smith, Christina Timms, Sanea Singh, a Geraint Pugh.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn falch o gyhoeddi penodiad pedwar ymddiriedolwr newydd i’w Fwrdd Cenedlaethol, yn dilyn proses recriwtio gyhoeddus yn gynharach eleni. Y rhain yw Sanea Singh, Christina Timms, Geraint Pugh a Matthew Smith.
Dywedodd Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Karen Pimbley:
“Rydym ni wrth ein bodd yn croesawu Sanea, Christina, Geraint a Matthew i’n Bwrdd. Mae eleni’n nodi dwy garreg filltir bwysig i Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru - pen-blwydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru arloesol yn 80 mlwydd oed a phen-blwydd Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn 50 mlwydd oed. Rydym ni eisoes yn cyrraedd mwy o bobl ifanc nag erioed o’r blaen, ledled Cymru ac o bob math o gefndir. Gyda’r arbenigedd a’r safbwyntiau ffres mae ein hymddiriedolwyr newydd yn eu cynnig, rydym ni’n benderfynol o fynd ymhellach fyth - fel bod pob person ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle i brofi grym trawsnewidiol y celfyddydau. Mae croesawu pedwar ymddiriedolwr newydd rhagorol i’n Bwrdd ar adeg mor allweddol i’r celfyddydau yng Nghymru yn adlewyrchu ein hyder a’n hoptimistiaeth ar gyfer dyfodol Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.”
Mae Sanea Singh yn ddawnswraig, coreograffydd, hwylusydd ac eiriolwr sydd ag ymrwymiad cryf i’r celfyddydau ieuenctid a chynhwysiant.
Mae ganddi radd BA (Anrh) Dosbarth Cyntaf mewn Dawns o Liverpool Institute for Performing Arts, ac fe hyfforddodd gyda Studio Wayne McGregor a Jasmin Vardimon Company (JV2). Mae hi wedi perfformio’n helaeth fel dawnswraig cwmni gyda Ballet Cymru (2020–2025), gan ymddangos mewn dros 300 o berfformiadau ledled y DU, ac mae wedi gweithio fel Artist Cyswllt gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (2023–presennol) ac fel Artist Symud gyda Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru (2024). Drwy ei gwaith hwyluso, coreograffi a mentora, mae’n hyrwyddo mynediad teg, cynrychiolaeth a llesiant i bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol.
“Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n Ymddiriedolwr i Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Rwy’n awyddus i gefnogi ymrwymiad y sefydliad i hyrwyddo pobl ifanc, ehangu mynediad at y celfyddydau, a sicrhau bod lleisiau mwy amrywiol yn cael eu cynrychioli o fewn mannau creadigol ac arweinyddiaeth.”
Mae Christina Timms yn weithiwr proffesiynol profiadol yn y celfyddydau gyda dros 25 mlynedd o arbenigedd yn y sector diwylliannol, gan arbenigo mewn addysg gerddorol, cerddoriaeth ieuenctid a chymunedol, cerddoriaeth glasurol, codi arian a datblygu sefydliadol.
Mae wedi dal swyddi gyda chyllidwyr mawr gan gynnwys Arts Council England (fel Rheolwr Perthynas dros Gerddoriaeth, 2012–2023) ac Youth Music (Swyddog Gweithredol Rhanbarthol, 2005–2012), lle bu’n cefnogi rhaglenni sy’n ehangu mynediad at gyfleoedd creadigol o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig. Mae Christina yn dod â phrofiad gwerthfawr o lywodraethu o rolau arsylwr bwrdd a chyswllt cyllidwyr gyda sefydliadau fel Opera Cenedlaethol Cymru, City of Birmingham Symphony Orchestra ac Ex Cathedra, ynghyd â sgiliau cryf mewn eiriolaeth, adeiladu partneriaethau a datblygu strategol. Wedi symud i Gaerdydd yn ddiweddar, mae wedi ymrwymo i gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru.
“Rwy’n falch iawn o ymuno â bwrdd CCIC i gefnogi sefydliad sy’n tyfu ac yn ffynnu, ac i helpu i hyrwyddo ystod eang o gyfleoedd celfyddydol o ansawdd uchel i bobl ifanc ledled Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at rannu fy mhrofiad o’m gwaith yn Lloegr, ac at gyfrannu at y sîn ddiwylliannol fywiog yn fy ninas a’m gwlad newydd, Cymru.”
Mae Geraint Pugh yn weithiwr proffesiynol profiadol ym maes llywodraethiant ac yn siaradwr Cymraeg rhugl sy'n byw yn Aberystwyth, gydag ymrwymiad cryf i gelfyddydau ieuenctid a gwasanaeth cyhoeddus. Yn gyn-aelod o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (2000–03), daw â mewnwelediad personol dwfn i effaith drawsffurfiannol cyfleoedd creadigol o safon ar fywydau pobl ifanc. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel Ysgrifennydd Bwrdd S4C (ers 2021), lle mae'n darparu cyngor strategol ar lywodraethiant, ac â phrofiad o reoli risg a materion rheoleiddiol. Mae'n cynrychioli'r sefydliad wrth ymwneud â Llywodraeth y DU, y BBC ac Ofcom. Yn flaenorol, bu'n Ysgrifennydd Prifysgol Aberystwyth, ac mae hefyd yn dod â phrofiad gwerthfawr fel ymddiriedolwr gyda'r elusen HAHAV ac fel gyn-Ymddiriedolwr Allanol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor.
“Mae CCIC yn gwneud gwaith pwysig yn agor drysau i bobl ifanc o bob cefndir drwy'r celfyddydau - gwaith y ces brofiad uniongyrchol ohono fel cyn-aelod o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Rwy'n falch o gael cyfrannu fy mhrofiad o lywodraethu strategol a goruchwyliaeth gyhoeddus i gefnogi'r Bwrdd wrth gyflawni cenhadaeth y sefydliad.”
Mae Matthew Smith yn Bartner yn Blake Morgan LLP ac yn Bennaeth ar ymarfer cenedlaethol y cwmni yn y sector Addysg, gydag arbenigedd dwfn mewn cyfraith cyflogaeth a phrofiad mewn llywodraethu a rheoleiddio elusennau. Mae’n cynghori byrddau ac uwch arweinwyr ar draws prifysgolion, colegau addysg bellach ac elusennau ar faterion cymhleth AD, cyflogaeth, rheoleiddio ac olyniaeth. Wedi graddio yn y gyfraith o Brifysgol Caergrawnt, mae Matthew yn dod â phrofiad gwerthfawr mewn goruchwyliaeth strategol, rheoli risg a goruchwyliaeth gyfreithiol i gefnogi llywodraethu a chynaliadwyedd CCIC. Yn bersonol, mae ganddo angerdd dros y celfyddydau a’r theatr, ac mae wedi gweld effaith gadarnhaol cyfranogiad pobl ifanc yn y celfyddydau yn uniongyrchol drwy gyfranogiad ei blant ei hun.
“Rwy’n credu’n gryf yng ngwerth enfawr gwaith CCIC wrth gefnogi rhagoriaeth mewn cerddoriaeth, dawns a drama ac wrth sicrhau cyfleoedd i artistiaid ifanc talentog ledled Cymru. Rwy’n falch iawn o ddod yn ymddiriedolwr ar gyfnod cyffrous gyda rhai mentrau arloesol ar y gweill, megis y Pasbort Creadigol, sydd â’r potensial i ddod â manteision mawr i’r rhai sydd â diddordeb neu sy’n ymwneud â’r celfyddydau ieuenctid.”
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda sefydliadau partner ledled Cymru i sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i ffynnu drwy'r celfyddydau. Un o'n partneriaid allweddol yw Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n cynnig cyrsiau Addysg Uwch ar draws ystod eang o genres cerddoriaeth.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda sefydliadau partner ledled Cymru i sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i ffynnu drwy'r celfyddydau. Un o'n partneriaid allweddol yw Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n cynnig cyrsiau Addysg Uwch ar draws ystod eang o genres cerddoriaeth. Y Pasg hwn, fe wnaethant gynnal cyrsiau preswyl ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn eu cyfleusterau yng Nghaerdydd. Roeddem ni hefyd yn falch iawn o groesawu'r myfyriwr lleoliad gwaith Poppy Ancell i weithio gyda ni, gan ein helpu i baratoi ar gyfer yr ymarferion dwys hynny.
"Mae wedi bod yn fraint croesawu corau ac ensembles offerynnol Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yr wythnos ddiwethaf a chlywed eu cerddoriaeth ragorol yn llenwi ein neuadd gyngerdd a'n mannau ymarfer.
Ni ddylai neb danbrisio'r ymrwymiad cyfunol yng Nghymru i ymgorffori cerddoriaeth ac addysg gelfyddydol drawsnewidiol, gyda Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar flaen y gad yn y gwaith hwn. Rydym ni’n gobeithio y bydd y myfyrwyr wedi ennill ymdeimlad newydd o'r llwybr cwbl realistig sy'n bodoli iddynt i addysg uwch a'r proffesiwn.
Wrth siarad am hynny, rydym ni hefyd wedi bod wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda CCIC fel rhan o'n cynllun Busnes Cerddoriaeth yn Ysgol Cerddoriaeth Caerdydd, sydd hyd yn hyn wedi rhoi profiad lleoliad amhrisiadwy i fwy na 250 o fyfyrwyr ar draws y celfyddydau, addysg gerddoriaeth, y diwydiant cerddoriaeth fasnachol a'r sector elusennol fel rhan o'u gradd.
Cafodd ein myfyriwr lleoliad CCIC Poppy nid yn unig gymryd rhan yn y gwaith helaeth y tu ôl i'r llenni tuag at gyrsiau'r Gwanwyn ond hefyd cafodd weld sut, fel pob un o diwtoriaid arbenigol CCIC, y gallwch chi gydbwyso gyrfa berfformio lwyddiannus â bod yn fentor ysbrydoledig i genedlaethau'r dyfodol."
Dr Charles Wilson
Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol Myfyrwyr, Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Caerdydd
"Roedd gwneud lleoliad ar gyfer y Busnes Cerddoriaeth II gyda CCIC yn gymaint o bleser, ac roeddwn i'n wirioneddol ddiolchgar am y cyfle unigryw a roddodd i mi archwilio'r celfyddydau ieuenctid, gan fod gweithio gyda phobl ifanc yn rhywbeth rwy'n angerddol amdano. Er bod fy swydd yn canolbwyntio i raddau helaeth ar weinyddiaeth, trefnu cerddoriaeth ar gyfer ymarferion y Pasg, rhoddodd fewnwelediad mor ddefnyddiol i mi ar reolaeth y celfyddydau ac mae wedi fy ysbrydoli i ddilyn hyn ar ôl fy ngradd. Mae gweithio yn y celfyddydau ieuenctid yn teimlo fel gwneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd pobl ifanc ac yn ffordd o'u gwylio yn tyfu ond mewn ffordd wahanol i addysgu, y mae gen i ddiddordeb hefyd yn ei ddilyn. Roedd pawb mor groesawgar ac fe wnaethant greu amgylchedd hamddenol lle roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus yn gofyn cwestiynau a rhannu barn."
Poppy Ancell
Myfyriwr, Prifysgol Caerdydd
"Roedd yn wych gallu cynnig lleoliad gwaith i Poppy fel rhan o'i gradd cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a daeth ar adeg addas iawn i ni hefyd. Mewn cyfnod arbennig o brysur i Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, darparodd Poppy gefnogaeth hanfodol yn y cyfnod cyn ac yn ystod ein hymarferion ensemble cerddoriaeth a werthfawrogwyd yn fawr. Yn ogystal â'n helpu i baratoi ar gyfer yr ymarferion, treuliodd Poppy amser gyda gwahanol aelodau o'r tîm yn dysgu am eu rolau a gwahanol elfennau'r sefydliad. Mynychodd barti gadael ar gyfer un o'r tîm hyd yn oed. Roedd yn bleser gweithio gyda Poppy, roedd ei brwdfrydedd dros gerddoriaeth a'i gobeithion i weithio gyda phobl ifanc mewn rhyw ffordd yn y dyfodol yn cyd-fynd yn berffaith â ni, gan ei wneud yn brofiad cadarnhaol iawn i bawb."
Matthew Jones
Uwch Gynhyrchydd a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Rydym ni’n edrych ymlaen at ddatblygu ein partneriaeth gyda'r Ysgol Cerddoriaeth ymhellach a gobeithio croesawu mwy o'u myfyrwyr i fwynhau lleoliad gwaith gyda ni yn y dyfodol.
Cwrdd â Thiwtoriaid Diwrnod Darganfod Gwerin a Jazz CCIC 2026
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi'r tiwtoriaid a fydd yn arwain ein Diwrnodau Darganfod Gwerin a Jazz ledled Cymru y mis hwn.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn falch iawn o gyhoeddi'r tiwtoriaid a fydd yn arwain ein Diwrnodau Darganfod Gwerin a Jazz ledled Cymru y mis hwn.
Bydd y gweithdai rhad ac am ddim yn cynnig cyfle i gerddorion ifanc 14–22 mlwydd oed ac ar lefel gradd 4 ac uwch, brofi cerddoriaeth werin neu jazz mewn amgylchedd hwyliog, cefnogol a chynhwysol.
Tiwtoriaid Diwrnod Darganfod Gwerin 2026
Patrick Rimes (Diwrnodau Darganfod Werin Caerdydd, Caerfyrddin a Aberystwyth)
Mae Patrick Rimes yn gerddor, cyfansoddwr, trefnydd ac addysgwr o Ogledd Cymru. Cafodd ei eni a'i fagu yn Eryri, a chafodd ei brofiadau cerddorol cynnar gyda gwasanaeth cerddoriaeth William Mathias, yn ogystal â dysgu cerddoriaeth draddodiadol drwy'r sîn leol fywiog, cyn mynd ymlaen i astudio ffidil a fiola clasurol ym Mhrifysgol Leeds, Janáčkovo Akademie Muzických yn Brno, y Weriniaeth Tsiec a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fel un o sylfaenwyr Calan a VRï mae wedi teithio'n helaeth yn y DU, Ewrop a Gogledd America, ac wedi rhyddhau sawl albwm stiwdio clodwiw. Mae wedi ymddangos fel unawdydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Sinfonia Dinas Llundain a Sinfonia Cymru.
Jordan Price Williams (Diwrnodau Darganfod Werin Caerfyrddin)
Canwr gwerin a cherddor traddodiadol o Gwmafan, De Cymru yw Jordan Price Williams. Wedi'i wreiddio yn nhraddodiadau byw Cymru, mae ei waith yn canolbwyntio ar rannu, ail-ddehongli a chynnal repertoire Cymraeg ar gyfer cynulleidfaoedd cyfoes. Yn un o sylfaenwyr y triawd siambr-werin VRï, mae wedi teithio'n rhyngwladol ac wedi rhyddhau dau albwm clodfawr (Tŷ Ein Tadau ac islais a genir), gan ddod â cherddoriaeth offerynnol a chanu Cymreig i lwyfannau mawr gan gynnwys Celtic Connections, Gŵyl Interceltique de Lorient, Gŵyl Ryngwladol Caeredin a Celtic Colours yng Nghanada.
Aneirin Jones (Diwrnodau Darganfod Werin Caerdydd, Caerfyrddin a Aberystwyth)
Yn hanu o Bontardawe yn wreiddiol, dechreuodd Aneirin chwarae'r ffidil yn 7 mlwydd oed, gan gael magwraeth gerddorol gref yn mynychu sesiynau traddodiadol Cymreig lleol yng Nghwm Tawe (yn ogystal â cherddorfa ysgol a gwersi clasurol). Astudiodd BMus mewn Cerddoriaeth Draddodiadol yn y Royal Conservatoire of Scotland yn Glasgow, ac yna dychwelodd i Gymru. Fel aelod o'r triawd llinynnol siambr-traddodiadol Vrï, mae eisoes wedi mwynhau gyrfa gyffrous iawn fel cerddor traddodiadol. Fe wnaeth albymau stiwdio'r band 'Islais a Genir' a 'Ty Ein Tadau' ennill yr "Albwm Gorau" yng Ngwobrau Gwerin Cymru (2019 a 2023). Maen nhw wedi perfformio mewn sawl rhan o'r byd ar lwyfannau rhyngwladol (o Ganada, Llydaw i India i enwi ond ychydig) a llawer o deithiau ledled y DU.
Stephen Rees (Diwrnodau Darganfod Werin Yr Wyddgrug a Caernarfon)
Mae Stephen Rees yn aml-offerynnwr sy'n adnabyddus ym myd cerddoriaeth werin Cymru, ar ôl perfformio ledled y DU ac yn rhyngwladol gyda'r grwpiau Ar Log a Crasdant. Mae hefyd yn diwtor profiadol sy'n cynnig creadigrwydd a brwdfrydedd i'w weithdai. Prif offerynnau Stephen yw'r ffidil a'r acordion, er y gellir ei weld (a'i glywed!) yn chwarae'r pibgorn o bryd i'w gilydd.
Gwen Mairi (Diwrnodau Darganfod Werin Caerdydd, Caerfyrddin, Yr Wyddgrug a Caernarfon)
Mae Gwen Màiri yn delynores, cantores a chyfansoddwr, gan greu cerddoriaeth sydd wedi'i gwreiddio yn y traddodiad Cymreig ynghyd â'i harddull gyfoes ei hun. Mae hi wedi rhyddhau dau albwm (Mentro, 2019 a Douze Noëls, 2021) a gellir ei chlywed yn chwarae hefyd ar albymau Gwilym Bowen Rhys (O Groth y Ddaear - 2016, Arenig - 2019, Aden - 2025). Cyrhaeddodd trac Gwen, Teifi, o Mentro, restr fer y Trac Offerynnol Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2023. Mae ei thrydydd albwm ar y gweill ar hyn o bryd, i'w ryddhau yn 2026.
Rhys Morris (Diwrnodau Darganfod Werin Aberhonddu)
Dechreuodd Rhys chwarae'r gitâr o oedran ifanc ac fe wnaeth ddarganfod ei gariad at gerddoriaeth werin yn ei arddegau. Ers hynny, mae wedi chwarae ar draws y wlad gydag Avanc ac wedi bod yn diwtor ar gwrs Gwerin Gwallgo sawl gwaith.
Awen Blandford (Diwrnodau Darganfod Werin Yr Wyddgrug a Caernarfon)
Mae Awen yn sielydd a chanwr llawrydd sy'n byw ym Manceinion. Wedi graddio o'r RNCM, mae ei gwaith perfformio wedi mynd â hi i leoliadau ledled y DU ac yn rhyngwladol, gan gydweithio ar brosiectau sy'n amrywio o fandiau roc i gynyrchiadau dawns. Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, mae ei gwaith presennol yn canolbwyntio ar ddyfnhau ail-gysylltiad â cherddoriaeth draddodiadol Gymreig, sy'n siapio ei hymarfer creadigol a'i dysgu. Ar hyn o bryd mae'n mwynhau perfformio'n rheolaidd gydag artistiaid gwerin uchel eu parch, Anna McLuckie, Mikey Kenney, a Seamus Óg.
Tiwtoriaid Diwrnod Darganfod Jazz 2026
Gareth Roberts (Diwrnodau Darganfod Jazz Aberystwyth)
Mae Gareth Roberts yn drombonydd, cyfansoddwr ac athro jazz sy'n byw yng Nghaerdydd. Ers graddio o CBCDC yn 2005 gyda Dip PG mewn perfformio jazz, mae Gareth wedi gweithio'n broffesiynol fel cerddor jazz, cyfansoddwr ac athro cerddoriaeth. Mae Gareth Roberts Quintet wedi rhyddhau dau albwm o gyfansoddiadau gwreiddiol sydd wedi cael llawer o ganmoliaeth; enillodd un o'r albymau hyn wobr Jazz Services UK.
Gethin Liddington (Diwrnodau Darganfod Jazz Aberhonddu)
Astudiodd Gethin Liddington (LWCMD, AWCMD) drwmped clasurol gyda Terence Lax yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru rhwng 1989 a 1993. Ers graddio, mae wedi gweithio'n bennaf mewn jazz a cherddoriaeth fasnachol. Mae wedi perfformio'n eang, gan gydweithio gyda cherddorion yn cynnwys Tapestry Keith Tippetts, Paul Dunmall Octet and Big Band, Pasadena Roof Orchestra, the Syd Lawrence Orchestra, Back to Basie, Blue Harlem, Welsh National Opera, Jeff Hooper, Catrin Finch, Katherine Jenkins, Keith Nicholls, Alex Mendham Orchestra a Cherddorfa Cyfansoddwyr Jazz Cymru. Mae hefyd wedi perfformio ar gyfer teledu a radio, wedi recordio ac wedi perfformio mewn nifer o wyliau mawr ledled Ewrop ac mae hefyd yn diwtor trwmped jazz yn CBCDC.
Huw Warren (Diwrnodau Darganfod Jazz Caerdydd, Caerfyrddin, Yr Wyddgrug a Caernarfon)
Mae Huw Warren yn un o bianyddion a chyfansoddwyr Jazz mwyaf adnabyddus Cymru gydag arddull wreiddiol iawn sy'n cyfuno llawer o genres a dylanwadau. Yn rhyngwladol, mae wedi cydweithio â cherddorion megis Maria Pia de Vito (Yr Eidal), Mark Feldman (UDA), Peter Herbert (Awstria); tra yn y DU mae'n adnabyddus am ei gydweithrediad hir gyda'r gantores June Tabor a bod yn gyd-sylfaenydd y grŵp dylanwadol o'r 90au Perfect Houseplants. Mae ei albymau unigol wedi cynnwys ail-weithio John Dowland, Hermeto Pascoal a Brazilian Choro a gellir dod o hyd i'w gerddoriaeth ar ECM, CAMJazz, Babel, Basho, Linn a'i label cerddoriaeth Maizeh ei hun. Yr un mor angerddol am brosiectau yn agosach at adref yng Nghymru, mae wedi recordio albwm o Emynau Cymraeg (Duw y Wyr) gyda Lleuwen Steffan ac yn fwy diweddar albwm o drefniannau Plygain (Calennig) gydag Angharad Jenkins. Mae Huw yn dysgu yn CBCDC a Phrifysgol Caerdydd.
Huw V Williams (Diwrnodau Darganfod Jazz Yr Wyddgrug a Caernarfon)
Mae'r chwaraewr bas Huw V Williams, sy'n wreiddiol o gefn gwlad Gogledd Cymru, yn un o'r cerddorion mwyaf cyffrous ac unigryw ar y sîn ar hyn o bryd. Mae Huw wedi bod yn gysylltiedig â cherddorion o'r radd flaenaf ym maes jazz a cherddoriaeth fyrfyfyr, gan gynnwys Jim Black, Huw Warren, Jeff Williams, Laura Jurd ac Ivo Neame. Yn ogystal â bod yn chwaraewr bas jazz, mae hefyd yn chwarae yn y byd roc gyda'r cerddorion Gruff Rhys (Super Furry Animals) a Kliph Scurlock (gynt o'r Flaming Lips).
Andrew Bain (Diwrnodau Darganfod Jazz Caerdydd, Caerfyrddin a Yr Wyddgrug)
Mae Andrew Bain, cerddor, addysgwr ac ymchwilydd, yn un o'r perfformwyr a'r addysgwyr mwyaf blaenllaw yn Ewrop ar ôl perfformio gyda goleuadau fel Wynton Marsalis, Natalie Cole, Kenny Wheeler, Randy Brecker, John Taylor, NDR Big Band, Dave Liebman a Bob Mintzer, gan gynnwys cyfnod preswyl yn Efrog Newydd. Penodwyd Andrew yn Bennaeth Jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2023.
Paula Gardiner (Diwrnodau Darganfod Jazz Caerdydd a Caerfyrddin)
Mae Paula Gardiner yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith fel basydd jazz a chyfansoddwr, wedi'i lleoli yng Nghymru. Fodd bynnag, dechreuodd ei gyrfa broffesiynol fel gitarydd clasurol a chyfansoddwraig ar gyfer y theatr. Mae hi wedi ysgrifennu'n helaeth ar gyfer theatr, radio a ffilm. Mae Paula yn galw ei hun yn 'The Accidental Basist', gan fod nifer o gyd-ddigwyddiadau wedi ei harwain i chwarae bas trydan yn gyntaf mewn band Affro-Ciwba, ac yna'r bas dwbl ar gyfer clwb jazz canolog Caerdydd, The Four Bars Inn, gan ddarparu'r adran rhythm ar gyfer llu o artistiaid rhyngwladol gwadd. Yn ystod y 90au a'r 00au, sefydlodd Paula sawl band gan gynnwys Paula Gardiner Quartet, 6, The Paula Gardiner Trio, Paula Gardiner 6.0 a'r band mawr anarchaidd Wales Jazz Composers. Mae hi wedi gweithio'n rhyngwladol, gan fynd â'i cherddoriaeth ei hun i'r Unol Daleithiau a chyfansoddi/arwain prosiect mawr yng Nghymru a De Affrica ar gyfer yr Olympiad ddiwylliannol, 2012.
Joe Northwood (Diwrnodau Darganfod Jazz Caerfyrddin)
Yn sacsoffonydd jazz, addysgwr a hyrwyddwr, mae Joe wedi treulio ei yrfa yn hyrwyddo jazz a cherddoriaeth fyrfyfyr ac mae’n addysgwr jazz ieuenctid blaenllaw a mentor creadigol yng Nghymru. Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae Joe wedi perfformio ledled y DU ac yn rhyngwladol fel arweinydd band, cydweithiwr a cherddor sesiwn. Mae wedi rhyddhau nifer o recordiau o dan ei enw ei hun gan gynnwys ei albwm triawd 2019 'Taking Flight' a'r EP ffync dystopaidd 2020 'Nurdle'. Yn fwyaf diweddar mae wedi gweithio gyda 'N'Famady Kouyaté and the Successors of the Mandingue' (band Uniad Indi Gorllewin Affrica/Cymru) a 'Pendevig' (band gwerin gwych 17 darn).
--
Rydym ni am annog cerddorion o bob cefndir cerddoriaeth draddodiadol i gymryd rhan yn y Diwrnodau Darganfod ym mis Mawrth – p'un a yw eich cefndir mewn cerddoriaeth Jazz, cerddoriaeth Werin Gymreig, neu unrhyw draddodiad cerddoriaeth byd arall, bydd y sesiynau hyn yn hwyl i bawb!
Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a chefnogaeth strategol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gan gryfhau llwybrau i bobl ifanc yng Nghymru ddarganfod cyfleoedd datblygu yn eu teithiau cerddorol. Mae lleoedd yn rhad ac am ddim ond yn gyfyngedig, felly mae angen cadw lle ymlaen llaw.
Am ddyddiadau a lleoliadau, ac i gofrestru, ewch i: www.nyaw.org.uk/whats-on