Ymddiriedolwyr Newydd wedi’u Penodi yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
O’r chwith i’r dde: Karen Pimbley, Matthew Smith, Christina Timms, Sanea Singh, a Geraint Pugh.
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn falch o gyhoeddi penodiad pedwar ymddiriedolwr newydd i’w Fwrdd Cenedlaethol, yn dilyn proses recriwtio gyhoeddus yn gynharach eleni. Y rhain yw Sanea Singh, Christina Timms, Geraint Pugh a Matthew Smith.
Dywedodd Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Karen Pimbley:
“Rydym ni wrth ein bodd yn croesawu Sanea, Christina, Geraint a Matthew i’n Bwrdd. Mae eleni’n nodi dwy garreg filltir bwysig i Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru - pen-blwydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru arloesol yn 80 mlwydd oed a phen-blwydd Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn 50 mlwydd oed. Rydym ni eisoes yn cyrraedd mwy o bobl ifanc nag erioed o’r blaen, ledled Cymru ac o bob math o gefndir. Gyda’r arbenigedd a’r safbwyntiau ffres mae ein hymddiriedolwyr newydd yn eu cynnig, rydym ni’n benderfynol o fynd ymhellach fyth - fel bod pob person ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle i brofi grym trawsnewidiol y celfyddydau. Mae croesawu pedwar ymddiriedolwr newydd rhagorol i’n Bwrdd ar adeg mor allweddol i’r celfyddydau yng Nghymru yn adlewyrchu ein hyder a’n hoptimistiaeth ar gyfer dyfodol Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.”
Mae Sanea Singh yn ddawnswraig, coreograffydd, hwylusydd ac eiriolwr sydd ag ymrwymiad cryf i’r celfyddydau ieuenctid a chynhwysiant.
Mae ganddi radd BA (Anrh) Dosbarth Cyntaf mewn Dawns o Liverpool Institute for Performing Arts, ac fe hyfforddodd gyda Studio Wayne McGregor a Jasmin Vardimon Company (JV2). Mae hi wedi perfformio’n helaeth fel dawnswraig cwmni gyda Ballet Cymru (2020–2025), gan ymddangos mewn dros 300 o berfformiadau ledled y DU, ac mae wedi gweithio fel Artist Cyswllt gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (2023–presennol) ac fel Artist Symud gyda Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru (2024). Drwy ei gwaith hwyluso, coreograffi a mentora, mae’n hyrwyddo mynediad teg, cynrychiolaeth a llesiant i bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol.
“Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n Ymddiriedolwr i Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Rwy’n awyddus i gefnogi ymrwymiad y sefydliad i hyrwyddo pobl ifanc, ehangu mynediad at y celfyddydau, a sicrhau bod lleisiau mwy amrywiol yn cael eu cynrychioli o fewn mannau creadigol ac arweinyddiaeth.”
Mae Christina Timms yn weithiwr proffesiynol profiadol yn y celfyddydau gyda dros 25 mlynedd o arbenigedd yn y sector diwylliannol, gan arbenigo mewn addysg gerddorol, cerddoriaeth ieuenctid a chymunedol, cerddoriaeth glasurol, codi arian a datblygu sefydliadol.
Mae wedi dal swyddi gyda chyllidwyr mawr gan gynnwys Arts Council England (fel Rheolwr Perthynas dros Gerddoriaeth, 2012–2023) ac Youth Music (Swyddog Gweithredol Rhanbarthol, 2005–2012), lle bu’n cefnogi rhaglenni sy’n ehangu mynediad at gyfleoedd creadigol o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig. Mae Christina yn dod â phrofiad gwerthfawr o lywodraethu o rolau arsylwr bwrdd a chyswllt cyllidwyr gyda sefydliadau fel Opera Cenedlaethol Cymru, City of Birmingham Symphony Orchestra ac Ex Cathedra, ynghyd â sgiliau cryf mewn eiriolaeth, adeiladu partneriaethau a datblygu strategol. Wedi symud i Gaerdydd yn ddiweddar, mae wedi ymrwymo i gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru.
“Rwy’n falch iawn o ymuno â bwrdd CCIC i gefnogi sefydliad sy’n tyfu ac yn ffynnu, ac i helpu i hyrwyddo ystod eang o gyfleoedd celfyddydol o ansawdd uchel i bobl ifanc ledled Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at rannu fy mhrofiad o’m gwaith yn Lloegr, ac at gyfrannu at y sîn ddiwylliannol fywiog yn fy ninas a’m gwlad newydd, Cymru.”
Mae Geraint Pugh yn weithiwr proffesiynol profiadol ym maes llywodraethiant ac yn siaradwr Cymraeg rhugl sy'n byw yn Aberystwyth, gydag ymrwymiad cryf i gelfyddydau ieuenctid a gwasanaeth cyhoeddus. Yn gyn-aelod o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (2000–03), daw â mewnwelediad personol dwfn i effaith drawsffurfiannol cyfleoedd creadigol o safon ar fywydau pobl ifanc. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel Ysgrifennydd Bwrdd S4C (ers 2021), lle mae'n darparu cyngor strategol ar lywodraethiant, ac â phrofiad o reoli risg a materion rheoleiddiol. Mae'n cynrychioli'r sefydliad wrth ymwneud â Llywodraeth y DU, y BBC ac Ofcom. Yn flaenorol, bu'n Ysgrifennydd Prifysgol Aberystwyth, ac mae hefyd yn dod â phrofiad gwerthfawr fel ymddiriedolwr gyda'r elusen HAHAV ac fel gyn-Ymddiriedolwr Allanol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor.
“Mae CCIC yn gwneud gwaith pwysig yn agor drysau i bobl ifanc o bob cefndir drwy'r celfyddydau - gwaith y ces brofiad uniongyrchol ohono fel cyn-aelod o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Rwy'n falch o gael cyfrannu fy mhrofiad o lywodraethu strategol a goruchwyliaeth gyhoeddus i gefnogi'r Bwrdd wrth gyflawni cenhadaeth y sefydliad.”
Mae Matthew Smith yn Bartner yn Blake Morgan LLP ac yn Bennaeth ar ymarfer cenedlaethol y cwmni yn y sector Addysg, gydag arbenigedd dwfn mewn cyfraith cyflogaeth a phrofiad mewn llywodraethu a rheoleiddio elusennau. Mae’n cynghori byrddau ac uwch arweinwyr ar draws prifysgolion, colegau addysg bellach ac elusennau ar faterion cymhleth AD, cyflogaeth, rheoleiddio ac olyniaeth. Wedi graddio yn y gyfraith o Brifysgol Caergrawnt, mae Matthew yn dod â phrofiad gwerthfawr mewn goruchwyliaeth strategol, rheoli risg a goruchwyliaeth gyfreithiol i gefnogi llywodraethu a chynaliadwyedd CCIC. Yn bersonol, mae ganddo angerdd dros y celfyddydau a’r theatr, ac mae wedi gweld effaith gadarnhaol cyfranogiad pobl ifanc yn y celfyddydau yn uniongyrchol drwy gyfranogiad ei blant ei hun.
“Rwy’n credu’n gryf yng ngwerth enfawr gwaith CCIC wrth gefnogi rhagoriaeth mewn cerddoriaeth, dawns a drama ac wrth sicrhau cyfleoedd i artistiaid ifanc talentog ledled Cymru. Rwy’n falch iawn o ddod yn ymddiriedolwr ar gyfnod cyffrous gyda rhai mentrau arloesol ar y gweill, megis y Pasbort Creadigol, sydd â’r potensial i ddod â manteision mawr i’r rhai sydd â diddordeb neu sy’n ymwneud â’r celfyddydau ieuenctid.”