Mae Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) ymhlith yr ensembles sy'n ymddangos ar i breathe, albwm cyntaf y cyfansoddwr Cymreig Nathan James Dearden, sy'n cael ei ryddhau ar label Signum Classics y mis hwn.
Mae'r albwm yn dwyn ynghyd bymtheg gwaith corawl a ysgrifennwyd dros gyfnod o ddegawd. Yn ogystal â Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mae'n cynnwys Côr Royal Holloway – lle mae Nathan wedi bod yn Gyfansoddwr Preswyl ers 2021 – a Kantos Chamber Choir, sydd wedi'i leoli ym Manceinion. Ymunodd Nathan, a fagwyd yn Tonyrefail yng Nghymoedd De Cymru, â CCIC pan oedd yn ei arddegau. Gan ei fod wedi tyfu i fyny yng nghanol corau cymunedol a thraddodiad canu emynau Cymreig, daeth o hyd i le yn y côr lle datblygodd y profiadau cynnar hynny'n berthynas barhaol ac ystyrlon â cherddoriaeth gorawl.
“Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wrth eu bodd bod Nathan wedi gofyn i Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru recordio ei gyfansoddiad ‘Everything about us’ ar gyfer ei albwm cyntaf. Comisiynodd CCIC Nathan – a oedd yn aelod o CCIC ei hun yn y gorffennol – i gyfansoddi'r darn yn 2022, gyda chefnogaeth gan Tŷ Cerdd. Mae'r Côr wedi perfformio'r darn sawl gwaith ers hynny; mae ei elfennau trochi cyffrous wedi ei wneud yn boblogaidd iawn gyda'r Côr a'r gynulleidfa fel ei gilydd. Mae'n wych bod recordiad y Côr bellach yn mynd i fyw am byth ar albwm Nathan. Dymunwn bob llwyddiant iddo gyda'r rhyddhau!”
- Matthew Jones, Dirprwy Brif Weithredwr a Chynhyrchydd Uwch yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Cafodd ‘Everything about us’, a ysgrifennwyd ar gyfer CCIC, ei greu yn sgil y pandemig. Mae'r rhan agoriadol yn rhoi rhyddid i unigolion feddiannu gofod trwy ddarnau o gân, testun llafar, a barddoniaeth, cyn i'r côr ddod at ei gilydd i wneud datganiad cyfunol pwerus: “now it’s my time”. Mae'r darn yn archwilio'r berthynas rhwng mynegiant unigol a chryfder llais a rennir.
Wrth fyfyrio ar y prosiect, dywedodd Nathan: “Wrth lunio'r albwm hwn, sylweddolais fod edafedd penodol yn rhedeg trwy fy iaith gerddorol fy hun. Gweadau sy'n eich cofleidio. Eiliadau syml o ganu ar y cyd sy'n meddu ar rym mawr – yn union fel yr emynau Cymreig enwog y tyfais i fyny gyda nhw yn y Cymoedd.”
Mae i breathe ar gael nawr ar CD, drwy ffrydio ac i'w lawrlwytho gan Signum Classics.
Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (2025) gan Kirsten McTernan Ffotograffiaeth